Eitem Rhaglen

Ceisiadau a fydd yn cael eu Gohirio

6.1 27C106E/FR/ECON – A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bŵer yng Nghemaes

 

6.2 39C285D – Lôn y Gamfa, Porthaethwy

 

6.3 41LPA1041/FR/TR/CC – Star Crossroads, Star

 

Cofnodion:

6.1 27C106E/FR/ECON – Cais llawn i wella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bŵer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli cilfan ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ar hyd yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio (Caniatadau Mawr) fod y Swyddog o’r farn bod angen i Aelodau’r Pwyllgor weld y cais a’i gyd-destun cyn ystyried y cais; yr argymhelliad felly yw y dylid ymweld â’r safle.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd. (Bu’r Cynghorydd Robin Williams atal ei bleidlais).

 

6.2 39C285D – Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio eu bod yn dal i ddisgwyl adroddiad yn dilyn achos diweddar o lifogydd; roedd hi’n deall bod cais am gyllid wedi’i wneud i Lywodraeth Cymru er mwyn gallu ymgymryd â gwaith ymchwil a modelu yn yr ardal er mwyn gall cael gwell dealltwriaeth o natur y llifogydd a’r mesurau lliniaru y gellir eu cymryd. Dywedodd y Swyddog fod y gwaith hwn yn debygol o gymryd rhai misoedd i’w gwblhau a’r argymhelliad yw y dylid gohirio’r cais ond hefyd y dylid tynnu’r eitem oddi ar agenda’r Pwyllgor yn y cyfamser.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd ac hefyd i dynnu’r eitem oddi ar yr agenda.

 

6.3 41LPA1041/FR/TR/CC – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Groesffordd Star, Star.

 

Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Amgylchedd Adeiledig a Naturiol fod y Pwyllgor yn ei gyfarfod blaenorol wedi gwrthod argymhelliad y Swyddog y dylid cynnal ymweliad safle ar y sail nad oedd wedi’i derbyn adroddiad llawn ar y cais. Dywedodd y Swyddog y derbyniwyd yr adroddiad asesu llifogydd ar 11 Mai a’i fod wedi bod yn destun ymgynghoriad a ddaeth i ben yr wythnos diwethaf. Cafwyd sylwadau gan Gyfoeth Naturiol Cymru'r wythnos diwethaf ac maent wedi eu hanfon ymlaen i’r ymgynghorwyr allanol sy’n paratoi’r adroddiad. Mae hwn eto i’w gwblhau’n derfynol a bydd y Prif Swyddog Cynllunio yn cyfarfod â’r ymgynghorwyr yr wythnos nesaf er mwyn trafod materion. Argymhellir felly y dylid ystyried gohirio ystyried y cais.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a hynny am y rhesymau a roddwyd.  

Dogfennau ategol: