Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol: Cynllun Archwilio 2018

Cyflwyno adroddiad gan Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor – yr adroddiad Archwilio Allanol yn ymgorffori'r Cynllun Archwilio arfaethedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/2018. Nodwyd yn y Cynllun yr ymagwedd archwilio, y risgiau archwilio ariannol allweddol, crynodeb o waith archwilio perfformiad a gwaith ardystio grantiau ynghyd ag amcangyfrif o’r ffioedd.

 

Adroddodd Mr Wil Bevan, Rheolwr, Deloitte yn benodol ar y risgiau archwilio ariannol allweddol a nodwyd yng nghyfnod cynllunio yr archwiliad, sef meysydd lle ystyrir bod y risg o gamddatganiad sylweddol yn arwyddocaol ac sydd o’r herwydd angen ystyriaeth archwilio arbennig. Amlinellir y rhain yn Arddangosyn 2 yr adroddiad, a nodir hefyd yr ymateb archwilio arfaethedig o ran mynd i'r afael â'r risgiau a amlygwyd. Dywedodd y Swyddog fod yr archwiliad ariannol wedi'i drefnu i'w gwblhau ym mis Mehefin / Gorffennaf ac i gael ei lofnodi'n derfynol ym mis Medi.

 

Nododd y Pwyllgor yr wybodaeth. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y sefyllfa mewn perthynas â chwblhau'r Hawliad Budd-dal Tai ar gyfer 2016/17 oherwydd y dywedwyd bod angen gwneud gwaith ychwanegol arno.

 

Dywedodd Mr Wil Bevan bod yna faterion sylweddol yn gysylltiedig â’r Hawliad Budd-dal Tai 2015/16; o ganlyniad mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n mynnu bod gwaith profi samplau ychwanegol yn cael ei wneud yn unol â’r Fframwaith Archwilio Grantiau yng nghyswllt hawliad 2016/17. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo yn bennaf oherwydd graddfa’r gwaith sy'n dod i'r Cyngor o ran edrych ar hawliadau penodol a hefyd i'r Archwiliwr wrth eu hadolygu. Mae’r hawliad ei hun wedi’i gwblhau ond mae yna waith sylfaenol sylweddol y mae angen ei wneud o ran profi'r hawliad. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 na ellid cwblhau'r Hawliad Budd-dal Tai ar gyfer 2016/17 hyd nes bo’r hawliad ar gyfer 2015/16 wedi cael ei gwblhau - bu oedi oherwydd problemau gyda’r hawliad olaf. Mae yna fater capasiti hefyd gan mai un swyddog yn y Gwasanaeth Cyllid sydd â'r wybodaeth fanwl i gynorthwyo'r Archwilwyr gyda'r agwedd hon o'u gwaith. Mae'r Swyddog penodol hefyd yn ymwneud â gwaith rheoli ariannol diwedd blwyddyn sy'n golygu y caiff adnodd medrus ei dynnu o'r broses am gyfnod ar ddiwedd y flwyddyn ac nad ydyw ar gael i gefnogi'r archwilwyr. Rhaid cytuno ar amserlen gyda'r archwilwyr i gwblhau'r gwaith hwn. Mae'r hawliad am grant Budd-dal Tai yn gais cymhleth iawn ac er mai tîm bychan yn y Gwasanaeth Cyllid sy'n ymwneud â chwblhau'r gwaith er boddhad yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r archwilwyr, mae'r gofynion yr un fath arnynt ag ar gyfer awdurdodau lleol mwy sydd gyda llawer iawn mwy o staff yn ymwneud â’r orchwyl. Cytunir ar unrhyw ffi ychwanegol ar gyfer y gwaith ychwanegol a wneir mewn trafodaethau rhwng y Swyddog Adran 151, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arweinydd Ymgysylltu Deloitte ar gyfer Archwiliad Ariannol.

 

Nododd y Pwyllgor fod prisiadau eiddo wedi'u nodi fel risg archwilio ariannol. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a yw’r archwilwyr, o safbwynt prisiadau eiddo, yn canolbwyntio ar gywirdeb y prisiad o ran asedau'r Cyngor neu’r gwerth am arian a gafwyd wrth gael gwared ar asedau. Dywedodd Mr Wil Bevan fod yr archwilwyr yn canolbwyntio ar y prisiad ac ar yr mewnbynnau a ddefnyddiwyd i gyrraedd y pris hwnnw; o ystyried bod prisiadau eiddo yn cynnwys barnau ac amcangyfrifon a bod y ffigwr ar gyfer prisiadau tir ac adeiladau ym Mawrth, 2018 yn £288m, gall unrhyw newidiadau yn y barnau a'r amcangyfrifon gael effaith sylweddol ar y gwerth cario. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 nad yw gwerth asedau'r Cyngor fel y darperir ar ei gyfer yn y cyfrifon yn gyfwerth â'u gwerth ar y farchnad e.e. pe bai stoc dai'r Cyngor ei hun yn cael ei werthu fel eiddo heb denant, byddai eu gwerth yn debygol o fod yn fwy na'r gwerth cario ar y Fantolen sy'n adlewyrchu'r ffaith bod tenant ynddynt ac nad oes modd eu gwerthu felly. Mae'n driniaeth gyfrifeg nad yw'n rhoi gwir adlewyrchiad o werth asedau'r Cyngor.

 

Mewn perthynas ag Archwiliad Perfformiad, nododd y Pwyllgor y cyfeirir at newidiadau yn sail statudol gwaith yr Archwilydd Allanol a gofynnodd am eglurhad ynghylch hyn .Cadarnhaodd Mr Gwilym Bury fod yna gynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth newydd a fydd yn disodli Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) ond hyd nes y bydd hynny'n digwydd, mae'n rhaid i SAC yn ogystal â'r cyngor gydymffurfio â gofynion y Mesur. Yn ogystal, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi gosod cyfrifoldebau newydd ar gynghorau sy'n golygu bod raid iddynt ystyried cynaladwyedd a chenedlaethau'r dyfodol wrth wneud newidiadau strategol, ac ar WAO o ran asesu cydymffurfiaeth y cynghorau gyda hynny.

 

Penderfynwyd derbyn Cynllun Archwilio 2018 a nodi ei gynnwys.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: