Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1  13C183E/ENF – Bodlas, Bodedern

Cofnodion:

11.1 13C183E/ENF – Cais llawn i gadw carafán sefydlog ar gyfer defnydd preswyl gan weithiwr menter wledig am gyfnod dros dro o 3 blynedd ar dir yn Bodlas, Bodedern.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn ‘swyddog perthnasol’ fel y diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae’r cais wedi’i graffu gan y Swyddog Monitro yn ôl yr angen ym mharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad. 

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais cynllunio yn un ar gyfer cadw defnydd carafán sefydlog at ddibenion preswyl gan weithiwr menter wledig am gyfnod dros dro o 3 blynedd. Nododd mai nod tymor hir yr ymgeisydd yw sicrhau caniatâd cynllunio am annedd barhaol ar y safle ar gyfer gweithiwr menter wledig ar sail llawn amser. Mae Ymgynghorwyr Amaethyddol yr Awdurdod wedi trafod y cais ond hyd yma nid ydynt yn gallu bodloni eu hunain y byddai’r cais yn cynnal gweithiwr menter wledig amser llawn. Fodd bynnag, os yw’r busnes yn datblygu yn unol â’r Cynllun Busnes a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, byddai’n cynnal gweithiwr menter wledig ar sail llawn amser. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei fod wedi’i gadarnhau yn y cais bod rhywun yn byw yn y garafán ar y safle ers Rhagfyr 2016 ac y bydd angen cymryd y cyfnod hwn i ystyriaeth wrth benderfynu ar hyd y caniatâd dros dro a roddir. Mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu ar gyfer cyfnod dros dro o 2 flynedd a fydd yn caniatáu digon o amser i’r ymgeisydd ddangos angen am annedd barhaol ar y safle yn unol ag anghenion TAN 6 fel y nodwyd yn yr adroddiad.     

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod yn cefnogi’r cais ond bod unrhyw fenter amaethyddol angen amser priodol er mwyn i fenter o’r fath sefydlu ei hun. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid cymeradwyo’r cais am gyfnod o 3 blynedd o ddyddiad y cyfarfod hwn. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r argymhelliad yw i gymeradwyo’r cais am 2 flynedd yn seiliedig ar y ffaith bod y fenter amaethyddol wrthi cael ei sefydlu ar hyn o bryd a bod y garafán sefydlog wedi bod ar y safle ers dros 12 mis. Mae TAN 6 yn glir mai cyfnod o 3 blynedd y dylid ei ganiatáu mewn cais o’r fath.    

 

Holodd y Cynghorydd Shaun Redmond a oedd y Cynllun Busnes a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn rhoi hyder y bydd y busnes yn gallu ymestyn i fynd i’r afael â’r gofynion am annedd barhaol am safle ar gyfer gweithiwr menter wledig gan fod yr ymgeisydd yn cael ei gyflogi’n llawn amser yn rhywle arall. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, petai’r busnes yn datblygu yn unol â’r Cynllun Busnes yna fe ddylai’r fenter wledig allu cynnal gweithiwr amser llawn a fyddai’n cydymffurfio â chanllawiau cynllunio yn TAN 6.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y dylid cymeradwyo’r cais fel y nodwyd yn yr adroddiad. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: