Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Seiriol

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr a’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Gwella Partneriaethau, Cymunedau a Gwasanaethau).

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau Gwasanaethau) yn cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol ar foderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol (Ysgol Llandegfan, Ysgol Llangoed a Biwmares) ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. Cynhaliwyd y broses ymgynghori statudol rhwng 22 Mai a 2 Gorffennaf, 2018.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid y cyflwynwyd Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, sy’n golygu buddsoddiad cyfalaf tymor hir mewn ysgolion a cholegau, yn 2013. Mae'r rhaglen yn gyfle i greu ysgolion cynaliadwy o safon

 

uchel i blant yn awr ac am genedlaethau i ddod. Ni fydd cyllid o dan y rhaglen ar gael am byth. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y materion sy'n effeithio ar y tair ysgol dan ystyriaeth yn y cyfarfod hwn yn rhan o ddarlun mwy sy'n cwmpasu'r Ynys gyfan a'r Gwasanaeth Addysg.

 

Mae’r gyllideb Addysg yn ffurfio 40% o gyllideb gyffredinol y Cyngor; mae'r Gwasanaeth Addysg yn wynebu gorfod gwneud arbedion o hyd at £ 5.2m dros y 3 blynedd nesaf. Yn ychwanegol at hyn mae costau ôl-groniad cynnal a chadw £ 16m yn yr ysgolion. Yn hanesyddol, mae'r Awdurdod wedi ceisio amddiffyn y gwasanaeth Addysg rhag y toriadau yn y gyllideb - nid yw hyn yn bosibl mwyach. Yn y pen draw, gellir priodoli’r heriau ariannol sy'n wynebu’r awdurdod lleol hwn ac awdurdodau lleol eraill i’r mesurau llymder y mynnir arnynt gan Lywodraeth San Steffan sy'n arwain at lai o gyllid i Lywodraeth Cymru sydd, yn ei dro, yn effeithio ar gynghorau yng Nghymru oherwydd eu bod yn cael llai o arian o flwyddyn i flwyddyn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio nad yw cau ysgol yn benderfyniad y mae unrhyw un eisiau ei gymryd; fodd bynnag, mae'r gymuned addysg ar Ynys Môn, gan gynnwys nifer o benaethiaid a llywodraethwyr ysgolion, wedi dweud dro ar ôl tro nad yw gwneud dim yn opsiwn. Mae Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr Awdurdod yn ymwneud â gwerthuso dyfodol ysgolion a'r effeithiau ar randdeiliaid gan gynnwys plant, rhieni, staff yr ysgol a llywodraethwyr. Mae'n fater dadleuol ac yn dasg heriol i'r Awdurdod; mae hefyd yn fater sy'n peri pryder i rieni a chydnabyddir hyn. Fodd bynnag, yr hyn sy'n cael ei ystyried yw dyfodol ysgolion yr Ynys am y 50 mlynedd nesaf; gwasanaeth ysgolion sy'n gwegian dan bwysau toriadau ariannol; ôl-groniad o ran gwaith cynnal a chadw, gofynion y cwricwlwm yn ogystal â nifer o faterion eraill. Rhaid i'r Cyngor roi ystyriaeth ddifrifol i wneud y system ysgolion yn fwy effeithiol er mwyn creu amgylchedd lle gall y disgyblion a'r athrawon lwyddo, a hefyd i'w gwneud yn fwy effeithlon fel bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol a bod pob ysgol yn cael cyfran deg o'r gyllideb. Wrth weithredu'r rhaglen foderneiddio, mae'r Awdurdod hefyd yn ceisio gwella canlyniadau addysgol i blant; i wella safonau arweinyddiaeth ac ansawdd yr addysgu a'r dysgu a hefyd i sicrhau bod ysgolion arweiniol yn y sector ym mhob ardal. Mae'r gyrwyr newid yr un peth ag y buont ac maent wedi'u nodi yn yr adroddiad. Dywedodd yr Aelod Portffolio, pan ddaw i rôl Aelodau Etholedig yn y broses hon, bod ganddynt ddyletswydd i'w cymunedau unigol ond mae ganddynt hefyd ddyletswydd i ystyried beth sydd er lles gorau'r Ynys yn gyffredinol h.y. cymryd safbwynt corfforaethol sy'n mynd y tu draw i unrhyw ardal unigol. Diolchodd yr Aelod Portffolio i bawb a oedd wedi cymryd yr amser i ymateb i, ac i gymryd rhan yn y broses ymgynghori.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol at y themâu a'r materion a godwyd gan randdeiliaid wrth ymateb i'r broses ymgynghori ac ymateb yr Awdurdod i'r sylwadau a wnaed; mae'r rhain wedi'u nodi yn adran 10 yr adroddiad. Gellir crynhoi’r materion hynny ynghyd ag ystyriaethau allweddol eraill fel a ganlyn -

 

  Mewn perthynas â safonau, roedd rhywfaint o amrywiad mewn perfformiad ar draws y tair ysgol yn y Cyfnod Sylfaen dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae dwy ysgol (Ysgol Biwmares yn 2016 ac Ysgol Llangoed yn 2016) wedi bod yn y chwartel isaf ac mae dwy ysgol (Ysgol Biwmares yn 2017 ac Ysgol Llangoed yn 2017) wedi bod yn y chwartel uchaf. Yn seiliedig ar Dabl 1 yn Adran 10.3, gellid dadlau bod proffil canlyniadau Ysgol Llangoed ar gyfer y Cyfnod Sylfaen ychydig yn is na chyfartaledd y ddwy ysgol arall. Mae perfformiad y tair ysgol yn CA2 wedi amrywio dros y tair blynedd diwethaf ac yn gyffredinol, mae eu proffil perfformiad yn debyg (Tabl 2 yn adran 10.3).

  Mae'r tair ysgol wedi cael eu harolygu yn ystod 2014/15. Mae proffil arolygu Ysgol Llandegfan gyda graddau Da yn bennaf ac yn radd Digonol’ yn gryfach nag Ysgol Biwmares ac Ysgol Llangoed sydd â phroffiliau tebyg. Cafodd y ddwy ysgol hon eu hasesu fel Digonol yn erbyn y mwyafrif o’r dangosyddion arolygu. Mae'r Awdurdod yn awyddus i sicrhau bod canlyniadau arolygu yn dda. Dychwelodd Estyn ar ymweliadau monitro â Ysgol Biwmares ac Ysgol Llangoed ym Mawrth 2015 a Mehefin, 2016 yn y drefn honno. Barnwyd bod y ddwy ysgol wedi gwneud cynnydd da a chafodd y ddwy eu cymryd allan o gamau monitro gan Estyn.

  Mae gwariant fesul disgybl ar gyfer 2017/18 yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru (£ 3,690) yn Ysgol Biwmares (£ 5,976) ac Ysgol Llangoed (£ 4,077) tra'n llai yn Ysgol Llandegfan (£ 3,589). Mae'r tabl ym mharagraff 9 o adran 10.3 yr adroddiad yn dangos bod Ysgol Biwmares yn derbyn £ 80,160 yn fwy o arian na chyfartaledd yr Awdurdod ar gyfer 2017/18 - mae'r patrwm hwn wedi bodoli ers sawl blwyddyn. Y ffigwr cyfatebol ar gyfer Ysgol Llangoed yw £ 8,190. Mae'r un cyfrifiad yn dangos bod Ysgol Llandegfan wedi derbyn £ 58,982 llai o arian na chyfartaledd yr Awdurdod .

  Mae llawer o randdeiliaid yn Ysgol Llangoed yn cyfeirio at yr ysgol fel un sydd mewn cyflwr da gyda sgôp i'w hymestyn ymhellach. Cynhaliwyd arolygon cyflwr gan syrfewyr y Cyngor o ddiwedd 2015 hyd ddechrau 2016 ac mae'r adolygiad hwn yn rhoi syniad o gost yr ôl-groniad cynnal a chadw mewn ysgolion. Y costau ôl-groniad cynnal a chadw ar  gyfer Ysgol Biwmares yw £ 936k sy'n adlewyrchu ei chyflwr Gradd C (gwael gyda diffygion mawr) - mae cywirdeb y ffigur hwn wedi'i gwestiynu gan randdeiliaid. Yn achos Ysgol Llandegfan, mae cost y gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni yn £ 86,000 ac yn

£107,000 yn achos Ysgol Llangoed. Mae Syrfewyr Siartredig y Cyngor hefyd wedi cynnal asesiad cychwynnol sy'n dangos bod tir ar gael o gwmpas Ysgol Llangoed ar gyfer ymestyn yr adeilad ymhellach.

  Mae nifer fawr o randdeiliaid yn Ysgol Llangoed yn cyfeirio at y ffaith bod gan yr ysgol lai o leoedd gwag nag Ysgol Biwmares. Roedd canran y lleoedd dros ben yn y tair ysgol ym mis Ionawr, 2018 yn amrywio. Mae Ysgol Llandegfan gyda 154 o ddisgyblion yn orlawn tra bod gan Ysgol Llangoed 20% o leoedd dros ben ac mae gan Ysgol Biwmares 72% o leoedd dros ben gyda 34 o ddisgyblion yn mynychu ysgolion y tu allan i'r dalgylch a 17 yn dod i Ysgol Biwmares o ardaloedd eraill. Wrth eu grwpio, mae 32% (neu 123) o leoedd gwag yn ardal Seiriol.

  Mae angen sicrhau bod gan Benaethiaid, gyda chymorth dirprwy neu uwch dîm rheoli, o leiaf 50% o amser di-gyswllt i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chodi safonau, addysgu a dysgu a datblygiad proffesiynol parhaus y staff. Yn Ysgol Llandegfan, mae gan y Pennaeth 60% o amser di-gyswllt, yn Ysgol Llangoed mae gan y Pennaeth 40% o amser di-gyswllt ac yn Ysgol Biwmares, mae amser di-gyswllt y Pennaeth yn 30%.

  Gwnaeth nifer o randdeiliaid o Ysgol Llangoed sylwadau ar yr iaith Gymraeg ac yn arbennig yr effaith bosibl a gâi cau Ysgol Llangoed a symud plant o Ysgol Biwmares ar yr iaith. O safbwynt Siarter Iaith yr Awdurdod, mae Ysgol Llangoed ac Ysgol Biwmares wedi cyrraedd y safon arian. Mae canran y disgyblion sy'n siarad Cymraeg gartref yn 20% yn Ysgol Biwmares, 43% yn Ysgol Llandegfan a 46% yn Ysgol Llangoed.

  Mewn perthynas â’r gwariant ar danwydd, Ysgol Llangoed sy’n gwario leiaf o’r tair ysgol ac chanddi hi hefyd mae’r allyriadau carbon deuocsid isaf.

  Roedd nifer o ymatebwyr yn pryderu am yr effaith a gâi cau naill ai Ysgol Llangoed neu Ysgol Biwmares ar y gymuned. Er y gall fod yn heriol, mae yna enghreifftiau lle mae cymunedau'n parhau i ffynnu mewn pentrefi lle mae'r ysgol wedi cau; enghreifftiau lle mae ysgol newydd wedi creu cymuned ehangach a hefyd enghreifftiau o gymunedau ffyniannus lle nad oes ysgol, e.e. Penmynydd.

  Amlygodd nifer o randdeiliaid o Ysgol Biwmares bwysigrwydd y ddarpariaeth cyn-ysgol bresennol h.y. Little Puffins ac roeddent yn poeni y byddai’r ddarpariaeth hon yn dod i ben pe bai'r ysgol yn cau. Mae'r Awdurdod yn cydnabod pwysigrwydd y ddarpariaeth hon, a chyda datblygiadau o'r fath, mae cyfleusterau cyn-ysgol bob amser yn cael eu hystyried fel rhan o'r strategaeth addysg yn yr ardal. Yn y gorffennol, sefydlwyd Grŵp Rhanddeiliaid wedi i’r Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniad a fyddai'n helpu i benderfynu ar ddyfodol unrhyw ddarpariaeth gyfredol.

  Roedd ymatebwyr o Ysgol Biwmares yn pryderu y byddai cau'r ysgol yn arwain at fwy o anghydbwysedd demograffig oherwydd byddai teuluoedd ifanc yn cael eu hannog i beidio â symud i'r dref; teimlwyd y bydd hyn ynghyd â’r diffyg o dai cymdeithasol yn cryfhau’r argraff mai tref i bobl sydd wedi ymddeol yw Biwmares. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod cael digon o dai fforddiadwy i drigolion Ynys Môn yn un o'i flaenoriaethau ac mae'n awyddus i ddechrau gweithio ar raglen i adeiladu tai cyngor newydd ac mae eisiau clywed gan adeiladwyr, datblygwyr a thirfeddianwyr a fydd yn gweithio gyda'r Cyngor i adeiladu mwy o dai mewn 10 ardal ar yr Ynys; un o'r ardaloedd hyn yw Biwmares.

  Roedd ymatebwyr o Ysgol Biwmares hefyd yn siomedig nad oedd opsiwn ar gyfer ysgol newydd sbon ar gyfer yr ardal nac opsiwn ychwaith i gadw a buddsoddi yn y tair ysgol ac yn ystyried bod ardal Seiriol yn cael triniaeth llai ffafriol nag ardaloedd eraill o'r Ynys lle gweithredwyd y rhaglen foderneiddio. Mae'r opsiwn o ysgol gynradd newydd i ddisodli'r tair ysgol yn Seiriol wedi cael ei ystyried ond nid ystyriwyd bod hwnnw’n ateb priodol i'r ardal gyda diffyg tir addas yn ffactor. Nid yw cadw'r tair ysgol yn opsiwn ymarferol o ystyried yr heriau ariannol y mae'r Awdurdod yn eu hwynebu. Pa un bynnag o'r ddau opsiwn yn yr adroddiad sy'n cael ei gymeradwyo, mae adnewyddu'r ddwy ysgol arall yn golygu buddsoddiad sylweddol er mwyn dod â'r ddau adeilad i fyny i safon ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

  Cafodd yr opsiynau amgen a gyflwynwyd gan Bwyllgor Ymateb Ysgol Biwmares eu hystyried, eu gwerthuso a'u sgorio gan yr Awdurdod; mae canlyniad y broses hon wedi'i nodi yn adran 10.5 yr adroddiad.

  Mae'r gwaith a wnaed a'r dystiolaeth a gynhyrchwyd yn sgil hynny, yn arwain at y casgliad bod angen i Ysgol Llandegfan oherwydd nifer y disgyblion, perfformiad cyfredol, cost y pen ac ôl-groniad cynnal a chadw fod yn rhan ganolog o unrhyw drefniant newydd. Mae maint yr ysgolion, ôl-groniad cynnal a chadw, cost y pen a chanran y lleoedd gweigion yn golygu nad yw'n bosibl cyfiawnhau cadw Ysgol Biwmares ac Ysgol Llangoed ar agor. Felly, cyflwynir dau opsiwn - adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llangoed, neu adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Llangoed ac adnewyddu Ysgol Biwmares.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled M. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, ar gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf, 2018 a roes sylw i’r mater hwn.  Dywedodd y Cynghorydd Aled M. Jones fod y Pwyllgor Sgriwtini wedi clywed sylwadau ar ran Ysgol Llangoed ac Ysgol Biwmares. Hefyd, clywodd y Pwyllgor fod Aelod Seneddol yr Ynys wedi cyflwyno llythyr yn annog yr Awdurdod i gadw'r tair ysgol ar agor nes y gellir dod o hyd i safle ar gyfer ysgol newydd ar gyfer yr ardal yn unol â'r math o fuddsoddiad a wnaed mewn rhannau eraill o'r Ynys lle mae'r ddarpariaeth addysg gynradd wedi'i moderneiddio.

 

Cyflwynwyd tri opsiwn i'r Pwyllgor Sgriwtini - y ddau opsiwn yn adroddiad y Swyddog fel y cyfeiriwyd atynt uchod a thrydydd opsiwn, sef cynnig a gyflwynwyd yn y cyfarfod gan aelod o'r Pwyllgor y dylid cadw'r tair ysgol nes bod ysgol ardal newydd wedi'i hadeiladu. Oherwydd nad oedd y pwyllgor wedi pleidleisio ar unrhyw opsiwn a gafodd gefnogaeth fwyafrifol, ni wnaed unrhyw argymhelliad.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Carwyn Jones ac Alun Roberts fel Aelodau Lleol.

 

Roedd y Cynghorydd Lewis Davies o'r farn nad oedd yr Asesiad Effaith Cymunedol wedi rhoi sylw digonol i'r effaith y mae cau ysgol yn ei gael ar gymuned yn nhermau demograffeg a di-boblogi; teimlai fod Seiriol, fel ardal, yn disgyn y tu ôl i rannau eraill o Ynys Môn o ran buddsoddiad ac adfywiad gyda'r Cyngor yn troi ei gefn ar yr ardal trwy gau a / neu drosglwyddo cyfrifoldeb am gyfleusterau presennol heb gynnig unrhyw beth yn eu lle, h.y. ysgol newydd.

 

Soniodd y Cynghorydd Carwyn Jones am ei siom na fyddai ateb arloesol a fyddai'n gweld cydleoli ysgol gynradd gyda'r cyfleuster Gofal Ychwanegol ym Miwmares yr oedd wedi treulio llawer iawn o amser yn ei ddatblygu, wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Corfforaethol. Gallai fod wedi bod yn opsiwn y medrai’r Pwyllgor ei gefnogi. Dywedodd fod y rhaglen foderneiddio yn beth da ac y byddai pawb eisiau gweld gwell safonau addysg a darpariaeth o'r radd flaenaf mewn ysgolion hyfyw a fyddai’n para am y 50 mlynedd nesaf. Mae'r persbectif lleol hefyd yn glir ac am weld y broses foderneiddio yn cael ei hymestyn i'r tair ysgol bresennol yn ardal Seiriol a fyddai'n gwneud i fyny am gau Ysgol Llanddona pan na fyddai unrhyw fuddsoddiad arall ar gael. Yn seiliedig ar berfformiad presennol, gallai Ysgol Llangoed ac Ysgol Biwmares fod yn ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer pynciau STEM. Byddai adeiladu ysgol lai gyda phedair ystafell ddosbarth ar safle Ysgol Biwmares ar gost o oddeutu £ 744k (yn seiliedig ar farn broffesiynol) yn arian mân o'i gymharu â rhai cynlluniau moderneiddio. Byddai rhannu cyfleusterau gyda'r ddarpariaeth Gofal Ychwanegol yn arwain at lai o orbenion a llai o gostau fesul disgybl a byddai’r cysylltiad agos rhwng y plant a'r bobl hŷn o fudd i’r naill a’r llall. Byddai'n fodd i ddal gafael ar gapasiti addysg yng nghornel de ddwyrain yr Ynys yn barod ar gyfer y cynnydd posibl yn y boblogaeth yn sgîl yr holl brosiectau sydd yn yr arfaeth neu wrthi’n cael eu datblygu ar yr Ynys a'r ardal gyfagos â Wylfa Newydd, Prosiect y Grid Cenedlaethol a Bluestone i enwi ond ychydig.

 

Roedd y Cynghorydd Alun Roberts o'r farn bod yr ymgynghoriad ar foderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol a oedd wedi arwain at y casgliadau a'r argymhelliad y dylai naill ai Ysgol Llangoed neu Ysgol Biwmares gau yn arwydd o ddiffyg gweledigaeth; nid yw’n seiliedig ar sylfeini addysg cadarn ac nid yw'n caniatáu ar gyfer darpariaeth addysgol o werth a safon sy'n cwrdd ag anghenion pob plentyn a phreswylydd yn Seiriol i'r dyfodol. Roedd yn credu ei fod yn ddatrysiad cyflym i broblem sy’n llawr ehangach. Mae angen buddsoddi yn Ysgol Llandegfan ac Ysgol Llangoed sy'n gadael Ysgol Biwmares - sef y broblem go iawn. Dywedodd y Cynghorydd Roberts mai'r ateb a ffefrir yn lleol yw sefydlu ysgol lai ar safle presennol Ysgol Biwmares presennol a'i hintegreiddio gyda'r cyfleuster Gofal Ychwanegol. Mae hwn yn opsiwn arloesol o safbwynt economaidd, addysgol a chymdeithasol a allai hefyd fod yn gymwys ar gyfer cyllid allanol. Fel yr ysgol fwyaf poblog, Ysgol Llandegfan fyddai mam-ysgol yr ardal gydag ysgolion ategol yn Llangoed a Biwmares yn cael eu gwasanaethu gan un Pennaeth. Pwysleisiodd y Cynghorydd Alun Roberts nad yw cau Ysgol Llangoed neu Ysgol Biwmares yn sicrhau dyfodol y llall - yn lle hynny gallai cau un ysgol beryglu’r llall wrth i rieni dewis anfon eu plant i'r ysgolion mewn man arall. Gallai'r cynigion fel y’u cyflwynir beryglu dyfodol yr ysgolion hyn yn y pen draw.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol mai'r prif sbardun ar gyfer moderneiddio ysgolion yn anad dim arall oedd codi safonau addysgol gyda'r nod o wneud Ynys Môn yn un o'r pum awdurdod lleol gorau yng Nghymru o ran addysg. Wrth lunio ei gynigion, roedd yr Awdurdod wedi ystyried y Côd Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig er nad yw'r Côd ar hyn o bryd yn ymrwymo'n gyfreithiol. Yn ogystal, roedd Estyn o’r farn bod Asesiad Effaith yr Awdurdod yn briodol. Dywedodd y Swyddog nad yw'n bosib darogan cynnydd mewn poblogaeth neu symudiadau i mewn ac allan o ardal yn gwbl gywir, ond yn seiliedig ar ddogfennau a thrafodaethau gyda Horizon sy'n rhagweld y bydd y mwyafrif o weithwyr sy'n gysylltiedig â phrosiect Wylfa Newydd yn byw mewn ardaloedd yn ac o gwmpas y safle datblygu, mae’n bosib y bydd y cyfnod adeiladu 10 mlynedd a mwy yn dod â 230 o deuluoedd ychwanegol i’r Ynys. Fodd bynnag, byddai'n rhaid bod yna nifer fawr iawn o blant ychwanegol i ddod ag Ysgol Biwmares i lawn gapasiti. O safbwynt gohebiaeth, er nad yw llythyrau unigol yr ymatebwyr wedi eu hatgynhyrchu'n llawn yn yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad, maent i gyd wedi cael eu hystyried a'u sylwedd wedi ei gyfleu yng nghorff yr adroddiad. Hefyd, mae pob opsiwn amgen a gyflwynwyd wedi'i ystyried a'i werthuso, ac er bod integreiddio cyfleuster ysgol a Gofal Ychwanegol ar safle presennol Ysgol Biwmares yn opsiwn deniadol (Opsiwn D yn yr adroddiad), nid yw'n goresgyn llawer o'r materion a nodwyd gan y gyrwyr ar gyfer newid. Er enghraifft, byddai'r ysgol hon yn parhau i fod yn ysgol fechan (ysgol â llai na 150 o ddisgyblion) yn ôl safonau Estyn gan arwain yn ôl pob tebyg felly at gostau fesul disgybl a fyddai’n uwch na chyfartaledd Ynys Môn a Chymru, a hynny felly’n cynnal yr anghydraddoldeb presennol o ran gwariant ar draws ysgolion yr Ynys; byddai ganddi ddosbarthiadau oedran cymysg gan ei gwneud hi'n anoddach i godi safonau; ni fyddai gan Bennaeth ddigon o amser di-gyswllt a byddai maint yr ysgol yn ei gwneud hi’n anodd i sefydlu Tîm Arweinyddiaeth. Pe bai wedi'i ffederaleiddio, byddai'n rhaid i'r ysgol gael rheolwr safle o hyd. Mae goblygiadau diogelu hefyd i gyfleusterau a rennir. Byddai'r opsiwn yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad cynnal a chadw ond byddai angen ystyried materion parcio a thraffig yn ogystal â lleoedd gweigion oherwydd nid yw'r opsiwn yn datrys y problemau hynny o ran yr ardal yn gyffredinol. O safbwynt pynciau STEM, mae adolygiad Donaldson o'r Cwricwlwm yng Nghymru yn disgwyl i bob ysgol ddatblygu'r pynciau hyn fel meysydd dysgu. O ran y risg i ddyfodol un ysgol trwy gau'r llall, dywedodd y Swyddog na all yr Awdurdod ragweld pa ysgol y bydd rhieni yn hanfon eu plant iddynt, p’un a yw hynny y tu mewn neu'r tu allan i'r ardal oherwydd mae hynny’n fater o ddewis rhieni.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol bod nifer o randdeiliaid o Ysgol Biwmares wedi cwestiynu’r costau o ran yr ôl-groniad cynnal a nodwyd ar gyfer yr ysgol, yn enwedig swm ychwanegol o £ 310k ar gyfer gwaith posibl. Dywedodd y Swyddog fod gwresogi yn yr ysgol wedi bod yn broblem ers sawl blwyddyn gan olygu y bydd angen boeler newydd rhywbryd; mae angen trwsio ac / neu adnewyddu’r lloriau, y gegin, y ffenestri, y goleuadau a'r neuadd a bod hynny, oherwydd bod yr ysgol yn adeilad rhestredig, yn debygol o arwain at gostau ychwanegol. Dyma'r gwaith sy'n arwain at y costau ychwanegol o £ 310k. Waeth am y rhain, byddai'r ôl-groniad cynnal a chadw ar gyfer Ysgol Biwmares ar £ 661k yn dal i fod yn sylweddol uwch na’r costau ar gyfer nifer o ysgolion eraill ar Ynys Môn.

 

Gan ymateb i bapur a ddosbarthwyd yn union cyn y cyfarfod a oedd yn manylu ar effaith dileu'r costau cynnal a chadw ychwanegol o £ 310k o'r ffigurau, dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ei fod wedi adolygu'r cyfrifiadau gyda'r canlyniad y byddai tynnu’r £ 310k o'r hafaliad yn lleihau'r costau ariannu cyfalaf gan

£10,639k. Mae'r opsiwn hwn, er ei fod yn dod â’r costau i lawr, yn parhau i gynnwys cost ychwanegol o £ 9,600. Mae'r papur hefyd yn cyfeirio at gostau cludiant gan nodi y byddai modd eu gostwng o’r £ 54k a nodir yn yr adroddiad i £ 38k wrth gau Ysgol Llangoed yn hytrach nag Ysgol Biwmares. Mae'r ffigwr o £ 54k yn yr adroddiad yn seiliedig ar redeg 2 fws o Langoed i Fiwmares bob dydd yn seiliedig ar nifer y disgyblion yn Ysgol Llangoed a gwerth y contractau cludiant ysgol cyfredol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a sylwadau’r Aelodau Lleol ac ymatebodd fel a ganlyn -

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith mai un o brif amcanion yr Awdurdod wrth weithredu'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yw codi safonau addysg ar draws y sector ysgolion cynradd ar yr Ynys. Rhan allweddol o'r rhaglen yw sicrhau bod adeiladau ysgol yn creu'r amgylchedd dysgu ac addysgu gorau posibl ar gyfer disgyblion a staff a'u bod yn gynaliadwy ac yn y lle iawn. Nododd y Pwyllgor Gwaith bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw sylweddol yn Ysgol Biwmares a bod cyflwr yr adeilad wedi cael ei asesu fel ‘gwael’.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y dirywiad yn nifer y disgyblion yn Ysgol Biwmares o 189 yn 1996 i 40 ym mis Ionawr, 2018 yn sylweddol ac yn rhywbeth y mae’n rhaid rhoi ystyriaeth ddifrifol iddo. Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach fod 17% o'r disgyblion sydd yn Ysgol Biwmares ar hyn o bryd yn dod o'r tu allan i'r dalgylch a bod 103, neu 72%, o leoedd gwag yn yr ysgol.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith y rhagwelir y bydd prosiect Wylfa Newydd yn arwain at gynnydd ym mhoblogaeth yn yr Ynys yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu a bod y pobl leol ym Miwmares o’r farn, fel y nodwyd yn yr ymateb i'r ymgynghoriad, y byddai uwch swyddogion yn dymuno byw ym Miwmares a Llandegfan. Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach fod uwch swyddogion sy'n symud i'r ardal yn llai tebygol o fod â phlant o oed ysgol gynradd ac y byddai angen i ganran sylweddol o deuluoedd â phlant symud i mewn i'r ardal i ddod ag Ysgol Biwmares i fyny i'w chapasiti a’i gwneud yn hyfyw. Hefyd, gall tai yn yr ardal fod yn ddrud sy’n ei gwneud yn lleoliad drud a llai deniadol i deuluoedd ifanc ymgartrefu ynddo.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod yr Aelod Seneddol wedi gofyn i'r Awdurdod ailystyried ei gynigion ar gyfer ardal Seiriol a hynny o blaid nodi safle ar gyfer ysgol newydd sbon ar gyfer yr ardal. Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach fod y safle Lairds wedi cael ei grybwyll yn lleol fel safle datblygu posibl. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynghylch a fyddai oedi i ystyried adeiladu ysgol newydd yn opsiwn realistig yng ngoleuni'r ffaith na fydd y CDLl ar y Cyd yn cael ei adolygu hyd 2022 felly ni ellir ystyried unrhyw safleoedd newydd tan hynny a byddai'r broses gynllunio ac adeiladu yn cymryd amser ychwanegol. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod yr amserlenni a'r hinsawdd ariannol yn golygu bod yr opsiwn hwn yn un afrealistig. Er bod ysgolion a'r Gwasanaeth Addysg wedi cael eu gwarchod yn y gorffennol, o ystyried maint y pwysau ar gyllideb y Cyngor, mae'n debygol iawn y bydd y sector cynradd a'r uwchradd yn wynebu toriadau yn eu cyllidebau y flwyddyn nesaf. Hefyd, gallai'r amserlen ar gyfer dod o hyd i dir a chynllunio ac adeiladu ysgol newydd fod yn faith a byddai â goblygiadau i ardaloedd eraill dan y rhaglen foderneiddio. Rhaid gweithredu'r rhaglen yng nghyd-destun yr hyn sydd er lles addysg ledled Ynys Môn yn gyffredinol, ac nid trwy drin ardaloedd unigol ar eu pennau eu hunain.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith mai un opsiwn a gyflwynwyd sy’n cael ei gefnogi yn lleol yw cyfuno darpariaeth addysgol gyda'r cyfleuster Gofal Ychwanegol ar safle presennol Ysgol Biwmares. Wrth geisio eglurhad ynghylch a fyddai'r model hwn yn ymarferol mewn perthynas â darpariaeth feithrin, er enghraifft, pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith nad oes modd anwybyddu’r pwysigrwydd a rydd y gymuned ar ddarpariaeth cyn ysgol

e.e. Little Puffins a bod rhaid rhoi sylw i hynny. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd fod potensial yn ardal Seiriol i fanteisio ar ddylanwad Cwlwm Seiriol er enghraifft, i ddod o hyd i atebion ymarferol ar gyfer y gymuned a allai gynnwys dod â'r cenedlaethau ifanc a hŷn at ei gilydd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod yr Awdurdod yn cydnabod y bydd yn rhaid mynd i'r afael â'r angen am ddarpariaeth cyn-ysgol, meithrin a gofal plant yn ardal Seiriol, pa bynnag ffurf y bydd y ddarpariaeth hon yn ei chymryd a chydnabyddir hynny yn yr adroddiad.

 

Dygodd y Cadeirydd sylw at y ffaith fod un ymatebwr wedi ei chael hi'n anodd ymateb drwy'r arolwg ar-lein a gofynnodd am sicrwydd bod y broses ymgynghori yn ardal Seiriol wedi'i chynnal yn yr un modd â’r broses ar gyfer ardaloedd eraill. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod y broses ymgynghori wedi cael ei chynnal gan ddefnyddio'r un trefniadau a fformat ag ar gyfer ymgynghoriadau blaenorol mewn ardaloedd eraill. Cytunwyd, yn y dyfodol, y bydd rhif cyswllt ar adroddiadau ymgynghori rhag ofn y bydd unrhyw ymatebwyr yn cael trafferth i gyflwyno eu hymateb.

 

Fe wnaeth yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid gloi’r drafodaeth drwy ddweud bod yr ymatebion o'r ardaloedd hynny ble yr oedd y broses foderneiddio eisoes wedi cael ei gweithredu wedi bod yn gadarnhaol. Mae'n rhaid i'r system addysg yn Ynys Môn fod yn deg a rhaid sicrhau na chaiff unrhyw ysgolion eu hariannu ar draul eraill. Mae cymunedau'n ffynnu oherwydd pobl ac nid oherwydd adeiladau. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod yn rhaid i'r Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ffeithiau gan ystyried yr hyn sydd er budd tymor hir yr Ynys gyfan. Gall y penderfyniadau hynny fod yn anodd ac yn annymunol ar adegau. Mae'r casgliadau o ran y broses ymgynghori ar foderneiddio addysg gynradd yn ardal Seiriol fel y'u nodir yn adran 13 yr adroddiad yn glir; maent yn arwain yn anffodus i'r casgliad mai Opsiwn 1 yw'r opsiwn mwyaf ymarferol. Cynigiodd yr Aelod Portffolio y dylai’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo Opsiwn 1.

 

Penderfynwyd -

 

  Cymeradwyo Opsiwn 1, sef adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llangoed.

  Bod trafodaethau gyda grwpiau gofal plant cyn-ysgol – “Little Puffins” a Ti a Fi - yn cael eu cynnal yn fuan i weld pa fath ddarpariaeth gofal plant cyn- ysgol sydd ei hangen yn yr ardal.

  Bod Cwlwm Seiriol yn cael ei gynnwys yn y Grŵp Rhanddeiliaid ôl- penderfyniad fydd yn cael ei sefydlu.

 

(Datganodd y Cynghorydd Carwyn Jones ddiddordeb ac ni chymerodd ran yn y bleidlais ar y mater).

 

 

Y Cynghorydd Llinos Medi Huws Cadeirydd

Dogfennau ategol: