Eitem Rhaglen

Drafft o'r Datganiad o'r Cyfrifon 2017/18 a Drafft o'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn cynnwys y drafft o’r Datganiad Cyfrifon cyn ei archwilio ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 ynghyd â'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft ar gyfer 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gymeradwyo a chyhoeddi Datganiad Cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Cyn y gall Archwiliad Allanol ddechrau, mae'n rhaid i'r Swyddog Adran 151 lofnodi’r Datganiad o Gyfrifoldebau ar gyfer y Datganiad Cyfrifon cyn y dyddiad cau statudol, sef 30 Mehefin bob blwyddyn. Cwblhawyd y Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2017/18 mewn hen ddigon o amser cyn y dyddiad hwn fel paratoad ar gyfer cau’r cyfrifon yn gynharach yn 2018/19 pan fydd raid cwblhau’r cyfrifon drafft erbyn 15 Mehefin, 2019. O 2020/21 ymlaen, bydd y dyddiad cau cyfreithiol ar gyfer cwblhau a llofnodi'r Cyfrifon drafft yn cael ei ddwyn ymlaen eto i 31 Mai. Dywedodd y Swyddog nad yw strwythur a chynnwys y cyfrifon wedi newid yn sylweddol gyda'r adroddiad naratif rhagarweiniol, sy'n rhan allweddol o'r cyfrifon, ac sy’n darparu canllaw i'r materion mwyaf arwyddocaol yr adroddir arnynt yn y cyfrifon mewn ffordd hawdd ei deall ynghyd â gwybodaeth gyd-destunol am Gyngor Sir Ynys Môn. Mae ffurf y Datganiad wedi'i ragnodi gan reoliadau ac arferion cyfrifyddu ac mae'n cynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr, y Dadansoddiad o Wariant ac Incwm; y Datganiad ar Symudiadau yn y Cronfeydd Wrth Gefn, y Fantolen, y Datganiad Llif Arian a'r Nodiadau i'r Cyfrifon sy'n ymhelaethu mewn modd esboniadol ar y ffigurau yn y prif gyfrifon. Yn ogystal, ceir y Cyfrif Refeniw Tai a'r nodiadau cysylltiedig a'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2017/18.

 

Dygodd y Swyddog sylw at y canlynol fel y prif bwyntiau y dylid eu hystyried yn y Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2017/ 8:

 

           Er bod y Datganiad o Gyfrifon yn fod i roddi gwybodaeth glir i etholwyr, trethdalwyr lleol, aelodau'r Cyngor, gweithwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb yng nghyllid y Cyngor, mae'n ddogfen gymhleth a thechnegol sydd wedi'i gosod allan yn unol â'r Cod Ymarfer ar Gyfrifyddu Awdurdodau Lleol – mae cydymffurfio â gofynion y Cod wrth baratoi'r cyfrifon yn un o'r ffactorau y mae'r Archwilydd Allanol yn eu hasesu wrth gynnal archwiliad o'r cyfrifon.

           Bod paragraff 3.4 yr adroddiad naratif yn rhoi crynodeb o berfformiad ariannol y Cyngor am y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2018, gan gynnwys ei wariant refeniw a chyfalaf. Yn 2017/18, dywedodd y Cyngor fod gorwariant o £ 1.78m yn erbyn gweithgaredd a gynlluniwyd o £ 126.2m (cyllideb net) a chyflawnodd £ 1.704m o arbedion. Mae'r tabl ym mharagraff 3.4.1 yn adlewyrchu'r gyllideb derfynol ar gyfer 2017/18 a'r gwir incwm a gwariant yn ôl gwasanaeth. Roedd tanwariant ar y Gyllideb Gyfalaf yn ystod y flwyddyn gyda chyfanswm y gwariant yn £ 29.355m yn erbyn Cyllideb Gyfalaf o £ 52.672m. Gwnaed cynnydd cyson gyda’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y flwyddyn a bu modd cyflawni 55.73% ohoni. Disgwylir y bydd y cynlluniau sy'n weddill yn cael eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r wybodaeth a gyflwynir yn adran 3.4 yn unol â'r hyn a ddarperir mewn adroddiadau monitro ariannol a gyflwynwyd i Bwyllgor Gwaith y Cyngor ym mis Mai a Mehefin, 2018.

           Bod y Datganiad ar y Cyfrif Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) yn dangos y gost gyfrifyddol yn ystod y flwyddyn o ddarparu gwasanaethau yn unol ag arferion cyfrifo a dderbynnir yn gyffredinol yn hytrach na'r swm sydd i'w ariannu o’r trethi. Mae'r CIES ar gyfer 2017/18 yn dangos diffyg o £ 143.869m ar weithrediadau parhaus o gymharu â £ 122.889m yn 2016/17, ac roedd y prif amrywiad mewn gwariant net yn yr Adran Dysgu Gydol Oes a oedd £ 18m yn uwch nag yn 2016/17 ond a oedd yn cynnwys eitem gyfalaf nad oedd yn cael effaith ar y modd y caiff y Cyngor ariannu. Roedd y cyfanswm incwm a gwariant cynhwysfawr ar gyfer 2017/18 yn weddill o £ 21.764m o gymharu â diffyg o £ 9.242m yn 2016/17 ac roedd modd priodoli’r incwm ychwanegol i ailbrisio asedau anghyfredol (£43.058m) ac ail-fesur yr atebolrwydd pensiwn net (£ 7.413m). Mae'r rhain yn eitemau sydd wedi'u cynnwys yn y cyfrifon oherwydd gofynion cyfrifyddu ac nid oherwydd eu bod yn eitemau cael eu hariannu o drethi lleol.

           Bod y Dadansoddiad o Wariant a Chyllido ar gyfer 2017/18 yn dangos bod Balansau Cronfa'r Cyngor (cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio) a Balans y CRT ar adeg cau’r cyfrifon i lawr £ 27.856m o’r £ 31.345m yn 2016/17.

           Bod y Datganiad o Symudiad yn y Cronfeydd Wrth Gefn yn dangos symudiad yn ystod y flwyddyn i ac o'r cronfeydd wrth gefn a ddelir gan y Cyngor gyda’r rheiny wedi'u rhannu'n gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio (h.y. y rhai sy'n deillio o weithgaredd y Cyngor ac y gellir eu gwario) a chronfeydd wrth gefn eraill nad oes modd eu defnyddio (y rhai sy'n deillio o addasiadau cyfrifyddu ac nad oes modd eu gwario). Mae'r gwarged/(diffyg) ar y llinell darparu gwasanaethau yn adlewyrchu'r gwir gost economaidd o ddarparu gwasanaethau'r Awdurdod a cheir mwy o fanylion amdanynt yn y CIES. Mae'r Datganiad yn dangos bod gostyngiad o £2.003m yng Nghronfa Gyffredinol y Cyngor yn  2017/18, gyda hynny’n arwain at gronfa gyffredinol o £6. 352m a hynny’n bennaf oherwydd y gorwariant o £ 1.7m yn y Gyllideb Refeniw y cyfeiriwyd ato'n gynharach. Mae'r Gronfa Wrth Gefn Glustnodedig hefyd wedi gostwng o £13.357m i £ 11.910m yr un modd â’r Cyfrif Refeniw Tai (HRA) lle cafwyd gostyngiad o £139k sy'n gadael balans o £ 7.405m ar 31 Mawrth, 2018. Mae'r Gronfa Wrth Gefn ar gyfer Derbyniadau Cyfalaf wedi cynhyrchu gwarged o £ 320k tra bod Balansau Ysgolion wedi gostwng o £ 2.089m i £ 1.869m yn bennaf yn y sector cynradd, gyda balansau’r sector uwchradd wedi cynyddu rhyw fymryn. Cyfanswm cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy’r Cyngor ar 31 Mawrth oedd £ 27.856m tra bod cyfanswm y cronfeydd nad oes modd eu defnyddio yn £ 158.727m.

           Bod y Fantolen yn dangos gwerth yr asedau a'r rhwymedigaethau a gydnabyddwyd gan yr Awdurdod fel yr oeddynt ar ddyddiad y Fantolen, sef 31 Mawrth, 2018. Mae'r asedau net yn cyfateb â chronfeydd wrth gefn yr Awdurdod. Dengys y Fantolen bod gwerth asedau'r Cyngor wedi codi o £ 164.819m ar 31 Mawrth, 2017 i £ 186.583m ar 31 Mawrth, 2018 yn bennaf oherwydd cynnydd yng ngwerth eiddo, offer a chyfarpar y Cyngor (llinell 1 y Fantolen). Mae balansau arian parod a chyfwerth ag  arian parod y Cyngor wedi gostwng o £ 14.949m ar 31 Mawrth, 2017 i £ 7.789m ar 31 Mawrth, 2018. Fodd bynnag, ciplun yn unig a rydd y Fantolen o sefyllfa ariannol y Cyngor ar bwynt penodol mewn amser sy'n dangos gwerth ei asedau a'i rwymedigaethau ar 31 Mawrth, 2018. Nid yw'n rhoi adlewyrchiad cywir o sefyllfa ariannol y Cyngor.

                 Bod y Datganiad Llif Arian yn dangos y newidiadau mewn arian parod a chyfwerth ag arian parod y Cyngor yn ystod y cyfnod y mae wnelo’r adroddiad ag ef. Mae’r gostyngiad ym malansau arian parod y Cyngor yn gyson â’r Strategaeth Rheoli Trysorlys fel y'i cymeradwywyd gan y Cyngor, sef defnyddio’r balansau arian parod sydd ar gael i leihau'r gofynion benthyca gan fod cost benthyca yn uwch na'r enillion ar fuddsoddiadau.

           Bod y Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol craidd yn rhoi mwy o fanylion am bolisïau cyfrifo'r Cyngor, eitemau a'r ffigyrau a gynhwysir yn y prif ddatganiadau ariannol y cyfeirir atynt uchod. Maent yn egluro eitemau sydd wedi'u cynnwys yn y cyfrifon oherwydd rheolau cyfrifyddu yn ogystal â darparu gwybodaeth ychwanegol am eitemau megis incwm grant, cydnabyddiaeth ariannol i swyddogion, cynllun pensiwn llywodraeth leol ac asedau a rhwymedigaethau wrth gefn (incwm posibl y gall y Cyngor ei dderbyn a / neu gostau posibl a all ddod i’w ran).  Dygodd y Swyddog sylw at y nodiadau sy'n debygol y mae rhanddeiliaid y Cyngor yn debygol o fod â’r diddordeb mwyaf ynddynt wrth ddarllen y datganiadau.

           Y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2017/18 – ynddo, nodir y prosesau, y systemau, yr egwyddorion a'r gwerthoedd sy’n rhoi cyfeiriad i’r Awdurdod ac yn ei reoli. Mae'r Datganiad yn fodd i’r Awdurdod fonitro cyflawniad ei amcanion strategol ac i ystyried a yw'r amcanion hynny wedi arwain at ddarparu gwasanaethau priodol a chost-effeithiol.Mae hefyd yn nodi'r trefniadau a roddwyd ar waith i reoli a lliniaru'r risgiau y mae'n eu hwynebu wrth ymgymryd â'i weithgareddau a'i gyfrifoldebau.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfrifon a chododd y pwyntiau canlynol -

 

           Nododd y Pwyllgor fod y Cyfrifon drafft ar gyfer 2017/18 wedi cael eu paratoi mewn modd amserol ac ymhell o flaen y dyddiad cau statudol presennol sef 30 Mehefin.

           Nododd y Pwyllgor fod y naratif rhagarweiniol yn rhoi crynodeb teg a dealladwy o berfformiad ariannol y Cyngor a'r sefyllfa ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2018 a'i fod yn nodi'r digwyddiadau allweddol a'u heffaith ar y datganiadau ariannol.

           Nododd y Pwyllgor fod y Tabl yn 3.4.1 o'r adroddiad naratif yn dangos alldro terfynol y gyllideb ar gyfer pob gwasanaeth ar gyfer 2017/18. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad a yw'n bosibl olrhain y ffigurau yn Nhabl 3.4.1 i'r datganiadau ariannol.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod modd olrhain y ffigyrau trwy'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) yn ogystal â Nodyn esboniadol 1 (a) a Nodyn 11. Mae'r CIES yn ymgorffori eitemau sy'n cael eu cynnwys oherwydd gofynion cyfrifyddu e.e. atebolrwydd pensiwn a dibrisiant sydd wedyn yn cael eu tynnu allan ar gyfer y broses o osod y Dreth Gyngor oherwydd fel eitemau cyfrifyddu, nid ydynt yn effeithio ar y modd y caiff gwasanaethau'r Cyngor eu hariannu ac felly nid ydynt yn gostau gwirioneddol sy'n effeithio ar Gronfa Gyffredinol y Cyngor. Mae'r nodiadau esboniadol yn cyflawni’r dasg o gael gwared â'r addasiadau cyfrifo hyn ac yna ail-gynnwys yr eitemau sy'n cael eu hariannu drwy’r trethi, gyda hynny’n rhoi syniad cliriach o sefyllfa ariannol y Cyngor. Yr adroddiad naratif yw'r Cyfrifon Rheoli, h.y. ffigurau sy'n seiliedig ar weithgareddau'r Cyngor a chost gwasanaethau tra bod y datganiadau ariannol yn gyfrifon statudol sy'n cael eu paratoi ar ddiwyg penodol yn unol â rheoliadau ac sy'n cynnwys eitemau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r modd y mae'r Cyngor yn cael ei ariannu.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth sy'n dangos sut mae'r ffigurau yn nhabl 3.4.1 yn cael eu cysoni â'r datganiadau ariannol.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y Cyngor yn agosáu at isafswm y trothwy o ran arian wrth gefn a bod £ 1.78m wedi cael ei gymryd o'r Cronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol yn 2017/18 i ariannu'r gorwariant ar y Gyllideb Refeniw yn bennaf oherwydd gorwariant gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar leoliadau all-sirol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Nododd y Pwyllgor ymhellach fod yr adroddiad naratif yn cydnabod bod nifer gynyddol o blant yn derbyn gofal a bod pwysau eraill o ran gofal cymdeithasol yn risg sylweddol i falansau'r Cyngor oherwydd cost uchel lleoliadau (cymaint â £ 250k y flwyddyn fesul plentyn sy'n derbyn gofal) ar gyfer unigolion ag anghenion cymhleth. O ystyried y cyd-destun hwn felly a'r risg gydnabyddedig, gofynnodd y Pwyllgor am eglurad ynghylch a ddylai'r Cyngor wneud darpariaeth wrth gefn ar wahân at gyfer y tebygrwydd gwirioneddol iawn y bydd y pwysau hyn yn parhau a goblygiadau hynny i sefyllfa ariannol y Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y Cyngor yn y sefyllfa ffodus o fod â £ 8.3m yn ei gronfeydd wrth gefn cyffredinol ar ddechrau blwyddyn ariannol 2017/18. Mae’n rhaid i’r Swyddog Adran 151 lunio asesiad ynghylch y lefel ddarbodus o gronfeydd wrth gefn y dylai’r Cyngor ddal gafael arnynt ac mae’r asesiad hwnnw’n seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys sefyllfa a rheolaeth ariannol y Cyngor a'r risgiau y mae'n eu hwynebu. Ar gyfer 2017/18 daeth y Swyddog Adran 151 i’r canlyniad yn ei asesiad fod oddeutu £ 6m i £ 6.5m yn leiafswm digonol ar gyfer y cronfeydd wrth gefn. Er bod y gorwariant ar y Gronfa Refeniw wedi gostwng, roedd lefel y cronfeydd wrth gefn wedi gostwng ac erbyn hyn mae'n agosáu at y lleiafswm, ond nid yw hyn o reidrwydd yn golygu na fydd y Swyddog Adran 151 yn ystyried unrhyw ostyngiad pellach a gallai ganiatáu i'r cronfeydd wrth gefn fynd islaw'r trothwy ar yr amod ei fod yn fodlon bod cynllun yn ei le i adfer y balansau i’r lefel a ddeisyfir trwy wneud darpariaeth yn y gyllideb. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) fod y swm o £ 1.3m wedi'i gynnwys yng Nghynllun Ariannol Tymor Canol y Cyngor (MTFP) i dalu am gost ychwanegol y lleoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ynghyd â chost y ddarpariaeth addysg a ddaw yn sgil lleoliadau all-sirol. Mae'r Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn gweithio ar wahanol brosiectau mewn ymdrech i leihau'r costau. Mae diffyg darpariaeth yn lleol wrth wraidd y mater hwn, boed hynny oherwydd prinder gofalwyr maeth neu leoliadau preswyl arbenigol. Mae'r Gwasanaeth yn ceisio cynyddu nifer y gofalwyr maeth ar Ynys Môn a byddai hynny wedyn yn caniatáu i fwy o blant yr Awdurdod sy'n derbyn gofal aros mewn addysg prif lif ar yr Ynys gan leihau’r angen ac, yn sgil hynny, cost y ddarpariaeth all-sirol. Fodd bynnag, cydnabyddir na fyddai'r strategaeth o leihau cost gyfartalog y lleoliadau trwy gynyddu’r ddarpariaeth yn lleol yn ddigon i bontio'r cyfan o’r bwlch cyllidebol o £ 1.7m, felly mae'r MTFP yn caniatáu ar gyfer cynnydd yn y gyllideb hefyd. Mae gwerth y setliad i lywodraeth leol a blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru pan ddaw i ddyrannu cyllid hefyd yn ffactorau perthnasol. Mae'r Cyngor yn cynllunio ar sail y senario achos gwaethaf h.y. diffyg cyllidebol o £ 10m dros y 3 blynedd nesaf ond sy'n caniatáu cyllid ychwanegol ar gyfer y Gwasanaethau Plant.

 

Rhoddodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol esiampl o'r math o therapi arbenigol a’r ddarpariaeth y gall plentyn sy’n derbyn gofal ac sydd â chefndir helbulus fod ei angen ac y gall costau’r ddarpariaeth honno gynyddu'n gyflym. Fel gwasanaeth sy'n cael ei arwain gan y galw, dywedodd ei bod yn anodd ceisio rhagamcan y costau ar gyfer y gyllideb Plant sy'n Derbyn Gofal ac er bod yr Awdurdod yn ceisio datblygu atebion lleol i’r graddau y mae hynny’n bosibl, mae'r cynnydd cyson yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yn ffenomen genedlaethol ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar lefel genedlaethol.

 

             Nododd y Pwyllgor bod yr atebolrwydd net ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn £104.633m. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a yw hwn yn fater y dylai'r Cyngor fod yn pryderu amdano o ran gallu cyflawni ei rwymedigaethau a hefyd o ran yr effaith bosibl ar sefyllfa ariannol y Cyngor. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd fod hon yn risg y gall y Cyngor ei rheoli.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y diffyg ar y Cynllun Pensiwn yn hanesyddol gydag ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996 yn ffactor a gyfrannodd ato. Ar y pryd, caniatawyd i nifer fawr o weithwyr y cyngor ymddeol yn gynnar o ganlyniad i'r ailstrwythuro a chafodd rhai ohonynt eu diswyddo a bu i rai ohonynt yn ymddeol yn gynnar. Mae hyn yn rhoi straen ar gostau pensiwn, yr un modd â hirhoedledd wrth i unigolion fyw'n hirach wedi iddynt ymddeol, gan olygu eu bod yn cael budd-dal pensiwn am gyfnod hwy. Fodd bynnag, oherwydd y byddai eu cyfraniad pensiwn wedi bod yn is yn nyddiau cynnar eu cyflogaeth, mae'r diffyg yn y Gronfa yn adeiladu dros amser. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'r Cynllun Pensiwn wedi'i ailfodelu ac fe’i diwygiwyd yn 2008 ac eto yn 2014 pan ddaeth y cynllun yn gynllun Cyfartaledd Gyrfa yn hytrach na’n Gynllun Cyflog Terfynol. Dylai'r diwygiadau olygu nad yw'r diffyg yn tyfu. Hefyd, yn seiliedig ar y gwerthusiad a wnaed gan Actiwari'r Gronfa Bensiwn, mae'r Cyngor fel cyflogwr wedi bod yn gwneud cyfraniadau uwch i'r Gronfa, ac mae'n talu lwmp swm blynyddol fel cyfraniad at y diffyg. Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd yn ystyried bod y diffyg yn y Gronfa Bensiwn yn rhywbeth i bryderu yn ei gylch oherwydd bod y Cyngor yn gwneud cyfraniadau uwch i'r Gronfa i ostwng y diffyg, oherwydd bod y Gronfa Bensiwn wedi'i diwygio ac oherwydd bod y Cynllun yn un parhaus sy’n golygu na fydd ei rwymedigaethau yn digwydd i gyd ar yr un pryd.

 

           Nododd y Pwyllgor fod gan y Cyngor falans o £ 24.594m ar gyfer dyledwyr tymor byr ar 31 Mawrth 2018 a bod adolygiad o falans yr ôl-ddyledion yn awgrymu bod amhariad £ 5.377m yn briodol ar gyfer dyledion amheus sy’n gadael y Cyngor felly gyda balans dyledion tymor byr o tua £ 19m. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a yw'r dull hwn yn golygu bod y Cyngor yn hyderus y gall adennill yr arian sy'n ddyledus a hefyd a yw'r dull hwn yn briodol o ystyried bod y cyfrifon hefyd yn datgan y bydd unrhyw wahaniaethau rhwng y lefel amhariad a ddefnyddwyd a’r sefyllfa wirioneddol o ran ôl-ddyledion yn adlewyrchu patrymau gwario yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod ymagwedd y Cyngor yn cydymffurfio â'r Cod. Wrth ystyried dyledion, mae’r Cyngor yn rhoi sylw i’r mathau o ddyledion, eu gwerth, eu hoed ac, yn dilyn hynny, mae'n asesu faint o ddyled y mae'n debygol o allu ei adennill. Er bod y Cyngor yn effeithlon iawn yn y modd y mae’n casglu’r Dreth Gyngor a Threthi Annomestig gyda’r gyfradd gasglu tua 98% y flwyddyn ac oddeutu 99% dros gyfnod o 3 blynedd – ac yn dileu llai na 1% o'r ddyled ar y dreth gyngor bob blwyddyn - mae'n llai effeithlon wrth gasglu dyledion eraill. Gellir priodoli hyn i’r ffaith fod casglu’r Dreth Gyngor yn haws oherwydd y gweithdrefnau sydd ar gael gan gynnwys gweithdrefnau cyfreithiol, sy'n sail i'r broses o adennill dyledion. Mae'r ddarpariaeth amhariad yn cynrychioli'r senario waethaf ac mae'n bosibl iawn y bydd y Cyngor yn casglu mwy na'r swm a ddangosir fel amhariad.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y ffi Archwilio Allanol ar gyfer 2016/17 yn £ 88k a’i fod yn £ 182k ar gyfer 2017/18 £ 182k; gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o'r cynnydd hwn sy’n uwch na'r disgwyl.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y cynnydd yn y ffi archwilio i’w briodoli i'r gwaith a wnaed gan yr Archwilwyr Allanol ar hawliad y Grant Cymhorthdal Budd-dal Tai a’i fod yn amodol ar nifer y gwallau a ganfuwyd. Codwyd gormod ar yr Awdurdod hefyd yn ystod y broses o newid archwilwyr allanol a throsglwyddo o PwC i Delloite. Bydd ad-daliad yn ymddangos yng nghyfrifon y flwyddyn nesaf.

 

Cadarnhaodd Mr Gwilym Bury, Swyddfa Archwilio Cymru mai'r unig amrywiad yn y ffi Archwilio Allanol yw'r gwaith sy'n gysylltiedig â grantiau ac, yn benodol, y cais am Grant Cymhorthdal Budd-dal Tai sy'n eitem gymhleth a all olygu gwaith ychwanegol gyda hynny’n arwain at gostau ychwanegol.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu -

 

           Yn derbyn ac yn nodi'r Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer 2017/18 cyn iddo gael ei adolygu gan yr Archwilwyr Allanol.

           Yn derbyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2017/18 fel adlewyrchiad teg o weithrediadau'r Cyngor dros y flwyddyn.

 

CAM GWEITHREDU YCHWANEGOL: Y Pwyllgor i gael gwybodaeth am y modd y caiff ffigurau alldro'r Gyllideb ym mharagraff 3.4.1 yr adroddiad naratif eu cysoni â'r datganiadau ariannol.

 

Dogfennau ategol: