Eitem Rhaglen

Monitro Cynnydd - Cynllun Gwella y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

·        Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

·        Cyflwyno adroddiad y Panel Gwella Gwasanaethau Plant

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r Cynllun Gwella Gwasanaeth er ystyriaeth y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaeth wedi bod yn ymwneud â rhoi cyfres o newidiadau pwysig yn eu lle ers arolygiad AGC, newidiadau a fydd, fe ystyrir, yn cyflawni’n well yn unol â deddfwriaeth. Mae'r prif feysydd newid yr ymhelaethir arnynt yn yr adroddiad yn ymwneud â'r canlynol –

 

           Ailstrwythuro'r gwasanaeth fel bod y ffocws ar ymyrraeth gynnar ac atal ac ymyrraeth ddwys dan reolwyr gwasanaeth sy'n arwain ar, ac sy’n gyfrifol am yr adnoddau ar gyfer pob un o'r meysydd gwasanaeth hyn. Mae wedi cynyddu’n sylweddol yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer goruchwylio, trosolwg rheolwyr, cyfeiriad achosion ac wedi gwella’r broses cynllunio gofal gyda Grwpiau Ymarfer bach dan arweiniad Arweinwyr Ymarfer sy'n ceisio gwella ansawdd ymarfer proffesiynol.

           Datblygu strategaeth atal gyda'r amcan o leihau angen ar bob lefel a thrwy hynny ostwng yr angen am wasanaethau dwys. Mae'r Cyngor wedi buddsoddi adnoddau i sefydlu tîm ymyrraeth ddwys, sef y Tîm Teuluoedd Gwydn, i ymateb yn rhagweithiol i blant ag anghenion lefel uchel / sydd ar drothwy gofal a hefyd i weithio gyda'r gweithiwr cymdeithasol enwebedig i gynorthwyo i symud plant allan o ofal a’u dychwelyd i ofal ffrindiau neu deulu yn nes at eu cartrefi.

           Gwella'r systemau sydd ar waith i gefnogi ymyrraeth ddwys trwy adolygu achosion i sicrhau bod yr achosion cywir yn cael sylw ar y lefel hon a bod prosesau'r Gwasanaeth mor effeithiol â phosibl.

           Gwella ansawdd a chysondeb ymarfer. Datblygwyd prosesau ac arweiniad gwell ac mae adnoddau ychwanegol wedi'u hymrwymo i wella'r swyddogaeth Sicrhau Ansawdd a Gwella.

 

Dywedodd y Swyddog fod y Gwasanaeth yn cydnabod mai dim ond yn ddiweddar y cafodd y camau hyn eu gweithredu, gyda'r mwyafrif wedi dwyn ffrwyth ers i'r adroddiad ar yr arolygiad gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth, 2017 a’u bod yn dibynnu ar weithredu swyddogaeth yr Arweinwyr Ymarfer yn llwyddiannus. Bydd yn cymryd amser i gyflawni'r hyn a ddisgwylir ohono ond fe welir manteision gwneud hynny'n effeithiol mewn ymarfer o ansawdd da ar draws yr holl Wasanaethau Plant a Theuluoedd. Mae ffocws y gwaith yn y chwarter diwethaf wedi bod ar atgyfnerthu trefniadau recriwtio a chadw staff. Oherwydd y prinder cenedlaethol o Weithwyr Cymdeithasol profiadol, mae'r Gwasanaeth wedi gweithredu cynllun wrth gefn (cyllid wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith) sef recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol newydd (NQSW) i swyddi gwag ac i gyflogi gweithwyr cymdeithasol asiantaeth profiadol ychwanegol dros gyfnod o flwyddyn a all gefnogi’r gweithwyr cymdeithasol newydd drwy gydol eu blwyddyn gyntaf yn y Fframwaith Ymarfer. Mae gweithredu'r 21 o gamau gweithredu yn y Cynllun Gwella Gwasanaeth hefyd yn mynd rhagddo. Ar ôl 12 mis o weithio ar y CGG, mae'r gwasanaeth wedi datblygu system sgorio RAG i fesur cynnydd - mae'r tabl yn yr adroddiad yn dangos bod 6 maes wedi eu cwblhau (Gwyrdd), mae 10 maes bron wedi eu cwblhau (Melyn) a 5 o feysydd yn ymwneud â gwaith sy’n mynd rhagddo ar ymarfer Gwaith Cymdeithasol yn Ambr.  Nid oes unrhyw feysydd Coch lle nad oes unrhyw gynnydd wedi’i wneud. Bydd y meysydd Ambr yn cael blaenoriaeth yn ystod 2018.

 

Mae'r cynnydd dros y pedair blynedd diwethaf yn nifer y plant sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod wedi arwain at gost ariannol gyfatebol i’r Gwasanaethau Plant o ran staffio ac o ran trefnu a chyllido gofal maeth a / neu leoliadau preswyl. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y goblygiadau ariannol sydd ynghlwm â mwy o blant a phobl ifanc yn dod i mewn i'r system ofal a'r buddsoddiad ychwanegol a wnaed yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd dros y tair blynedd ers 2016 i gwrdd â'r pwysau cynyddol ar y gwasanaeth. Yn 2017/18, gwariodd y Gwasanaeth £ 1.78 miliwn o'i gyllideb oherwydd y cynnydd yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal lle gall lleoliadau unigol olygu cost sylweddol. Mae'r Gwasanaeth yn ceisio lleihau nifer y plant sy'n cyrraedd y cam hwn yn ogystal â chynyddu’r dewisiadau o leoliadau ar yr Ynys. Fodd bynnag, bydd hyn yn cymryd amser ac mae risg o hyd y bydd y Gwasanaeth yn gorwario eto yn 2018/19.

 

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol -

           Nododd y Pwyllgor fod y Cyngor wedi dyrannu adnoddau ychwanegol i’r Gwasanaethau Plant ers 2016. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch maint y buddsoddiad a’r defnydd a wnaed ohono.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod dros £803k o arian parhaol ychwanegol wedi ei ychwanegu at gyllideb y Gwasanaeth dros y tair blynedd gyda £240k pellach (cyllid 2 flynedd) ar gyfer tîm ymyrraeth gynnar. Ym mis Mai 2018, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith swm unwaith ac am byth o £ 268k i gyllido costau staff asiantaeth i lenwi’r swyddi gwag presennol, i gefnogi Gweithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso ac i ddelio ag achosion Etifeddiaeth lle nad oedd yr Awdurdod efallai wedi ymateb yn briodol i achosion hanesyddol. Defnyddiwyd yr arian ychwanegol hefyd i gwrdd â’r galw am leoliadau preswyl a all gostio hyd at £ 250k fesul person ifanc ar gyfer lleoliad arbenigol. Yn wyneb y ffaith bod gan yr Awdurdod 14 o bobl ifanc mewn lleoedd preswyl yn awr o gymharu ag 8 ddwy flynedd yn ôl, gallai'r cynnydd hwn arwain at gostau ychwanegol oddeutu £ 1.5 miliwn. Mae'r Gwasanaeth yn ceisio ymyrryd yn gynt er mwyn atal achosion rhag cynyddu i bwynt lle mai lleoliad preswyl yw'r unig opsiwn. Mae'r Gwasanaeth hefyd yn anelu at ddarparu gwell dewis o leoliadau yn lleol e.e. Cartrefi Grwpiau Bach er mwyn lleihau'r defnydd o leoliadau all-sirol sy'n rhoi baich gynyddol o ran teithio ar weithwyr cymdeithasol y plant ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyllideb y gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth yn dibynnu i raddau ar y lleoliadau sydd ar gael ar yr adeg y mae’r angen yn codi - tra bod trefniadau'n cael eu gwneud i ddod o hyd i leoliadau priodol ar gyfer y tymor hwy sy’n fwy addas i gwrdd ag anghenion yr unigolyn. Gall y lleoliadau hyn fod yn yr ardal leol ond fel arfer, maent ymhellach draw.

 

           Nododd y Pwyllgor y gall lleoliadau all-sirol fod yn arbennig o ddrud a gallent olygu fod y Gwasanaeth yn mynd dros ei gyllideb. O’r herwydd, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â'r ddarpariaeth sydd ar gael yn lleol ac a oes lle i gydweithio mwy ar sail ranbarthol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod 140 o blant a phobl ifanc yng ngofal yr Awdurdod ar Ynys Môn ar hyn o bryd. Mae rhai o’r rhain wedi eu lleoli gyda’u teuluoedd ar Ynys Môn yn bennaf ond maent, yn ffurfiol, yn parhau i fod yng ngofal yr Awdurdod. Mae gan yr Awdurdod 25 o'i ofalwyr maeth cofrestredig ei hun sy'n darparu ar gyfer gwahanol fathau o angen ac yn ogystal, mae'n gwneud defnydd o ofalwyr maeth y sector Annibynnol. Mae dau gwmni preifat yn darparu lleoliadau preswyl ar yr Ynys sy'n cael eu defnyddio'n bennaf gan bobl ifanc o Loegr. Mae lleoliadau therapiwtig ar gael yng Ngwynedd ond mae'r rhain yn fyrdymor ac ar gyfer anghenion gofal penodol sy'n gysylltiedig â thrawma. Mae’r dewis o leoliadau yn cael eu gyrru gan anghenion yr unigolyn ond yn gynyddol, mae'r Awdurdod yn herio cwmnïau ar ansawdd, gwerth ac addasrwydd y ddarpariaeth a gynigir er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a gafwyd yn cyd-fynd â’r hyn y talodd y gwasanaeth amdano. Dywedodd y Swyddog ei bod yn bwysig cofio, er bod nifer y plant yng ngofal yr Awdurdod wedi dyblu bron dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, nid yw'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi cynyddu i’r un graddau. Mae dyblu nifer y plant sy'n derbyn gofal hefyd wedi arwain at ddyblu’r angen am leoliadau sydd, yn ei dro, yn golygu bod angen i Weithwyr Cymdeithasol reoli’r cynnydd yn y baich achosion gyda hynny’n arwain at yr angen am fuddsoddiad ychwanegol. Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau eraill yn genedlaethol, gan gynnwys awdurdodau Gogledd Cymru, yn wynebu'r un heriau ag Ynys Môn o ran prinder lleoliadau; fodd bynnag, mae Ynys Môn yn arwain o ran datblygu opsiynau ar gyfer lleoliadau amgen.

 

           Nododd y Pwyllgor y cafwyd problemau gyda recriwtio a chadw staff Gwasanaethau Cymdeithasol Gwasanaethau Plant. Er mwyn ei helpu i ddeall yr effaith y mae ailwampio prosesau gan gynnwys gwella cefnogaeth, goruchwyliaeth ac arweiniad wedi ei gael ar recriwtio a chadw staff yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gofynnodd y Pwyllgor am yr wybodaeth ganlynol - nifer y swyddi gwag cyfredol, nifer y staff gwaith cymdeithasol plant sydd wedi gadael y gwasanaeth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; y gostyngiad yn nifer y gweithwyr cymdeithasol asiantaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf a'r nifer sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd gan y Gwasanaeth; a fu newid yn y duedd yn dilyn ail-werthuso swyddi Gweithwyr Cymdeithasol Plant fel rhan o'r broses Gwerthuso Swyddi ac a yw meincnodi yn erbyn awdurdodau eraill yn digwydd.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yna 7 o swyddi gwag ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Plant, gyda 4 ohonynt newydd eu llenwi a 3 ar ôl i'w llenwi. Cynhelir cyfweliadau pellach yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'r pedwar person a benodwyd yn Weithwyr Cymdeithasol sydd Newydd Gymhwyso a byddant yn derbyn cefnogaeth briodol. Fodd bynnag, yn ogystal â chanolbwyntio ar lenwi swyddi gwag, mae'r Gwasanaeth yn ceisio sicrhau bod y personau a bobl a benodir o'r ansawdd priodol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, er bod cyflog yn ystyriaeth bwysig wrth recriwtio, nid dyma'r unig un; ffactorau eraill sy'n hanfodol i recriwtio staff Gwaith Cymdeithasol yn llwyddiannus yw amgylchedd gwaith diogel a chadarnhaol; llwyth achosion y gellir eu rheoli ac argaeledd cefnogaeth a goruchwyliaeth briodol. Mae'r elfennau hyn bellach ar gael yn Ynys Môn ac mae'r broses recriwtio wedi gwella o ganlyniad.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a ddarparwyd a'r sicrwydd a dderbyniwyd, penderfynodd y Pwyllgor gadarnhau ei fod yn fodlon â'r camau a gymerwyd hyd yma i ddatblygu gweithrediad y Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant a chyflymder y cynnydd.

 

CAM GWEITHREDU YCHWANEGOL: Y Rheolwr Sgriwtini i ddod o hyd i, a chylchredeg gwybodaeth i Aelodau'r Pwyllgor mewn perthynas â nifer y staff gwaith cymdeithasol plant sydd wedi gadael y gwasanaeth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; y gostyngiad yn nifer y gweithwyr cymdeithasol asiantaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf a'r nifer sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd gan y Gwasanaeth, p'un a fu newid yn y duedd yn dilyn ail-werthuso swyddi gweithwyr Cymdeithasol Plant fel rhan o'r broses Gwerthuso Swyddi ac argaeledd data meincnodi yn erbyn awdurdodau eraill.

 

4.2 Cyflwynwyd adroddiad y Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn rhoi diweddariad ar waith y Panel er ystyriaeth y Pwyllgor.

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini ar waith y Panel am y cyfnod o fis Chwefror, i fis Ebrill, 2018 pryd rhoddwyd ystyriaeth i'r materion canlynol dros dri chyfarfod –

 

           Goruchwyliaeth barhaus o'r Cynllun Gwella Gwasanaeth er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i gael ei chyflawni yn unol â’r targed. Fel rhan o'i broses fonitro barhaus, fe wnaeth y Panel ddilyn i fyny bump o faterion penodol fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.

           Rhoddodd y Panel ystyriaeth fanwl i ddwy thema yn y Cynllun Gwella Gwasanaeth sef Thema 4 a Thema 5.

           Ymweliadau Laming

           Gweithio mewn partneriaeth

           Rheoli Perfformiad

           Sesiynau hyfforddi / codi ymwybyddiaeth

 

Tynnodd y Swyddog sylw at y ffaith bod y Panel yn ei gyfarfod diwethaf, wedi gwneud trefniadau i ymgymryd â hunan arfarniad o'i effeithiolrwydd ac yn arbennig yr effaith a gafodd y Panel ar y rhaglen wella yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a hefyd i alluogi aelodau'r Panel i neilltuo statws RAG i Thema 1.5 y CGG ar gyfer y Gwasanaethau Plant. Mae hyn yn ymwneud â’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn erbyn argymhellion yn adroddiad diweddar yr Arolygiaeth Gofal sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl yr Aelodau.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y Pwyllgor nodi -

 

           Y cynnydd a wnaed hyd yn hyn â gwaith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant

           Bod yr holl ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â'r Cynllun Gwella Gwasanaeth yn ymddangos fel petaent yn cydymffurfio â’r targed hyd yn hyn a bod Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) wedi cadarnhau hynny’n dilyn yr asesiad o hunan-arfarniad y Cyngor hyd yma.

           Y rhaglen ddatblygu barhaus ar gyfer Aelodau'r Panel gyda llawer o’r gwaith hwn yn cael ei ddarparu’n fewnol.

           Bod y Panel wedi uwchgyfeirio i sylw’r rhiant pwyllgor, y ffaith er bod cynnydd da wedi'i wneud ar weithredu'r strwythur staffio diwygiedig, bod rhai swyddi yn parhau i fod wedi eu llenwi gan weithwyr asiantaeth. Mae'r Pwyllgor hefyd yn nodi bod hyn yn cael sylw trwy ddatblygu ein Gweithwyr Cymdeithasol profiadol ein hunain drwy gefnogi Gweithwyr Cymorth profiadol i fod gymhwyso a thrwy recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol sydd Newydd Gymhwyso.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: