Eitem Rhaglen

Monitro Cynnydd - Panel Sgriwtini Cyllid

Cyflwyno adroddiad y Panel Sgriwtini Cyllid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Panel Sgriwtini Cyllid a oedd yn rhoi diweddariad ar waith y Panel er ystyriaeth y Pwyllgor.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, aelod o'r Panel, ar waith y Panel yn ystod y cyfnod o fis Mawrth i fis Ebrill, 2018 gan gyfeirio at y canlynol -

 

           Rhoddwyd ystyriaeth fanwl i Fonitro’r Gyllideb ar gyfer Chwarter 3 2017/18 gyda’r Panel yn mabwysiadu’r ymagwedd y byddai craffu ymateb y Pwyllgor Gwaith i fonitro'r gyllideb yn fwy defnyddiol o ran cefnogi’r Pwyllgor Gwaith i wneud penderfyniadau gwell.

           Pwysau ariannol 2017/18. Mae'r Panel yn parhau i graffu’r pwysau ariannol yn y Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaeth Dysgu fel blaenoriaeth allweddol. I'r perwyl hwn, comisiynwyd rhagor o wybodaeth gan y ddau Bennaeth Gwasanaeth i'w hystyried gan y Panel yn ei gyfarfod nesaf ar 28 Mehefin, 2018 .

           Proses gosod cyllideb flynyddol 2019/20. Mae adolygiad o raglen waith y Panel wedi bod yn gatalydd ar gyfer cytuno ar rôl y Panel yn y broses o osod cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

           Strategaeth Effeithlonrwydd y Cyngor. Mae'r Panel wedi rhoi ystyriaeth fanwl i berfformiad yn erbyn pob un o'r cynigion effeithlonrwydd a weithredwyd yn ystod 2017/18 er mwyn ffurfio barn ar y ganran a gyflawnwyd ac i nodi rhwystrau a risgiau ac unrhyw gwersi dilynol i’w dysgu wrth symud ymlaen.

 

Mae'r Panel wedi uwch-gyfeirio er sylw'r Pwyllgor, y pwysau presennol ar y gyllideb yn y Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaeth Dysgu.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd ac fe wnaeth y pwyntiau canlynol –

 

           Nododd y Pwyllgor o gasgliadau'r Panel bod diffyg o £ 399k yn y strategaeth effeithlonrwydd ar gyfer 2017/18 a oedd werth cyfanswm o £ 1.954k, a hynny’n gysylltiedig â'r 3 phrosiect a restrwyd yn yr adroddiad. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o'r rhesymau pam nad oedd y prosiectau arbedion hyn wedi cael eu cyflawni ar amser. 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y Panel wedi derbyn adroddiadau ar y mater. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid a chyn aelod o'r Panel ei fod yn hyderus y byddai'r Panel yn parhau i gadw golwg fanwl ar y cynnydd o ran gweithredu cynlluniau arbedion ac effeithlonrwydd.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod prosiect Garreglwyd wedi cymryd mwy o amser nag a ragwelwyd yn wreiddiol yn rhannol oherwydd yr oedi o ran cyflogi staff Iechyd i gefnogi'r prosiect ac yn rhannol oherwydd bod AGC wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl i dderbyn a chymeradwyo'r model gweithredu. Mae'r cyfleuster bellach ar agor ac yn derbyn nifer gynyddol o unigolion ac mae’r ail adain hefyd yn barod. Ariannwyd y rhan fwyaf o'r gwaith i ddatblygu'r ddwy adain i ddarparu llety ar gyfer unigolion â dementia trwy Gronfa Gofal Canolraddol Llywodraeth Cymru.

 

           Cyfeiriodd y Pwyllgor at y gwariant ychwanegol nad oedd wedi ei gynllunio a gafodd y Cyngor o ganlyniad i'r llifogydd ym mis Tachwedd, 2017. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch y cyfraniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau ac a oedd hyn yn ddarostyngedig i unrhyw amodau penodol. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) fod yr Awdurdod wedi gofyn am swm o £1.3m ac wedi derbyn oddeutu £ 500k a’r unig amod oedd y byddai’n rhaid gwario’r arian erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2017/18. Gwnaed gwaith yn yr ardaloedd hynny a effeithiwyd gan y llifogydd.

 

Nododd y Pwyllgor ymhellach y byddai'n ddefnyddiol iddo gael dadansoddiad o'r gwariant yn sgil y llifogydd o ran y swm a wariwyd, ym mhle, beth oedd cyfraniad y Cyngor a beth oedd cyfraniad Llywodraeth Cymru.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y gorwariant yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd mewn perthynas â Lleoliadau Preswyl yn effeithio'n sylweddol ar y Gwasanaeth Dysgu sy'n golygu bod y Gwasanaeth yn gwario arian ychwanegol ar ddarpariaeth addysg yr unigolion hynny sy’n cael eu lleoli. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch y gost o wneud y ddarpariaeth hon, yn enwedig os yw'r addysg a ddarperir yn annibynnol. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg y gall y costau fod oddeutu £80k fesul person ifanc gan ddibynnu ar yr achos unigol.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y Pwyllgor nodi –

 

                 Y cynnydd a wnaed hyd yn hyn â gwaith y Panel Sgriwtini Cyllid o ran cyflawni ei raglen waith a mesur effaith a gwerth ychwanegol.

           Ymddengys bod y prosesau hynny sy'n ymwneud â monitro cyllideb 2017/18 yn addas i'r pwrpas ac ar y trywydd iawn.

           Y rhaglen ddatblygu barhaus ar gyfer o ran craffu ariannol barhaus sy'n cael ei chyflwyno gan CIPFA Cymru.

           Bod y Panel wedi uwch-gyfeirio er ei sylw, ei bryder parhaus ynglŷn â phwysau cyllidebol yn y Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaeth Dysgu. Mae'r Pwyllgor yn nodi ymhellach fod y Panel yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n fanwl a bod ganddo drefniadau ar waith i sicrhau deialog reolaidd gyda'r Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Penaethiaid Gwasanaeth i roi esboniad o'r sefyllfa ariannol yn y ddau wasanaeth ac effaith y mesurau lliniaru sydd wedi cael eu sefydlu er mwyn rheoli’r gorwariant ac y bydd yn parhau i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor hwn ar ei ganfyddiadau wrth i'r sefyllfa esblygu.

 

CAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL: Y Pwyllgor i gael y wybodaeth ganlynol -

           Dadansoddiad o'r gwariant a gafwyd yn sgil y llifogydd ym mis Tachwedd, 2017 fesul ardal i gynnwys cyfraniad y Cyngor a'r cyfraniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru.

           Eglurhad o gost darparu addysg gan gynnwys darpariaeth annibynnol lle mae hynny'n angenrheidiol, ar gyfer plant / pobl ifanc mewn lleoliadau gofal preswyl.

Dogfennau ategol: