Eitem Rhaglen

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 4 2017/18

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi’r alldro dros dro ar gyfer y Gyllideb Refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei fod yn siomedig adrodd mai’r alldro ar gyfer 2017/18 yw gorwariant o £1.762k yn erbyn cyllideb o £126.647 miliwn (1.39% o gyllideb net y Cyngor). Mae hyn er gwaethaf y ffaith i’r Awdurdod gyflawni arbedion o £1.55 miliwn dros yr un cyfnod ac mae felly’n golygu bod £1.77 miliwn wedi'i dynnu o’r Arian wrth gefn Cyffredinol er mwyn cydbwyso’r gyllideb sydd yn ei dro, yn golygu bod lefel yr arian wrth gefn y gellir ei ddefnyddio wedi gostwng yn agos i’r trothwy o £6 miliwn a argymhellir gan y Swyddog Adran 151 ac a gymeradwyir gan y Cyngor. Petai’r gorwariant yn digwydd eto yn 2018/19 yna gallai hynny arwain at ostyngiad pellach yn lefelau arian wrth gefn y Cyngor. Gwelwyd y galw mwyaf sylweddol ar wasanaethau mewn Addysg a Gwasanaethau Plant fel sydd wedi’i adrodd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r cynnydd yn y pwysau ar gyllidebau penodol yn y maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion dros y chwarter diwethaf wedi arwain at orwariant uwch yn y Gwasanaethau Oedolion na gafodd ei ragweld ar ddiwedd Chwarter 3. Mae Busnes y Cyngor hefyd wedi gweld gorwariant o £181k ar alldro sy’n well na’r rhagamcaniad ar ddiwedd Chwarter 3 ac sydd i’w briodoli yn bennaf i ffioedd asiantaeth oherwydd cyfnodau mamolaeth ac absenoldebau salwch tymor hir. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod hefyd yn dymuno tynnu sylw at y crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn yn Atodiad C ac yn benodol at y gorwariant ar y gyllideb wrth gefn ar gyfer tâl a graddfeydd o ganlyniad i fodloni cytundebau diswyddo gwirfoddol; fodd bynnag, bydd y rhain yn arwain at arbedion tymor hir i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mai’r prif feysydd lle mae gorwariant ar ei uchaf yw’r rhai hynny sydd wedi’u hamlygu drwy gydol y flwyddyn. Risgiau eraill sy’n codi yn Chwarter 4, ac a allai barhau yn 2018/19 yw costau digartrefedd cynyddol a'r adran Hamdden sy’n ei chael hi’n anodd cyflawni targedau incwm. I liniaru yn erbyn hynny, mae Cyllid Corfforaethol wedi tanwario £655k ar gyfer y flwyddyn; mae hyn yn cynnwys tanwariant o £258k ar y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a thanwariant o £449k ar gostau cyllid cyfalaf. O ran arian wrth gefn y Cyngor, dywedodd y Swyddog bod y pwynt yn cyrraedd lle bydd angen rhoi ystyriaeth i ddatblygu strategaeth fel rhan o’r MTFP er mwyn cynyddu’r arian wrth gefn yn ôl i’r lefel o £6 miliwn; gan ddibynnu ar faint, os o gwbl, y bydd yr Awdurdod yn gorwario yn 2018/19 a faint o dan y trothwy o £6 miliwn y bydd arian wrth gefn yn gostwng ac o ganlyniad bydd angen ystyried dros ba gyfnod o amser y mae’n bwriadu cynyddu’r arian wrth gefn yn ôl i lefel dderbyniol ac yna adeiladu hyn i mewn i gyllidebau dilynol. Mae ymagwedd y Cyngor yn y gorffennol o roi arian i un ochr yn y cronfeydd wrth gefn wedi ei gynorthwyo i ymdopi â phwysau ariannol nad oedd modd ei ragweld yn 2017/18 ac mae’n debyg y bydd hynny hefyd yn wir yn 2018/19. 

 

Rhoddodd yr Aelodau Portffolio ar y Pwyllgor Gwaith grynodeb o’r sefyllfa diwedd blwyddyn mewn perthynas â’u meysydd portffolio unigol, gan gynnwys unrhyw amrywiadau ac, lle'r oedd gorwariant fe amlinellwyd sut roedd y pwysau ar y gwasanaethau yn cael ei liniaru. Rhoddwyd pwyslais penodol ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fel y gwasanaeth sy’n gorwario fwyaf a lle mae’r pwysau ariannol ar ei waethaf ac yn parhau. Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cynnydd o 72% yn nifer y plant mewn gofal yn dangos maint yr her yn lleol ac yn genedlaethol - fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith, fel rhan o gynigion cyllideb 2018/19 argymell y dylid clustnodi rhan o’r codiad yn y Dreth Gyngor i liniaru’r pwysau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol lle mae’r Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion yn gorwario. Mae’r Panel Sgriwtini Cyllid yn monitro’r sefyllfa yn agos ac yn benodol, cynlluniau’r Gwasanaethau Plant er mwyn lleihau gwariant o fewn y Gwasanaeth. Dywedodd y deilydd portffolio y bydd yn rhaid rhoi sylw cynyddol i drawsnewid y ffordd y darperir y gwasanaethau ac, o ganlyniad i’r gorwariant yn 2017/18 a’r heriau ariannol parhaus y mae’r Awdurdod yn eu hwynebu, rhaid i’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau ddigwydd yn gyflym. Mae’r Awdurdod yn gorfod gweithio mewn hinsawdd o gynni ariannol wrth geisio amddiffyn gwasanaethau ar gyfer y rhai hynny sy’n fregus ac mewn angen. Mae llawer iawn wedi’i wneud o wariant yr Awdurdod ar staff asiantaeth - mae’r rhan fwyaf o’r costau hyn wedi bod er mwyn llenwi swyddi gwag ac i gael gweithwyr yn lle pobl sydd ar absenoldeb salwch lle mae’n hanfodol cael parhad o’r gwasanaeth hwnnw. Lle mae staff asiantaeth wedi’u defnyddio gan wasanaethau eraill, mae hynny er mwyn llenwi bwlch o ganlyniad i absenoldebau staff er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal. Dywedodd yr Arweinydd bod y gwariant diwedd blwyddyn yn siomedig ond gellid ei gymryd i ddangos bod yr Awdurdod o dan bwysau aruthrol o ganlyniad i’r wasgfa ar gyllid llywodraeth leol.

 

Gan gyfeirio at y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, tynnodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a'r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Plant sylw at y ffaith fod y gwasanaeth wedi gwella’n sylweddol dros y ddwy flynedd diwethaf a gellir dangos tystiolaeth o lwyddiant ym maes recriwtio, lleihau absenoldebau salwch ac mewn darparu amrywiaeth ehangach o gefnogaeth ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.  Mae’r gorwariant yn y gwasanaeth yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc sydd angen cymorth parhaus ac ar unwaithmae gan y gwasanaeth gynlluniau i ddod o hyd i leoliadau fwy cost effeithiol ac addas ond bydd hyn yn cymryd amser. Er bod defnydd y gwasanaeth o staff asiantaeth yn fesur dros dro, nid yw o reidrwydd yn fesur tymor byr, mae ganddynt gyfraniad pwysig i’w wneud o ran mentora, cefnogi a datblygu staff gyda’u gwaith o ddydd i ddydd. Mae’r gwasanaeth, er ei fod wedi gwneud cynnydd sylweddol, yn parhau i fod ar daith o welliant.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi’r sefyllfa fel y caiff ei nodi yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod ar gyfer 2017/18.

  Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2017/18 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

  Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni Buddsoddi i Arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.

  Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2017/18 yn Atodiad D yr adroddiad.

  Nodi monitro’r costau asiantaeth ac ymgynghorwyr yn 2017/18 yn Atodiadau DD ac E yr adroddiad.

  Nodi bod yr alldro a nodir yn yr adroddiad yn parhau’n amodol hyd nes y cwblheir yr archwiliad.

Dogfennau ategol: