Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1  46C14Y/1/VAR - Lleiniau 20-22, Canolfan Wyliau Cliff, Bae Trearddur

 

10.2  46C14Z/1/VAR - Lleiniau 8-13, Canolfan Wyliau Cliff, Lôn Isallt, Bae Trearddur

                   

Cofnodion:

10.1 46C14Y/1/ VAR - Cais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (01) (gweithredu’n unol â’r  cynlluniau a gymeradwywyd) yng nghaniatâd cyfeirnod 46C14S/1/ MIN (diwygiadau i gynlluniau a gymeradwywyd eisoes) er mwyn diwygio'r dyluniad ar Blotiau 20-22 Cliff Holiday Centre, Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gwrthdaro â Pholisi TAI 5 Tai Marchnad Leol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac felly’n gais sy’n tynnu’n groes i bolisi ond un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer gwelliannau mewnol ac allanol i blotiau 20 i 22 ar stad o 33 o unedau. Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn 2011 ac mae’r caniatâd hwnnw wrthi’n cael ei weithredu. Derbyniwyd y cais am ddiwygiadau ym mis Chwefror, 2017 ac fe'i penderfynwyd dan bwerau dirprwyo fel cais derbyniol o dan y polisïau oedd yn bodoli ar y pryd ond yn amodol ar Weithred Amrywio mewn perthynas â chytundeb Adran 106 sy'n darparu tai fforddiadwy. Nid yw'r Weithred Amrywio wedi ei chwblhau hyd yma , ond oherwydd y newid o bwys yn y cyd-destun polisi, adolygwyd y cais. Yn unol â Pholisi TAI 5 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd mae’n rhaid i’r holl dai a gyflenwir yn Nhrearddur fod yn dai marchnad leol yn unol â'r meini prawf a osodir yn y polisi. Mae'r unedau tai a adeiladwyd eisoes ar y safle hwn ac sydd wrthi’n cael eu hadeiladu yn gymysgedd o dai marchnad agored a thai fforddiadwy o dan y polisïau yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a oedd mewn grym bryd hynny. Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa wrth gefn a'r gwaith adeiladu sylweddol a wnaed ar y safle eisoes, nid ystyrir ei bod yn rhesymol mynnu  cydymffurfiaeth â’r polisi cyfredol. Felly, er bod y cynnig yn groes i ddarpariaethau Polisi TAI 5, o gofio mai rhai cymharol fychan yw’r newidiadau arfaethedig, eu heffaith gyfyngedig a’r  sefyllfa wrth gefn, argymhellir caniatáu'r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, mewn perthynas â’r cynnig hwn a’r un ar ei ôl, yr ymddengys bod ceisiadau i amrywio amodau ar ôl rhoi caniatâd cynllunio yn digwydd yn dra aml, yn enwedig yn yr ardal hon.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo'r cais; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar Weithred Amrywio mewn perthynas â thai fforddiadwy a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 46C14Z/1/VAR - Cais o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (01) yng nghaniatâd cyfeirnod 46C14S/1/MIN er mwyn diwygio dyluniad yr anheddau a ganiatawyd dan ganiatâd cynllunio 46C14H/1 Plotiau 8-13, Cliff Holiday Centre, Lôn Isallt, Trearddur.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gwrthdaro â Pholisi TAI 5 Tai Marchnad Leol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac felly’n gais sy’n tynnu’n groes i bolisi ond un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer gwelliannau mewnol ac allanol i blotiau 8-13 ar yr un safle â'r un ar gyfer y cais blaenorol yn 10.1 uchod. Mae ystyriaethau cynllunio tebyg yn berthnasol oherwydd bod y cais yn groes i Bolisi TAI 5 y CDLl ar y Cyd gan ei fod ar gyfer cymysgedd o unedau tai fforddiadwy ac unedau marchnad agored yn hytrach nag ar gyfer tai marchnad leol yn unig fel  y mynnir gan Bolisi TAI 5 ar gyfer datblygu tai yn Nhrearddur. Fel gyda'r cais blaenorol, mae'r newidiadau arfaethedig i'r plot yn gymharol fychan ac yn dderbyniol o ran eu heffeithiau. O gofio hynny, ynghyd â’r sefyllfa wrth gefn a’r ffaith bod gwaith adeiladu sylweddol wedi ei wneud eisoes, argymhellir caniatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar Weithred Amrywio mewn perthynas â thai fforddiadwy a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: