Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion yn Ynys Mon - Adroddiad ar yr Ymgynghori Statudol yn Ardal Llangefni: Ysgol Corn Hir, Ysgol Henblas, Ysgol Bodffordd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol yn ymgorffori’r adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol ar foderneiddio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni (Ysgol Corn Hir, Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas).

 

Ar ôl datgan diddordeb rhagfarnus yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, y Cynghorydd Richard Dew a’r Prif Weithredwr y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar yr eitem hon. Roedd y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Is-gadeirydd, yn y Gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, i adrodd ar drafodaethau’r Pwyllgor Sgriwtini ar y mater hwn yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill, 2018 a’r argymhellion yn deillio o hynny.

 

Diolchodd y Cynghorydd Aled Morris Jones unwaith eto i bawb a oedd wedi cyfrannu at drafodaeth y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y pwnc hwn yn y cyfarfod ar 23 Ebrill ac yn arbennig cynrychiolwyr y tair ysgol dan sylw a oedd oll wedi cyflwyno achos cadarn ar ran eu hysgolion. Roedd cynrychiolwyr Ysgol Bodffordd wedi cyfleu darlun o ysgol wledig brysur oedd yn weithgar yn ei chymuned ac sydd â Chylch Meithrin uchel ei barch. Un o’r pryderon o ran yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini oedd y diffyg tystiolaeth i brofi mai’r Cyngor sydd berchen ar dir ac adeilad cymunedol sy’n gysylltiedig ag Ysgol Bodffordd, rhywbeth y codwyd amheuon ei gylch yn ystod y cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor yn awyddus i gael eglurhad ar hyn cyn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Gwaith. O ran Ysgol Corn Hir, clywodd y Pwyllgor Sgriwtini mai’r prif fater oedd diffyg lle ar gyfer y plant yn yr ysgol. Roedd cynrychiolwyr Ysgol Henblas wedi disgrifio’r camau breision y mae’r ysgol yn eu cymryd erbyn hyn i wella safonau a pherfformiad o dan arweiniad Pennaeth newydd, brwdfrydig. Dywedodd y Cynghorydd Jones mai’r darlun sy’n datblygu mewn perthynas ag Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas yw eu bod yn ddwy ysgol ganolig eu maint (neu’n ysgolion y gellid eu hystyried yn rhai mawr hyd yn oed yn ôl safonau Ynys Môn) sy’n cael eu targedu oherwydd yr angen i ddatrys problem diffyg llefydd addysg gynradd yn Llangefni. Er y derbynnir fod rhaid datrys y sefyllfa yn Ysgol Corn Hir, y pryder oedd yn cael ei gyfleu i’r Pwyllgor Sgriwtini oedd na ddylid gwneud hynny ar draul Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas. Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones at sylwadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru yn y sesiwn llawn ar 25 Ebrill pan gafodd ei holi gan Aelod Cynulliad Ynys Môn ynglŷn â’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn Ynys Môn - ac yn benodol ynglŷn â’r diffyg eglurder oherwydd disgwyliad Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain fod darparu cyllid ar gyfer ysgolion newydd yn dibynnu ar greu arbedion drwy uno/cau ysgolion bach ar un llaw, a’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion drafft newydd ar y llaw arall. Yn ei hymateb roedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud nad oes rhaid cau ysgol er mwyn sicrhau cyllid ar gyfer ysgol newydd - gellir defnyddio’r arian i adnewyddu/ailfodelu ysgolion sy’n bodoli’n barod yn ogystal. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi ystyried y ddau opsiwn a gyflwynwyd gan y Swyddogion yn ofalus iawn ond ei fod o’r farn fod y broses yn cael ei gweithredu ar ormod o frys - ni chynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol ac anstatudol er gwaetha’r ffaith ei bod yn arfer dda i wneud hynny ac roedd methu â gwneud hynny yn tynnu’n groes i’r weithdrefn a fabwysiadwyd ar gyfer cynigion blaenorol i foderneiddio ysgolion mewn rhannau eraill o Ynys Môn; mae’r methiant hwn yn cadarnhau amheuon ymysg y gymuned am y broses ei hun. O ganlyniad, roedd y Pwyllgor yn argymell oedi’r rhaglen foderneiddio yn y rhan hon o Langefni nes bydd y Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig terfynol wedi’i gyhoeddi, fod Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas yn aros ar agor yn sgil y cynlluniau i adeiladu tai newydd yn ardal Llangefni a’r llefydd ysgol ychwanegol fydd o bosib eu hangen oherwydd hynny, a bod y mater ynghylch perchnogaeth tir a’r adeilad cymunedol sy’n gysylltiedig ag Ysgol Bodffordd yn cael ei gadarnhau cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â’r ysgol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid fod y Rhaglen Foderneiddio Ysgolion yn golygu cloriannu dyfodol ysgolion a’r effaith fydd hynny’n ei gael ar blant, rhieni, athrawon, llywodraethwyr ac amrywiaeth o randdeiliaid eraill. Mae’n gallu bod yn fater cynhennus a dyma un o elfennau mwyaf heriol busnes y Cyngor. Fel Aelod Portffolio, roedd yn cydnabod hynny ac roedd yn deall pryderon rhieni a’r holl randdeiliaid eraill. Ar y llaw arall, yr hyn sy’n cael ei drafod yw dyfodol ysgolion dros y 50 mlynedd nesaf o bosib; gwasanaeth ysgolion sy’n sigo dan bwysau toriadau ariannol Llywodraeth San Steffan a Chaerdydd; costau trwsio a chynnal a chadw, gofynion y Cwricwlwm; arweinyddiaeth ysgolion a nifer o agweddau eraill. Mae’n rhaid i’r Cyngor roi ystyriaeth o ddifrif i wneud y system a gwasanaeth ysgolion yn fwy effeithiol sy’n golygu creu amgylchedd lle gall plant ac athrawon lwyddo, yn ogystal â’i wneud yn fwy effeithlon sy’n golygu sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol a bod pob ysgol yn derbyn cyfran deg o’r gyllideb. O dan Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a ddaeth i rym yn 2013, mae 10 o ysgolion bach wedi cau ar Ynys Môn, adeiladwyd dwy ysgol newydd ac mae’r gwaith o adeiladu’r drydedd ysgol wedi dechrau. Rhoddodd yr Aelod Portffolio grynodeb o hanes y broses foderneiddio hyd yn hyn yn y rhan hon o Langefni gan ddechrau gyda phenderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn ôl yn 2016 i gynnal ymgynghoriad anstatudol anffurfiol ar ad-drefnu’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni a ddigwyddodd ddiwedd 2016 ac a oedd yn cynnwys Ysgol Corn Hir, Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas ac ysgolion eraill. Yn dilyn adroddiad ar y mater, ym mis Rhagfyr 2016 penderfynodd y Pwyllgor Gwaith i gynnal ymgynghoriad statudol ar Opsiwn A ac Opsiwn B a chynhaliwyd yr ymgynghoriad ddechrau 2017. Yn dilyn oedi oherwydd Etholiadau Llywodraeth Leol, ym mis Gorffennaf 2017 cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith i symud ymlaen ag Opsiwn B, sef ysgol newydd i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd. Ym mis Rhagfyr 2017 penderfynodd y Pwyllgor Gwaith i oedi ac adolygu’r broses ac, oherwydd pwysau amser a gofynion cam Band A Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, penderfynwyd cynnal ymgynghoriad statudol a chyflwynir yr adroddiad ar y canlyniad i’r cyfarfod heddiw. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y gyrwyr newid sy’n sylfaen i’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Ymhellach, nododd fod gan yr Aelodau Etholedig gyfrifoldeb am eu cymunedau, ond fod disgwyl hefyd iddynt ddarparu cyfeiriad strategol drwy roi arweiniad cadarn ac eglur.

 

Amlygodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) brif feysydd adroddiad y Swyddog fel y’i cyflwynwyd i’r cyfarfod ac yn benodol adrannau 4 i 9 yr adroddiad sy’n amlinellu’r ymatebion a dderbyniwyd yn y cyfarfodydd ymgynghori a gynhaliwyd yn y tair ysgol, gan y tair ysgol yn unigol, gan ddisgyblion yn y tair ysgol a rhanddeiliaid eraill. Ynghlwm i’r adroddiad mae atodiadau yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad y tair ysgol a chost y pen ym mhob un o’r tair ysgol. Cyfeiriodd at nifer yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ac amlinellodd ymateb yr Awdurdod i’r prif bwyntiau a godwyd gan yr ymatebion hynny (adran 10 yr adroddiad). Mae safonau yn Ysgol Henblas ac Ysgol Bodffordd wedi bod yn isel am beth amser, ac mae’r ddwy ysgol wedi derbyn nifer sylweddol o ddyddiau o gefnogaeth ysgol gyda chyflymder y gwelliant yn fwy araf na’r disgwyl. Fodd bynnag, gyda phenodiad Pennaeth newydd dros dro gwelwyd cynnydd yn Ysgol Henblas ers Medi, 2017. Mae maint y ddwy ysgol yn golygu fod dosbarthiadau oedran cymysg yn yr ysgolion sy’n golygu fod addysgu yn fwy o her. Mae arweinyddiaeth ac ansawdd yr arweinyddiaeth yn broblem hefyd oherwydd maint yr ysgolion. Mae cost y disgybl yn uchel yn y ddwy ysgol ac yn uwch na chyfartaledd Cymru; yn ogystal mae ôl-groniad cynnal a chadw yn y ddwy ysgol (£112,000 yn Ysgol Henblas a £209,000 yn Ysgol Bodffordd). Nid oes tystiolaeth i gefnogi’r pwynt a wnaed gan rai o’r ymatebwyr fod defnydd o’r Iaith Gymraeg yn well yn Ysgol Henblas nag mewn ysgolion eraill na bod y gymuned yn gwneud mwy o ddefnydd o’r ysgol nag mewn nifer o ysgolion eraill.

 

Mae defnydd o’r Gymraeg yn un o gryfderau pob un o’r tair ysgol. Fodd bynnag, ym Modffordd, cydnebir bod defnydd cymunedol sylweddol yn cael ei wneud o’r ysgol a bod angen canfod ateb i’r mater hwn petai’r ysgol yn cau. Ysgol Corn Hir yw’r fwyaf o’r tair a bydd rhaid i’r opsiwn terfynol adlewyrchu hynny. Mae diffyg capasiti yn broblem yn yr ysgol ac nid oes lle i ehangu ar y safle. Mae ôl-groniad cynnal a chadw o £239,500 yn yr ysgol. Cost y pen yn Ysgol Corn Hir yw’r isaf o’r tair ysgol; mae safonau yn yr ysgol yn dda yn ogystal â’r defnydd o’r Gymraeg.

 

Ychwanegodd y Swyddog fod nifer o’r ymatebion cyffredinol a dderbyniwyd yn awgrymu fod maint ysgol yn cael effaith ar ansawdd y Gymraeg a bod ysgolion mwy yn llai llwyddiannus o ran creu ymdeimlad o deulu. Nid oes tystiolaeth i gefnogi’r un o’r ddau honiad. Yn ogystal, nid yw cau ysgolion o reidrwydd yn golygu fod cymunedau’n dirywio. Er ei bod yn her, mae enghreifftiau o gymunedau’n parhau i ffynnu mewn pentrefi lle mae ysgolion wedi cau.

 

Mewn perthynas â’r ystyriaethau ariannol, er na fyddai cynnal a chadw’r tair ysgol yn creu costau cyfalaf sylweddol, byddai’n rhaid rhoi sylw i’r ôl-groniad cynnal a chadw o £406,000 yn y tair ysgol. Mae’n debyg y bydd costau ychwanegol yn codi wrth i’r adeiladau gyrraedd diwedd eu hoes. Er bod adeiladu ysgolion newydd yn fuddsoddiad sylweddol sy’n rhaid ei ystyried yn ofalus, mae’n arwain at arbedion maint uwch a chostau refeniw is. Byddai cau Ysgol Henblas yn cynyddu arbedion maint yr ysgol newydd arfaethedig ac yn creu arbedion refeniw uwch.

 

Siaradodd yr Aelodau Lleol, y Cynghorwyr Dafydd Roberts ac Eric Jones o blaid Ysgol Henblas. Fe gyfeirion nhw at yr ymdrechion sylweddol a wnaethpwyd i godi safonau yn yr ysgol sy’n talu ar eu canfed erbyn hyn. Roeddent yn hyderus y byddai’r ysgol yn parhau i wella o dan arweiniad ac arweinyddiaeth Pennaeth newydd ymroddedig a brwdfrydig. Nododd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod llai na 10% o lefydd gweigion yn Ysgol Henblas a bod cost y pen yn gostwng hefyd. Mae nifer o agweddau yn newid o blaid yr ysgol. Gydag Ysgol Bodorgan yn cau, mae’n bosib y bydd disgyblion o’r ysgol honno’n penderfynu symud i Ysgol Henblas. Byddai cau Ysgol Henblas yn gadael ardal fawr heb unrhyw ddarpariaeth addysg. Disgrifiodd y Cynghorydd Eric Jones Ysgol Henblas fel ysgol fodern, boblogaidd, hapus a Chymreig ac roedd hynny’n golygu fod y bygythiad i’w dyfodol yn peri mwy o syndod a siom. Rhestrodd lwyddiannau diweddar yr ysgol mewn pêl-rwyd a phêl-droed 5 bob ochr, cyrraedd y brig drwy Gymru yn yr ymgyrch Bike It a bydd parti canu’r ysgol yn cynrychioli Ynys Môn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd fis nesaf. Dywedodd fod ysgol wrth galon pob pentref oherwydd ei bod yn creu ymdeimlad o gymuned ac yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau sy’n cynnal y gymuned. Mae tynnu’r galon o’r gymuned yn golygu y bydd y gymuned yn marw - oherwydd hynny anogodd y Pwyllgor Gwaith i gadw hynny mewn cof wrth ddod i benderfyniad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol a Chadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Bodffordd ar ran Ysgol Bodffordd. Er ei fod yn cefnogi Rhaglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor dywedodd ei fod yn credu’n gryf y dylid ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau ei hun. Roedd o’r farn fod yr adroddiad a gyflwynwyd yn annheg iawn ar Ysgol Bodffordd a bod yr asesiad o safonau’r ysgol yn rhy llym ac nad oeddent yn adlewyrchu’r gwir sefyllfa a dywedodd fod hynny wedi siomi a gwylltio corff llywodraethu’r ysgol ac wedi cael effaith ar forâl staff. Mae llawer o bwyslais yn yr adroddiad ar adroddiad arolygiad Estyn yn 2015 - ail-ymwelodd Estyn â’r ysgol yn 2016 a chadarnhau fod yr ysgol wedi gwneud cynnydd da. Yn ogystal, canmolwyd y cynnydd a wnaethpwyd gan yr ysgol gan Banel Adolygu Cynnydd Ysgolion Pwyllgor Sgriwtini’r Cyngor. Er bod canlyniadau rhai meysydd yn y chwarteli isaf, mae’r Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Statudol yn cydnabod fod rhaid bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau oherwydd gall niferoedd disgyblion fod yn isel ac mae natur y cohort ac amgylchiadau disgyblion unigol yn gallu cael effaith sylweddol. Mae’r defnydd o’r Iaith Gymraeg yn yr ysgol yn cael ei gydnabod fel cryfder. O ran arweinyddiaeth ac amser digyswllt annigonol ar gyfer Penaethiaid, mae hwn yn fater sy’n effeithio ysgolion mawr yn ogystal ag ysgolion llai gan fod toriadau ariannol yn golygu fod rhaid i benaethiaid dreulio mwy o amser yn yr ystafell ddosbarth beth bynnag yw maint yr ysgol gan nad oes digon o arian ar gael i gyflogi athrawon dosbarth. Er nad yw llefydd gweigion (un o brif yrwyr y rhaglen foderneiddio) yn broblem yn Ysgol Bodffordd mae’r ysgol, ynghyd ag Ysgol Henblas, wedi eu tynnu i mewn i’r broses yn sgil yr angen i ganfod ateb i’r diffyg llefydd yn y ddwy ysgol gynradd yn Llangefni. Mae’r adroddiad yn datgan ei bod yn annhebygol y byddai Llywodraeth Cymru’n cyfrannu arian tuag at ysgol newydd oni bai fod ysgolion yn cael eu huno er bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn seiliedig ar orfod cau ysgolion. Cyfeiriodd y Cynghorydd Dylan Rees at y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion drafft diwygiedig a chyfeiriodd at y Côd presennol sydd yn nodi ym mharagraff 1.7 fod rhaid i’r sawl sy’n cyflwyno cynigion ddangos fod effaith cau ysgol ar y gymuned wedi cael ei asesu drwy gynhyrchu Asesiad Effaith Cymunedol. Nid yw’r Asesiad Effaith Cymunedol a gynhyrchwyd mewn perthynas ag Ysgol Bodffordd (er na chafodd ei gynnwys gyda phapurau’r Pwyllgor) yn ddigonol - nid oes dim ynddo i ddangos fod yr Awdurdod wedi gwneud cynlluniau i liniaru effeithiau negyddol cau Ysgol Bodffordd ar y gymuned nac sut y bydd y bwriad i geisio diogelu’r ddarpariaeth gymunedol yn cael ei wireddu. Yn ogystal, nid oes gwybodaeth am ddyfodol y Cylch Meithrin llwyddiannus iawn sy’n golygu nad oes gwerth gwirioneddol i’r Asesiad heblaw am dicio bocsys. Bydd Aelodau’r Pwyllgor Gwaith wedi derbyn papur a baratowyd gan Mr Gareth Parry, un o Lywodraethwyr Ysgol Bodffordd, yn dangos sut mae’r cynigion yn groes i un o brif amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, sef creu cymunedau hyfyw, cadarn a llwyddiannus. Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees fod yr ymgyrch i ddiogelu dyfodol Ysgol Bodffordd yn frwydr i ddiogelu cymuned gyfan oherwydd byddai cau’r ysgol yn dinistrio’r gymuned. Anogodd y Pwyllgor Gwaith i gadw hynny mewn cof ac i beidio cau'r ysgol, yn arbennig gan nad oes rhaid i hynny ddigwydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, oedd yn siarad fel Aelod Lleol, fod rhaid rhoi sylw i’r ystadegau ar gyfer yr ardal hon ac i’r wybodaeth a dderbyniwyd yn sgil y broses ymgynghori. Mae’n rhaid deall nad yw cynnal y sefyllfa bresennol yn bosib, nid yn unig ar sail costau ond hefyd ar sail safonau addysgol. Mae rhieni’n dewis anfon eu plant allan o’r dalgylch ac mae’r ystadegau’n cadarnhau hynny gan eu bod yn dangos fod canran uchel o ddisgyblion yn Ysgol Henblas ac Ysgol Bodffordd yn dod o ardaloedd tu allan i’r dalgylch. Mae costau rhedeg Ysgol Henblas ac Ysgol Bodffordd yn uchel; Mae Ysgol Bodffordd yn gwario dwywaith gymaint ag Ysgol Corn Hir ar danwydd. Yn ogystal mae cost y disgybl lawer uwch yn Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas nac yn Ysgol Corn Hir ac yn llawer uwch na’r gwariant cyfartalog y pen yn Ynys Môn ac yng Nghymru, fel y tystia’r adroddiad. Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts a yw’n deg fod gwariant ar addysg cymaint uwch mewn ysgolion fel hyn tra bod y safonau yn is o gymharu ag ysgolion eraill. Mae ysgolion mwy, sy’n fwy hyfyw a chynaliadwy, mewn perygl o gael eu mygu’n ariannol ar draul cadw ysgolion drud ar agor. Mae prinder Penaethiaid hefyd yn broblem, er gwaetha’r ffaith fod yr Awdurdod yn ymdrechu i annog ac i hyfforddi unigolion i ymgymryd â’r rôl. Mae mwy o bwysau ar staff addysgu mewn ysgolion bach ac mae’n rhaid i’r Pennaeth addysgu yn y dosbarth am gyfran uwch o’r amser ac mae athrawon yn gorfod ymdopi â’r heriau a ddaw yn sgil addysgu dosbarthiadau oedran cymysg. Er bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes raid cau ysgolion er mwyn bod yn gymwys i dderbyn arian rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, dywedodd hefyd fod ystyriaeth yn cael ei roi i’r “gwerth tu ôl i bob cais”. Mae’n rhaid cael achos busnes cynaliadwy i gefnogi rhaglen foderneiddio’r Awdurdod ac er mwyn gweithredu hyn yn iawn mae’n rhaid uno ysgolion. Nid oes ffafriaeth o blaid nac yn erbyn ysgolion trefol nac ysgolion gwledig ac mae’r broses ymgynghori sydd wedi digwydd, ac sy’n parhau i ddigwydd, yn dangos hynny’n glir. Fodd bynnag, mae’n rhaid cydnabod a diogelu defnydd y gymuned o Ysgol Bodffordd. Gofynnodd i’r Pwyllgor Gwaith edrych ar Langefni o safbwynt ehangach ac i sicrhau nad yw plant yr ardal yn derbyn addysg israddol ar draul oedolion sy’n coleddu syniadau plwyfol am eu hardaloedd.

 

Wrth ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd a chyflwyniadau’r Aelodau Lleol, gwnaeth y Pwyllgor Gwaith y pwyntiau a ganlyn:

 

·           Nododd a derbyniodd y Pwyllgor Gwaith fod hon yn sefyllfa anodd iawn

 i’r cymunedau dan sylw a’i fod yn naturiol wedi esgor ar deimladau cryfion.

·           Roedd y Pwyllgor Gwaith yn gytûn ynglŷn â chefnogi’r Rhaglen

Foderneiddio Ysgolion ar Ynys Môn fel cyfrwng i gyflawni dyheadau’r Awdurdod o ran darpariaeth addysg gynradd ar yr Ynys h.y. creu’r amgylchedd ddysgu ac addysgu orau bosib ar gyfer disgyblion ac athrawon ysgolion cynradd Ynys Môn; i wneud defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau ac i hybu safonau uchel mewn addysg.

·           Yn yr ardaloedd hynny yn Ynys Môn lle cafodd ysgolion newydd eu

hadeiladu fel rhan o’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, nododd y Pwyllgor Gwaith fod y gwrthwynebiad a’r amheuon gwreiddiol ymysg y cymunedau hynny wedi lleihau wrth i fanteision ysgol newydd, fodern ddod i’r amlwg.

·           Nododd y Pwyllgor Gwaith nad oes rhaid i gau ysgolion gwledig o

reidrwydd arwain at ddirywiad mewn cymunedau e.e. cyfeiriwyd at gau Ysgol Llanddeusant fel esiampl lle na welwyd effaith negyddol ar y gymuned.

·           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod costau uwch yn gysylltiedig ag ysgolion

llai, o’r gost o addysgu pob disgybl i gostau rhedeg a chynnal a chadw adeiladau sydd fel arfer yn hynach ac yn aneffeithlon. Mae costau gorbenion yn ffynhonnell gwariant sylweddol yn y sector ysgolion ac yn arian sydd ddim yn cael ei wario ar ddysgu ac addysgu. Mae lleihau’r gorbenion drwy leihau nifer yr adeiladau ysgol yn creu arbedion y byddai’n rhaid eu canfod o gyllidebau eraill fel arall, yn cynnwys cyllidebau addysgu.

·           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod newid yn creu ofn a chyfleoedd. Mae’r rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ymwneud â newid patrwm y ddarpariaeth addysg gynradd fel ag y mae ar hyn o bryd ac sydd wedi hen sefydlu er mwyn creu’r amgylchedd dysgu ac addysgu gorau posib lle gall plant a staff fel ei gilydd fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg fodern. Mae’r rhaglen yn ceisio codi disgwyliadau addysgol ar gyfer plant ysgolion cynradd Ynys Môn ac i ddiwallu’r disgwyliadau hynny drwy ddarparu addysg o ansawdd uchel iddynt mewn adeiladau ysgol sy’n addas i bwrpas.

·           Nododd y Pwyllgor Gwaith y cynlluniau i ddatblygu tai yn Llangefni.

Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd fod y cynlluniau hynny wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth lunio’r cynigion. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod Swyddogion wedi asesu effaith y tai newydd gan ddefnyddio fformiwla i ragfynegi niferoedd disgyblion yn nalgylchoedd pob un o’r tair ysgol. Ar gyfer yr ymgynghoriad statudol hwn, 237 yw nifer y tai yn nalgylch y tair ysgol, fyddai’n golygu 40 o ddisgyblion ychwanegol.

·        Nododd y Pwyllgor Gwaith y bydd y Côd Trefniadaeth Ysgolion

diwygiedig yn dod i rym ym mis Medi 2018 ac mai un o argymhellion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol oedd oedi’r broses foderneiddio nes bod y Côd newydd yn cael ei weithredu. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynglŷn ag effaith debygol y Côd ar y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod yr ymgynghoriad hwn wedi cymryd y Côd diwygiedig drafft i ystyriaeth. Dywedodd fod y Côd diwygiedig, er yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, yn nodi’n glir nad yw hynny’n golygu na fydd ysgolion gwledig byth yn cau ond fod rhaid i’r achos dros gau fod yn gryf ac na ddylid gwneud penderfyniad i gau ysgol wledig hyd nes bod pob opsiwn ymarferol heblaw cau’r ysgol wedi cael eu hystyried. Pwysleisiodd y Swyddog fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn ei sylwadau i’r Cynulliad ar 25 Ebrill, wedi datgan mai mater i’r Awdurdod Lleol yw cynllunio llefydd ysgol.

·           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod amheuon wedi cael eu codi ynglŷn â

pherchnogaeth tir ac adeilad cymunedol yn gysylltiedig ag Ysgol Bodffordd. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd fod y cwestiwn ynghylch perchnogaeth wedi’i ddatrys. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y gallai adrodd, yn dilyn derbyn cadarnhad gan y Gwasanaethau Cyfreithiol ac Eiddo, fod Ysgol Bodffordd, y tir a’r cae chwarae ym mherchnogaeth y Cyngor Sir.

 

I grynhoi, diolchodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid i bawb oedd wedi cyfrannu at y drafodaeth a dywedodd ei fod yn cydnabod y pwyntiau a wnaed. Atgoffodd y rhai oedd yn bresennol fod 40% o gyllideb y Cyngor yn cael ei wario ar Addysg; ni fyddai gwneud dim yn arwain at wella’r gwasanaeth addysg ond byddai’n cael effaith sylweddol ar wasanaethau eraill y cyngor oherwydd byddai’r adnoddau’n parhau i leihau. Byddai gwneud dim yn ychwanegu at yr ansicrwydd. Dywedodd ei fod yn credu’n gryf yn Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr Awdurdod a’r hyn y mae’n ceisio’i gyflawni o ran codi safonau a chreu’r amgylchiadau lle gall plant ac athrawon lwyddo. Roedd y cydnabod fod y penderfyniad yn un anodd i’w wneud ond, ar sail nifer o ffactorau, roedd yn argymell Opsiwn 2 i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Er mwyn cydnabod pryderon ynghylch dyfodol gweithgareddau cymunedol ym Modffordd yn dilyn cau’r ysgol, cynigiodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff welliant sef fod trafodaethau’n cael eu cynnal gyda Chyngor Cymuned Bodffordd a chyda cymuned Bodffordd i ddiogelu a chadw’r neuadd gymuned. Dylai’r trafodaethau gychwyn yn ystod y 6 wythnos nesaf. Cymeradwywyd y gwelliant gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd –

 

·        Cymeradwyo Opsiwn 2, sef adeiladu ysgol newydd ar gyfer ysgolion Bodffordd a Corn Hir a pharhau i gynnal darpariaeth addysgol yn Llangristiolus naill ai drwy gynnal Ysgol Henblas ar ei ffurf gyfredol neu fel ysgol aml-safle [h.y. uno Henblas gyda’r ysgol newydd a chreu un ysgol ar ddau safle]. Byddai’n rhaid i’r penderfyniad hwn fod yn gysylltiedig â chael sicrwydd mewn blwyddyn [h.y. erbyn diwedd blwyddyn ysgol 2018/19] bod safonau yn Ysgol Henblas yn codi, bod cyflymder cyfredol y gwelliant yn cynyddu a bod y rhagolygon o ran niferoedd disgyblion yn parhau’n gyson neu yn codi.

·        Bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chyngor Cymuned Bodffordd a chyda cymuned Bodffordd er mwyn diogelu a chadw’r neuadd gymuned. Y trafodaethau hynny i gychwyn yn ystod y 6 wythnos nesaf.

Dogfennau ategol: