Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1  30C755B/DEL – Min y Ffrwd, Brynteg

10.2  30C756B/DEL – Min y Ffrwd, Brynteg

10.3  35C280F/VAR – Pen y Waen, Llangoed

10.4  43C54G/VAR – Gwynfryn Lodge, Rhoscolyn

Cofnodion:

10.1 30C755B/DEL – Cais o dan Adran 73 i dynnu amodau (09), (10) a (11) (Côd am Cartrefi Cynaliadwy) ac i ddiwygio amod (08) (deunyddiau) o ganiatâd cynllunio rhif 30C755 (Cais amlinellol i codi annedd) ar dir yn Min y Ffrwd, Brynteg.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais presennol yn golygu tynnu amodau sy’n ymwneud â’r Cod Cartrefi Cynaliadwy. Gan nad yw materion perthnasol i’r dull o adeiladu o ran newid hinsawdd bellach yn cael eu llywodraethu gan y gyfundrefn gynllunio ond gan Ran L o’r Rheoliadau Adeiladu, ystyrir nad yw’r amodau bellach yn angenrheidiol. Mae felly’n rhesymol eu tynnu yn unol â’r hyn a nodwyd yn llythyr Llywodraeth Cymru 016/2014. Mae’r cais hefyd yn gofyn am ganiatâd i amrywio amod (08) ar gyfer disgrifiad masnachol o’r deunyddiau arfaethedig ar gyfer wynebau allanol h.y. to llechi, cladin a rendro. Gan fod gan safle’r cais ganiatâd cynllunio eisoes, mae’r argymhelliad yn un o gymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

10.2 30C756B/DEL – Cais o dan Adran 73 i dynnu amodau (09), (10) a (11) (Côd am Cartrefi Cynaliadwy) ynghyd a diwygio amod (08) (deunyddiau) o ganiatâd cynllunio rhif 30C756 (codi annedd) ar dir yn Min y Ffrwd, Brynteg.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais y drws nesaf i’r cais blaenorol. Mae’r cais yn cynnwys tynnu amodau sy’n berthnasol i’r Cod Cartrefi Cynaliadwy. Mae’r cais hefyd yn gofyn am ganiatâd i amrywio amod (08) ar gyfer disgrifiad masnachol y deunyddiau arfaethedig ar gyfer wynebau allanol h.y. to llechi, cladio a rendro. Gan fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle mae’r argymhelliad yn un  o ganiatáu’r cais. Fodd bynnag, mae’r Cyngor Cymuned lleol wedi mynegi pryderon nad ydynt yn ystyried bod y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn cyd-fynd â’r ardal. Nododd fod y Swyddogion Cynllunio yn ystyried bod to llechi, rendro a ffenestri llwyd yn dderbyniol o ganlyniad i’r cymysgedd o anheddau yn yr ardal ac na fyddai’n cael effaith niweidiol ar yr ardal.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

10.3 35C280F/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (03) (cynllun draenio) o ganiatâd cynllunio rhif 35C280C er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar ôl dechrau gwaith ar dir ger Pen y Waen, Llangoed

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i amrywio amod (03) o’r cynllun draenio. Dywedodd fod y cais i godi annedd ar y safle wedi’i gymeradwyo ar y safle ers 2017. Rhoddwyd amod ar y pryd, ar gais Dŵr Cymru, na ddylai gwaith datblygu gychwyn ar y safle tan fod cynllun draenio ar gyfer y safle wedi’i gyflwyno a’i gymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio lleol. Mae’r ymgeisydd wedi anfon datrysiad peirianyddol amgen i ddyluniad y system ddraenio i’r system bwmpio sy’n dderbyniol i Ddŵr Cymru ac asiantaethau eraill. Mae’r argymhelliad yn un o gymeradwyo’r cais.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd K P Hughes

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

10.4 43C54G/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) o ganiatâd cynllunio rhif 43C54F (codi annedd) er mwyn caniatáu 5 mlynedd yn ychwanegol i gychwyn y datblygiad yn Gwynfryn Lodge, Rhoscolyn

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y rhoddwyd y caniatâd cynllunio ym mis Ebrill, 2013 ar gyfer byngalo o fath dormer ar y safle a bod Tystysgrif Cyfreithlondeb wedi’i chyflwyno sy’n dangos bod gwaith perthnasol wedi cychwyn ar y caniatâd cynllunio. Cyflwynwyd amrywiad o’r caniatâd cynllunio yn dilyn cymeradwyo’r cais a’r cais gerbron y Pwyllgor yw i’r Pwyllgor amrywio amod (01) o’r caniatâd cynllunio er mwyn caniatáu pum mlynedd arall mewn perthynas â’r cais. Dywedodd hefyd y disgwylir Tystysgrif Perchnogaeth gan y datblygwr o ran mynediad i’r safle. Mae’r argymhelliad yn un o ganiatâd ond mae angen rhoi amod ychwanegol ar y caniatâd mewn perthynas â gwaith tirlunio er mwyn gwarchod yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â gwaith tirlunio er mwyn amddiffyn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Dogfennau ategol: