Eitem Rhaglen

Cesiadau'n Codi

7.1  14C47R/ENF – 19 Cae Bach Aur, Bodffordd

7.2  46C88K/AD – Canolfan Ymwelwyr RSPB, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

7.3  46C612A/AD – Elin’s Tower, Ynys Lawd

Cofnodion:

7.1 14C47R/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi porth car yn 19 Cae Bach Aur, Bodffordd

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ebrill, 2018 fe benderfynwyd ymweld â’r safle. Cynhaliwyd ymweliad safle ar 18 Ebrill, 2018. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol, fod cwynion mewn perthynas â’r porth car yn 19 Cae Bach Aur wedi eu derbyn oherwydd bod y strwythur yn eithafol ac nad yw’n cyd-fynd â’r hyn sydd o’i gwmpas o ran ei uchder a’i ymddangosiad ynghyd â’r ffaith bod y strwythur yn amharu ar olau naturiol eiddo’r cymdogion. Holodd ymhellach a fyddai caniatáu’r cais hwn yn gosod cynsail ar gyfer yr eiddo eraill yn y stad hon. Cyfeiriodd y Cynghorydd Rees at adroddiad y Swyddog sy’n nodi ‘ Er ei fod yn wir nad yw'r strwythur yn ategu nac yn gwella cymeriad nac edrychiad yr ardal, ar ôl pwyso a mesur, ystyrir nad yw ei effaith mor andwyol fel y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais. Ond, roedd y Cynghorydd Rees yn anghytuno ac roedd o’r farn bod strwythur y porth ceir hwn yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos. Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y caniatâd cynllunio gan fod strwythur y porth ceir yn gwbl anghydnaws â gweddill Stad Cae Bach Aur. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn gais ôl-weithredol ar gyfer cadw’r porth car o flaen byngalo 19 Cae Bach Aur a bod yn rhaid ystyried y cais ar sail materion cynllunio. Dywedodd bod gwrthwynebiadau i strwythur y porth car wedi eu derbyn ond bod asesiad o’r cais wedi casglu bod y cais yn dderbyniol gan ei fod wedi’i gyfyngu i Stad Cae Bach Aur. Mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu’r cais.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y porth car hwn yn yr annedd yn gwbl anghydnaws â gweddill y stad. Cyfeiriodd at y ffaith bod hwn yn gais ôl-weithredol arall a’i bod yn ymddangos bod pobl o'r farn y gallant godi unrhyw estyniad ar eu heiddo heb ganiatâd cynllunio. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid gwrthod y cais. Eiliwyd y cynnig i wrthod gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Yn dilyn y bleidlais PENDERFYNWYD  gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog o ganlyniad i effeithiau ar eiddo cymdogion ac amwynderau’r ardal yn groes i Bolisi PCYFF3.

 

(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).

 

 

7.2  46C88K/AD - Cais i leoli dau arwydd heb eu goleuo ynghyd â gosod dau fesurydd parcio yng Nghanolfan Ymwelwyr yr RSPB, Ffordd South Stack Road, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ebrill, 2018 fe benderfynwyd ymweld â’r safle. Cynhaliwyd ymweliad safle ar 18 Ebrill, 2018. 

 

Dywedodd Mr Jeff Evans (yn siarad yn erbyn y cais) bod y cais hwn yn un a fyddai’n achosi niwed sylweddol i drigolion lleol ac ymwelwyr. Dywedodd  y byddai pobl yn dechrau parcio ar y ffordd yn arwain at Ynys Lawd a fydd yn golygu y bydd angen i bobl gerdded ar ffordd gul a pheryglus sydd ar allt a chanddi geudyllau, o ganlyniad i gostau parcio i ymweld â’r safle eiconig hwn. Dywedodd fod 80% o’r bobl sy’n ymweld ag Ynys Lawd yn gwneud hynny dim ond er mwyn gweld y goleudy a byddant yn cael eu gorfodi i dalu costau parcio’r RSPB, parcio ar linellau melyn neu gerdded hyd at filltir i fyny allt gul. Mae Rheoli Traffig yn derbyn y bydd peiriannau talu am barcio yn cael effaith ddifrifol ar y briffordd gyda cheir wedi parcio ymhobman pan fydd llinellau melyn yn cael eu rhoi yno yn y man. Mae llifogydd, ffosydd, mwd, diffyg golau, dim lle parcio i’r anabl a deiliaid bathodyn glas i gyd yn resymau dros wrthod y cais hwn ac er mwyn galluogi pawb i barhau i fod yn ddiogel ac i fwynhau ardal odidog Ynys Lawd fel y cenedlaethau blaenorol. Dywedodd Mr Evans hefyd bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi ymweld â’r safle ac y byddant wedi gweld y goblygiadau difrifol a pheryglus y bydd gosod peiriannau talu am barcio yn eu cael. Byddai cymeradwyo’r cais hwn hefyd yn cael effaith negyddol ar yr eiddo cyfagos yn Ynys Lawd. Nododd fod angen i bobl Ynys Môn allu ymweld â’r safleoedd naturiol a hanesyddol hyn ar Ynys Môn ac y dylid annog bywydau iach yn yr awyr agored ac y dylai hynny fod ar gael i bawb ac nid dim ond y rhai hynny sy’n gallu fforddio ymweld â safleoedd o'r fath. Nododd fod dros 6,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu’r cais.

Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais o ganlyniad i’r gwrthwynebiad cryf sy’n bodoli’n lleol i osod peiriannau talu am barcio yn safle Ynys Lawd. 

 

Holodd y Cynghorydd John Griffith a fyddai’r ffioedd parcio yn effeithio ar bobl sydd ond yn dymuno ymweld â’r safle am lai nag awr ar y tro. Ymatebodd Mr Jeff Evans ei fod yn ymwybodol nad oedd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion unrhyw ddylanwad ar y costau parcio ond roedd gan yr RSPB ddylanwad gan mai nhw oedd yr ymgeisydd. Dywedodd fod yr RSPB wedi gwneud elw sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf a bydd pobl yn wynebu talu llawer iawn o arian er mwyn gallu ymweld am gyfnod byr i gael paned o de neu hufen iâ gan y bydd yn rhaid iddynt dalu £5 ychwanegol am barcio ar ben cost lluniaeth yn y caffi. Nododd fod Caergybi yn ardal ddifreintiedig sydd â llawer o bobl di-waith a phobl ar fudd-daliadau na fyddant yn gallu mwynhau’r ardal petai’r cais hwn yn cael ei ganiatáu.   

 

Dywedodd Ms Laura Kudelska (yn siarad o blaid y cais) ei bod hi’n cefnogi argymhelliad y Swyddog i ganiatáu gosod dau beiriant talu am barcio ym maes parcio Canolfan Ymwelwyr Ynys Lawd ynghyd â gosod yr arwyddion cysylltiedig. Ni fydd nifer y mannau parcio yn lleihau o ganlyniad i osod y peiriannau hyn. Bydd buddsoddiadau yn y dyfodol yn edrych i gynyddu’r capasiti parcio drwy farcio mannau parcio dynodedig o bosibl. Bydd yr arwyddion yn cyd-fynd â’r arwyddion presennol ar y safle. Dywedodd eu bod yn ymwybodol o bryderon am gyflwyno’r angen i dalu am barcio yn Ynys Lawd ond bod y cais hwn yn un ar gyfer gosod peiriannau talu am barcio yn hytrach na lefel y costau a gyflwynir. Mae’r RSPB wedi gwrando ar y pryderon hynny ac wedi cytuno i raddfa ostyngol am gyfnod arbrofol i drigolion Ynys Cybi. Dywedodd hefyd bod rheoli’r warchodfa natur a’r ganolfan ymwelwyr i’r safon y mae pobl yn ei ddisgwyl yn costio arian; ar hyn o bryd, mae’r RSPB yn rhedeg y safle ar golled. Mae angen buddsoddiad sylweddol yn y cyfleuster ymwelwyr ac mae’r arian parcio yn elfen hanfodol o’r achos busnes er mwyn cefnogi a diogelu’r nawdd sydd ei angen. Mae’r RSPB wedi ymrwymo i ail fuddsoddi’r holl incwm parcio yn ôl yn Ynys Lawd. Mae’r safle’n cyflogi 20 o bobl, yn prynu nwyddau lleol ar gyfer y caffi ar y safle ac yn defnyddio contractwyr lleol i gynorthwyo â’r gwaith o reoli cadwraeth ar y safle, sy’n ofyniad cyfreithiol gan y perchennog (Cyngor Sir Ynys Môn) fel rhan o'r brydles a reolir gan yr RSPB.

 

Holodd y Cynghorydd T Ll Hughes faint o bobl oedd yn ymweld ag Ynys Lawd bob blwyddyn. Ymatebodd Ms Kudelska fod tua 120,000 o bobl yn ymweld â’r Ganolfan Ymwelwyr ac yn defnyddio cyfleusterau’r RSPB ond bod data mesurydd y ffordd wedi cofnodi nifer uwch o lawer o ymwelwyr â’r safle. Holodd y Cynghorydd Hughes faint o arian yr oedd yr RSPB wedi’i wario yn gwella cyfleusterau ardal Ynys Lawd dros y blynyddoedd. Ymatebodd Ms Kudelska bod costau rhedeg safle Ynys Lawd yn £500,000 ond bod colled o £95k wedi’i adrodd mewn perthynas ag eleni. Nododd fod costau cynyddol mewn perthynas â rheoli’r Ardal Gadwraeth. Mae rhan o’r ardal yn Safle Dynodedig lle mae angen torri grug gwyllt a chyflogir contractwyr allanol i wneud y gwaith; mae’r gwaith yn costio hyd at £30k heb gynnwys costau staffio. Dywedodd Ms Kudelska hefyd fod angen uwchraddio’r toiledau ar y safle o ganlyniad i’r niferoedd sy’n ymweld ac eto, mae goblygiadau i hyn o ran cost. Holodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE ymhellach, petai’r cais hwn yn cael ei gymeradwyo, pwy fyddai’n monitro ac yn rhoi dirwyon i’r rhai na fyddai’n talu am barcio. Ymatebodd Ms Kudelska nad oedd unrhyw gynlluniau ar y gweill i roi dirwyon na monitro’r meysydd parcio yn Ynys Lawd.  

 

Holodd y Cynghorydd Johh Griffith a oedd gan yr RSPB unrhyw fwriad i roi tarmac ar y maes parcio ar y safle. Ymatebodd Ms Kudelska nad oes unrhyw gynlluniau i roi tarmac ar y maes parcio i gyd gan mai’r bwriad yw ariannu prosiect o’r fath o’r arian a gesglir o'r ffioedd parcio ond bydd gwaith yn cael ei wneud i lenwi’r tyllau sy’n bodoli yn y maes parcio. Holodd y Cynghorydd Griffith ymhellach am y parcio ar y safle ar gyfer pobl anabl. Ymatebodd Ms Kudelska  bod 3 lle parcio dynodedig i bobl anabl mewn perthynas â’r cais hwn. Gofynnodd y Cynghorydd Griffiths a oedd yr RSPB yn codi am barcio mewn safleoedd eraill yr oeddent yn berchen arnynt. Ymatebodd Ms Kudelska fod gan yr RSPB fel sefydliad bolisi mewn perthynas â chreu incwm er mwyn sicrhau bod safleoedd ymwelwyr yn ‘gost niwtral’ sy’n berthnasol i gostau mynediad a chostau parcio mewn gwahanol safleoedd gan ddibynnu ar faint y safle a’r costau i’r RSPB. 

 

Holodd y Cynghorydd Shaun Redmond a oedd yr RSPB yn berchen ar y maes parcio a oedd yn gysylltiedig â’r cais hwn ac am yr arian a gynhyrchir o ganlyniad i’r gwaith cadwraeth a wneir ar y safle. Ymatebodd Ms Kudelska mai’r RSPB yw perchnogion y maes parcio ac nad yw’r RSPB yn cael unrhyw incwm o'r gwaith cadwraeth a wneir ar y safle a’u bod yn talu i’r gwaith gael ei wneud ar y safle. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams na allai wrthwynebu’r cais ar sail polisïau cynllunio ond cyfeiriodd at gyfrifon yr RSPB sydd i’w gweld ar-lein ac sy’n fod yr RSPB fel sefydliad wedi gwneud elw masnachol o £2.5 miliwn y llynedd. Cyfeiriodd mewn manylder at gyfrifon ac elw’r sefydliad a holodd faint o arian sydd ei angen ar y sefydliad? Dywedodd fod gan yr RSPB £140m yn ei gyfrif y llynedd a bod £36m wedi’i wario. Dywedodd y Cynghorydd Williams bod codi £5 ar bobl i ymweld ag Ynys Lawd am gyfnod cymharol fyr o amser yn gwbl warthus. Dywedodd hefyd, petai’r Awdurdod Lleol yn dechrau codi £5 am barcio yn eu meysydd parcio, y byddai yna lawer iawn o brotestio.     

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Aelod Lleol, bod y tri chais gerbron y Pwyllgor yn wahanol gan fod maes parcio’r Ganolfan Ymwelwyr o fewn perchnogaeth yr RSPB a bod y ddau faes parcio arall ar brydles gan y Cyngor Sir. Dywedodd fod Caergybi mewn ardal difreintiedig a bod y cynnig yr RSPB i godi £5 am barcio yn Ynys Lawd yn annerbyniol. Cyfeiriodd at ddogfen Asesiad Llesiant y Cyngor Sir sy’n nodi bod 58% o oedolion a 32% o blant rhwng 4 a 5 oed dros bwysau neu’n ordew. Dywedodd hefyd bod yna bobl ifanc â phroblemau Iechyd Meddwl a bod y gallu i fwynhau cefn gwlad ac ymweld â mannau agored naturiol yn hanfodol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yng Ngorffennaf 2017 a dyfynnodd o’r ddogfen gan ddweud ‘yn yr ardal arfordirol sy’n cael ei gwarchod fel arfordir treftadaeth, rhoddir pwyslais ar amddiffyn harddwch naturiol yr arfordir a hwyluso mynediad i’r cyhoedd’. Dywedodd hefyd bod yr RSPB wedi mynegi eu bod yn ei chael hi’n anodd ymdopi yn ariannol ond ei bod yn amlwg eu bod yn elusen sy’n gyfforddus yn ariannol. Byddai caniatáu’r RSPB i godi am barcio ar safle Ynys Lawd yn amddifadu’r bobl leol o’r hawl i ymweld â’r ardal. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at y materion parcio sydd eisoes yn bodoli ar ffordd Ynys Lawd ac at y peryglon iechyd a diogelwch i gerddwyr a beicwyr. Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais ac y bydd cyfnod o fis i feddwl fel y gall yr awdurdod lleol a'r RSPB asesu’r sefyllfa.       

 

Ail adroddodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE, Aelod Lleol ac Aelod o'r Pwyllgor y sylwadau a wnaed gan ei gyd Aelod Lleol. Dywedodd fod yr RSPB i ddechrau yn dymuno rhoi peiriannau talu am barcio mewn 5 maes parcio ar safle Ynys Lawd ond bod hynny wedi’i ostwng i 3 maes parcio. Petai’r sefydliad wedi dweud eu bod am godi £1 am barcio, roedd yn siŵr na fyddai’r RSPB wedi cael y cyhoeddusrwydd negyddol maent wedi’i gael. Roedd yn bryderus nad oedd yr RSPB wedi ymgynghori â Trinity House, perchnogion y goleudy, ac y gallai codi am barcio gael effaith ar y niferoedd sy’n ymweld â’r goleudy ymhen amser. Mae deiseb yn cynnwys dros 5,000 o enwau yn erbyn y cais i godi am barcio yn Ynys Lawd sy’n dangos ei bod yn ymddangos bod yr RSPB yn dangos diffyg dealltwriaeth. Cyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at y problemau a fydd yn codi wrth i bobl barcio ar y briffordd a’r damweiniau posibl a allai digwydd ar y safle. Nododd y gallai problemau godi gyda’r Gwasanaethau Brys yn gorfod teithio i Ynys Lawd i argyfwng ac yn methu â phasio gan fod ceir wedi parcio ar y briffordd.       

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer lleoli dau arwydd heb eu goleuo ynghyd â gosod dau fesurydd parcio yng Nghanolfan Ymwelwyr yr RSPB, Ffordd South Stack, Caergybi. Fe wnaeth atgoffa’r Pwyllgor y dylid ystyried y cais yng nghyd-destun polisïau cynllunio ac na ddylai’r egwyddor o godi tâl am barcio na’r union swm fod yn rhywbeth sy’n cael ei drafod. Rhoddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddiweddariad i’r Pwyllgor bod 7 llythyr o wrthwynebiad wedi dod i law a bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’n gryf i’r cais. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb gan ddweud nad oes angen asesiad o dan y rheoliad Cynefinoedd. Nododd bod argymhelliad clir y dylid caniatáu’r cais.   

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod yn ystyried y cais yn un anfoesol gan na ddylid codi ar bobl i fynd i weld safle mor eiconig ag Ynys Lawd. Dywedodd nad yw dadl yr RSPB eu bod yn dymuno amddiffyn a gwarchod yr ardal yn un sy’n dal dŵr. Y penderfyniad i’r Pwyllgor yw a yw’r cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio ac mae’n gwneud hynny i raddau ond dywedodd fod yr effaith o godi tâl am barcio hefyd yn berthnasol. Dywedodd y byddai caniatáu’r cais yn cael effaith ar yr ardal gyda cheir yn parcio ar ochr y ffordd gan wneud y ffordd yn beryglus felly mae hynny’n reswm iechyd a diogelwch dros wrthod y cais. Byddai caniatáu’r cais yn atal pobl rhag ymweld â’r safle i fwynhau’r bywyd gwyllt gan y byddai’n rhaid iddynt dalu am barcio ar y safle. Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan y byddai’n cael effaith negyddol ar yr amwynderau lleol ac y byddai’n atal y cyhoedd rhag mwynhau’r ardal. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.    

 

Yn dilyn pleidlais PENDERFYNWYD  gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog o ganlyniad i effeithiau ar amwynderau lleol trigolion a materion iechyd a diogelwch cysylltiedig â traffig a’r effaith o atal y cyhoedd rhag mwynhau bywyd gwyllt yn yr ardal.

 

(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).

 

Bu i’r Cynghorwyr John Griffith, R O Jones a Robin Williams atal eu pleidlais. Er eu bod yn ystyried y dylai’r Pwyllgor ddelio â pholisïau cynllunio o ran lleoliad arwyddion a pheiriannau codi tâl am barcio, roeddent o’r farn bod codi £5 am barcio yn eithafol o gymharu â ffioedd parcio’r awdurdod lleol. 

 

7.3 46C612A/AD – Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ynghyd â gosod mesurydd parcio ym maes parcio Tŵr Elin, Ynys Lawd.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ebrill, 2018 fe benderfynwyd ymweld â’r safle. Cynhaliwyd ymweliad safle ar 18 Ebrill, 2018. 

 

Dywedodd Mr Jeff Evans (yn siarad yn erbyn y cais) fod y materion a’r pryderon o ran iechyd a diogelwch, materion priffyrdd a chyfleusterau ar gyfer yr anabl yn debyg iawn i rai’r cais blaenorol a drafodwyd gan y Pwyllgor. Dywedodd, pan bod yr RSPB, pan yn cyfeirio at y costau rhedeg sy’n gysylltiedig ag Ynys Lawd, wedi methu â chrybwyll eu bod wedi cael £¼m gan Gronfa’r Loteri ddwy flynedd yn ôl. Nid ydynt wedi sôn chwaith eu bod yn derbyn nawdd Ewropeaidd tuag at y defnydd tir, nawdd gan Tesco tuag at yr ardaloedd chwarae yn Ynys Lawd a grantiau gan y Cyngor hwn tuag at y toiledau. Nododd fod y cais blaenorol gerbron y Pwyllgor yn un a oedd ar dir ym mherchnogaeth yr RSPB ond bod y tir a oedd yn destun y cais hwn yn cael ei brydlesu gan Gyngor Sir Ynys Môn. Cafodd y brydles ei harwyddo ar 25 Mawrth, 1998 am dymor o 21 mlynedd gyda rhent o £150 y flwyddyn; bydd y denantiaeth yn dod i ben ar 25 Mawrth, 2019. Cyfeiriodd at yr amodau a oedd wedi’u cynnwys yn y brydles a darllenodd yr amodau perthnasol o fewn y brydles. Dywedodd fod yr RSPB yn torri eu cytundeb tenantiaeth, amodau 10 ac 11, gan fod angen iddynt ymgynghori â Chyd-bwyllgor Rheoli Mynydd Caergybi os ydynt yn dymuno gwneud newidiadau i’r safle; nid yw’r Pwyllgor hwn yn bodoli bellach. Dywedodd Mr Evans, os bydd yr RSPB yn derbyn prydles Ynys Lawd eto yna byddai’n rhaid ailsefydlu Cyd-bwyllgor Rheoli Mynydd Caergybi er mwyn i’r RSPB allu cyflawni’r amodau angenrheidiol o fewn y brydles mewn perthynas â pharcio, cyfleusterau i’r anabl, toiledau ac ati. Roedd yn ystyried y dylid gwrthod y cais.       

 

Dywedodd Ms Laura Kudelska (a oedd yn siarad o blaid y cais) nad oedd ganddi unrhyw sylwadau pellach i’w gwneud mewn perthynas â’r cais hwn gan ei fod yn debyg i’r cais blaenorol ond nododd y byddai’n hapus i ateb unrhyw gwestiynau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shaun Redmond at ddatganiad i’r wasg dyddiedig 2003 gan Mr Alistair Moralee a oedd yn nodi na fydd yn rhaid i bobl dalu i ymweld â Thŵr Elin yn Ynys Lawd a bod gan bobl Ynys Môn fynediad rhydd ac agored i’r 778 acer. Holodd gynrychiolydd yr RSPB beth oedd wedi newid. Ymatebodd Ms Kudelska nad oedd yn ymwybodol o’r datganiad hwnnw a wnaed 15 mlynedd yn ôl ac ym mha gyd-destun y cafodd ei wneud. Dywedodd fod mynediad i Dŵr Elin am ddim i aelodau’r RSPB. Dywedodd Cadeirydd y cyfarfod bod angen cyfeirio’r cwestiwn at Brif Swyddfa’r RSPB.   

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer gosod arwydd heb ei oleuo ynghyd â gosod mesurydd parcio ym maes parcio Tŵr Elin, Ynys Lawd. Dywedodd fod angen i’r mater mewn perthynas â’r brydles a pherchnogaeth y tir gael sylw gan adrannau eraill o fewn yr awdurdod lleol. Pwysleisiodd y Swyddog mai trafod polisïau cynllunio yw swyddogaeth y Pwyllgor hwn a’r argymhelliad yw un o gymeradwyo’r cais hwn.   

 

Cododd y Cynghorydd Shaun Redmond y pwyntiau mewn perthynas â’r brydles rhwng y Cyngor Sir a'r RSPB o ran Cyd-bwyllgor Rheoli Mynydd Caergybi a’r Landlord (Cyngor Sir) a bod angen cymeradwyo unrhyw addasiadau/cynlluniau yn y safle. Ail-adroddodd y sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd i’r cais fod Cyd-bwyllgor Rheoli Mynydd Caergybi wedi dod i ben ar adeg ad-drefnu Llywodraeth leol. Nododd nad oes unrhyw sôn yn y brydles fod y Cyd-bwyllgor Rheoli wedi dod i ben ac y dylai’r cais cynllunio gael ei ohirio er mwyn edrych ar y mater o safbwynt cyfreithiol. Dywedodd y Cadeirydd nad yw’r mater mewn perthynas â’r brydles yn fater i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i’w drafod. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol â’r Cadeirydd a nododd efallai y byddai’n rhaid i unrhyw ddatblygwr gael mathau eraill o ganiatâd hefyd cyn y byddai ganddynt hawl i weithredu ar unrhyw ganiatâd.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhellion y Swyddog gan y bydd yn cael effaith negyddol ar amwynderau lleol ac y byddai’n atal y cyhoedd rhag mwynhau’r ardal. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.

 

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD  gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog o ganlyniad i effeithiau ar amwynderau lleol trigolion a materion iechyd a diogelwch cysylltiedig â traffig ac effaith atal y cyhoedd rhag mwynhau bywyd gwyllt yn yr ardal.

 

(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).

 

Bu i’r Cynghorwyr John Griffith, R O Jones a Robin Williams atal eu pleidlais. Er eu bod yn ystyried y dylai’r Pwyllgor ddelio â pholisïau cynllunio o ran lleoliad arwyddion a pheiriannau codi tâl am barcio, roeddent o’r farn bod codi £5 am barcio yn eithafol o gymharu â ffioedd parcio’r awdurdod lleol. 

Dogfennau ategol: