Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Drafft Blynyddol y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Adroddiad Blynyddol wedi ei graffu gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2018. Cymeradwyodd yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol/Cyfarwyddwr Statudol Gwasanethau Cymdeithasol mai dyma’r ail flwyddyn i’r Adroddiad Blynyddol gael ei gynhyrchu ar y fformat presennol a bennir gan y Cod Ymarfer ac sy’n seiliedig ar chwe Safon Ymarfer. Mae’r adroddiad wedi’i anelu at gynulleidfa amrywiol yn cynnwys aelodau etholedig, y cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, partneriaid ac Arolygiaeth Gofal Cymru ac mae’n ceisio hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am y perfformiad a’r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

Cynhaliodd y Gwasanaeth sesiwn Herio gwasanaeth a fynychwyd gan nifer ar 14 Mehefin, 2018 lle gwahoddwyd sefydliadau partner, sefydliadau trydydd sector, gofalwyr a darparwyr.

 

Dywedodd y Swyddog, gan gyfeirio at y Gwasanaethau Oedolion, bod cynnydd da wedi’i wneud yn 2017/18, yn enwedig wrth ail fodelu Garreglwyd yng Nghaergybi i ddarparu cymorth arbenigol i bobl hŷn â dementia sy'n galluogi’r rhai hynny sy’n dioddef o ddementia i aros yn agosach at eu teuluoedd a’u ffrindiau. Bydd Hafan Cefni, y cyfleuster gofal ychwanegol yn Llangefni yn agor yn hwyrach yn 2018 a bydd yn galluogi mwy o bobl i aros yn eu cymunedau wrth i’w anghenion gofal a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt gynyddu. Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth wedi tendro ar gyfer trefniadau Gofal cartref newydd a fydd yn gwella cysondeb a mynediad i’r gwasanaeth. Mae cydweithio rhwng y Gwasanethau Cymdeithasol a Phartneriaid hefyd wedi gwella yn ystod y flwyddyn, yn enwedig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid Trydydd Sector.

 

Gwnaed cynnydd sylweddol er mwyn gwella’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn ystod y flwyddyn fel sydd wedi’i gydnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei lythyr dyddiedig Ionawr, 2018. Er bod nifer o elfennau yn y Cynllun Gweithredu a Gwella Ôl Arolwg bellach yn eu lle, mae’r Gwasanaeth yn parhau ar daith o welliant a bydd yn cael ei archwilio gan AGC eto yn ddiweddarach yn 2018.

 

Ychwanegodd y Swyddog bod cymorth Gwasanaethau Cymdeithasol i bobl Ynys Môn hefyd yn gyfrifoldeb corfforaethol ac nad yw’n gyfyngedig i’r Gwasanaethau Plant ac Oedolion statudol. Mae’r Gwasanaeth wedi trefnu i holl staff y Cyngor dderbyn hyfforddiant Trais yn erbyn Merched, Camdriniaeth Ddomestig a Thrais Rhywiol sy’n rhywbeth gorfodol ym mhob Cyngor a sefydliad cyhoeddus arall; mae 75% wedi derbyn hyfforddiant ar y lefel gyntaf sy’n cymharu’n dda ag awdurdodau lleol eraill.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol i bawb a oedd wedi cyfrannu at berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn boed hynny drwy gydweithio neu drwy ddarparu cefnogaeth a her; mae’r rheini yn cynnwys partneriaid y Gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth; cymunedau ar Ynys Môn, staff Gwasanethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a hefyd yr Aelodau Etholedig sy’n gwasanaethu ar y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, y Pwyllgor Gwaith a’r Panel Plant a’r Bwrdd Trawsnewid Gwasanaethau Plant.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled M. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 5 Gorffennaf 2018 wedi craffu ar yr Adroddiad Blynyddol yn fanwl ac wedi penderfynu derbyn yr adroddiad a’i argymell i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith yr Adroddiad Blynyddol a gwnaed y sylwadau canlynol –

 

  Bod Gwasanaethau Cymdeithasol wedi trosglwyddo i System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) sy’n integreiddio gwybodaeth gofal cymdeithasol ac iechyd mewn system genedlaethol. Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y gwasanaeth wedi profi problemau cychwynnol â’r system sy’n cael eu datrys drwy gymorth allanol. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd fod staff y Gwasanaethau Cymdeithasol bellach yn hapus â’r defnydd o’r system a bod y system yn bodloni eu hanghenion nhw ac anghenion y gwasanaeth.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol fod y WCCIS yn helpu staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan gynnwys staff Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion i gydweithio er mwyn darparu gwell gofal yn seiliedig ar un system wybodaeth genedlaethol. Fodd bynnag, gellir addasu’r system ac mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn wedi cyflogi ymgynghorydd i weithredu addasiadau er mwyn sicrhau bod y system yn ymateb i anghenion y Gwasanaeth; mae’r broses hon wedi dechrau gyda’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a bydd yn dilyn gyda’r Gwasanaethau Oedolion.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant ac Oedolion fod y Gwasanaeth yn gweithio drwy'r amrywiaeth o wahanol ffrydiau gwaith yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn sefydlu sut y gellir gwneud y WCCIS yn addas ar gyfer pob elfen o’r gwasanaeth. Mae’r gwaith hwn wedi’i gwblhau mewn modd sy’n bodloni Teulu Môn ac mae gwaith bellach yn dechrau ar yr ail gam mewn perthynas ag Amddiffyn Plant a Gwasnaethau Plant sy’n Derbyn Gofal.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod y Gwasanaeth yn gweithio â’r Ymgynghorydd er mwyn sicrhau bod ffrydiau gwaith yn rhesymol er mwyn sicrhau bod y system yn galluogi’r gwasanaeth i gefnogi unigolion yn y gymuned ac i oruchwylio staff ac ar yr un pryd, yn ymwybodol o'r gwaith sydd angen ei wneud a hefyd ei bod yn hawdd cael mynediad i’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn cefnogi gofal pob unigolyn. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd â’r Ymgynghorydd a rhagwelir y bydd materion o fewn Gwasanaethau Oedolion wedi eu datrys tua chanol neu ddiwedd yr haf. Dywedodd y Swyddog fod y rhannau hynny o’r system a addaswyd er mwyn bodloni anghenion penodol y gwasanaeth, wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.

 

  Bod y Gwasnaethau Cymdeithasol ac yn enwedig y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn profi pwysau ariannol sylweddol a’u bod wedi gorwario yn 2017/18. O ganlyniad i’r heriau ariannol, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am gadarnhad am y modd y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn bwriadu sicrhau gwelliant parhaus.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gofynion deddfwriaethol a chyfreithiol mewn perthynas â phlant a theuluoedd wedi cynyddu fel y mae’r nifer o blant a phobl ifanc sydd angen gofal gan yr Awdurdod. Bydd eu hanghenion gofal yn cael eu bodloni mewn gwahanol ffyrdd e.e. lleoliadau gyda gofalwyr maeth, gyda ffrindiau a theulu ac weithiau am resymau penodol byddant yn cael eu lleoli’n all-sirol a all fod yn ddrud. Mae canran fach o bobl ifanc yn derbyn eu gofal mewn lleoliadau preswyl all-sirol ac mae’r rhain yn creu costau sylweddol. Tra bo’r gwasanaeth yn ceisio lleihau mewn modd diogel nifer y plant a’r bobl ifanc mewn gofal a leolir yn all-sirol, mae’r costau hyn yn bethau sydd y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod gan fod yn rhaid iddo fodloni anghenion y plant a’r bobl ifanc y mae’n gofalu amdanynt yn y ffordd fwyaf priodol. Mae’r Gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu strategaethau ataliaeth ac ymyrraeth gynnar e.e. Tîm Teuluoedd Gwydn er mwyn lleihau’r angen i blant ddod yn blant sy’n derbyn gofal a hefyd yn ceisio recriwtio gofalwyr maeth ychwanegol er mwyn i blant allu aros ar yr Ynys. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn ystyried sefydlu trefniant Cartrefi Grwpiau Bychan.

 

  Mae datblygu darpariaeth yn y gymuned yn ffactor pwysig er mwyn galluogi pobl i barhau i fod yn annibynnol am gyfnod hirach, gan felly leihau’r angen am ofal preswyl/gofal nyrsio. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am gadarnhad o ran y cynnydd a wnaed wrth ddatblygu hybiau cymunedol ar yr Ynys a’r gefnogaeth ariannol ar eu cyfer ynghyd â’r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau Gofal Ychwanegol yn Hafan Cefni a thu hwnt.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y ddarpariaeth gymunedol ynghyd â’r ddarpariaeth Gofal Ychwanegol yn galluogi pobl i aros yn eu cymunedau. Mae Hybiau Cymunedol yn rhoi i bobl hŷn a chyfle i aros yn actif o fewn eu cymunedau drwy gymryd rhan mewn, a chyfrannu tuag at weithgareddau cymunedol. Yr un modd, mae darpariaeth Gofal ychwanegol yn caniatáu i bobl aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain lle fel arall efallai y byddai’n rhaid iddynt fod wedi mynd i ofal preswyl neu ofal nyrsio. Mae’r Awdurdod o’r farn bod y rhain yn ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon o fodloni anghenion pobl hŷn. Mae’r Awdurdod wedi bod yn helpu Hybiau Cymunedol i gael mynediad i grantiau a hynny ar ffurf grantiau cyfalaf yn bennaf er mwyn addasu adeiladau; nid yw’r Awdurdod fel rheol yn rhoi cymorth grant tymor hir i Hybiau a’i fod yn hytrach, yn eu cynorthwyo i fod yn hunangynhaliol.Fodd bynnag, cafwyd achosion lle mae’r Cyngor wedi ymyrryd a lle mae hynny’n digwydd mae’n ceisio sicrhau ei fod yn gweithredu mewn modd cyson a theg. Disgwylir i gyfleuster Gofal Ychwanegol Hafan Cefni agor ganol mis Medi, 2018 ac mae 40 o’r fflatiau wedi eu clustnodi yn barod. Erbyn yr amser y bydd yn agor, rhagwelir y bydd y cyfleuster bron yn llawn gan gydnabod hefyd mai’r bobl a fydd yn cael eu lletya yn Hafan Cefni fydd y bobl y mae eu hanghenion yn cael eu bodloni orau drwy Ofal Ychwanegol. Mae’r cyfleuster Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol yn gysylltiedig â phenderfyniad am ddyfodol Ysgol Biwmares; gellir symud y cynllun yn ei flaen unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud. Mae’n fwriad ymestyn Gofal Ychwanegol ar draws yr Ynys gyda Gogledd yr Ynys yn cael ei ystyried nesaf.

 

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fel adlewyrchiad cywir o effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2017/18.


 

Dogfennau ategol: