Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2017/18

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol a Thrawsnewid) yn amlinellu sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar gyfer chwarter olaf y flwyddyn ariannol 2017/18 er ystyriaeth y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o berfformiad y Cyngor yn ei weithgareddau busnes fel arfer tra'n cyfeirio’n benodol hefyd at ddatblygiadau trawsnewidiol eraill a gwblhawyd yn ystod y cyfnod hwn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol, er bod y flwyddyn wedi bod yn un heriol eto i'r sector cyhoeddus, roedd yn galonogol gallu adrodd bod y mwyafrif o’r dangosyddion yn perfformio'n dda yn erbyn eu targedau, ac y dylid cydnabod y cyflawniad hwn pan fydd Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor yn cael ei ddrafftio yn yr hydref. Nid yw canlyniadau’r chwarter olaf wedi amlygu unrhyw bethau annisgwyl gyda rhai meysydd perfformiad yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaeth Dysgu yn heriol. Serch hynny, mae'r Gwasanaethau Plant yn trawsnewid a bydd yn parhau i flaenoriaethu'r meysydd hynny lle mae perfformiad wedi bod yn is na’r targed - gwelwyd gwelliant mewn 4 o'r 5 dangosydd a oedd yn tanberfformio yn enwedig yn ystod hanner olaf y flwyddyn ariannol yn dilyn ymarfer ailstrwythuro a adolygu polisïau a phrosesau. Bydd y Gwasanaeth Dysgu yn parhau i weithredu'r mesurau lliniaru yr adroddwyd arnynt ar ddiwedd Chwarter 3 a'u crynhoi ym mharagraff 2.2.5 a dylai hynny sicrhau parhad yng ngwelliant y perfformiad yn y flwyddyn i ddod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, o ran Rheoli Pobl, bod perfformiad cyfraddau salwch y Cyngor ar ddiwedd 2017/18 yn 9.96 diwrnod o salwch fesul CALl gyda hynny’n is o drwch blewyn na’r targed corfforaethol o 9.75 diwrnod o salwch fesul CALl. Er bod y perfformiad o ran absenoldeb oherwydd salwch yn Chwarteri 1, 2 a 3 yn uwch na’r targed, roedd y cyfraddau salwch uwch na'r arferol yn ystod Chwarter 4 wedi effeithio ar 6 o'r 9 Gwasanaeth yn y Cyngor gyda hynny i bob pwrpas yn sgiwio canlyniadau’r perfformiad diwedd blwyddyn ac yn golygu nad oedd modd cyflawni’r targed corfforaethol. Mae'r canlyniad hwn yn adlewyrchiad o’r sefyllfa yn genedlaethol.

 

Gwelwyd gwelliannau o ran Gwasanaeth Cwsmer yn enwedig mewn perthynas â’r defnydd o Wasanaethau Digidol, gyda nifer gynyddol o'r cyhoedd yn awr yn defnyddio technoleg App Môn a gwefan y Cyngor i gyfathrebu â'r Awdurdod ac i adrodd ar faterion. Mae presenoldeb y Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol a’i ddilynwyr hefyd wedi cynyddu a rhagwelir y bydd llif y wybodaeth a rennir ac a dderbynnir trwy gyfrwng sianeli cyfryngau cymdeithasol yn parhau i dyfu gydag amser. Roedd canran y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yr ymatebwyd iddynt o fewn yr amserlen yn 78% ar ddiwedd 2017/18 o'i gymharu â 77% ar ddiwedd 2016/17. Er nad yw'n taro'r targed corfforaethol o 80% , mae'r canlyniad yn galonogol o ystyried y ffaith bod 7,527 o geisiadau wedi cael sylw yn ystod 2017/18 o gymharu â 5,700 yn ystod 2016/17.

 

Gorffennodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol trwy ddweud bod angen i'r Cyngor gynnal y momentwm o ran cynnydd ac y bydd raid i wasanaethau weithio gyda’i gilydd er mwyn gyrru gwelliant yn barhaus.

O ran y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, tynnodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at y ffaith bod perfformiad y gwasanaeth wedi gwella yn ystod y cyfnod ac yn arbennig yn dilyn yr ailstrwythuro ac nad yw’r gwelliant yn cael ei adlewyrchu gan un ffigwr diwedd blwyddyn ond bod y data manwl yn cynnwys tystiolaeth well a chliriach.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd ac fe wnaeth y pwyntiau canlynol -

 

           Nododd y Pwyllgor y sylwadau a wnaed gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Dylan Rees trwy'r Cadeirydd yn cyfeirio at Fwletin Cymdeithas Llywodraeth Leol yn tynnu sylw at erthygl yn ‘The Times’ am bobl ifanc sy'n cael eu gadael i lawr gan y system gofal maeth. Dywed yr  erthygl bod y Comisiynydd Plant wedi rhybuddio bod pobl ifanc yn cael eu symud o gwmpas y system ofal yn aml yn ystod eu llencyndod a bod bron i 20% o bobl 12 i 15 oed yn cael eu symud o leiaf ddwywaith y flwyddyn gan olygu eu bod yn byw mewn 3 chartref maeth dros gyfnod o 12 mis. Dyfynnir Cadeirydd Bwrdd Pobl Ifanc yr LGA a ddywedodd "Aeth 90 o blant y dydd i ofal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a gwelodd cynghorau y cynnydd blynyddol mwyaf yn nifer y plant mewn gofal ers 2010. Mae hyn yn erbyn cefndir o doriadau digyffelyb i gyllidebau awdurdodau lleol." Awgrymodd y Cynghorydd Dylan Rees, er bod yr erthygl yn cyfeirio at y sefyllfa yn Lloegr yn gyffredinol, mae yna bryder hefyd yn Ynys Môn gyda’r Dangosydd Perfformiad PM32 ar y Cerdyn Sgorio Coch yn ymddangos yn Goch (canran  y plant sy’n derbyn gofal sydd wedi newid ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod neu gyfnodau o fod mewn gofal nad oedd i’w briodoli i drefniadau trosiannol yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth) ac Amber ar gyfer PI PM33 (canran y plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth a oedd wedi cael tri neu fwy o leoliadau yn ystod y flwyddyn).  Er yn cydnabod yr esboniadau o ran camau lliniaru, roedd y Cynghorydd Rees o’r farn bod angen dadansoddiad mwy manwl i geisio deall y rhesymau pam fod plant sy'n derbyn gofal yn profi ansefydlogrwydd o ran ysgolion, ffactor a all amharu ar eu haddysg.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, er bod yr Awdurdod yn ceisio lleihau i’r eithaf ar unrhyw fath o ansefydlogrwydd i'r plant yn ei ofal, mae newid lleoliad ac ysgolion yn anochel weithiau, e.e. mewn achosion lle mae lleoliad wedi torri i lawr neu lle mae plentyn / person ifanc yn cael ei roi mewn lleoliad brys tra’n chwilio am leoliad mwy addas. Gall newid lleoliad hefyd fod yn rhan o'r broses ofal a’u gwneud er budd yr unigolyn e.e. mewn amgylchiadau lle mae angen therapi ar y plentyn / person ifanc sy'n golygu bod angen newid lleoliad am gyfnod y therapi hwnnw. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y gall newid ysgol hefyd ddigwydd pan fydd plant yn dychwelyd adref i fyw gyda'u teuluoedd, yn dilyn cyfnod mewn gofal.

 

           Nododd y Pwyllgor fod Atodiad B yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar statws y prosiectau sy'n adrodd i’r ddau brif Fwrdd Rhaglenni Trawsnewid. Nododd y Pwyllgor, dan y thema Atal,  nad oedd y Strategaeth Ymyrraeth Gynnar a'r Strategaeth Gwrth-dlodi wedi cychwyn eto a phetaent wedi cychwyn, awgrymodd y gallai cynnydd gyda’r strategaethau hyn fod wedi lleddfu’r pwysau sydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar hyn o bryd. Nododd y  Pwyllgor hefyd nad yw'r wybodaeth ddiweddaraf yn cynnig unrhyw amserlen ar gyfer cyflawni’r prosiectau a restrir.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwaith ar y Strategaeth Ymyrraeth Gynnar wedi dechrau a bod tîm wedi cael ei sefydlu a strategaeth wedi ei chreu - mae'r arian grant ar hyn o bryd mewn cyfnod trosiannol. Dywedodd y Pennaeth Tai fod y broses ymgynghori ar y Strategaeth Gwrth-dlodi ar fin dechrau a disgwylir adroddiad yn ôl arno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) fod gwybodaeth am amserlenni a ran cyflawni prosiectau ar gael ac mai mater o roi’r wybodaeth i mewn yn y tabl ydyw. 

 

           Nododd y Pwyllgor mewn perthynas â Rheoli Pobl fod y perfformiad mewn perthynas â chynnal cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith wedi gostwng o ran nifer y cyfweliadau a gynhaliwyd o fewn yr amserlen (73% ar gyfer 2017/18 o'i gymharu â 78% ar gyfer 2016/17) ac o ran cyfanswm nifer y cyfweliadau a gynhaliwyd sydd, ar 85%, yn isel o gymharu â'r targed o 95%. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd y bydd camau'n cael eu cymryd i ddod â'r perfformiad yn ôl i lefel dderbyniol.

 

Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol a Thrawsnewid) nad oes un rheswm penodol am y dirywiad mewn perfformiad, ond yn hytrach gyfuniad o resymau y mae angen ymchwilio iddynt ac a fydd yn cael sylw gan y Penaethiaid Gwasanaeth.

 

           Nododd y Pwyllgor sylwadau a wnaed gan y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) am y diffyg eglurder o ran Dangosyddion Perfformiad 30, 31 a 31 mewn perthynas a nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon a gliriwyd, y gwastraff sirol a gasglwyd ac a baratowyd ar gyfer ei ailddefnyddio a / neu ei ailgylchu, a’r gwastraff sirol a anfonir i safleoedd tirlenwi lle mae saethau coch ac ambr at i lawr yn arwydd o ddirywiad mewn perfformiad er bod y ffigurau canrannol yn dangos fel arall. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o'r dynodiadau er mwyn osgoi unrhyw gamddehongliad.

 

Dywedodd y Rheolwr Perfformiad a Chynllunio Busnes fod y saethau coch ac ambr at i lawr yn dangos dirywiad o gymharu â pherfformiad yn Chwarter 3.Mae'r saethau gwyrdd at i fyny i’r dde o'r tabl yn dangos gwelliant o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer Dangosyddion Perfformiad 30, 31 a 32 gyda hynny’n cael ei gefnogi a'i atgyfnerthu yn y sylwebaeth naratif ym mharagraff 2.2.6 yr adroddiad.

 

Nododd y Pwyllgor yr eglurhad a ddarparwyd ond nodwyd hefyd fod y Pennaeth Gwasanaeth - Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo o’r farn nad yw cymharu perfformiad rhwng gwahanol chwarteri yn arbennig o ddefnyddiol nac yn deg mewn perthynas â gwasanaethau megis casglu gwastraff sirol oherwydd gall lefel y gwastraff gwyrdd a gynhyrchir amrywio ac roedd yn is yn Chwarter 4, gan golygu nad yw cymhariaeth tebyg i debyg gyda pherfformiad Chwarter 3 yn bosibl.

 

Ar ôl craffu’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 4 ac wedi cael sicrwydd gan y wybodaeth a gyflwynwyd a'r esboniadau a ddarparwyd yn yr adroddiad a chan Swyddogion yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor nodi'r meysydd y mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i'r dyfodol fel y cânt eu crynhoi ym mharagraffau 1.4.1 i 1.4.5 yr adroddiad ac i dderbyn ac i argymell y mesurau lliniaru fel y’u hamlinellwyd.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: