Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  14C47R/ENF – 19 Cae Bach Aur, Bodffordd

12.2  19LPA1023B/CC – Safle’r Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

12.3  46C88K/AD – Canolfan Ymwelwyr RSPB, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

12.4  46C612A/AD – Tŵr Elin, Ynys Lawd, Caergybi

Cofnodion:

12.114C47R/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi porth car yn 19 Cae Bach Aur, Bodffordd.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cafwyd cais ôl-weithredol gan yr ymgeisydd yn dilyn ymchwiliad gorfodaeth. Mae dau lythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn sy’n awgrymu nad yw’r strwythur yn cyd-fynd â’r eiddo cyfagos o ran ei uchder a’i ymddangosiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol, bod yr eiddo cyfagos yn ystyried bod dyluniad a maint y porth car allan o gymeriad gyda gweddill y stad a gofynnodd i’r Pwyllgor ymweld â’r Safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid ymweld â’r Safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

          PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2 19LPA1023B/CC – Cais llawn ar gyfer codi 10 uned busnes (Dosbarth B1, B2 a B8) ar dir ar hen Safle’r Heliport, Stad Diwydiannol Penrhos, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod eiddo adwerthu yn ffinio’r safle ar hyn o bryd. Mae caniatâd eisoes wedi’i gymeradwyo yn 2015 ac mae’r safle bellach wedi’i adnabod o fewn ffin setliad Caergybi o dan ddarpariaethau polisïau cynllunio’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae safle’r cais hefyd wedi’i ddynodi fel cynnig C10 o dan ddarpariaethau CYF 1 y Cynllun Datblygu Lleol sy’n diogelu tir at ddibenion cyflogaeth diwydiannol; bydd y datblygiad yn creu hyd at 44 o gyfleoedd cyflogaeth 

 

Nododd hefyd fod y safle ger ffin yr AHNE a bod amod ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd o’r cais er mwyn lliniaru unrhyw effaith ar yr AHNE. Mae Datganiad Iaith Gymraeg wedi’i gyflwyno fel rhan o’r cais ac fe’i ystyrir yn dderbyniol gan Swyddog iaith Gymraeg yr Awdurdod. Rydym yn disgwyl datganiad Rheoli Carbon a Gwarchod Ynni yn ogystal ag Adroddiad Gwarchodaeth Dŵr. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes. 

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.   Yn amodol ar dderbyn datganiadau fel a nodwyd.

 

12.3 46C88K/AD – Cais i leoli dau arwydd heb eu goleuo ynghyd â gosod dau fesurydd parcio yng Nghanolfan Ymwelwyr RSPB, Ffordd Ynys Lawd,        Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol. 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Aelodau Lleol wedi gofyn am gynnal ymweliad â safle’r cais. Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes ei fod yn ystyried y bydd materion priffyrdd yn codi, a fydd yn effeithio ar drigolion lleol, mewn perthynas â’r cais hwn. Dywedodd hefyd nad oedd rhannau o’r safle ym mherchnogaeth yr ymgeiswyr ac felly roedd yn argymell y dylid ymweld â’r safle. Eiliwyd y cais gan y Cynghorydd Shaun Redmond. 

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.4 46C612A/AD – Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ynghyd â gosod mesurydd parcio ym maes parcio Tŵr Elin, Ynys Lawd, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol. 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Aelodau Lleol wedi gofyn am gynnal ymweliad â safle’r cais. Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes ei fod yn ystyried y bydd materion priffyrdd yn codi, a fydd yn effeithio ar drigolion lleol, mewn perthynas â’r cais hwn. Dywedodd hefyd nad oedd rhannau o’r safle ym mherchnogaeth yr ymgeiswyr ac felly roedd yn argymell y dylid ymweld â’r safle. Eiliwyd y cais gan y Cynghorydd Shaun Redmond. 

 

          PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

Dogfennau ategol: