Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 34LPA1015E/DIS/CC – Cyn Safle Hyfforddiant Môn, Llangefni

 

12.2 39C355B – Cyn Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

Cofnodion:

12.1 34LPA1015E/DIS/CC – Cais i ddileu amodau(02) (dŵr wyneb) a (03) (cynllun draenio) o ganiatâd cynllunio 34LPA1015B/CC yn yr hen safle Hyfforddiant Môn Training, Llangefni

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Adain Dechnegol (Draenio) y Cyngor yn ystyried y cynlluniau draenio a gyflwynwyd yn foddhaol ac fe gadarnhaodd Dŵr Cymru nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r amod gael ei ddileu. Mae argymhelliad y Swyddog felly’n un o gymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog.

 

12.2 39C355B – Cais ôl-weithredol i godi 8 o fflatiau ynghyd â maes parcio a gwaith cysylltiedig ar dir yn yr hen Ysgol Gynradd, Lôn Pentraeth, Porthaethwy.

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o’r cais wedi’i leoli ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Amlinellodd Mr Jamie Bradshaw (a oedd yn siarad o blaid y cais) ei fod yn ystyried bod y cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisïau cenedlaethol a lleol o ran ei fod ar safle tir llwyd sydd wedi’i leoli o fewn fin datblygu Porthaethwy. Y rhagdybiaeth mewn polisïau cenedlaethol a lleol yw bod y safle yn addas ar gyfer datblygu mewn egwyddor ac y dylid annog y defnydd ohono fel y nodir yn adroddiad y Swyddog. Mewn ymateb i bryderon y Swyddog o ran dwysedd y datblygiad a’i addasrwydd ar gyfer y lleoliad, mae’r cais yn bodloni polisïau lleol a chenedlaethol o ran defnyddio safleoedd fel hwn sydd mewn lleoliadau hawdd cael mynediad iddynt, sy’n agos at lwybrau trafnidiaeth, ar gyfer datblygiadau dwyster uchel. Byddai’r cais yn bodloni’r amcan hwn drwy wneud y defnydd gorau o’r tir er mwyn sicrhau dwyster uwch ond ei fod yn dal i fod yn ddatblygiad priodol ar gyfer y safle a’i leoliad gan felly leihau’r pwysau ar safleoedd tir llwyd er mwyn bodloni anghenion tai. Er bod yr adeilad arfaethedig yn dri llawr o uchder, mae’r lefelau tir a’r dyluniad gofalus yn golygu y byddai uchder yr adeilad yn adlewyrchu’r eiddo o’i gwmpas ac y bydd 2.5 metr yn is na’r annedd tri llawr sydd wedi’i ganiatáu i’r gogledd. Dywedodd Mr Bradshaw nad oedd yn meddwl bod y datblygiad yn rhy gywasgedig gan y byddai’r datblygiad ond yn cymryd 30% o ardal y safle a byddai digon o le o amgylch yr adeilad ac mae hynny’n cydymffurfio â phellteroedd gwahaniad y Cyngor ei hun sy’n caniatáu ar gyfer tirlunio. Mae’r pryderon fod gan yr adeilad nifer o ffenestri lefel uchel a gwydrau aneglur yn yr ystafelloedd gwely a’r ardaloedd byw, y mae’r Swyddog o’r farn sy’n creu golygfa ormesol ar gyfer y rhai a fydd yn byw yno yn y dyfodol, yn ddi-sail gan y bydd y rhain yn ystafelloedd eilradd megis ystafelloedd 'molchi ac ystafelloedd astudio.

 

Dywedodd Mr Brawdshaw fod y cais yn ddyluniad modern o safon uchel sy’n sicrhau bod gan y datblygiad edrychiad amrywiol a diddorol; y nod drwy gydol yr amser yw creu datblygiad o safon uchel a fyddai’n cyd-fynd â’r hyn sydd o’i gwmpas ac yn parchu amwynderau gweledol a phreswyl yr ardal.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod dau lythyr ychwanegol yn cynnig sylwadau ar y cais wedi eu derbyn; mae sylwadau hefyd wedi eu derbyn gan asiant yr ymgeisydd sy’n cadarnhau bod y gwaith o ledu’r fynedfa sydd wedi’i wneud fel y cyfeirir ato yn adroddiad y Swyddog ac sy’n gwneud rhan o’r cais hwn yn ôl-weithredol, yn waith iechyd a diogelwch nad yw’n gysylltiedig â thestun y cais hwn. Barn y Swyddog yw bod y datblygiad arfaethedig yn annerbyniol yn y lleoliad ac er yr addasiadau sydd wedi’u gwneud mewn ymgais i oresgyn y materion o bellteroedd gwahanu, edrych drosodd, trefniadau parcio ac amrywiadau i’r fynedfa, mae’r Adran Gynllunio yn parhau i fod yn bryderus am y cais ac mae o’r farn nad yw’n cyd-fynd â’r hyn sydd o’i gwmpas o ran graddfa, dyluniad a lleoliad. Mae’r argymhelliad felly’n un o wrthod.

 

O ganlyniad i’r pryderon a godwyd am y lleoliad, graddfa a pha mor agos ydyw i’r eiddo cyfagos, cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid ymweld â’r safle er mwyn i Aelodau allu cael gwell gwerthfawrogiad o’i leoliad. Eiliwyd y cais gan y Cynghorydd Eric Jones. Yn y bleidlais ddilynol, ni chafodd y cynnig am ymweliad safle ei gario.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams a ddywedodd ei fod wedi galw’r cais i mewn oherwydd pryderon y Cyngor Tref a thrigolion yr ardal leol.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.

 

Dogfennau ategol: