Eitem Rhaglen

Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Wylfa Newydd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Economaidd a Rheoleiddio er ystyriaeth gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod rhaid adolygu a diweddaru’r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar gyfer Wylfa Newydd oherwydd bod nifer o newidiadau sylfaenol wedi digwydd ers mabwysiadu’r Canllawiau yn 2014. Y newid mwyaf arwyddocaol yw Deddf Cymru 2017 a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 31 Ionawr 2017. Mae’n caniatáu i hyrwyddwyr prosiectau (Horizon) gynnwys datblygiadau cysylltiedig (megis cyfleusterau parcio a theithio, llety gweithwyr dros dro ac ati) yn eu cais DCO yn hytrach na’u cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gael eu hystyried o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref. Yn ogystal rhaid i’r CCA adlewyrchu deddfwriaeth newydd allweddol megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 ac mae’n rhaid i’r Awdurdod hwn ddangos sut mae’r prosiect/polisi yn bodloni 7 nod llesiant a’r gydblethiad rhwng amcanion y CCA a nodau llesiant. Ychwanegodd fod Horizon wedi cynnig nifer o ddiweddariadau prosiect ers i’r CCA gael eu mabwysiadu yn 2014. Y newid prosiect mwyaf arwyddocaol yw’r penderfyniad i gynyddu maint y llety ar gyfer gweithwyr dros dro ar y safle o fod yn llety ar gyfer 500 o weithwyr i fod yn llety ar gyfer 4,000 o weithwyr mewn campws dros dro pwrpasol ar y safle. Dywedodd y Deilydd Portffolio fod y Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o 6 wythnos o 11 Ionawr i 22 Chwefror 2018 a threfnwyd sesiwn ‘Galw Heibio’ i Aelodau oedd yn rhoi cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau ar y CCA. Derbyniwyd 168 o sylwadau gan 10 o unigolion a sefydliadau ac mae crynodeb o’r holl sylwadau i’w gweld yn yr ‘Adroddiad Sylwadau’ yn Atodiad A yr adroddiad. Mae’r Swyddfa Rheoli Rhaglen wedi gweithio’n agos â Burgess Salmon Solicitors i ystyried y sylwadau a dderbyniwyd. Mae’r holl newidiadau a wnaed i’r CCA wedi’u cynnwys yn y ddogfen ‘Newidiadau â Ffocws' sydd i’w gweld yn Atodiad B yr adroddiad. Nododd fod 74 o’r sylwadau a dderbyniwyd ar y CCA wedi cael eu derbyn. Roedd y prif bryderon a godwyd yn ymwneud â llety i weithwyr ac mae angen i’r Cyngor Sir adlewyrchu hynny yn y CCA. Mae angen rhoi sylw i gwestiynau ynglŷn â pha bolisïau sy’n berthnasol i Horizon a hefyd pa bolisïau sy’n berthnasol i sefydliadau trydydd parti h.y. safle Land and Lakes a safle Rhosgoch. Dywedodd fod ystyriaeth wedi’i roi i hynny yn y CCA sydd ynghlwm i’r adroddiad. Cynhaliwyd sesiwn briffio ar gyfer Aelodau Etholedig ym mis Ebrill i esbonio’r broses ymgynghori a’r camau nesaf mewn perthynas â’r mater hwn.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio ei bod yn bwysig cymeradwyo’r CCA er mwyn sicrhau fod gan yr Awdurdod sylfaen gadarn er mwyn ymateb i brosiect Wylfa Newydd. Drwy fabwysiadu’r CCA bydd yr Awdurdod mewn sefyllfa gryfach i ymateb i ymchwiliad cyhoeddus y DCO a gynhelir maes o law.

 

Diolchodd y Cynghorydd Aled M Jones i’r Deilydd Portffolio a’r Swyddogion perthnasol am eu gwaith mewn perthynas â’r mater hwn ond dywedodd nad yw darparu llety i hyd at 4,000 o weithwyr yn Nhrwyn Wylfa yn dderbyniol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol diwygiedig Wylfa Newydd (CCA) (yn benodol i Ynys Môn) a’r holl Bapurau Pwnc ac Asesiadau Statudol.

 

Dogfennau ategol: