12.1 19C251U/FR/TR – Tir gyferbyn a Travel Lodge, Ffordd Kingsland, Caergybi
12.2 39C18C/2/VAR – Plot 10 Ty Mawr, Porthaethwy
Cofnodion:
12.1 19C251U/FR/TR – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir gwag yn safle rhentu ceir gan gynnwys swyddfa ar dir gyferbyn â Travel Lodge, Ffordd Kinsgland, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i newid defnydd y safle yn fusnes rhentio ceir gyda swyddfa gysylltiedig mewn porta-cabin a chanopi ‘valet’ lle byddai’r cerbydau’n cael eu glanhau. Mae’r cynnig yn golygu creu compownd wedi ei darmacio lle gellir parcio 22 o gerbydau ar gyfer eu llogi a 7 o lecynnau parcio i gwsmeriaid. Rhagwelir y bydd 5 o bobl yn cael eu cyflogi yn safle’r cais. Nododd bod y cais wedi cael ei alw i mewn i’r Pwyllgor gan Aelod Lleol oherwydd materion traffig a pharcio ger y safle a phryderon ynghylch lleoliad y safle sydd ger yr A55. Dywedodd y Swyddog nad yw’r Awdurdod Priffyrdd nag Asiantaeth Briffyrdd Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu’r cais ond bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi mynnu ar gynllun rheoli adeiladu a fydd yn rhoi sylw i faterion adeiladu a gweithredu mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig. Disgwylir am sylwadau ynghylch draenio a dŵr wyneb ar gyfer y cais. Nododd ymhellach fod manylion am yr offer y bwriedir ei ddefnyddio, oriau gweithredu a lefelau sŵn o’r datblygiad arfaethedig wedi cael eu cyflwyno i’r Gwasanaeth Amgylchedd sydd wrthi ar hyn o bryd yn asesu’r materion hyn. Mae’r safle’r cais mewn parth llifogydd C2 ond mae’r cais wedi cael ei gategoreiddo fel un llai bregus dan ddarpariaethau polisi TAN 15 yn y CDLlC.
Dywedodd y Swyddog fod safle’r cais eisoes yn cynnwys unedau siopio ond bod y safle wedi cael ei glirio ac wedi bod yn wag am flynyddoedd lawer ac o’r herwydd, nid oes unrhyw ddefnydd cynllunio dilys yn bodoli ar y safle. Oherwydd nad oes unrhyw ddefnydd cynllunio dilys, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwrthwynebu’r cais oherwydd nad oedd yr Asesiadau Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd gyda’r cais cynllunio wedi arddangos cydymffurfiaeth gyda TAN 15. Oherwydd bod y datblygiad yn un i sefydlu cyfleuster llogi ceir gyda phorta cabin ar y safle, tybir bod lefel y risg llifogydd yn isel. Yn ychwanegol at hyn, gellir priodoli pwysau cadarnhau sylweddol i’r ffactorau datblygu economaidd oherwydd bydd 5 o swyddi’n cael eu creu a bydd yn cyfrannu at adfywiad trefol ac at wella mwyderau gweledol y safle. Mae’r argymhelliad yn un i ganiatáu’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fel Aelod Lleol, er y derbynnir bod safle’r cais wedi bod yn wag ers blynyddoed a bod angen ei ddatblygu, roedd yn cwestiynu a oedd cyfleuster llogi ceir yn briodol ar y safle hwn. Dywedodd fod ganddo bryderon yn barod ynghylch lefel y traffig ger y safle hwn. Nododd bod y safle yn ymyl yr Orsaf Dân, yr A55 a chilfannau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer parcio. Dywedodd hefyd y cafwyd problemau gyda llifogydd yn y rhan hon o safle’r cais.
Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio sylw i’r materion a godwyd o ran problemau parcio a dywedodd bod y datblygwr yn bwriadu targedu cwsmeriaid sy’n teithio yn ôl ac ymlaen ar y llongau fferi ym mhortladd Caergybi a’r orsaf drenau. Nododd na ddylid defnyddio’r cilfannau ger y safle fel llefydd parcio tymor hir a bod hwn yn fater i’r Awdurdod Priffyrdd ystyried gorfodi parcio am gyfnod penodol efallai. Dywedodd y Swyddog y byddai’r mater hwnnw yn derbyn sylw ar wahân i’r cais hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwysyn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 39C18C/2/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) o ganiatâd cynllunio rhif 39C18H/DA (codi 21 o dai) er mwyn diwygio yr edrychiad allanol yn Tŷ Mawr, Porthaethwy.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd R Meirion Jones, Aelod Lleol, wedi gofyn am ymweliad safle.
Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod y Cynghorydd R Meirion Jones wedi gofyn am ymweliad safle oherwydd fod pryderon yn Stad Tŷ Mawr ynghylch cyd-destun y cais hwn. Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams ymweliad safle ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghoryddr Eric W Jones. Y rheswm a roddwyd dros ymweld â’r safle oedd effeithiau posibl ar ddeiliaid eiddo cyfagos.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
Dogfennau ategol: