Eitem Rhaglen

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2018, er cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel a ganlyn

 

Eitemau sy’n Newydd i’r Flaen Raglen Waith

 

Eitem 2 – Y Cyngor i fabwysiadu pwerau a dirprwyaeth i swyddogion wedi ei raglennu i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 21 Mai, 2018

Eitem 7 – Cytundeb Clwb Golff Llangefni wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 21 Mai, 2018

Eitem 10 – Cymeradwyo Achos Busnes ar gyferr Bid Twf Gogledd Cymru: Cytundeb Rhyng-Awdurdod 1 wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018

Eitem 11 - Bargen Twf Gogledd Cymru: Blaenoriaethu Prosiectau i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar ddyddiad i’w gadarnhau

Eitem 12 - Strategaeth Trawsnewid Addysg a Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018

Eitem 13 – Prosiect Ysgol Santes Dwynwen wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018

Eitem 14 - Strategaeth Ddigartrefedd wedi ei rhaglennu dros dro i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018

Eitem 16 – Ffoaduriaid Syria wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018

Eitem 20 – Moderneiddio Ysgolion : Ardal Llangefni (Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn) wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 16 Gorffennaf, 2018

Eitem 21 - Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 16 Gorffennaf, 2018

Eitem 22 – Moderneiddio Ysgolion (Ardal Seiriol) i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith mewn cyfarfod arbennig sydd wedi ei raglennu ar gyfer 18 Gorffennaf, 2018

Eitem 35 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2, 2018/19 wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd, 2018

Eitem 36 – Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf Chwarter 2 wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd, 2018

Eitem 38 - Strategaeth Ddigartrefedd (Cymeradwyo’r ddogfen yn dilyn yr ymgynghoriad) - wedi ei rhaglennu i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd, 2018

 

Ymhellach, cyfeiriodd y Swyddog at yr eitemau a ganlyn a gafodd eu gohirio neu eu dileu oddi ar y Rhaglen Waith.

 

Eitem 3 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2017/18 i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, 2018 yn hytrach nag ar 21 Mai, 2018 fel y nodwyd yn wreiddiol.

Eitem 6 – Craig y Don, Amlwch wedi ei dynnu oddi ar y Rhaglen Waith am y tro a bydd yn cael ei ail-raglennu i gael ei ystyried maes o law.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Mai i Rhagfyr 2018 yn amodol ar y newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

Dogfennau ategol: