Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  19C1217 – 18 Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi

12.2  19LPA1043/CC –  Stryd Vulcan, Caergybi

12.3  20LPA1044/CC – Teilia, Cemaes

12.4  25C228A – 41 Stryd Fawr, Llannerchymedd

12.5  46C615/AD –  Canolfan Ymwelwyr, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

12.6  49C333A/FR – Capel Hermon, Stryd y Cae, Y Fali

Cofnodion:

12.1 19C1217 – Cais llawn i newid defnydd Annedd C3 yn Amlbreswyliaeth C4 yn 18 Lôn Maes Hyfryd Road, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd Mr Craig Stalman (yn siarad yn erbyn y cais) bod gan y stryd breswyl ym Maeshyfryd, Caergybi nifer o bobl oedrannus a theuluoedd o bob oed yn byw yno. Dywedodd y byddai cyflwyno Tŷ Amlbreswyliaeth (HMO) o bosib yn dod â’r bobl hyn i gysylltiad â phobl y byddent yn dewis eu hosgoi fel arfer. Gan fod Maeshyfryd yn cael ei ddefnyddio gan blant ar y ffordd i ac o’r ysgol. mae posibilrwydd y byddai’r plant hyn yn dod i gysylltiad â phobl na fyddai nhw na’u rhieni yn dymuno iddynt gael cyswllt â nhw. Mae problemau parcio eisoes yn bodoli ym Maeshyfryd ac yn ystod gyda’r nosau bydd cerbydau’n parcio ar ddwy ochr y ffordd sy’n stryd unffordd gul. Gyda chyflwyno HMO, mae posibilrwydd y byddai nifer uwch o gerbydau ar gyfer pob tŷ ac y byddai’r effaith ar y trigolion yn sylweddol. O ganlyniad i’r system unffordd, Maeshyfryd yw’r brif ffordd drwodd a ddefnyddir gan gerbydau masnachol a cherbydau brys er mwyn cyrraedd Kings Road a Tara Street. Mae trigolion eisoes wedi bod yn dyst i hyn wrth i fysiau orfod bagio i lawr stryd unffordd. Dywedodd Mr Stalman hefyd bod HMO yn cyflwyno’r  posibilrwydd y bydd nifer uwch o bobl yn cael eu cyfyngu i un annedd gan greu felly’r posibilrwydd o niwsans sŵn sy’n gysylltiedig â hynny. Gyda chynifer o drigolion mewn un tŷ gallai olygu cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig a thai HMO a gallai hynny gael effaith emosiynol a seicolegol ar y tai a’r teuluoedd cyfagos. Dywedodd hefyd y byddai cyflwyno HMO yn cael effaith negyddol at brisiau tai yn yr ardal, nid yn unig o ran prisiau tai yn gostwng ond hefyd amharodrwydd pobl eraill i brynu tŷ mor agos at HMO. Mae gan ardal Maeshyfryd eisoes broblemau amgylcheddol o ran casglu biniau a diffyg lle i storio biniau ailgylchu a biniau du/gwyrdd. Gyda chyflwyno HMO, gyda 6 ystafell o bosibl, gallai hyn olygu 24 bin ac nid oes gan yr eiddo penodol hwn le o flaen yr eiddo nac yng nghefn yr eiddo ar gyfer biniau o’r fath. Felly, mae’n anorfod y byddai’r lôn gefn i’r eiddo yn cael ei defnyddio i storio biniau gan achosi problemau llygod a glanweithdra eraill.           

 

Holodd y Cynghorydd R O Jones pwy fyddai’n byw yn yr annedd hon petai’r cais yn cael ei ganiatáu. Ymatebodd Mr Stalman ei fod wedi cael ar ddeall gan ddeiliad eiddo cyfagos a oedd wedi siarad â’r ymgeisydd mai ei fwriad oedd cael pobl broffesiynol i fyw yn yr ystafelloedd un llofft. Dywedodd nad oedd yn gwybod lle byddai’r holl bobl hyn yn parcio eu ceir gan fod potensial i gael 12 car yn parcio yn yr ardal. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i newid defnydd annedd tri llawr i fod yn dŷ amlbreswyliaeth. Nododd fod y cais yn un ar gyfer HMO 6 ystafell wely ond bod y cais wedi’i ddiwygio i gynnwys llety 5 ystafell wely ar gyfer HMO. Mae’r Adran Dai wedi cadarnhau bod angen sylweddol ar gyfer y math hwn o lety yn ardal Caergybi. Dywedodd hefyd fod gan yr annedd 4 ystafell wely ar hyn o bryd ynghyd â iard yng nghefn yr annedd ac mae’r ymgeisydd wedi nodi y bydd yr iard ar gael i gadw biniau sbwriel a biniau ailgylchu. Dywedodd y Swyddog fod y cais yn cyd-fynd â meini prawf Polisi TAI9 a PCYFF2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac na ystyrir y bydd y cais yn niweidio amwynderau’r eiddo preswyl cyfagos na chymeriad yr ardal mewn perthynas â pholisi datblygu cynllunio a’r amcanion o gynnal cymunedau cynaliadwy a chytbwys. Nododd mai dim ond 3 HMO sydd yn Ward Maeshyfryd sydd gyfwerth â 0.3%; felly ni fyddai’r cais yn arwain at gyfran yr HMO yn y Ward yn mynd dros y lefel o 10% y cyfeirir ati ym Mholisi TAI 9.      

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hefyd nad oes lle parcio dynodedig ar gyfer yr annedd gan ei fod wedi’i lleoli ar stryd unffordd. Mae’r gwrthwynebydd i’r cais wedi nodi bod problemau parcio ar y stryd ond mae’r datblygwr wedi nodi bod meysydd parcio yng Nghaergybi a dangoswyd map i’r Pwyllgor o leoliadau’r meysydd parcio ar gais Aelod Lleol. Mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu’r cais.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE, Aelod Lleol ac Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, at y map cyfleusterau parcio a gafodd ei gylchredeg yn y cyfarfod. Dywedodd fod y datblygwr wedi nodi mai’r maes parcio agosaf yw’r un ar Hill Street. Eglurodd y Cynghorydd Hughes mewn manylder y pellter o’r annedd i Faes Parcio Hill Street ac roedd o’r farn na fyddai deiliaid y cais arfaethedig yn cerdded mor bell i’r eiddo. Dywedodd fod parcio yn broblemus yn Ffordd Maeshyfryd ac yng Nghaergybi yn gyffredinol.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes fod problemau parcio yn bodoli ym mhob tref a chynigiodd fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Robin Williams. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.2  19LPA1043/CC – Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd fforddiadwy ynghyd a creu mynedfa i gerddwyr ac 8 man parcio ar dir ger Vulcan Street, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi’i dynnu’n ôl.  

 

Nodwyd fod y cais wedi’i dynnu’n ôl.

 

12.3  20LPA1044/CC – Cais llawn i osod gorsaf meteorolegol 3 metr o uchder ar dir yn Teilia, Cemaes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan y Cyngor Sir. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd yr orsaf arfaethedig yn casglu data a fydd yn cynorthwyo’r gwaith o fonitro’r dŵr ymdrochi ym Mae Cemaes gan fod safon y dŵr yn is na’r safon angenrheidiol yn 2015 a 2016. Nododd, tra bo’r safle wedi’i leoli o fewn ardal AHNE bydd ei faint a’i leoliad yn sicrhau na fydd modd ei weld o unrhyw lecynnau nac anheddau cyfagos. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.4  25C228A – Cais ôl-weithredol ar gyfer ymestyn y cwrtil ynghyd a chodi

         modurdy yn 41 Stryd Fawr, Llannerch-Y-Medd.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan y bydd rhan o’r cais ar dir sy’n berchen i’r Awdurdod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn gais ôl-weithredol ar gyfer cadw’r cwrtil estynedig ynghyd â chodi garej yn 41 High Street, Llannerch-Y-Medd. Ni ystyrir y bydd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr ardal gyfagos o ganlyniad i dopograffeg y safle. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John Griffith.  

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.5  46C615/AD – Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ynghyd â gosod mesurydd parcio ym maes parcio uwchben Canolfan Ymwelwyr, Ynys Lawd, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi derbyn e-bost gan un o’r Aelodau Lleol yn gofyn iddynt ymweld â’r safle oherwydd na chynhaliwyd ymweliad â safle’r cais penodol hwn yn ystod y mis diwethaf. Dywedodd ei bod wedi gwrthod ymweld â safle’r cais hwn ar ddiwrnod yr ymweliad safle diwethaf gan y byddai wedi achosi pobl i ddyfalu am benderfyniad y Pwyllgor. Dywedodd y Cadeirydd mai’r rhesymau a roddir gan yr Aelod Lleol dros ymweld â’r safle yw bod safle’r cais yn fychan ac na fyddai polisïau’r Cyngor yn caniatáu lleoli peiriant talu am barcio yn rhywle sydd â lle i lai nag 20 o geir barcio ac ni fyddai ychwaith yn gwella’r Ardal o Harddwch Naturiol.  

 

Roedd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yn cwestiynu a fyddai’n fanteisiol cynnal ymweliad safle gan yr ymwelwyd â’r safle fis diwethaf a bod penderfyniad wedi ei wneud i wrthod y ddau gais arall yn yr ardal yn seiliedig ar y traffig a’r effaith ar faterion eraill yn yr ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fod safle’r cais hwn wedi cael ei ddefnyddio dros y blynyddoedd fel y gallai cerbydau droi ac nad oedd wedi’i ddefnyddio fel maes parcio. Nododd, pan fydd bysiau’n ymweld â’r safle y bydd yr ardal hon yn cael ei defnyddio bob amser fel y gall cerbydau mawr droi. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes y dylid ymweld â’r safle oherwydd materion traffig. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.6  49C333A/FR – Cais llawn i newid defnydd y capel gwag i annedd ynghyd ag addasu a chodi balconi ar y llawr cyntaf yng Nghapel Hermon, Field Street, Y Fali.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard A Dew, Aelod Lleol, i’r Pwyllgor ymweld â’r safle er mwyn galluogi’r Aelodau i weld y safle o ran yr effeithiau ar eiddo cyfagos. Nododd fod y safle gyferbyn wedi derbyn caniatâd cynllunio yn ddiweddar. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod adroddiad y Swyddog yn nodi mai dim ond un rheswm sydd wedi’i roi ar gyfer gwrthod y cais ac mai materion llifogydd yw hwnnw a holodd beth fyddai manteision ymweld â’r safle gan fod y cais yn groes i TAN 15 (Datblygiad a Risg Llifogydd).

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod lleol. Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

Dogfennau ategol: