Eitem Rhaglen

Mabwysiadu Pwerau gan y Cyngor a Dirprwyo i Swyddogion

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor Gwaith i newid Cyfansoddiad y Cyngor cyn cyflwyno’r newidiadau hynny i’w cymeradwyo’n llawn gan y Cyngor Sir llawn. Roedd y newidiadau i’w gweld yn Atodiad 1 Adran A, deddfwriaeth ychwanegol i’w hychwanegu i’r Cynllun Dirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd) ac yn Adran B i ddeddfwriaeth gael ei thynnu o’r Cynllun Dirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhelliad bod rhai newidiadau cyfansoddiadol a oedd yn codi o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd neu ddiwygiedig neu ddeddfwriaeth a ddiddymwyd yn gallu cael eu dirprwyo i’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro heb yr angen i’w cyfeirio at y Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor Llawn.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y bydd mabwysiadu a dirprwyo’r pwerau yn Adran A o Atodiad 1 yn galluogi’r Cyngor i weithredu amrywiaeth ehangach o ddatrysiadau tra bod tynnu’r ddeddfwriaeth yn Atodiad B yn ymarfer cadw da. Ar hyn o bryd, mae unrhyw newidiadau i’r Cyfansoddiad angen cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor Llawn. Gofynnir am i rai newidiadau cyfansoddiadol megis y rhai a nodir yn yr adroddiad, gael eu dirprwyo i’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro. Dywedodd yr Aelod Portffolio y bydd newidiadau i’r Cyfansoddiad sydd o bwys gwleidyddol sylweddol a newidiadau o ran dewisiadau lleol yn parhau i fod yn fater i’r Cyngor Llawn ond y bydd deddfwriaeth newydd, ddiwygiedig neu ddeddfwriaeth a ddiddymir yn cael ei dirprwyo i’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ac y bydd hyn yn cynnwys ychwanegu neu ddileu cyfeiriad at y deddfwriaethau hynny o restrau pwerau dirprwyedig y Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol. Byddai hyn yn cynorthwyo gyda llwyth gwaith y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith/Cyngor Llawn. Gwyddys bod manylion o’r fath yn cael eu cynnwys yng nghyfansoddiadau cynghorau eraill at ddibenion symleiddio prosesau a sicrhau bod newidiadau technegol yn cael eu gweithredu mewn modd sydd mor hwylus a chyflym â phosibl.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn bod –

 

  Ei fod yn mabwysiadu’r pwerau a restrir yn Adran A o Atodiad 1 yr adroddiad.

  Ei fod yn diwygio’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad i ddirprwyo ymarfer y pwerau a nodir yn Adran A o Atodiad 1 i’r adroddiad, i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd).

  Ei fod yn tynnu’r pwerau a restrir yn Adran B o Atodiad 1 i’r adroddiad o’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad sy’n dirprwyo’r pwerau hyn i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd).

  Ei fod yn awdurdodi Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro’r Cyngor i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cynllun Dirprwyo, ac unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i adlewyrchu mabwysiadu, dirprwyo a dileu’r cyfryw bwerau.

  Ei fod yn awdurdodi Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro’r Cyngor i wneud unrhyw newidiadau i’r Cyfansoddiad yn y dyfodol, heb orfod cael cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith neu’r Cyngor Llawn, lle bo’r newidadau hynny o ganlyniad i newidiadau deddfwriaethol pan fo angen ychwanegu/newid y ddirprwyaeth i swyddogion er mwyn gweithredu’r pwer neu’r hawliau ychwanegol a roddwyd i’r Cyngor dan y ddeddfwriaeth ddiwygiedig neu newydd.

  Ei fod yn diwygio’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad i ddirprwyo i Bennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yr hawl iAdolygu a diweddaru Cyfansoddiad y Cyngor o bryd i’w gilydd i gynnwys unrhyw newidiadau achlysurol sy’n deillio o ddeddfwriaeth ddiwygiedig, deddfwriaeth sy’n cymryd lle un arall neu ddeddfwriaeth newydd; unrhyw ailstrwythro o’r sefydliad sydd eisoes wedi ei awdurdodi fel bo’r angen ac i gynnwys dirprwyaethau newydd i swyddogion, sef y Pennaeth Gwasanaeth sydd â chyfrifoldeb am y gwasanaeth perthnasol i gael awdurdod dirprwyedig llawn i gyflawni’r swyddogaeth ar ran y Cyngor oni bai ei bod yn fater sydd wedi ei neilltuo i’r Cyngor, Pwyllgor Gwaith neu Bwyllgor.”

Dogfennau ategol: