Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn)

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr a’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau).

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) yn cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ddiwygio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni yn ymwneud ag Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori statudol rhwng 1 Mai a 18 Mehefin, 2018.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant ar nodau ac amcanion y rhaglen moderneiddio ysgolion sy’n cynnwys gwerthuso dyfodol ysgolion a’r effeithiau ar randdeiliaid yn cynnwys plant, rhieni, staff ysgol a llywodraethwyr. Roedd yn cydnabod y gall hyn fod yn fater dadleuol ac yn dasg heriol i’r Awdurdod ac ei fod hefyd yn fater sy’n achosi pryder i rieni, sy’n ddealladwy. Fodd bynnag, yr hyn sy’n cael ei drafod yw dyfodol ysgolion dros yr 50 mlynedd nesaf o bosibl; gwasanaeth ysgolion sy’n gwegian o dan bwysau toriadau ariannol; ôl-groniad cynnal a chadw, gofynion y cwricwlwm ynghyd â nifer o faterion eraill. Rhaid i’r Cyngor roi ystyriaeth o ddifri i wneud y system ysgolion yn fwy effeithiol er mwyn creu amgylchedd lle gall disgyblion ac athrawon lwyddo a hefyd er mwyn ei wneud yn fwy effeithlon fel bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn effeithiol a bod ysgolion yn cael cyfran deg o’r gyllideb. Er mai Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig a’r materion sy’n effeithio arnynt sydd o dan sylw yn y cyfarfod hwn, mae’r materion hynny yn ffurfio rhan o ddarlun ehangach sy’n edrych ar yr Ynys yn ei chyfanrwydd a’r Gwasanaeth Addysg ynddi.

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith bod cyllideb y Gwasanaeth Addysg yn 40% o gyllideb gyffredinol y Cyngor a bod angen dod o hyd i arbedion o tua £5.2 miliwn yn y Gwasanaeth dros y 3 blynedd nesaf. Mae Addysg wedi cael ei warchod rhag y gwaethaf o’r toriadau ariannol yn y gorffennol ond does dim modd i’r sefyllfa honno barhau – mae ôl- groniad costau cynnal a chadw tua £16 miliwn. Mae’r pwysau ariannol a wynebir gan Ynys Môn a chynghorau eraill yn dod yn y pen draw o gyfeiriad Llywodraeth San Steffan a’r agenda o gynni parhaus. Mae’r Cyngor yn gweithredu ei raglen moderneiddio ysgolion er mwyn gwella canlyniadau addysgol i blant; er mwyn gwella safonau arweinyddiaeth ac addysgu a dysgu ac er mwyn sicrhau bod ysgolion sy’n arwain o fewn y sector ym mhob ardal. Mae’r gyrwyr ar gyfer newid yn parhau i fod yr un fath; mae’r rhain wedi eu nodi yn yr adroddiad ac mae nifer o’r gyrwyr hynny yn berthnasol i’r sefyllfa hon. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at rôl yr Aelod Etholedig yn y broses o foderneiddio ysgolion sy’n gosod dyletswydd arnynt i gynrychioli eu cymunedau unigol ond hefyd dyletswydd i ystyried yr Ynys yn ei chyfanrwydd h.y. y cyfrifoldebau corfforaethol ehangach sy’n ymestyn tu hwnt i un ardal benodol.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol at y prif themâu a’r materion a godwyd gan randdeiliaid yn y ddwy ysgol wrth iddynt ymateb i’r broses ymgynghori ac ymateb yr Awdurdod i’r materion hynny fel y nodwyd yn adran 9 yr adroddiad. Gellir crynhoi’r materion hynny fel a ganlyn -

 

  Er bod nifer o randdeiliaid o Ysgol Talwrn yn crybwyll y safonau addysg da yn yr ysgol, mae perfformiad Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig wedi amrywio dros y tair blynedd diwethaf yn y Cyfnod Sylfaen gydag Ysgol Talwrn yn y chwartel isaf yn amlach nac Ysgol y Graig. Tra bo perfformiad y ddwy ysgol yn CA2 yn debyg, yr hyn sy’n arwyddocaol yw niferoedd y disgyblion gyda chyfartaledd o 7 yn y cohort ar gyfer Ysgol Talwrn a chyfartaledd o 43 ar gyfer Ysgol y Graig.

  Mae’r ddwy ysgol wedi eu harchwilio gan Estyn yn ddiweddar gydag Ysgol Talwrn wedi ei hasesu fel Rhagorol yn erbyn un dangosydd, Da yn erbyn 12 a Digonol yn erbyn 2. Cafodd Ysgol y Graig ei hasesu fel bod yn Rhagorol yn erbyn 4 dangosydd a Da yn erbyn gweddill yr 11 dangosydd ac o ganlyniad rhoddwyd proffil arolygu cryfach i Ysgol y Graig o gymharu ag Ysgol Talwrn. Er bod y ddwy ysgol yn perfformio’n dda o ran y lefelau disgwyliedig, mae Ysgol y Graig yn llwyddiannus wrth gyflawni canrannau uchel ar gyfer lefel 5+ sy’n awgrymu ei bod yn ymestyn disgyblion yn llwyddiannus ac yn bodloni lefelau uwch na’r rhai ar gyfer Ynys Môn a Chymru.

  Mae cost y pen disgyblion Ysgol Talwrn ar gyfer 2017/18 yn £4,447 sydd yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru (£3,960) a’r cyfartaledd ym Môn (£3,972). Gellid dweud fod pob lle yn Ysgol Talwrn £475 yn ddrutach fesul disgybl a bod yr ysgol felly’n derbyn £22,325 yn ychwanegol. Mae’r gwariant fesul disgybl yn Ysgol y Graig yn £3,395 ac felly yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r cyfartaledd ar gyfer Ynys Môn. Yn ogystal, cost yr ôl-groniad cynnal a chadw yn achos Ysgol Talwrn yw £82.5k yn ogystal â £250k ar gyfer dosbarth symudol newydd yn seiliedig ar bris wedi’i roi gan brisiwr proffesiynol. Ar gyfer Ysgol y Graig, mae’r ôl-groniad cynnal a chadw yn £36.5k.

  Ym mis Medi, 2017 roedd gan Ysgol Talwrn 12% o lefydd gwag, mae hyn er gwaethaf y ffaith bod canran y disgyblion sy’n dod o du allan i’r dalgylch yn gymharol uchel ar 45% gan wneud sefyllfa’r llefydd gweigion yn fwy bregus. Yn Ysgol y Graig, roedd nifer y llefydd gwag yn 1% ym Medi 2017.

Mae rhai ymatebion gan Ysgol Talwrn yn cyfeirio at y Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig ac er ei fod yn nodi rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, nid yw’n nodi na ddylid cau ysgolion gwledig. Mae’r Cod yn ei gwneud hi’n glir bod blaenoriaeth i ddarparu addysg o safon uchel mewn ysgolion bach a gwledig ac fe gydnabyddir mai addysg yw’r brif ystyriaeth. Hefyd, nid yw Ysgol Talwrn wedi’i chynnwys ar restr ysgolion gwledig y cod drafft diwygiedig. Yn ogystal, nid yw’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ddogfen gyfreithiol ar hyn o bryd ond mae’r Awdurdod wedi ceisio mynd i’r afael â chynnwys y Cod yn ystod y broses ymgynghori hon.

  Gwnaed sylwadau am y sefyllfa draffig ger Ysgol y Graig ac y byddai cerdded i’r ysgol o bentref Talwrn yn beryglus. Codwyd y mater hefyd o blant bach yn gorfod teithio i Ysgol y Graig ar y bws. Petai’r cynllun arfaethedig yn cael ei gymeradwyo, bydd asesiad effaith traffig yn cael ei gynnal a bydd yn cynnwys y siwrnai cerdded i Ysgol y Graig. Yn ogystal, os gwireddir y cynllun, ni fydd y plant o reidrwydd yn teithio i’r ysgol ar y bws ac fe allent deithio mewn tacsi. Mae plant 4 i 11 oed eisoes yn teithio i’r ysgol ar fws mewn rhannau eraill o’r Ynys.

  Roedd yr effaith bosibl ar y gymuned yn dilyn cau Ysgol Talwrn yn bryder i nifer o randdeiliaid yr ysgol. Tra’n derbyn fod hyn yn her, does dim rhaid i gau ysgol arwain at ddirywiad cymuned - gall ysgol newydd arwain at greu cymuned ehangach ac mae enghreifftiau yn bodoli lle mae’r gymuned yn parhau i ffynnu mewn pentrefi lle mae’r ysgol wedi cau. Ymatebodd rhai gan nodi bod ysgolion llai yn well am greu ymdeimlad o deulu a’u bod yn cynnig gwell cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad - does dim tystiolaeth bod y naill beth na’r llall yn wir.

  Ni fyddai cau Ysgol Talwrn o reidrwydd yn arwain at gynnydd mewn allyriadau carbon fel sydd wedi’i honni. Dengys gwaith ymchwil na fyddai hyd yn oed y defnydd o 2 fws yn cael mwy o effaith gan fod 45% o ddisgyblion Talwrn eisoes yn teithio i’r ysgol o du allan i’r dalgylch.

  O ran yr effaith ar yr Iaith Gymraeg, mae cryfhau a diogelu’r Iaith Gymraeg yn flaenoriaeth ar gyfer yr Awdurdod. Bydd unrhyw gynllun am ysgol newydd yn destun i ofynion y polisi iaith ac mae’n ddisgwyliad gan yr Awdurdod bod ysgolion sy’n rhan o’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn parhau i fod yn ysgolion cymunedol Cymraeg. Ar hyn o bryd, 60% o ddisgyblion Ysgol Talwrn sy’n siarad Cymraeg o gymharu â 78% yn Ysgol y Graig sy’n golygu y gellid dadlau y byddai cau Ysgol Talwrn a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol y Graig yn cryfhau sefyllfa’r Gymraeg.

  Cafodd opsiynau eraill eu cyflwyno a’u hystyried. Mae’r rhain, ynghyd ag ymateb yr Awdurdod iddynt wedi eu rhestru yn adran 4 yr adroddiad.

  Byddai cynnal y ddwy ysgol yn golygu y byddai angen datrys yr ôl-groniad cynnal a chadw o £369k, gyda’r potensial am gostau pellach wrth i Ysgol Talwrn ddod i ddiwedd ei oes ddefnyddiol. Byddai adeiladu estyniad i Ysgol y Graig yn lle Ysgol Talwrn yn ddrutach ond byddai’r gost ychwanegol yn cael ei dalu’n rhannol drwy gynnydd yng nghyfraniad Llywodraeth Cymru a’r derbyniad cyfalaf o ganlyniad i werthu safle Ysgol Talwrn. Mae manylion gwerthusiad ariannol y ddau opsiwn (h.y. gwneud dim neu weithredu argymhelliad yr adroddiad) wedi eu nodi yn y tabl yn adran 10 o’r adroddiad.

  Am y rhesymau a nodwyd, y mae crynodeb ohonynt wedi’i ddarparu yn adran 12 o’r adroddiad, argymhellir y dylid cynyddi capasiti Ysgol y Graig drwy weithredu’r 3 cham a nodir yn yr adroddiad ac y dylid cau Ysgol Talwrn.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled M.Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, ar y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd 5 Gorffennaf, 2018 pryd ystyriwyd y mater hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Aled M.Jones, er na ddaeth y Pwyllgor i gonsensws ar wneud argymhelliad penodol i’r Pwyllgor Gwaith, nid oedd yn derbyn yr argymhelliad yn adroddiad y Swyddog ac yn fwy na hynny, gwnaeth y Pwyllgor argymhellion ar gyfer gwella’r broses adrodd o ran cadarnhau a darparu gwybodaeth ychwanegol.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Dylan Rees a Nicola Roberts fel Aelodau Lleol. Eglurodd y Cynghorydd Dylan Rees pam, yn ei farn ef, nad yw nifer o’r gyrwyr dros newid yn berthnasol i Ysgol Talwrn ac yn enwedig yr angen i leihau lleoedd gwag gan mai problem yn Llangefni yw diffyg lle. Dywedodd hefyd fod y cynnig yn groes i Gynllun Llesiant Gwynedd a Môn sy’n cyfeirio at yr angen i gynnal ysbryd cymunedol iach. Ni fydd hyn yn bosibl os bydd Ysgol Talwrn yn cau. Amlygodd y Cynghorydd Nicola Roberts y gwahaniaeth rhwng Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig o ran gwariant fesul disgybl sy’n enghraifft o’r sefyllfa anghyfartal ar draws Ynys Môn lle mae ysgolion cynradd mwy yn colli allan yn ariannol i ysgolion llai ac mewn rhai achosion ysgolion llai effeithiol. Mae Ysgrifennydd Cabinet Addysg Llywodraeth Cymru wedi dweud bod yn rhaid i gynigion moderneiddio ysgolion ddangos y gwerth tu ôl i bob cais. Pwysleisiodd bod yn rhaid i hyn bellach fod yn rhan o’r ateb cywir i’r rhan hon o Langefni a gofynnodd am sicrwydd mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer staffio, y corff llywodraethol, traffig a pharcio, darparu meithrinfa ac integreiddio gyda’r model dau floc.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a safbwyntiau’r Aelodau lleol gan ymateb fel â ganlyn –

 

  Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cytuno y dylid cefnogi’r weledigaeth ar gyfer darpariaeth addysg gynradd ar Ynys Môn y mae’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ei hymgorffori. Nododd y Pwyllgor Gwaith bod nod y rhaglen o geisio gwella ansawdd amodau dysgu ar gyfer disgyblion a staff, gwneud y system addysg yn decach ac yn fwy effeithiol a gwneud gwell defnydd o adnoddau yn bethau i’w canmol. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd fod nifer o ysgolion cynradd ar Ynys Môn, yn cynnwys Ysgol Talwrn, wedi eu lleoli mewn adeiladau hŷn sydd wedi dyddio ac nad ydynt yn gallu darparu’r amgylchedd dysgu ac addysgu a ddisgwylir gan ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod pryderon wedi cael eu codi am gynaliadwyedd cymunedau yn dilyn cau ysgol y pentref. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd na fyddai cau’r ysgol o reidrwydd yn arwain at ddirywiad cymuned e.e. Llanddeusant lle bu’r ysgol gau rhai blynyddoedd yn ôl.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod 45% (19) o ddisgyblion Ysgol Talwrn o’r tu allan i’r dalgylch sy’n gwneud y sefyllfa o rhan llefydd gwag hyd yn oed yn fwy bregus.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod materion parcio a thraffig yn achosi problemau o ran Ysgol y Graig. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd, petai’r cynllun arfaethedig yn cael ei gymeradwyo, y bydd asesiad effaith traffig a pharcio yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod trefniadau ar gyfer darpariaeth parcio a theithio yn Ysgol y Graig a’r cyffiniau ac yn ôl ac ymlaen o bentref Talwrn yn ddiogel a  digonol.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, petai’r cynigion yn cael eu cymeradwyo, y bydd asesiad effaith traffig yn cynnwys y sefyllfa draffig a pharcio ger Ysgol y Graig ynghyd â’r llwybr cerdded o Talwrn i Ysgol y Graig yn cael ei gynnal. Dywedodd y Swyddog hefyd y byddai angen i gorff llywodraethu’r Ysgol y Graig estynedig adlewyrchu’r gymuned.

 

O ran delio â materion staffio, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y bydd yr Awdurdod yn cael ei arwain gan y cyngor a ddarperir gan Adnoddau Dynol. Mae’r broses ar gyfer delio â materion staffio wedi’i nodi yn y ddogfen ymgynghori statudol.

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod diffyg capasiti yn broblem mewn perthynas ag ysgolion yn ardal Llangefni. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd fod y cynllun arfaethedig yn caniatáu ar gyfer cynnydd o ganlyniad i ddatblygiadau yn yr ardal.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) yn cyfeirio at ddatblygiadau tai yn ardal Llangefni rhwng 2011 a 2016. Mae nifer o’r tai hynny eisoes wedi eu hadeiladu. Cadarnhaodd y Swyddog fod y gwir ddatblygiadau a’r rhai sydd wedi’u cynllunio wedi eu hystyried wrth ragamcanu niferoedd disgyblion yn ardal Llangefni yn y dyfodol a bod hynny wedi’i wneud gan ddefnyddio fformiwla Llywodraeth Cymru.

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith bod gweithredu’r cynllun arfaethedig yn debygol o greu arbedion ariannol ac oherwydd yr amgylchiadau ariannol heriol y mae’r awdurdod yn ei gael ei hun ynddynt, mae ystyriaethau ariannol yn ffactor pwysig yn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach, o’r ffigyrau a nodir yn adran 10 o’r adroddiad , fod yr opsiwn Gwneud Dim, ar yr wyneb, yn ymddangos yn opsiwn gwell yn ariannol na’r opsiwn o ymestyn Ysgol y Graig a chau Ysgol Talwrn. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd y bydd y cynllun arfaethedig yn sicrhau arbedion.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod arbedion refeniw yn cael eu creu gan fod rhedeg un ysgol fwy yn llai costus o ran cynnal a chadw’r adeilad a chostau ynni, mae llai o gostau rheoli (un Pennaeth yn lle dau) a gellir gosod maint dosbarthiadau ar y lefel gywir gan leihau costau athrawon. Cafodd y ffigwr o £39,450 o arbedion ei gyfrifo gan ddefnyddio fformiwla a gytunwyd arno ar gyfer cyfrifo’r staff addysgu a dyraniad fesul disgybl yn seiliedig ar nifer presennol y disgyblion yn Ysgol y Graig a’r disgyblion o Ysgol Talwrn. Mae’r fformiwla hefyd yn dangos elfen o gyllid ar gyfer pob ysgol beth bynnag yw’r niferoedd disgyblion neu staff; mae Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn yn derbyn yr arian hwn ar hyn o bryd (tua £8,000), lle byddai ond yn cael ei roi unwaith yn achos yr Ysgol y Graig newydd estynedig. Bydd yr estyniad arfaethedig newydd yn golygu costau; mae’r amcangyfrif o gostau ar gyfer yr estyniad newydd o gymharu â chostau presennol ysgol Talwrn wedi eu hystyried yn yr arbedion arfaethedig o £39k. Mae costau cludiant (£28k) wedi eu hystyried ar sail dau fws yn rhedeg yn ddyddiol rhwng Talwrn ac Ysgol y Graig.

 

Ar yr ochr gyfalaf, dywedodd y Swyddog bod disgwyl i’r Awdurdod ariannu ei gyfran o’r costau cyfalaf ar gyfer y cynllun - 50% gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu’r 50% arall. Mae cyfraniad yr Awdurdod yn cynnwys benthyca a’r derbyniadau cyfalaf o werthu safle Ysgol Talwrn. Byddai’r elfen fenthyca yn cael ei hariannu dros gyfnod o 50 mlynedd ac yn cynnwys llog ar fenthyciad. Mae adeiladu estyniad i Ysgol y Graig yn lle Ysgol Talwrn yn ddrutach ond canlyniad hynny fydd adeilad addysgol newydd sbon - mae hyn yn cael ei osod yn erbyn y gost anhysbys o barhau i gynnal a chadw Ysgol Talwrn wrth i’r adeilad heneiddio, ar ben yr ôl-groniad o gostau cynnal a chadw sydd eisoes yn yr ysgol.

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod dwy ysgol ardal eisoes wedi eu hadeiladu, Ysgol Cybi yng Nghaergybi ac Ysgol Rhyd y Llan yn Llanfaethlu. Yn dilyn y gwrthwynebiad cychwynnol i’r cynlluniau hyn, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am gadarnhad o’r adborth o’r ddwy ysgol rŵan eu bod wedi agor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod sylwadau yn dilyn trafodaeth â 7 o’r plant oddi ar Gyngor Ysgol Rhyd y Llan yn cadarnhau fod y saith yn hapus yn yr ysgol am amrywiaeth o resymau o fod a mwy o ffrindiau i gymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol weithgareddau. Roedd chwech o’r saith plentyn yn teithio i’r ysgol ar y bws a heblaw am sylwadau am sŵn, roeddent yn fodlon â’r trefniant. Yn debyg iawn, ni chafwyd unrhyw ymatebion negyddol gan y rhai hynny a holwyd yn Ysgol Cybi gyda nifer yn nodi profiadau newydd fel nodwedd bositif o’r ysgol newydd.

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer moderneiddio ysgolion yn dod o Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain gyda disgwyl i randdeiliaid e.e. awdurdodau lleol, gyfrannu 50% o gostau’r prosiect maent yn ymgeisio amdanynt. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith a oedd y Swyddogion yn rhagweld amser yn y dyfodol lle na fyddai modd i’r Awdurdod gyfrannu ei gyfran o’r cyllid er mwyn gallu parhau â’r rhaglen moderneiddio ysgolion.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y cyfle i foderneiddio ac adnewyddu stoc ysgolion Ynys Môn drwy’r Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn gyfle rhy dda i’w fethu; rhaid i’r Awdurdod ddod o hyd i’r cyllid er mwyn cwblhau’r broses foderneiddio sydd, wrth ddarparu ysgolion newydd a/neu ailwampio ysgolion, yn disodli adeiladau sydd mewn nifer o amgylchiadau yn hen ac wedi dyddio, yn broses gwerth ei gwneud. Yn ogystal, mae’r broses foderneiddio yn lleihau nifer y lleoedd gwag gyda hynny hefyd yn lleihau costau. Petai moddr rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gynyddu ei gyfraniad i brosiectau o dan y rhaglen yna byddai hynny i’w groesawu; fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd cyfle o’r fath byth yn codi eto ac os nad yw’r Awdurdod yn cymryd mantais ohono, bydd yn rhaid iddo ddod o hyd i’r adnoddau ei hun er mwyn adeiladu ysgolion newydd yn y dyfodol.

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod sicrhau bod ysgolion yn darparu’r safon uchaf bosibl o addysg yn un o’r cyfrifoldebau pwysicaf sydd gan yr Awdurdod Lleol; mae ond yn rhesymol felly bod Awdurdodau Lleol yn cael cyllid digonol er mwyn gallu cyflawni’r cyfrifoldeb hwn. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd bod y pwysau ariannol y mae’r Awdurdod yn gorfod gweithio oddi tanynt yn arwain at yr angen i wneud penderfyniadau a dewisiadau anodd; mae’r pwysau hyn yn ganlyniad i’r cynni ariannol sy’n cael ei orfodi gan Lywodraeth San Steffan.

 

Bu’r Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid grynhoi drwy ddweud bod nifer o ysgolion cynradd yr Ynys wedi eu hadeiladu o gwmpas 150 mlynedd yn ôl mewn oes lle'r oedd cerdded i’r ysgol yn rhywbeth arferol; nid yw’r ysgolion hynny bellach yn bodloni anghenion yr unfed ganrif ar hugain ac nid ydynt bob amser yn y lle cywir. Rhaid i’r Awdurdod drefnu ei ysgolion yn unol ag amgylchiadau. Mae Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn darparu cyfle i roi cynllun moderneiddio ysgolion ar waith efallai na fyddai’r Awdurdod yn gallu ei weithredu fel arall. Dywedodd yr Aelod Portffolio y derbynnir ei bod yn anffodus bod yr ysgol yn cau ac yn rhywbeth anodd i’r gymuned a effeithir; fodd bynnag, pobl ac nid adeiladau sy’n cynnal cymunedau. Hefyd, mae dyletswydd ar y Pwyllgor Gwaith i ystyried buddion yr Ynys yn ei chyfanrwydd. Am y rhesymau hyn, cynigiodd yr Aelod Portffolio bod argymhelliad yr adroddiad yn cael ei dderbyn a bod Ysgol y Graig yn cael ei hymestyn er mwyn cynnwys disgyblion Ysgol Talwrn a bod Ysgol Talwrn yn cau.

 

Wrth gefnogi’r cynnig, pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith bod yn rhaid i’r bloc newydd yn Ysgol y Graig gael ei integreiddio gydag adeilad presennol Ysgol y Graig ac y dylai weithredu fel un ysgol.

 

Penderfynwyd cynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle i ddisgyblion Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn.

 

Bydd hyn yn cael ei wneud trwy:

 

  Ddefnyddio’r adeilad presesnnol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 sef blynyddoedd 3 i 6 a’i addasu;

  Codi ‘Bloc’ newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen sef y Blynyddoedd Meithrin, Derbyn, 1 a 2;

  Ystyried adleoli’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg o fewn campws Ysgol y Graig.

 

Byddai’r ‘bloc’ newydd yn parhau i fod yn rhan o Ysgol y Graig ac nid yn uned ar wahân.

 

Nododd Aelodau Etholedig y dylai’r trefniant newydd weithredu fel un ysgol ac nid fel dwy uned ar wahân.

Dogfennau ategol: