Eitem Rhaglen

Cais am Ganiatad Arbennig

Ystyried cais am ganiatâd arbennig.

Cofnodion:

Gwnaethpwyd cais am ganiatâd arbennig gan y Cynghorydd Roger Dobson, aelod o Gyngor Cymuned Llanbadrig, sy'n dymuno siarad a phleidleisio mewn cyfarfodydd ar faterion yn ymwneud â Phŵer Niwclear Horizon (PNH), gan gynnwys ymgynghoriadau a cheisiadau cynllunio.

 

Mae'r Cynghorydd Dobson wedi gofyn i'r Pwyllgor Safonau ystyried rhoi caniatâd arbennig mewn perthynas â diddordeb sy'n rhagfarnu, am y rhesymau a amlinellir yn ei gais.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Dobson i'r cyfarfod, a rhoddodd gyfle iddo gyflwyno ei gais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dobson ei fod yn gofyn am ganiatâd arbennig yng nghyd-destun Cyngor Cymuned Llanbadrig.  Dywedodd nad yw'n eirioli o blaid neu yn erbyn y datblygiad, ond mae'n ceisio sicrhau bod unrhyw ddatblygiad sy'n digwydd yn cynnig y telerau mwyaf ffafriol i'r rhai hynny y mae’n effeithio arnynt. Dywedodd ymhellach ei fod yn datgan diddordeb ar ddechrau cyfarfodydd y cyngor cymuned, oherwydd bod ei eiddo’n agos at safle datblygu Wylfa Newydd.

 

Nodwyd bod y Cynghorydd Dobson, yn ychwanegol at ei rôl fel cynghorydd cymuned, hefyd yn aelod o Bartneriaeth Gogledd Ynys Môn, y mae ei diddordebau’n ymwneud â Wylfa Newydd. Fe'i enwebwyd i arwain ar ran y Bartneriaeth yn rhinwedd ei wybodaeth a'i arbenigedd ar ddau o bolisïau allweddol sef y Polisi Cefnogi Cymdogaeth a'r Strategaeth Rheoli Gweithwyr. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dobson at y Polisi Cefnogi Cymdogaeth, sy'n cynnwys opsiynau iawndal ar gyfer oddeutu 60 eiddo yn ardal Tregele. Mae Horizon yn cynnig i’r perchenogion hynny yr opsiwn o aros ble y maent neu werthu eu heiddo i Horizon am ei bris marchnad cyfredol. Fodd bynnag, mae PGM yn ceisio trafod telerau gwell gyda Horizon sy’n gyffelyb i’r telerau a gynigir i drigolion sy'n byw yn agos at ddatblygiadau megis HS2.   Y gwrth-gynnig yw y byddant yn talu o leiaf 25% yn fwy na gwerth y farchnad am yr holl eiddo hynny sydd o fewn 1.5 cilometr i safle'r orsaf bŵer newydd. Mae cartref y Cynghorydd Dobson yn un o'r rhai a effeithir yn uniongyrchol gan y Polisi hwn.

 

Bydd y Strategaeth Rheoli Gweithwyr hefyd yn cael effaith ar eiddo'r Cynghorydd Dobson, ond nid i raddau helaethach nag ar y mwyafrif o’r bobl sy’n byw yn Ward Cemaes, y mae'n ei chynrychioli.   Dywedodd y Cynghorydd Dobson fod Horizon wedi cychwyn diwygio'r cynlluniau ar gyfer Wylfa Newydd, sy'n cynnwys ôl troed llai ar gyfer yr orsaf bŵer, a chynnig i adeiladu campws ar y safle i letya 4,000 o gontractwyr. Bydd Cyngor Cymuned Llanbadrig a PGM yn gwrthwynebu'r cynnig, ac mae'r Cynghorydd Dobson yn bwriadu siarad yn erbyn y campws arfaethedig a datgan diddordeb personol mewn cyfarfodydd.

 

Nodwyd bod Cyngor Cymuned Llanbadrig a Phartneriaeth Gogledd Ynys Môn ar hyn o bryd yn ymgysylltu â Horizon i geisio cytuno ar Ddatganiad o Dir Cyffredin mewn perthynas â gweithwyr a fydd yn cael eu cyflogi ar y safle.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dobson at y rhaglen ar gyfer paratoi a chlirio safle Wylfa Newydd, sy'n golygu clirio 740 erw o dir sy'n eiddo i Horizon. Bydd y rhaglen yn effeithio ar gartref y Cynghorydd Dobson i raddau helaethach na'r mwyafrif o drigolion Ward Cemaes, a rhagwelir y bydd yn cael effaith andwyol ar ansawdd ei fywyd am 2 neu 3 blynedd, ac ar fywydau deiliaid y 60 eiddo arall sy'n yn byw yn agos at y safle. Nodwyd y bydd Cyngor Cymuned Llanbadrig a PGM yn gwrthwynebu'r cynllun i glirio’r safle presennol. Dywedodd y Cynghorydd Dobson ei fod yn credu bod budd y cyhoedd yn cyd-fynd â'i ddiddordeb personol ef fel perchennog cartref.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro, oherwydd fod y Cynghorydd Dobson wedi cael ei benodi ar Bartneriaeth Gogledd Ynys Môn yn rhinwedd y ffaith ei fod yn gynghorydd cymuned ar gyfer Llanbadrig, y gellir rhoddi caniatâd arbennig iddo a fydd yn berthnasol i’w rôl fel cynghorydd cymuned pan fydd yn cynrychioli'r cyngor cymuned ar gyrff eraill hefyd.

 

Hefyd, dywedodd y Swyddog Monitro bod materion yn ymwneud â'r Strategaeth Rheoli Gweithwyr a'r cynigion ar gyfer y campws diwygiedig yn annhebygol o fod yn rhagfarnus, ond bod y Polisi Cefnogi Cymdogaeth a'r cynllun presennol (clirio’r safle cyn cyflwyno cais) yn debygol o fod yn rhagfarnus a bod y Panel Safonau yn meddu ar y disgresiwn i roi caniatâd arbennig er mwyn goresgyn y diddordeb sy’n rhagfarnu a chaniatáu i'r Cynghorydd Dobson gymryd rhan. Nodir y rheswm/rhesymau stautdol posibl yn yr atodiad i’r Adroddiad.

 

Trafodwyd y mater gan y Panel mewn sesiwn breifat. Yn dilyn trafodaeth, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Safonau wedi PENDERFYNU rhoi caniatâd i'r Cynghorydd Dobson mewn perthynas â'r diddordebau hynny y cyfeiriwyd atynt yn y Cais, sy'n caniatáu i'r Cynghorydd: -

 

  siarad mewn cyfarfodydd Pwyllgor / cyfarfodydd y Cyngor Cymuned ac ateb unrhyw gwestiynau am y mater;

  aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth / bleidlais ar y mater;

  pleidleisio.

 

Rhoddwyd y caniatâd arbennig am y rhesymau canlynol: -

 

  Oherwydd natur y diddordeb, ni fyddai cyfranogiad yn niweidio hyder y cyhoedd yn y penderfyniad;

  Mae diddordeb y Cynghorydd yn gyffredin i gyfran sylweddol o'r cyhoedd;

  Byddai rôl neu arbenigedd penodol y Cynghorydd yn cyfiawnhau ei gyfranogiad;

  Mae'r Pwyllgor Safonau o'r farn y byddai cyfranogiad y Cynghorydd Dobson er lles y bobl yn ardal y cyngor cymuned, a bydd y Pwyllgor yn hysbysu Gweinidogion Cymru o fewn 7 niwrnod i'r caniatâd gael ei ryddhau.

 

 

 

Gweithredu: 

 

  Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at y Cynghorydd Dobson yn cadarnhau bod y Panel wedi rhoi caniatâd arbennig sy’n golygu y gall siarad a phleidleisio ar unrhyw fater sy'n ymwneud â Wylfa Newydd yng Nghyngor Cymuned Llanbadrig a chyfarfodydd PGM. Rhaid i'r Cynghorydd Dobson ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus pan yn mynychu'r cyfarfodydd uchod.

  Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at Glerc Cyngor Cymuned Llanbadrig a Chadeirydd y PGM yn cadarnhau'r uchod.

  Y Swyddog Monitro i roi gwybod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig am y caniatâd arbennig a roddwyd i’r Cynghorydd Dobson o fewn 7 niwrnod i'r caniatâd arbennig hwnnw gael ei ryddhau.

 

 

Dogfennau ategol: