Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi

7.1  19C452F – Canada Gardens, Caergybi

Cofnodion:

7.1  19C452F – Cais llawn ar gyfer codi 15 o anheddau 2 llofft ac 10 o fflatiau 1 llofft ar dir yn Canada Gardens, Caergybi.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth, 2018 penderfynwyd cynnal ymweliad safle. O ganlyniad, ymwelwyd â’r safle ar 20 Mawrth 2018. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais gwreiddiol ar y safle yn un ar gyfer 28 o unedau preswyl a oedd yn cynnwys 16 o dai dwy ystafell wely a 12 o fflatiau 1 ystafell wely. Yn dilyn trafodaeth â’r Swyddogion fe leihawyd nifer yr unedau i 25 gyda mynedfa newydd i’r datblygiad oddi ar Morrison Crescent. Nododd fod y cais wedi’i alw i mewn gan Aelod Lleol o ganlyniad i bryderon y trigolion lleol am faterion rheoli traffig a gor-ddatblygiad yn yr ardal.    

 

Cyfeiriodd y Swyddog at hanes cynllunio’r safle a dywedodd y gwrthodwyd cais am ddatblygiad preswyl ar y safle ar ddiwedd 2008 ond y cafodd ei ganiatáu yn dilyn apêl ym mis Tachwedd 2009 gan nad oedd yr Arolygydd Cynllunio ar y pryd yn ystyried materion priffyrdd fel ffactor ar gyfer gwrthod y cais. Mae’r cais presennol gerbron y Pwyllgor hwn yn cydymffurfio â chanllawiau cynllunio ac ystyrir bod dwyster y datblygiad ar y safle yn addas o fewn yr ardal. Nododd fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle ar gyfer 18 eiddo ond fod y cais hwn ar gyfer 7 annedd ychwanegol ar y safle. 

 

Mae gwaith ymgynghori yn digwydd ar hyn o bryd o ran y cyfraniad ariannol tuag at adnoddau addysgol ar gyfer Ysgol Gynradd Kingsland ac Ysgol Uwchradd Caergybi. Mae’r datblygwr wedi nodi ei fod yn derbyn yr egwyddor y disgwylir cyfraniad tuag at gyfleusterau addysgol yn yr ardal ond nid oes swm penodol wedi’i gytuno arno hyd yma. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr argymhelliad yn un o ganiatáu yn amodol ar gwblhau cytundeb cyfreithiol fel bod 10% o safle’r datblygiad yn dai fforddiadwy a bod manylion y cyfraniad ariannol tuag at gyfleusterau addysgol yn cael ei gytuno arno cyn cadarnhau’n derfynol unrhyw ganiatâd ar gyfer y cais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond fod gwir angen am dai yn yr ardal hon ond bod trigolion lleol yn bryderus mai nifer cyfyngedig o fannau croesi sydd yn ardal Ffordd Llundain. Budd angen i drigolion y datblygiad hwn ac eiddo eraill sydd eisoes yn bodoli groesi i ardal Morawelon er mwyn mynd â’u plant i’r ysgol gynradd leol ac i ardal Kingsland. Holodd y Cynghorydd Redmond a fyddai modd i’r Awdurdod Priffyrdd ofyn am fan croesi arall gan y datblygwr gan mai ychydig iawn ohonynt sydd yn ardal Morawelon. Ymatebodd y Swyddog Priffyrdd nad oes trafodaeth wedi’i chynnal â’r datblygwr mewn perthynas â mannau croesi ychwanegol fel rhan o’r cais gan na ystyriwyd y bydd y datblygiad hwn o 25 uned yn creu nifer sylweddol uwch o gerddwyr yn yr ardal er mwyn gallu cyfiawnhau angen i wella’r briffordd yn yr ardal.    

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod yn ystyried y dylid gohirio penderfyniad ar y cais gan nad oedd manylion draenio dŵr wyneb wedi derbyn sylw. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod amod ynghlwm ag unrhyw gymeradwyaeth o’r cais o ran derbyn cynllun draenio dŵr wyneb sy’n cynnwys draenio priffyrdd a draenio tir y datblygiad. Ni chafwyd eilydd i’r cynnig i ohirio ystyried y cais. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â chwblhau cytundeb cyfreithiol y byddai 10% o’r datblygiad yn fforddiadwy a chyfraniad ariannol tuag at gyfleusterau addysgol (swm i’w gytuno arno).

 

Dogfennau ategol: