Eitem Rhaglen

Gofyn am Ganiatad i Recriwtio Staff Asiantaeth Ychwanegol yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a oedd yn ceisio cefnogaeth y Pwyllgor Gwaith i recriwtio staff asiantaeth ychwanegol i’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer ystyriaeth y panel.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd-destun i’r cais gan mai elfen hanfodol o’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant, a oedd wedi’i ffurfio mewn ymateb i arolwg CIW o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn 2016, oedd y gwaith o recriwtio a chadw staff gwaith cymdeithasol cymwys. Er bod llawer eisoes wedi’i gyflawni fel sydd wedi’i nodi o fewn yr adroddiad, mae’r gwasanaeth yn parhau i fod ar daith o welliant ac fel rhan o’r daith hon mae’r gwasanaeth bellach yn edrych i benodi 7 Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso (mae 3 eisoes wedi’u penodi); 2 Weithiwr Cymdeithasol asiantaeth ac Arweinydd Ymarfer er mwyn ffurfio Grŵp Ymarfer i adolygu achosion hanesyddol ynghyd â chapasiti cyfreithiol ychwanegol er mwyn gallu cwrdd â’r gofyn sy’n codi o'r adolygiad hwn o ran yr achosion a allai fynd yn eu blaenau i Amlinelliad Cyfraith Cyhoeddus neu i weithdrefnau gofal.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol fod nifer y plant sy’n dod i ofal wedi dyblu yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y gwaith sydd angen ei wneud er mwyn cefnogi’r lleoliadau hyn. Er bod nifer y plant yng ngofal yr Awdurdod wedi sefydlogi ers hynny mae’n fater o fod yn ymwybodol o’r pwysau parhaus ar y gwasanaeth o ganlyniad i’r cynnydd hwn ac o ganlyniad y nifer o staff sydd eu hangen er mwyn darparu cymorth priodol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hyn. Cyfeiriodd y Swyddog at y cais a oedd yn cael ei wneud gan ddweud bod tair elfen iddo sef -

 

  Cadw’r 7 Gweithiwr Cymdeithasol Asiantaeth sydd ar hyn o bryd yn llenwi’r 7 swydd wag o fewn yr adran am gyfnod pellach tan ddiwedd mis Hydref pan fydd 3 Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso (NQSWs) yn gallu ymdopi â’r llwyth achosion (Cost £56,658).

  Penodi 7 NQSW i’r Timau Gwaith Maes yn Hydref, 2018 (3 ohonynt sydd eisoes wedi eu penodi fel y nodwyd uchod) ac er mwyn cefnogi’r rhain drwy sefydlu 4 gweithiwr asiantaeth am 12 mis (cost £123,686). Mae’r gwasanaeth yn parhau i hysbysebu am weithwyr cymdeithasol parhaol a chafwyd peth llwyddiant yn y cyd-destun hwn er nad yw’r penodiadau sydd wedi’u gwneud yn niferus. Fodd bynnag, yn ystod y rownd ddiweddaraf hon o recriwtio fe benododd y gwasanaeth 3 myfyriwr Gwaith Cymdeithasol, sydd eisoes wedi’u cyfeirio atynt, a fydd yn cymhwyso ym mis Hydref, 2018 fel NQSW. Roedd pedwar ymgeisydd arall y gellid fod wedi eu penodi yn ystod y broses ond ni fyddant yn gymwys am chwe mis arall. O ystyried yr anawsterau i recriwtio gweithwyr cymdeithasol ledled Cymru a Lloegr, mae’n annhebygol y bydd y gwasanaeth yn gallu recriwtio digon o weithwyr cymdeithasol er mwyn gallu llenwi’r swyddi gwag presennol. Bydd y gwasanaeth felly’n mynd ati i geisio meithrin a datblygu ei weithwyr cymdeithasol ei hun ond gan eu bod yn NQSW bydd eu llwythi achosion wedi eu cyfyngu i ddechrau ac ni fydd modd iddynt gymryd cyfrifoldeb am nac arwain ar achosion difrifol ac o ganlyniad mae angen cadw staff asiantaeth arbenigol er mwyn darparu cymorth ac arweiniad tan y bydd yr NQSW yn cael digon o brofiad.

  Yn ddiweddar, mae’r Pennaeth Gwasanaeth wedi ei wneud yn ymwybodol o achosion hanesyddol, rhai’n dyddio’n ôl nifer o flynyddoedd sydd, am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad, yn rhai a allai fod wedi cael sylw mewn modd gwahanol a mwy priodol; cyfeirir at y rhain fel achosion Hanesyddol. Bydd yn rhaid i’r achosion hyn gael eu hail asesu ac fe argymhellir recriwtio 3 Gweithiwr Cymdeithasol Asiantaeth ac 1 Arweinydd Ymarfer ychwanegol er mwyn ffurfio Tîm Ymarfer dros dro sydd i’w reoli yn uniongyrchol gan y Pennaeth Gwasanaeth er mwyn archwilio, asesu a datblygu’r achosion hyn yn unol â’r cynllun hwn neu i’r Llysoedd (Cost £177,874). Gan ei bod yn

anodd darparu ffigwr manwl gywir ar gyfer nifer yr achosion a fydd yn mynd yn eu blaenau i Amlinelliad Cyfraith Cyhoeddus neu i weithdrefnau gofal, byddai angen i’r Gwasanaeth amcangyfrif a darparu capasiti ychwanegol o fewn ei wasanaeth cyfreithiol (dros y 1.5 Cyfreithiwr cyfwerth ag amser llawn sy’n cefnogi’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar hyn o bryd) er mwyn bodloni’r galw hwn. Yr argymhelliad yw bod y capasiti ychwanegol yn cael ei ymestyn i 2.5 Cyfreithiwr cyfwerth ag amser llawn am gyfnod o 12 mis ar gost o £54,527.

  Gan ystyried yr arian wrth gefn o £144,737 o fewn y Gwasanaeth ar gyfer costau staffio, y cyllid ychwanegol y gofynnir amdano yw £268,008.

 

Mewn perthynas ag ychwanegu capasiti cyfreithiol i’r Gwasanaeth, cynghorodd y Pennaeth Gwasanaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, yn dilyn trafod y mater o gapasiti cyfreithiol ychwanegol gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, bod y costau a amcangyfrifir ar gyfer darparu’r gwasanaeth hwn fel y nodir yn yr adroddiad yn gywir petai’r gwasanaeth yn llwyddo i recriwtio gweithiwr proffesiynol i weithio’n fewnol yn y maes hwn am gyfnod o 12 mis. Fodd bynnag, mae profiad yn awgrymu ei bod hi’n annhebygol, o ystyried yr anawsterau hanesyddol, y gellid recriwtio am gyfnod dros dro i faes arbenigol. Y dewis arall yw defnyddio cyfreithiwr asiantaeth i wneud y gwaith hwn ond byddai’n costio llawer mwy. Y gost o benodi asiantaeth yn flaenorol i faes o arbenigedd tebyg oedd £130k y flwyddyn a oedd yn llawer drutach na’r ffigwr a ddyfynnwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y byddai’r costau ychwanegol a geir o ganlyniad i ddiwallu’r cais a amlinellir uchod yn disgyn ar Arian wrth gefn y Cyngor; mae’r rhain wedi gostwng i £6.232 miliwn ers mis Mawrth, 2018 yn dilyn gorfod eu defnyddio ar gyfer Cyllideb Refeniw 2017/18 a oedd wedi gorwario £1.7 miliwn. Bydd defnydd pellach o’r arian wrth gefn cyffredinol er mwyn darparu’r cyllid y mae’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn gofyn amdano yn mynd â’r arian wrth gefn o dan £6 miliwn sef yr isafswm o arian wrth gefn cyffredinol y mae’r Swyddog Adran 151 wedi’i asesu sydd angen i’r Cyngor ei gael o ganlyniad i’r cyd- destun ariannol. Fodd bynnag, dywedodd y Swyddog bod arian wrth gefn y Cyngor yno ar gyfer sefyllfaoedd tebyg i hyn lle mae angen swm o arian er mwyn talu am rywbeth nad oedd modd ei ragweld.

 

Nodwyd y wybodaeth gan y Pwyllgor Gwaith a chodwyd y pwyntiau canlynol -

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y Cyngor wedi cefnogi cynlluniau hyfforddeion mewn nifer o feysydd gwasanaeth yn y gorffennol. Nododd y Pwyllgor Gwaith y gallai sefydlu cynllun cyfreithwyr dan hyfforddiant fod yn syniad gwerth ei ystyried yn dilyn yr anhawster i recriwtio gweithiwr proffesiynol am gyfnod penodol a’r costau uchel o gaffael capasiti cyfreithiol ychwanegol gan asiantaeth pan fydd angen.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith bod achosion hanesyddol wedi codi o fewn Gwasanaethau Plant yr ystyrir bod angen eu harchwilio a’u hadolygu er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth wedi’i fethu o ran ymddygiad a rheolaeth. Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach bod cynllun strategol yn cael ei argymell er mwyn ail asesu’r achosion hanesyddol hyn. Roedd y Pwyllgor Gwaith yn gytûn wrth nodi y byddai’n ddefnyddiol pe gallai’r gwasanaeth gadarnhau amserlen ar gyfer datrys a mynd i’r afael â’r achosion hanesyddol perthnasol.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod Llyfr Cyllideb 2018/19 yn dangos fod yr incwm ar ffurf grantiau a chyfraniadau eraill i’r Gwasnaethau Plant yn £1.26 miliwn (bellach yn agosáu at £1.5 miliwn os yw’r cais uchod yn cael ei gytuno). O ganlyniad i hyn ac hefyd o ganlyniad i’r pwysau parhaus ar y Gyllideb Plant sy’n Derbyn Gofal, er nad yw’n broblem sy’n unigryw i Ynys Môn, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am gadarnhad a ddylai’r rhagdybiaethau yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (MTFP) gael eu hadolygu er mwyn ystyried y gwariant ychwanegol hwn a’r tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd eto yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac a yw cyllideb sefydlog o £8.224m ar gyfer y Gwasanaethau Plant ar gyfer 2018/19 yn realistig ac yn adlewyrchiad teg o’r gwir sefyllfa.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y MTFP yn cynnwys 3 senario ar gyfer Gwasanaethau Plant sef dim cyllid ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Plant; 10% o gyllid ychwanegol a 20% o gyllid ychwanegol. Felly, pan fydd y MTFP yn cyfeirio at angen i arbed £10m posibl, bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Plant wedi’i gyfrif amdano o fewn y swm hwnnw.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –

 

  I’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd recriwtio 7 Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso (NQSW) i’r timau gwaith maes o fis Hydref, 2018 (3 wedi’u penodi eisoes) a chefnogi’r rhain trwy gyflogi 4 o weithwyr cymdeithasol asiantaeth ychwanegol ar y sefydliad am 12 mis.

  I’r Gwasanaeth ymestyn y capasiti cyfreithiol o fewn y gwasanaeth I 2.5 cyfwerth ag amser llawn am gyfnod o 12 mis.

  I £268,008 o gyllid ychwanegol gael ei ryddhau o gronfeydd wrth gefn y Cyngor i ariannu’r gofynion ychwanegol a amlinellir yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: