Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1  33C284B/DEL – Holland Arms, Pentre Berw

10.2  49C289K/VAR – Cleifiog Fawr, Ffordd Gorad, Y Fali

Cofnodion:

10.1  33C284B/DEL – Cais dan Adran 73 i gael gwared ar amodau (10) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (11) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (12) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (20) (troedffordd) ynghyd â rhyddhau amodau (07) (disgrifiadau masnach a deunyddiau), (08) (dull amgáu) a (09) (manylion draenio), er mwyn darparu disgrifiadau masnach o’r deunyddiau y bwriedir eu defnyddio ar arwynebeddau allanol, manylion llawn am y dulliau amgáu y bwriedir eu defnyddio o fewn ac o gwmpas y safle a’r manylion draenio fel rhan o’r cais Cynllunio gyfredol. Amrywio amodau (13) (ffenestri) a (21) (yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd) er mwyn diwygio’r cynlluniau a gymeradwywyd mewn perthynas â chaniatâd Cynllunio 33C284A (codi 3 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau) ar dir gyferbyn â Holland Arms, Pentre Berw

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod y cynnig yn groes i bolisïau y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i gael gwared ag amodau fel rhan o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 33C284A a gymeradwywyd yn 2013.  Nododd fod y 3 annedd bellach o faint a chyd-destun tebyg o gymharu â’r cais blaenorol a ganiatawyd ble yr oedd un annedd yn fwy na’r ddwy arall. Oherwydd y gostyniad ym maint yr anheddau, mae safle’r cais yn llai o ran cyd-destun, nid oes angen bellach i ddymchwel y wal gerrig bresennol i’r de orllewin o safle’r cais nac ychwaith i wyro’r droedffordd ger y safle. Ymhellach, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Pentre Berw yn awr, dan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, wedi’i ddifinio fel clwstwr lle na fedrir ond cefnogi cynigion i godi tai os ydynt yn cwrdd ag anghenion lleol ac yn cael eu codi rhwng neu gerllaw adeiladau eraill. Nid yw’r cais hwn yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi TAI6 oherwydd mae’r anheddau yn rhai marchnad agored.  Fodd bynnag, oherwydd fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar safle’r cais, mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.1      10.2  49C289K/VAR – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (02) er mwyn caniatáu diwygiadau i gosodiad y safle a dyluniad o unedau 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9 a 12, (06) er mwyn caniatáu i’r rhaglen o waith archeolegol cael ei gyflwyno a’i ryddhau wedi i’r gwaith gychwyn, (09) er mwyn caniatáu diwygiadau i’r darpariaethau parcio moduron ynghyd â dileu amod (11) (lefelau llawr gorffenedig) o ganiatâd cynllunio rhif 49C289 (newid adeiladau allanol yn 12 annedd) yn Cleifiog Fawr, Lôn Gorad, Y Fali

 

(Wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Cadeirydd, y Cynghorydd Nicola Roberts allan o’r cyfarfod yn ystody drafodaeth a’r penderfyniad arno).

 

Aeth yr Is-Gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod y cynnig yn groes i bolisïau y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y caniatawyd y cais hwn ym mis Hydref 2016 i newid defnydd yr annedd bresennol a’r adeiladau allanol yn 12 o unedau preswyl ynghyd â gosod gwaith trin carthffosiaeth ac o’r herwydd, mae egwyddor y datblygiad eisoes wedi’i sefydlu ac mae gwaith wedi cychwyn i weithredu’r caniatâd. Mae’r cais gerbron y Pwyllgor yn delio gyda 10 o’r unedau preswyl ar y safle. Nododd fod amod ynghlwm wrth y caniatâd blaenorol yn dweud bod angen cychwn ar waith archeolegol cyn cychwyn gwaith ar y safle a bod angen cyflwyno cynllun archwiliad ysgrifenedig i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.  Roedd Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd, fel rhan o’r cais cyfredol, wedi cadarnhau bod y wybodaeth wedi cael ei hanfon yn uniongyrchol atynt hwy yn Rhagfyr 2016 yn hytrach nag i’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Maent wedi cadarnhau ymhellach fod y wybodaeth yn foddhaol a’u bod o’r herwydd yn cymeradwyo’r manylion. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, pan gafodd y cais ei ystyried yn y lle cyntaf, roedd y safle ym mharth llifogydd C1. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi asesu’r cais ac yn tybio ei fod yn dderbyniol oherwydd bydd strwythur amddiffyn rhag llifogydd yn cael ei adeiladu i fynd i’r afael ag unrhyw risg llifogydd ac nid oes angen amod i godi lefelau lloriau’r anheddau. Oherwydd fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi cael ei fabwysiadu’n ffurfiol ym mis Groffennaf 2017, nododd fod rhaid asesu’r cais yn erbyn y polisïau perthnasol yn y CDLlC. Mae Polisi TAI 7 yn y CDLlC sy’n ymwneud â cheisiadau i addasu adeiladau traddodiadol yn y cefn gwlad agored i ddefnydd preswyl yn dweud na ddylid ond eu caniatáu os nad yw defnyddio’r adeiladau i bwrpas cyflogaeth yn ymarferol a bod y datblygiad yn darparu unedau fforddiadwy i gwrdd ag angen lleol y gymuned neu bod y defnydd preswyl yn elfen eilaidd o ddefnydd busnes ehangach, ymysg meini prawf eraill a restrir.O’r herwydd, mae’r cynnig yn groes i ddarpariaethau Polisi TAI yn y CDLlC, fodd bynnag oherwydd fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle ac wedi ei weithredu, mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: