Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Corn Hir, Bodffordd ac Henblas)

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol yn ymgorffori'r adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ail-gyflunio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni (Ysgol Corn Hir, Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas) er ystyriaeth y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi dau opsiwn ar gyfer symud ymlaen gyda'r broses foderneiddio yn ardal orllewinol Llangefni –

 

           Adeiladu ysgol newydd yn lle Ysgol Bodffordd, Ysgol Henblas ac Ysgol Corn Hir, neu

           Adeiladu ysgol newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir a chynnal darpariaeth addysgol yn Llangristiolus. Gallai hyn olygu cynnal Ysgol Henblas yn ei ffurf bresennol neu fel rhan o ysgol aml-safle ar yr amod y ceir sicrwydd ymhen blwyddyn bod y safonau yn Ysgol Henblas yn gwella, bod y gwelliant yn digwydd yn gyflymach a bod y rhagolygon o ran niferoedd disgyblion yn parhau'n gyson.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant fod proses foderneiddio ysgolion yn golygu asesu a phwyso a mesur dyfodol ysgolion a'r effaith a gaiff hyn ar rieni, plant, athrawon, llywodraethwyr ysgol ac ystod o randdeiliaid eraill. Yn aml, mae'n fater dadleuol ac mae hefyd yn un o elfennau mwyaf heriol o fusnes y Cyngor. Fel yr Aelod Portffolio, roedd yn cydnabod hyn, ac roedd yn deall pryderon rhieni a rhanddeiliaid. Ar y llaw arall, yr hyn sy'n cael ei drafod yw dyfodol ysgolion efallai am y 50 mlynedd nesaf; gwasanaeth ysgolion sy'n sigo dan bwysau toriadau ariannol; ôl-groniad o ran gwaith cynnal a chadw, gofynion y cwricwlwm yn ogystal â nifer o faterion eraill. Rhaid i'r Cyngor roi ystyriaeth ddifrifol i wneud y system ysgolion yn fwy effeithiol er mwyn creu amgylchedd lle gall y disgyblion a'r athrawon lwyddo, a hefyd i'w gwneud yn fwy effeithlon fel bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol a bod pob ysgol yn cael cyfran deg o'r gyllideb. Mae'r Cyngor wedi cychwyn ar ei raglen foderneiddio er mwyn gwella canlyniadau addysgol i blant; er mwyn gwella safonau arweinyddiaeth ac ansawdd yr addysgu a'r dysgu a sicrhau bod ysgolion sector arweiniol ym mhob ardal. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg at y ffactorau sy’n gyrru’r newid o ran moderneiddio ac a fydd yn dylanwadu ar unrhyw benderfyniad ynglŷn â'r ddarpariaeth orau ar gyfer yr ardal fel y nodir yn adran 2 yr adroddiad. Cyfeiriodd hefyd at rôl Aelodau Etholedig yn y broses foderneiddio sy'n cwmpasu cyfrifoldebau lleol a chorfforaethol - sy'n golygu bod ganddynt ddyletswydd i'w cymunedau unigol ond hefyd ddyletswydd i ddarparu cyfeiriad strategol i'r Cyngor trwy arweiniad cadarn a chlir. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, er y bydd sylwadau penodol yn cael eu gwneud ar ran y tair ysgol yn y cyfarfod hwn, roedd yn hyderu y byddai cynnwys yr adroddiad yn cael ei graffu er mwyn hwyluso'r broses yn ei chyfanrwydd a hefyd er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor Gwaith yn benodol yn y mater hwn ac yn gyffredinol ar gyfer y dyfodol. Diolchodd i bawb a oedd wedi mynychu'r sesiynau ymgynghori a phawb a oedd wedi cyflwyno eu barn er bod llawer o sylwadau wedi cael eu gwneud gan unigolion nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad â'r tair ysgol dan sylw.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Thrawsnewid Gwasanaethau) ei bod hi hefyd yn dymuno diolch i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghori naill ai trwy anfon eu hymatebion neu drwy fod yn bresennol yn y cyfarfodydd ymgynghori yn y tair ysgol. Derbyniwyd 264 o ymatebion gan randdeiliaid Ysgol Bodffordd gyda'r mwyafrif helaeth yn gwrthwynebu’r bwriad i gau'r ysgol; derbyniwyd 2 ymateb gan randdeiliaid Ysgol Corn Hir, gan gynnwys un gan y Corff Llywodraethol a derbyniwyd 118 o ymatebion gan randdeiliaid Ysgol Henblas gyda'r mwyafrif helaeth eto yn gwrthwynebu'r cynnig i gau'r ysgol. Cyflwynwyd deiseb i'r Awdurdod yn gwrthwynebu cau Ysgol Bodffordd a chyflwynwyd deiseb hefyd er mwyn cadw Ysgol Henblas ar agor. Yn ogystal, cynhaliwyd arolwg electronig. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd i gael barn y plant ym mhob un o'r tair ysgol. Tynnodd y Swyddog sylw penodol at baragraff 8.2 yn yr adroddiad ar yr ymateb i'r ymgynghoriad lle nodir bod yr Aelod Cynulliad dros Ynys Môn wedi cyflwyno ymateb mewn perthynas ag Ysgol Henblas. Eglurodd y Swyddog fod Mr Rhun ap Iorwerth wedi ymateb yn rhinwedd ei rôl fel cyn-riant, cyn-lywodraethwr ysgol ac fel un sy’n byw yng nghymuned Llangristiolus.

 

Dywedodd y Swyddog fod yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd trwy gyfleu'r prif themâu o'u cymharu â'r prif ffactorau sy'n gyrru’r newid yn y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion (adran 2 yr adroddiad). Nodir ymateb yr Awdurdod i'r materion a godwyd mewn perthynas â phob un o'r tair ysgol yn adran 10 yr adroddiad. O ran Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas mae llawer o'r materion a godwyd - er enghraifft mewn perthynas â safonau, niferoedd disgyblion, cyflwr adeilad yr ysgol, yr iaith Gymraeg a'r defnydd cymunedol yn gyffredin i'r ddwy ysgol a gellir crynhoi ymateb yr Awdurdod iddynt fel a ganlyn -

 

           Mae'r safonau yn y ddwy ysgol wedi bod yn isel ers peth amser fel y cadarnhawyd gan adroddiadau arolygu Estyn ym Mai, 2015 a Mai, 2017 yn y drefn honno. (Ymhelaethir ar safonau ysgol ym mhob un o’r tair ysgol yn fanylach yn adran 3 y Ddogfen Ymgynghori Statudol). Mae cyflymder y cynnydd wedi bod yn araf er bod gwelliannau wedi digwydd yn ddiweddar yn Ysgol Henblas dan arweiniad y Pennaeth dros dro. Mae Ysgol Bodffordd yn derbyn llawer iawn mwy o amser cymorth na nifer sylweddol o ysgolion eraill; yn achos Ysgol Henblas, waeth beth yw'r penderfyniad terfynol, mae angen brys i'r Awdurdod, y rhieni a'r Corff Llywodraethol barhau i weithio gyda'i gilydd dros y flwyddyn nesaf i sicrhau'r gwelliannau angenrheidiol.

           Mae problemau arweinyddiaeth yn bodoli yn y ddwy ysgol. Yn achos Ysgol Henblas, nid yw maint yr ysgol yn caniatáu penodi dirprwy ac mae angen gwneud cryn dipyn o waith i gyrraedd pwynt lle byddai arweinyddiaeth ddirprwyedig yn un o gryfderau’r ysgol. O’r herwydd, byddai datblygu diwylliant o ddatblygu arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth yn her sylweddol i’r ysgol. Mae'r Awdurdod yn cydnabod bod ansawdd yr arweinyddiaeth yn fwy o her i ysgolion llai lle mae arweinwyr yn gyfrifol am ddosbarth am ran sylweddol o'r wythnos ac yn gyfrifol hefyd am bob agwedd o arwain ysgol.

           Mae'r ddogfen ymgynghori statudol yn nodi gwaith bod cynnal a chadw gwerth £209,000 wedi cronni yn achos Ysgol Bodffordd ac er bod llawer o'r ymatebwyr yn achos Ysgol Henblas yn nodi bod cyflwr yr ysgol yn dda, mae gwaith cynnal a chadw gwerth £112,000 wedi cronni yn yr ysgol honno hefyd.

           Mae maint y ddwy ysgol yn golygu bod dosbarthiadau o oed cymysg. Mae hyn, ynghyd â'r disgwyliad bod yn rhaid paratoi gwaith addas ar gyfer yr amrediad o alluoedd mewn dosbarth, yn cynnig lefel uwch o her i athrawon mewn ysgolion llai.

           Er ei bod yn amheus a yw’r defnydd cymunedol o wneir o Ysgol Henblas yn fwy na'r defnydd a wneir o nifer o ysgolion eraill, cydnabyddir bod defnydd cymunedol sylweddol yn cael ei wneud o Ysgol Bodffordd i'r graddau y byddai’n rhaid, petai’r ysgol yn cau, gydweithio gyda'r gymuned i ddod o hyd i ddatrysiad a fyddai'n caniatáu i weithgareddau cymunedol barhau.

           Nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi sylwadau a wnaed bod y defnydd o'r Iaith Gymraeg yn well yn Ysgol Henblas nag mewn ysgolion eraill. Mae'r defnydd o'r Gymraeg yn un o gryfderau'r tair ysgol a chydnabyddir hynny yn Ysgol Bodffordd ac fe'i cadarnheir gan yr Asesiad Effaith Ieithyddol.

           Y gost fesul disgybl yn Ysgol Henblas (£4,778) yw'r uchaf o'r tair ysgol ac mae'n sylweddol uwch na chyfartaledd Ynys Môn (£3,97 2). Mae'r gost fesul disgybl yn Ysgol Bodffordd hefyd yn uchel ar £4,500. Cyfartaledd Cymru yw £3,690 fesul disgybl.

           Mae'r rhagolygon ar gyfer niferoedd disgyblion yn Ysgol Henblas yn nodi gostyngiad hyd at 2023. Bydd Ysgol Bodffordd dros ei chapasiti erbyn Medi, 2018 ymlaen. (Ymhelaethir ar y rhagolygon o ran niferoedd disgyblion yn fanylach yn y Ddogfen Ymgynghori Statudol)

Mae'r sefyllfa mewn perthynas ag Ysgol Corn Hir yn wahanol. Fel y fwyaf o’r tair ysgol dan sylw, bydd yn rhaid i'r sefyllfa derfynol adlewyrchu hyn. Nid oes digon o le yn Ysgol Corn Hir ac nid oes modd ehangu safle’r ysgol bresennol. Er bod y safonau yn dda ar hyn o bryd, mae lle i wella eto. Mae yna ôl-groniad gwerth £239,500 o ran cynnal a chadw yn Ysgol Corn Hir hefyd (Dogfen Ymgynghori Statudol). Y gost fesul disgybl yn yr ysgol yw'r isaf o'r tair ysgol (£3,475). Gellir dadlau bod hyn yn golygu bod yr her ariannol yn sylweddol uwch oherwydd mae’r dosbarthiadau’n fwy ac oherwydd bod ysgolion mwy fel arfer yn gwasanaethu ardaloedd mwy difreintiedig, gellir dadlau nad yw hyn yn hyrwyddo cyfle cyfartal.

 

Dywedodd y Swyddog y derbyniwyd nifer o sylwadau ynghylch yr iaith Gymraeg a oedd yn cwestiynu statws ieithyddol ac ansawdd y Gymraeg yn yr ysgol newydd arfaethedig, gyda’r awgrymiad y gall maint yr ysgol effeithio ar ansawdd yr iaith Gymraeg. Awgrymwyd hefyd fod ysgolion mwy yn llai effeithiol o ran creu’r ymdeimlad o deulu a'i gwneud a bod llai o gyfleoedd i blant gynrychioli'r ysgol. Honnir ymhellach fod cau ysgolion yn arwain at ddirywiad cymunedau. Mae'r Awdurdod yn pwysleisio y bydd angen i unrhyw ysgol newydd ddilyn y polisi iaith Gymraeg ac mae'n disgwyl i unrhyw ysgol sy'n rhan o'r rhaglen foderneiddio barhau i fod yn ysgolion Cymraeg eu hiaith. Nid oes unrhyw dystiolaeth fod ysgolion mwy yn cynnig llai o gyfleoedd i gymryd rhan - mae yna drefniadau mewn ysgolion cynradd i sicrhau cyfleoedd i bob disgybl gymryd rhan. Nid yw ychwaith yn wir fod cymunedau o reidrwydd yn dirywio pan fydd yr ysgol leol yn cau - gall ysgol newydd greu cymuned ehangach ac mae yna enghreifftiau o gymunedau sy’n parhau i ffynnu mewn pentrefi lle mae ysgolion wedi cau.

 

Cyflwynwyd sylwadau hefyd gan randdeiliaid eraill, gan gynnwys Undebau Athrawon, Estyn, Cynghorau Cymuned Llangristiolus a Cherrigceinwen, Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith. Mae nifer o sylwadau yn cyfeirio at Gôd diwygiedig Trefniadaeth Ysgolion 2017 Llywodraeth Cymru y disgwylir iddo ddod i rym ym Medi, 2018. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor ynghylch faint o ystyriaeth a roddwyd i'r Côd diwygiedig wrth wneud y cynigion fel y'u cyflwynwyd, dywedodd y Swyddog fod pob ystyriaeth wedi'i rhoi i'r Côd. Amlygodd fodd bynnag nad yw’n dweud yn unman yn y Côd diwygiedig nad yw cau ysgolion gwledig bach yn bosibl; mae'r Côd yn cydnabod nad yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu na fydd ysgolion gwledig byth yn cau. Yr hyn y mae'r Côd yn ei nodi yw y dylai penderfyniad i gynnig ac ymgynghori ar gau gael ei wneud dim ond ar ôl i’r holl opsiynau ymarferol ac eithrio cau (ceir enghreifftiau ohonynt yn y Côd) gael eu hystyried. Mae'r Côd diwygiedig yn nodi bod y system bresennol wedi caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn fwy cyflym - dywedodd y Swyddog nad yw'r Awdurdod yn Ynys Môn wedi gwneud penderfyniadau ar frys, mae wedi cymryd tair blynedd ar gyfartaledd i agor ysgol newydd o'r pwynt ymgynghori. Dechreuodd trafodaethau mewn perthynas â'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal orllewinol Llangefni yn 2016; yn ogystal, mae ystyried opsiynau amgen wedi ffurfio rhan o bob proses ymgynghori y mae'r Awdurdod wedi ei chynnal hyd yma fel rhan o’r rhaglen moderneiddio ysgolion. Fodd bynnag, mae profiad wedi dangos bod y rhan fwyaf o sylwadau a wneir yn ystod ymgynghoriadau yn negyddol yn bennaf ac yn gwrthwynebu'r cynigion a gyflwynwyd ac mai ychydig iawn o sylwadau cadarnhaol a geir o ran cynnig opsiynau eraill ymarferol. Mae’r Côd yn cyfeirio at safonau ac ansawdd addysg fel ffactorau allweddol - mae'r Awdurdod yn cytuno ac mae’n awgrymu ymhellach fod plant yn cael annhegwch os yw safonau'n anfoddhaol. Mae gwella a sicrhau safonau addysgol uchel yn un o brif yrwyr yr Awdurdod o ran sicrhau newid. Mae’r Côd yn cyfeirio at y ffaith bod rhai ysgolion yn ganolog i fywyd a gweithgaredd yn y gymuned  ac i gynaliadwyedd cymunedau yn enwedig lle defnyddir adeilad yr ysgol i ddarparu gwasanaeth cymunedol - mae’r Awdurdod, er yn ceisio gweithio gyda chymunedau ac wedi llwyddo i wneud hynny, e.e. yn Llanddona, yn cydnabod bod hon yn agwedd y bydd angen gwneud gwaith pellach yn ei chylch wrth i'r Côd newydd gael ei weithredu ac wrth i'r Awdurdod fireinio ei brosesau. Mae'r Côd yn cydnabod addysg fel yr ystyriaeth sylfaenol sy'n cysylltu â dyletswydd yr AALl i godi a chynnal safonau addysg - mae ansawdd profiadau plant yn edefyn arian sy'n rhedeg trwy raglen Foderneiddio Ysgolion yr Awdurdod. Nid yw'r rhestr o ysgolion gwledig sy'n gysylltiedig â'r Cod yn golygu bod ysgolion sydd wedi'u dynodi fel ysgolion gwledig ar y rhestr yn ddiogel ac na ddylid ystyried datrysiadau amgen neu wahanol. Mae angen gwneud mwy o waith ar hyn yn lleol a bydd yn derbyn sylw unwaith y daw’r Côd newydd yn dod i rym.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad y Swyddog a'r wybodaeth a gyflwynwyd i gefnogi'r cynigion a gyflwynwyd ac fe wnaeth y pwyntiau canlynol –

 

           Nododd y Pwyllgor nad oedd cau Ysgol Henblas yn opsiwn yn yr ymgynghoriad ar foderneiddio ysgolion yn rhan orllewinol Llangefni a gynhaliwyd yn gynnar yn 2017. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad felly o'r rhesymau dros gynnwys cau Ysgol Henblas fel rhan o'r ymgynghoriad diweddaraf.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Thrawsnewid Gwasanaethau) fod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr, 2018 wedi penderfynu ar gyfnod o oedi ac adolygu ynghylch dyfodol darpariaeth addysg gynradd yn Llangefni. O ganlyniad i hyn, cafodd yr opsiynau eu hail-asesu yn sgil cadarnhad hefyd o argaeledd cyllid newydd sylweddol. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ofyn i Swyddogion Addysg edrych eto ar ardal Llangefni. Roedd y cyllid ychwanegol yn golygu bod cynigion newydd yn bosibl gyda hynny yn ei dro yn golygu bod angen cyfarfodydd ymgynghorol statudol pellach gyda rhieni, staff a llywodraethwyr. Ar ôl adolygu'r sefyllfa, penderfynodd y Pennaeth Dysgu, ar 5 Chwefror, 2018, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr a'r Aelod Portffolio Addysg ac yn unol â phwerau dirprwyedig y Swyddogion, ail-gychwyn y broses ymgynghori yn rhan orllewinol Llangefni ar y cynnig a nodir yn y Ddogfen Ymgynghori Statudol.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y Côd Trefniadaeth Ysgolion newydd yn debygol o gael ei weithredu ym mis Medi, 2018. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch yr ymagwedd y bydd yr Awdurdod yn ei mabwysiadu os bydd y Côd terfynol yn wahanol i’r fersiwn ddrafft ac a fyddai'n bosibl gwrthdroi unrhyw benderfyniad y bydd y Pwyllgor Gwaith efallai yn ei wneud mewn perthynas â’r opsiynau dan ystyriaeth yn enwedig gan eu bod yn golygu cau dwy neu dair o ysgolion.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Thrawsnewid Gwasanaethau) na fyddai'n bosibl mynd yn ôl ar benderfyniad y mae'r Pwyllgor Gwaith wedi’i raglennu i’w wneud ar 30 Ebrill, pan ddaw'r Côd Trefniadaeth Ysgolion i rym ym Medi, 2018.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ar sefyllfa ariannol yr Awdurdod. Dywedodd y Swyddog mai addysg ac ysgolion yw'r cyllidebau mwyaf yn y Cyngor -  £40m o gyfanswm cyllideb y Cyngor o £130m. Dywedodd y Swyddog, ers dechrau'r wasgfa ar gyllid y Cyngor yn ystod 2012, bod y Cyngor wedi gwneud toriadau yn y gyllideb o dros £17 miliwn, gan gynnwys £2.5m o arbedion yn 2018/19. Gan edrych i'r dyfodol, nid oes disgwyliad y bydd y sefyllfa’n gwella gyda'r grant setliad yn debygol o ostwng 1% arall yn 2019/20 sy'n cyfateb i golled o £1m o incwm i’r Cyngor, ac ni ragwelir unrhyw gynnydd yn y ddwy flynedd ddilynol. Serch y ffaith fod y gyllideb yn crebachu, mae costau'r Cyngor yn cynyddu'n raddol o flwyddyn i flwyddyn - disgwylir i gyflogau staff gweinyddol llywodraeth leol godi 3% yn 2019/20; pe bai gweddill staff y Cyngor yn derbyn codiad cyflog o 2% i 3%, rhagwelir y byddai'r setliad cyflog ar gyfer staff addysgu hefyd oddeutu’r un lefel gyda hynny’n ychwanegu'n sylweddol at gostau'r Cyngor. Mae Cynllun Ariannol Tymor Canol y Cyngor yn ceisio edrych ymlaen yn seiliedig ar wahanol senarios; mae'r cynllun yn rhagamcan y bydd angen i’r Cyngor wneud arbedion pellach o rhwng £ 6m a £ 10m dros y tair blynedd nesaf. Felly, mae angen cymryd sefyllfa ariannol y Cyngor i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau ar ysgolion a dylai fod yn un o'r ffactorau yn y broses o wneud penderfyniadau.  Dywedodd y Swyddog fod y Cyngor dros y blynyddoedd wedi ceisio gwarchod ysgolion rhag y gwaethaf o’r toriadau yn y gyllideb; nid yw rhoi i ysgolion y warchodaeth hon ar draul gwasanaethau eraill sydd wedi gorfod dod o hyd i arbedion sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf bellach yn bosibl, yn enwedig os bydd y senario waethaf yn cael ei gwireddu ac y bydd yn rhaid i'r Cyngor ddod o hyd i arbedion o £10m dros y tair blynedd nesaf.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y trefniadau ariannu ar gyfer ysgolion newydd sydd hefyd yn rhoi pwysau ar gyllid y Cyngor. Rhennir cyllid ar gyfer prosiect ysgol newydd neu brosiect adnewyddu yn 50% gan Lywodraeth Cymru a 50% gan yr Awdurdod Lleol. Gall derbyniadau cyfalaf o werthu adeiladau ysgolion nad oes eu hangen mwyach ffurfio rhan o gyfraniad yr Awdurdod a thrwy hynny leihau'r swm y mae'n rhaid iddo wario. Ariennir y swm sy'n weddill trwy fenthyca lle mae'r Awdurdod yn cwrdd â chostau benthyca, h.y. trwy wneud darpariaeth yn y gyllideb refeniw - y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (2% o swm y benthyciad) - i ad-dalu'r benthyciad ar ddiwedd y tymor a thrwy gwrdd â'r costau llog blynyddol, sydd, ar hyn o bryd rhwng 2.3% i 2.5%. Am bob £1m y mae'r Awdurdod yn ei fenthyca i ariannu ei gyfran ef o gostau ysgol newydd, mae'r costau blynyddol oddeutu £50k. Mae benthyciad o £5m yn arwain at gost flynyddol o £ 250k y mae'n rhaid i'r Awdurdod ei dalu. O’r herwydd, mae'r agweddau ariannol wrth ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer ysgolion gan gynnwys ysgolion newydd yn bwysig iawn. Mae dod ag Ysgol Henblas i mewn i'r hafaliad yn fanteisiol o safbwynt ariannol o gofio y byddai rhai costau penodol sy’n gysylltiedig â rhai contractau, e.e. costau rheoli contractau, costau diogelwch safle yr un fath waeth beth fo maint yr ysgol newydd ond gellir cyflawni arbedion maint trwy gynnwys Ysgol Henblas yn y cynllun. Yn gyffredinol, mae costau rhedeg ysgolion llai yn uwch gyda hynny’n arwain at gynnydd yn y gost fesul disgybl; o safbwynt refeniw, mae'n rhaid i'r Cyngor ystyried a all fforddio i gadw ysgolion gwledig bach yn y tymor hir. Cyfeiriodd y Swyddog at adran 11 yn yr adroddiad ar yr ymateb i'r ymgynghoriad sy'n nodi canlyniad gwerthusiad ariannol o bedwar opsiwn, gan gynnwys yr opsiwn o gadw pethau fel y maent.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, cadarnhaodd y Swyddog y byddai benthyca'n digwydd dros gyfnod o 50 mlynedd. Nodir y costau cludiant ysgol ychwanegol ar gyfer pob un o'r pedwar opsiwn yn adran 11; amcangyfrifon yw’r rhain a gallant newid yn dibynnu ar yr ysgol ac i ble y bydd y rhieni yn dewis anfon eu plant. 

 

Sylwadau gan Ysgol Henblas

 

Fe wnaeth Rhys Parry (Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Henblas) a Helen Munroe (ar ran rhieni disgyblion Ysgol Henblas) annerch y Pwyllgor a chyflwyno eu barn nhw a barn cymuned Llangristiolus ynghylch y cynigion i foderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn rhan orllewinol Llangefni. Tynnodd y ddau ohonynt sylw at yr ymgyrch egnïol a brwdfrydig a lansiwyd gan randdeiliaid yn Ysgol Henblas i gadw'r ysgol ar agor oherwydd eu bod o'r farn bod achos cadarn dros beidio â chau'r ysgol a hynny’n cael ei gefnogi gan resymau addysgol, diwylliannol a chymdeithasol cryf. Tynnwyd sylw at y ffaith bod aelodau'r Pwyllgor yn ogystal ag aelodau o'r Pwyllgor Gwaith wedi cael gwahoddiad i ymweld ag Ysgol Henblas ond nad oedd hyn wedi bod yn bosibl ar y dyddiad a gynigiwyd.  Wrth gyflwyno eu sylwadau i'r Pwyllgor, dygwyd y materion isod i sylw'r Aelodau –

 

              Mae Ysgol Henblas yn ysgol o 87 o blant sydd, ym marn y rhanddeiliaid, yn ei gwneud yn ysgol ganolig ei maint yn hytrach nag yn ysgol fechan. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal wledig eang yn cynnwys Llangristiolus, Capel Mawr, Cerrigceinwen a Pharadwys. Mae'n ysgol fywiog, hapus, Cymraeg ei hiaith sy'n ffynnu. Mae'n ysgol fodern gyda lle'r naill ochr a’r llall iddi i’w hymestyn os oes angen.

              Ers mis Medi diwethaf o dan Brifathrawiaeth Mr Elfed Williams, mae'r ysgol wedi datblygu a mynd o nerth i nerth ac, yn dilyn penodiad pennaeth newydd, dawnus a brwdfrydig yn ddiweddar sy'n rhannu gweledigaeth ei ragflaenydd ar gyfer yr ysgol, mae pob hyder y bydd Ysgol Bydd Henblas yn parhau i ffynnu. Mae Safonau Addysg yn yr ysgol ar gynnydd. Er gwaethaf cyfnod heriol cyn haf 2017, o’r tair ysgol dan sylw, canlyniadau Ysgol Henblas ar gyfer 2016/17 yn y Cyfnod Sylfaen yw'r ail orau ac yn CA2, yr ysgol hon yw’r orau ac mae’r canlyniadau hefyd yn well na rhai Ynys Môn a Chymru. Ar ben hynny, mae GwE mewn adroddiad a gyhoeddwyd y mis diwethaf, yn cadarnhau bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd yn erbyn pob un o'r 6 argymhelliad a wnaed gan Estyn yn dilyn yr arolygiad ym mis Mai 2017. O dan arweiniad y Pennaeth newydd, mae'r ysgol yn parhau i wneud cynnydd o ran gwella safonau.                       

              Bod diffygion arwyddocaol yn y broses ymgynghori - yn benodol - y tro U annisgwyl mewn perthynas â'r safiad a gymerwyd yn yr ymgynghoriad blaenorol yn gynnar yn 2017 sydd wedi arwain yn awr at y cynnig i gau Ysgol Henblas. Hefyd, ni chynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol ac er y derbynnir nad yw hynny’n orfodol, ystyrir ei fod yn arfer dda. Yn drydydd, y gogwydd bwriadol yn y ddogfen ymgynghori statudol ac yn yr adroddiad ar yr ymateb i'r ymgynghoriad sy'n ceisio cyfleu darlun anffafriol o Ysgol Henblas. Er enghraifft, drafftiodd Corff Llywodraethol Ysgol Henblas ymateb manwl 8 tudalen manwl i'r ymgynghoriad ond fe gafodd yr ymateb hwnnw ei grynhoi’n 6 pwynt bwled yn yr adroddiad, er bod ymatebion gan Gyrff Llywodraethol Ysgolion a effeithiwyd yn y gorffennol wedi cael eu hatgynhyrchu’n gyflawn mewn adroddiadau blaenorol ar ymatebion i ymgynghori. Mae’n  cyfyngu ar lais yr ysgol ac aethpwyd ati i gywiro hyn gan Gadeirydd y Corff Llywodraethol a anfonodd ymateb y Corff Llywodraethol yn uniongyrchol i aelodau'r Pwyllgor Sgriwtini a'r Pwyllgor Gwaith.

              Pwysigrwydd sicrhau dewis. Pe bai holl gynlluniau'r Awdurdod yn cael eu gwireddu, dim ond dwy ysgol gynradd, er y byddent yn rhai mawr, fyddai’n gwasanaethu ardal enfawr sy’n cyfateb i chwarter yr Ynys. A yw'r Awdurdod wir yn credu bod anialwch addysgol fel hyn yn ddymunol? Er bod nifer o rieni yn dewis anfon eu plant i ysgolion mwy, mae llawer o bobl eraill yn dewis ysgolion gwledig megis Ysgol Henblas oherwydd y flaenoriaeth i lawer o rieni yw bod eu plant yn cael addysg o safon mewn amgylchedd gwledig, cymunedol a theuluol yn hytrach na mewn ffatri addysg.

              Mae ysgol fel Ysgol Henblas yn gynhwysol ac yn cynnig cyfleoedd i bob disgybl gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol e.e. yn y tîm pêl-droed neu yng nghôr yr ysgol; yn aml mewn ysgolion mwy, dim ond y gorau sy'n cael y cyfle i gymryd rhan.

              Ers mis Mai, 2017 bu cynnydd o bron i 10% yn niferoedd y disgyblion yn Ysgol Henblas, sy'n tystio i hyder y gymuned gyfagos yn yr ysgol.

              Ysgol Henblas yw canolbwynt Llangristiolus ac mae’r pentref wedi tyfu o gwmpas yr ysgol gan mai ychydig iawn o ddarpariaeth arall sydd ar gael yn y pentref. Pe byddai'r ysgol yn cau, yna byddai ardal wledig fawr yn cael ei hamddifadu o'r unig adnodd sylweddol sy'n dod â’r gymuned at ei gilydd, a gallai colli hynny arwain at ddirywiad cymuned arall eto.

              Mae ysgolion fel Ysgol Henblas yn hanfodol o ran hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Bydd yr ysgol fawr newydd arfaethedig bum gwaith maint Ysgol Henblas, gan olygu y gallai pum gwaith y nifer o blant o gartrefi di-Gymraeg fod yn mynychu'r ysgol, gan gynyddu'r cyfleoedd i blant beidio â siarad Cymraeg. Mae cadw canolfannau addysg yn y cymunedau ble mae plant yn byw lle bynnag y bo modd, yn allweddol i sicrhau bod y Gymraeg yn datblygu ac yn ffynnu. Nid yw addysgu plant trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddigon ynddo’i hun i gynnal yr iaith - mae angen i blant allu dewis Cymraeg dros y Saesneg a dylai hyn ddechrau yn eu pentref eu hunain a'u cymuned eu hunain ac nid mewn ysgol bedair milltir i lawr y ffordd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch y camau y mae Corff Llywodraethol Ysgol Henblas yn eu cymryd i sicrhau bod y gwelliant o ran safonau’n parhau ac yn cael ei gynnal, dywedodd Mr Rhys Parry fod yr ysgol wedi gweithio'n ddyfal i weithredu’r cynllun gweithredu ôl-arolygiad ac mae Panel Safonau wedi cael ei sefydlu i sicrhau bod y 6 argymhelliad a wnaed gan Estyn yn cael eu gweithredu. Gwnaed cynnydd sylweddol eisoes e.e. mewn perthynas â darllen ac mae hynny wedi'i gadarnhau yn adroddiad GwE. Fodd bynnag, mae’r ffocws ar wella safonau wedi lleihau oherwydd yr angen i roi pob ymdrech i mewn i’r ymgyrch i ymladd dros ddyfodol yr ysgol. O ran dosbarthiadau oedran cymysg, mae yna ddisgyblion o wahanol alluoedd ym mhob dosbarth y mae angen gwneud trefniadau gwahanol ar eu cyfer.

Siaradodd y Cynghorwyr Dafydd Roberts ac Eric Wyn Jones fel Aelodau Lleol. Dywedodd y ddau eu bod yn hyderus yn y cynnydd a wnaed gan Ysgol Henblas ac roedd y ddau yn pryderu am oblygiadau unrhyw fwriad i gau oherwydd y byddai hynny’n gadael ardal fawr o'r Ynys heb unrhyw ddarpariaeth addysgol a thrwy hynny, yn amddifadu rhieni o’r gallu i ddewis. Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones ei fod wedi’i syfrdanu gan y cynnig i gau'r tair ysgol a bod y tair ohonynt yn ei farn ef yn rhai gwych (‘super’).

 

Sylwadau gan Ysgol Bodffordd

 

Anerchodd Gareth Parry (Llywodraethwr Ysgol), Llinos Roberts (rhiant) ac Elis Wyn Roberts (Cyngor Cymuned Bodffordd) y Pwyllgor gan fynegi eu barn a barn cymuned Bodffordd ar y cynigion i foderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn rhan orllewinol Llangefni. Wrth wneud eu sylwadau, pwysleisiwyd rôl Ysgol Bodffordd fel ysgol gymunedol sydd wrth galon y gymuned a dygwyd y materion canlynol at sylw'r Pwyllgor hefyd –

 

           Bod Ysgol Bodffordd yn ysgol boblogaidd sy'n llawn gyda llawer o rieni o'r tu allan i'r dalgylch yn dewis anfon eu plant i'r ysgol oherwydd ei natur gymunedol ac ethos Cymraeg cryf.

           Nid adeiladau newydd  chynnydd academaidd yw'r unig ffactorau yn natblygiad plant. Mae polisïau addysg Llywodraethwyr Cymru yn awgrymu y dylai unrhyw benderfyniadau ynghylch dyfodol ysgolion gael eu gwneud ar sail eang a chyfannol gan gymryd llesiant plant i ystyriaeth a’r ymdeimlad o berthyn sy’n bodoli mewn ysgol gymunedol glos fel Ysgol Bodffordd. Yn y tymor byr, bydd cau’r ysgol yn cael effaith ar deuluoedd llai ffodus ac ar blant gydag anghenion arbennig; ni fydd plant yn gallu cerdded i'r ysgol. Bydd gorfod teithio ar fws i ysgol fawr gyda 450 o ddisgyblion yn debygol o gael effaith ar blant 4 a 5 oed - bydd yn ddigon heriol iddynt orfod symud o'r feithrinfa i'r ysgol gynradd. Mae dyfodol y Cylch Meithrin rhagorol ym Modffordd hefyd dan fygythiad.

           Mae gan Ysgol Bodffordd gysylltiadau cymunedol arbennig o gryf; mae rhieni yn amau a yw’r Awdurdod wedi asesu'n llawn yr effaith y bydd cau'r ysgol yn ei gael ar y gymuned wledig glos hon ac ar yr iaith Gymraeg. Mae’n rhaid cael achos cryf iawn dros gau'r ysgol (heblaw am resymau ariannol) a all sefyll i fyny i sgriwtini. Nid yw'r rhanddeiliaid yn Ysgol Bodffordd yn credu bod achos o'r fath wedi'i wneud oherwydd camgymeriadau yn yr adroddiad ar yr ymateb i'r ymgynghoriad, nid yn lleiaf, hepgor barn Estyn, sy'n ofyniad gorfodol sy'n tanseilio'r syniad o ymgynghori teg ac sy’n ei ostwng i lefel rhoi sêl bendith heb ystyried popeth (‘stamp rwber’).

           Mae'r ganolfan gymunedol sydd wedi'i chysylltu'n annatod â'r ysgol yn cael ei defnyddio'n llawn gan y gymuned; fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw arwydd o’r hyn fydd yn digwydd i'r ganolfan pe bai'r ysgol yn cau na'r effaith y byddai hynny yn ei gael ar weithgareddau cymunedol a bywyd cymunedol. Heb yr ysgol nid oes darpariaeth parcio ar gyfer y ganolfan gymunedol.

           Cafodd y maes chwarae a'r cae ar safle'r ysgol eu rhoddi fel rhodd gan y tirfeddiannwr nifer o flynyddoedd yn ôl fel y gallai plant y pentref eu defnyddio. Os yw'r Awdurdod yn bwriadu defnyddio'r derbyniadau cyfalaf o werthu Ysgol Bodffordd fel cyfraniad tuag at yr ysgol newydd yna byddai’n rhaid iddo ddarparu tystiolaeth o berchnogaeth y tir a'r ganolfan.

           Mae rhanddeiliaid Ysgol Bodffordd yn credu bod rhagfarn yn erbyn Ysgol Bodffordd yn yr adroddiad ar yr ymateb i'r ymgynghoriad; mae dweud nad yw'n bosibl cyfiawnhau dyfodol Ysgol Bodffordd yn warthus. Ers adroddiad arolygu Estyn yn 2015, mae'r ysgol wedi gwneud ymdrech fawr iawn i wella safonau ac nid yw hynny’n cael ei gydnabod yn yr adroddiad. Yn ogystal â rhagdybiaeth yn erbyn ysgolion llai, mae rhagdybiaeth hefyd yn yr adroddiad bod ysgolion mwy yn well mewn sawl ffordd; mae ysgolion cynradd mwy yn gymharol newydd - felly nid oes digon o dystiolaeth hyd yma i gefnogi'r rhagdybiaeth hon.

           Mae dweud bod rhai o Ysgol Bodffordd yn teimlo nad oedd unrhyw ddiben ymateb i'r ymgynghoriad yn adlewyrchiad annheg o'r sefyllfa ac yn anwybyddu'r ffaith y cyflwynwyd rhwng 400 a 500 o ymatebion i dri ymgynghoriad (dau statudol ac un anstatudol). Pan mae ffeithiau o'r fath yn cael eu hanwybyddu, nid yw’n syndod y gall rhai deimlo nad oes pwynt ymateb – mae  rhieni a llywodraethwyr wedi colli ffydd yng ngallu swyddogion yr AALl i wrando ac i dderbyn safbwynt gwahanol.

           Trwy wneud cynnig i gau Ysgol Bodffordd, mae'r Awdurdod yn gweithredu’n groes i Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sydd, ymysg pethau eraill, yn ceisio creu cymunedau hyfyw, gwydn a llwyddiannus sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, tegwch a chydlyniant lle gall yr iaith Gymraeg ffynnu. Felly ni ellir cyfiawnhau cau ysgolion megis Ysgol Bodffordd oherwydd gallai hynny arwain at ddinistrio cymunedau.

           Wrth gynnig cau Ysgol Bodffordd, mae'r Awdurdod hefyd yn gweithredu yn groes i'w Gynllun Cyngor 2017-2022 ei hun sydd yn nodi mai un o'i amcanion yw sicrhau y gall pobl Ynys Môn ffynnu a gwireddu eu potensial hirdymor. Ni fydd dyhead o'r fath yn cael ei wireddu gan gau ysgolion a dinistrio sylfeini cymunedau.

           Daw'r Côd Trefniadaeth Ysgolion newydd i rym ym mis Medi, 2018 a gallai olygu fod yr ymgynghoriad presennol yn wastraff amser. Yn ychwanegol at hyn, cafwyd  cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru y bydd £36 miliwn o arian ychwanegol ar gael ar gyfer ysgolion yng Nghymru i recriwtio athrawon ac i ddarparu lle dysgu ychwanegol er mwyn lleihau maint dosbarthiadau babanod. Bydd y datblygiadau hyn yn newid y sefyllfa. Mae'r ffaith mai ymgynghoriad statudol yn unig a gynhaliwyd ar yr adeg hon yn awgrymu bod yr Awdurdod yn ceisio gwthio penderfyniad drwodd tra bod amser ar gael o hyd. O gofio y dechreuodd y broses o foderneiddio ysgolion yn yr ardal hon yn 2016, byddai’n fwy rhesymol disgwyl am ychydig fisoedd eto hyd oni fydd y Côd newydd wedi’i weithredu. Er gwaethaf y ffaith bod yr Awdurdod yn pwysleisio bod yr amserlen yn dynn, mae rhuthro i wneud penderfyniad yn parhau i fod yn beth peryglus i’w wneud.

 

Mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor mewn perthynas â dyfodol y ddarpariaeth addysg feithrin bresennol yn Ysgol Bodffordd a'r trefniadau ar gyfer cludo plant meithrin i'r ddarpariaeth feithrin yn yr ysgol newydd, a chan dderbyn y ffaith bod rhieni ar hyn o bryd yn gallu cerdded i'r Cylch Meithrin, ynghyd â materion yn ymwneud â pherchenogaeth gyfreithiol y maes chwarae a’r rhan gymunedol o adeilad yr ysgol, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Thrawsnewid Gwasanaethau) fod Swyddogion Addysg wedi esbonio yn y sesiwn ymgynghori gyda rhieni y byddai'n rhaid ystyried gwneud trefniadau ar gyfer y Cylch Meithrin ym Modffordd ei hun. Mewn perthynas â pherchenogaeth y tir a'r ganolfan gymunedol, ymholiadau cychwynnol a wnaed yn unig gyda Swyddogion Eiddo rhag ofn rhoi’r argraff bod y penderfyniad yn cael ei ragddyfalu neu’r argraff bod y penderfyniad wedi ei wneud yn barod; yr un modd ag agweddau eraill y cynigion, bydd y gwaith manwl yn dechrau ar ôl i'r Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniad.

 

Eglurodd yr Aelod Portffolio Addysg fod yr amserlen yn cael ei rhagnodi gan amseriad Band A a Band B Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru. Mewn perthynas â’r arian ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i leihau maint dosbarthiadau babanod, fe wnaeth yr Aelod Portffolio, wrth gyfeirio at y ffaith bod yr arian wedi'i fwriadu ar gyfer cyflogi athrawon newydd i helpu i greu dosbarthiadau babanod llai fel bod "ysgol sydd â dau ddosbarth babanod o 29 neu fwy o ddisgyblion ar hyn o bryd yn gallu cael tri dosbarth llai ar gyfer babanod sy’n haws i’w rheoli", dynnu sylw at y ffaith mai ychydig iawn o ysgolion yn Ynys Môn fyddai’n ffitio’r disgrifiad y byddai’r meini prawf ariannu yn berthnasol iddynt.

 

Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 nad yw'r derbyniadau cyfalaf o werthu ysgol, er yn ddefnyddiol i leihau'r gwariant cyffredinol, yn hanfodol yng nghyd-destun y gyllideb o £8m i gyd ar gyfer yr ysgol newydd arfaethedig. Bydd unrhyw fwlch cyllido yn cael ei bontio trwy fenthyca.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees fel Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Bodffordd ei fod o'r farn bod yr asesiad o Ysgol Bodffordd, o safbwynt safonau, yn darllen yn annheg. Gwneir llawer o arolygiad Estyn yn  2015, ers hynny mae'r ysgol wedi gwneud cynnydd cyson. Dim ond yn ddiweddar, fe ymddangosodd ef a'r Pennaeth gerbron Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion y Cyngor, lle cafodd yr ysgol ei chanmol ar y cynnydd a wnaed gyda chymorth GwE - mae hyder y bydd yr ysgol, gyda chynnydd parhaus, yn symud allan o’r categori ambr mewn perthynas â pherfformiad ac i'r categori melyn erbyn Medi, 2018. Nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu o gwbl yn yr adroddiad. Fel Aelod Lleol, cyfeiriodd y Cynghorydd Dylan Rees at y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 presennol a ddywed y gall ysgol fod yn ganolbwynt gweithgaredd cymunedol ac y gall ei chau gael effaith y tu draw i’r effaith addysgol. Mewn achosion o'r fath, dylai cynigion ddangos bod yr effaith ar gymunedau wedi cael eu hasesu drwy Asesiad Effaith Cymunedol. Er bod yr adroddiad yn cydnabod y byddai angen dod o hyd i ddatrysiad fel y gall gweithgareddau cymunedol barhau, ymddengys mai agwedd yr Awdurdod yw “fe wnawn ni groesi’r bont honno pan fyddwn yn ei chyrraedd".

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Thrawsnewid Gwasanaethau) fod yr holl asesiadau angenrheidiol gan gynnwys Asesiad Effaith Cymunedol wedi eu cynnal yn unol â gofynion y Côd. Mewn perthynas â safonau yn Ysgol Bodffordd, dywedodd y Swyddog y cafwyd heriau ar ddechrau 2018, gan gynnwys newidiadau staffio gyda hynny’n arwain at gyfnod pellach o addasu ac ailstrwythuro. Felly, mae angen parhau i ddarparu cymorth dwys i'r ysgol ac argymhellwyd bod yr ysgol yn aros yn y categori ambr.

 

Sylwadau gan Ysgol Corn Hir

 

Anerchodd Mr Dafydd Tudur Jones (Llywodraethwr Ysgol) y Pwyllgor ynghylch safbwynt  Ysgol Corn Hir ar y cynigion i foderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn rhan orllewinol Llangefni. Wrth gyflwyno ei sylwadau i'r Pwyllgor, tynnodd sylw at y materion canlynol –

 

           Bod Ysgol Corn Hir yn orlawn ac â phrinder arian.

           Er mai 29 yw’r nifer mynediad, o’r flwyddyn nesaf ymlaen bydd gan y dosbarth 31 o blant yn y dosbarth derbyn, bydd 35 o blant ym Mlwyddyn 1, 35 o blant ym Mlwyddyn 2, 35 o blant ym Mlwyddyn 3, 31 o blant ym Mlwyddyn 4, 27 o blant ym Mlwyddyn 5 a 34 o blant ym Mlwyddyn 6.

           Y gwnaed trefniant gyda'r AALl bedair blynedd yn ôl i gynyddu'r nifer derbyn i 35 a bod yr ysgol, yn dilyn hyn, wedi derbyn arian i greu ystafell ddosbarth ychwanegol i sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â gofynion maint y dosbarth babanod.

           Fodd bynnag, y flwyddyn nesaf am y tro cyntaf, bydd gan Flwyddyn 3 35 o ddisgyblion sy'n dod â nifer o heriau yn ei sgil. Mae'r angen i wneud arbedion wedi rhwystro’r ysgol rhag cyflogi athro/athrawes ychwanegol ar gyfer y dosbarthiadau babanod fel yr oedd wedi gobeithio ei wneud.

           Bod diffyg lle yn Ysgol Corn Hir - mae adeilad yr ysgol yn fach ac mae'r ystafelloedd dosbarth yn fach, ac mae hynny, ynghyd â'r nifer fawr o blant sydd yn yr ysgol, yn ei gwneud yn fwy anodd i’r ysgol ymdopi wrth symud ymlaen. Yn ychwanegol at hyn, ceir y pwysau ariannol sy'n golygu y bydd angen torri o bosib ar nifer y staff dysgu.

           Bod unrhyw oedi wrth wneud penderfyniad ar ddyfodol Ysgol Corn Hir yn mynd i gael effaith sylweddol ar yr ysgol. Mae'r ansicrwydd parhaus yn ei gwneud hi'n anodd cynllunio ymlaen gyda'r risg ganlyniadol y bydd safonau yn yr ysgol sydd wedi bod yn gyson uchel, yn dioddef yn y pen draw; mae yna hefyd risgiau iechyd a diogelwch yn gysylltiedig â diffyg lle a nifer fawr o blant. Mae angen i'r Pwyllgor Gwaith ddeall y risgiau hyn wrth ddod i'w benderfyniad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, sydd hefyd yn Aelod Lleol, fod ysgolion cynradd mawr a bach yn ei ward hi a’i bod, wrth wasanaethu fel llywodraethwr ar y naill a'r llall, yn gweld y gwahaniaethau o ran cyllidebau ysgol / cost y pen ac roedd yn bryderus ynghylch yr anghydraddoldeb y gall hyn ei achosi. Yng ngoleuni'r problemau gyda safonau a oedd yn bodoli mewn rhai o'r ysgolion, roedd hi'n arbennig o bryderus y gallai safonau gael eu herydu ymhellach gan unrhyw oedi (cyfeiriodd at Opsiwn 2) wrth weithredu'r rhaglen foderneiddio yn yr ardal hon o Langefni.

 

Wrth ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ar lafar ac yn ysgrifenedig, gwnaed y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor -

 

           Yn wahanol i ymgynghoriadau blaenorol, nododd y Pwyllgor na chynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol neu anstatudol ar y cynnig dan sylw. Dywedodd y Pwyllgor bod ymgynghori’n anffurfiol ymlaen llaw, er nad yw'n ofyniad, yn cael ei ystyried fel arfer dda ac y gallai fod wedi rhoi cyfle i egluro nifer o faterion ymlaen llaw, darparu mwy o wybodaeth yn ogystal â nodi syniadau a / neu gynigion amgen. Yr argraff a grëwyd felly yw bod penderfyniad yn cael ei wneud ar fwy o frys y tro hwn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg fod y cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2018 ynghylch cyllid ychwanegol a fyddai ar gael fel rhan o'r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain wedi galluogi'r Awdurdod i edrych eto ar yr opsiynau ar gyfer ardal Llangefni a maint yr ysgol newydd arfaethedig ar gyfer rhan orllewinol Llangefni. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau amser ynghlwm wrth y cyllid sy'n gysylltiedig â cham Band A rhaglen. Pwysleisiodd nad yw'r Awdurdod yn gwneud penderfyniadau ymlaen llaw ond bod rhaid i ymgynghoriad fod yn seiliedig ar y syniad o'r hyn sy'n bosibl a / neu'n ddymunol yn yr ardal dan sylw. Pwysleisiodd fod amrywiaeth o ffactorau yn cael eu hystyried ond nad oes gan yr Awdurdod goeden arian hud a fyddai'n ei alluogi i fodloni dymuniadau'r holl randdeiliaid ar gyfer eu hysgolion. Mae'r Awdurdod yn wynebu gorfod gwneud penderfyniadau anodd ond mae'n awyddus i sicrhau bod y penderfyniadau hynny yn rhai cywir.

 

           Nododd y Pwyllgor fod Ysgol Henblas ac Ysgol Bodffordd yn cael eu hystyried yn ganolog i'w cymunedau ac i fywyd cymunedol, ac y gallai cau'r ysgolion gael effaith ddinistriol ar y ddwy gymuned. Nododd y Pwyllgor fod y Côd Trefniadaeth Ysgolion yn nodi bod angen asesu effaith cau ysgol ar y gymuned. Ychwanegodd y Pwyllgor nad yw canlyniad asesiad o'r fath yn glir yn y ddogfennaeth a gyflwynwyd ac yn achos Ysgol Bodffordd lle mae defnydd cymunedol o’r ysgol yn cael ei gydnabod fel ffactor mor arwyddocaol, dim ond cyfeiriad byr a wneir at hynny.

 

           Mewn perthynas â’r defnydd cymunedol o Ysgol Bodffordd, nododd y Pwyllgor hefyd fod ansicrwydd ynghylch perchenogaeth y tir a’r adeilad cymunedol sy'n gysylltiedig â'r ysgol. Pwysleisiodd y Pwyllgor fod perchenogaeth gyfreithiol y tir a'r adeilad yn fater y dylid cael eglurhad arno cyn gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â'r ysgol.

 

           Nododd y Pwyllgor, er y rhagwelir y bydd niferoedd disgyblion yn gostwng yn Ysgol Henblas dros gyfnod o amser, nid yw lleoedd gwag yn broblem rŵan yn Ysgol Henblas neu Ysgol Bodffordd.

           Roedd y Pwyllgor yn cydnabod fod sicrhau addysg o safon uchel yn bwysig. Tra’n derbyn bod Ysgol Henblas ac Ysgol Bodffordd wedi gorfod mynd i'r afael â materion mewn perthynas â safonau, nododd y Pwyllgor fod y ddwy ysgol yn gwneud cynnydd o ran gwella safonau.

           Nododd y Pwyllgor fod diffyg lle a’r ffaith fod gormod o ddisgyblion yn Ysgol Corn Hir yn cael effaith ar yr ysgol. 

           Nododd y Pwyllgor fod 600 o gartrefi newydd wedi'u cynllunio ar gyfer Llangefni o dan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sy'n debygol o ddod â theuluoedd newydd a phlant i'r ardal. Nododd y Pwyllgor y dylai unrhyw benderfyniadau ar y ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni ystyried a chynllunio ar sail y posibilrwydd hwn gan sicrhau bod digon o gapasiti addysg yn ardal Llangefni i gwrdd â'r twf hwn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Thrawsnewid Gwasanaethau) fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn cyfeirio at adeiladu 600 o gartrefi newydd yn Llangefni yn y cyfnod rhwng 2011 a 2026. Mae 60 o'r cartrefi hynny wedi'u cwblhau ac mae gan 13 ganiatâd cynllunio. Mae cwmnïau wedi asesu effaith tai newydd trwy ddefnyddio fformiwla i ragfynegi nifer y disgyblion yn nalgylchoedd y tair ysgol. Ar gyfer yr ymgynghoriad ffurfiol hwn, mae nifer y tai yn 237 yn nalgylch y tair ysgol; byddai hyn felly yn golygu 40 o ddisgyblion ychwanegol.

 

           Nododd y Pwyllgor nad yw ysgolion mwy o angenrheidrwydd yn mynd i'r afael â phob problem ac nad dyma’r ateb iawn i bob ardal. Dengys tystiolaeth a gyflwynwyd i’r Panel Adolygu Perfformiad Ysgolion fod rhai o'r un problemau yn dal i fodoli  yn yr ysgolion newydd sydd eisoes wedi'u hadeiladu fel rhan o’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn Ynys Môn. Nododd y Pwyllgor nad oes unrhyw dystiolaeth benodol i ddangos bod ysgolion mwy yn darparu gwell addysg.

 

          Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Thrawsnewid Gwasanaethau) y cyflwynwyd tystiolaeth hefyd am fanteision yr ysgolion newydd i'r Panel Adolygu Perfformiad Ysgolion.

 

           Nododd y Pwyllgor y disgwylir i fersiwn derfynol y Côd Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig ddod i rym ym Medi, 2018. Nododd y Pwyllgor y gallai'r Côd terfynol fod yn wahanol i'r fersiwn ddrafft. Nododd y Pwyllgor ymhellach na fyddir yn gwyrdroi unrhyw benderfyniad a weithredwyd gan y Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â'r tair ysgol dan sylw erbyn i'r Côd terfynol gael ei gyhoeddi waeth beth mae’n ei gynnwys.

           Nododd y Pwyllgor fod Opsiwn 2 yn caniatáu ar gyfer y posibilrwydd o gadw Ysgol Henblas ar agor yn amodol ar fonitro safonau ar gyfer gwelliant am flwyddyn. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o'r gwahaniaeth rhwng Ysgol Henblas ac Ysgol Bodffordd ar y sail hon a pham nad oedd yr un opsiwn yn cael ei gynnig i Ysgol Bodffordd

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Thrawsnewid Gwasanaethau) fod y gefnogaeth a roddwyd i Ysgol Henblas dros y tair blynedd diwethaf wedi bod yn sylweddol. Mae Ysgol Bodffordd hefyd wedi derbyn lefel uchel o gefnogaeth dros gyfnod o 3 blynedd. Mae'r adborth yn nodi bod cyflymder y gwelliant yn Ysgol Henblas wedi cyflymu; canlyniadau'r ysgol y llynedd oedd y gorau o'r tair ysgol ar gyfer CA2  ac roedd yn y chwartel cyntaf er bod y canlyniadau ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yn y trydydd chwartel.Yn y ddwy flynedd flaenorol, roedd y canlyniadau ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yn y pedwerydd chwartel ac ar gyfer CA2, roeddent yn y trydydd a’r pedwerydd chwartel. Roedd canlyniadau Prawf y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn y pedwerydd chwartel ar gyfer Ysgol Bodffordd am y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn achos canlyniadau CA2, roedd yr ysgol yn y chwartel cyntaf yn 2015/16 ond fe syrthiodd yn ôl i'r trydydd chwartel yn 2016/17. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod Estyn yn edrych ar berfformiad  ysgolion dros gyfnod o dair blynedd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor erbyn hyn wedi bod yn trafod am dair awr, ac yn unol â darpariaethau paragraff 4.1.10 o Gyfansoddiad y Cyngor, roedd yn ofynnol bod mwyafrif yr Aelodau hynny o'r Pwyllgor a oedd yn bresennol yn cytuno i barhau gyda'r cyfarfod. Penderfynwyd y dylai'r cyfarfod fynd yn ei flaen.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y newidiadau canlynol i argymhellion Swyddog fel y nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig –

 

           Gohirio gwneud penderfyniad ar unrhyw ysgol hyd nes y bydd Ysgrifennydd Addysg Cabinet Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad ar ysgolion gwledig bach.

           Bod Ysgol Henblas ac Ysgol Bodffordd yn cael eu cadw ar agor oherwydd y goblygiadau sydd ynghlwm wrth adeiladu nifer fawr o dai yn ardal Llangefni sy'n debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y plant yn y dyfodol.

 

Cynigiodd y Cadeirydd a chytunwyd bod geiriad i adlewyrchu pryder y Pwyllgor ynghylch yr ansicrwydd mewn perthynas â pherchnogaeth tir a’r adeiladu cymunedol yn Ysgol Bodffordd yn cael ei ychwanegu at y gwelliant.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 y byddai symud ymlaen ar sail codi ysgol newydd i gymryd lle Ysgol Corn Hir yn unig (yn hytrach nag ysgol newydd i ddisodli'r tair ysgol neu ysgol newydd i gymryd lle Ysgol Corn Hir a Ysgol Bodffordd) yn broblemus yn ariannol gan na fyddai’n cynhyrchu'r un lefel o arbedion, a byddai’r costau yn uwch. Ni wnaed unrhyw gynllun ar gyfer cynnig o'r fath ar y sail y byddai Llywodraeth Cymru yn debygol o wrthod yr achos busnes ar ei gyfer gan nad yw'n darparu lefel yr arbedion sy’n ofynnol ac yn ddisgwyliedig dan Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain.

 

Yn y bleidlais ddilynol ar y mater, cefnogodd mwyafrif Aelodau'r Pwyllgor y newidiadau fel y'u cyflwynwyd.

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd a'r sylwadau a wnaed,

PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith –

 

           Y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar unrhyw ysgol hyd nes y bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad ar ysgolion gwledig bach.

           Bod Ysgol Henblas ac Ysgol Bodffordd yn cael eu cadw ar agor oherwydd goblygiadau adeiladu nifer fawr o dai yn ardal Llangefni sy'n debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y plant yn y dyfodol, a hefyd -

           Bod gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bryderon ynghylch yr ansicrwydd ynghylch perchnogaeth tir a’r adeilad cymunedol sy'n gysylltiedig ag Ysgol Bodffordd.

Dogfennau ategol: