Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol drafft am 2017/18.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Drafft Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi newid yn sylfaenol y ffordd y mae Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod yn gweithredu ers ei gyflwyniad. Mae hefyd yn nodi’r fformat y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Gyfarwyddwyr Statudol pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ei weithredu wrth fynd ati i lunio cynnwys yr adroddiad blynyddol sy’n cynnwys Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Corfforaethol. Bwriad yr Adroddiad Blynyddol yw darparu gwybodaeth am berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol i gynulleidfa eang yn cynnwys Aelodau Etholedig, y cyhoedd yn gyffredinol, defnyddwyr gwasanaeth ac Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW). Mae hyn er mwyn sicrhau bod ei gynnwys yn darparu cydbwysedd rhwng bod yn hygyrch ar un llaw a darparu’r Arolygiaeth â digon o fanylion ar y llaw arall. Fel rhan o’r broses o baratoi’r Adroddiad Blynyddol fe gynhaliwyd sesiwn herio gwasanaeth ym mis Mehefin lle gwahoddwyd amrywiaeth o bartneriaid gyda’r nod o gael eu mewnbwn ar weithgareddau Gwasanaethau Cymdeithasol yn y flwyddyn a aeth heibio ynghyd â chynlluniau’r Gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.  

Gan gyfeirio at y Gwasanaethau Oedolion, dywedodd y Swyddog ei bod yn falch â’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn 2017/18, yn enwedig y cydweithio â’r Gwasanaeth Iechyd sy’n bartner allweddol. Yn ystod y flwyddyn, cafodd Garreglwyd yng Nghaergybi ei ail fodelu i ddarparu cymorth arbenigol i bobl hŷn â dementia ac mae’n adnodd lleol gwerthfawr sy'n galluogi’r rhai hynny sy’n dioddef o ddementia i aros ar Ynys Môn yn agosach at eu teuluoedd a’u ffrindiau. Bydd Hafan Cefni, y cyfleuster gofal ychwanegol yn Llangefni yn agor yn hwyrach yn 2018 a bydd yn galluogi mwy o bobl i aros yn eu cymunedau wrth i’w anghenion gofal a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt gynyddu. Bydd yr adnodd hefyd yn darparu gofal ar gyfer nifer fechan o gleientiaid dementia. Mae gwaith sylweddol hefyd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaeth iechyd a chymunedau lleol er mwyn cryfhau gwasanaethau dementia ar gyfer pobl yn ei cymunedau eu hunain ac ar draws yr Ynys.  

 

Mae’r cynnydd sylweddol a wnaed er mwyn gwella Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn ystod 2017/18 wedi’i gofnodi’n helaeth mewn nifer o adroddiadau a gyflwynwyd i bwyllgorau’r Cyngor ac hefyd wedi’i gydnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) yn ei lythyr dyddiedig Ionawr, 2018. Mae’r Adroddiad Blynyddol yn disgrifio nifer o elfennau newydd yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd gan gynnwys y Gwasanaeth Atal ac Ymyrraeth Gynnar, y Tîm Teuluoedd Gwydn a Teulu Môn. Ynghyd â’r mentrau newydd, mae’r Gwasanaeth yn parhau i gyflawni ei ddyletswyddau craidd h.y. gofalu am blant mewn gofal a phlant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Er bod llawer iawn wedi’i gyflawni o ran gwella’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd dros y deunaw mis diwethaf, nid yw trawsnewid y Gwasanaeth yn mynd i ddigwydd dros nos ac mae’r Gwasanaeth felly’n parhau i fod ar daith o welliant; rhagwelir y bydd y gwelliannau sy’n cael eu gweithredu ar hyn o bryd yn cymryd deunaw mis pellach i’w cwblhau a’u cyfnerthu. Cynhelir archwiliad dilynol o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn yr hydref. 

 

Aeth y Swyddog ymlaen i gyfeirio at effaith y gwasanaethau corfforaethol wrth iddynt  gefnogi’r ddarpariaeth o Wasanaethau Cymdeithasol rheng flaen effeithiol, er enghraifft mae cynnydd da wedi’i gyflawni yn 2017/18 er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gyflogwr diogel a’i fod yn gosod contractau mewn ffordd gyfrifol a diogel sy’n amddiffyn trigolion yr Ynys. Fel rhan o’i gyfrifoldebau corfforaethol, mae’r Gwasanaeth wedi trefnu bod holl staff y Cyngor yn cael hyfforddiant ar gamdriniaeth ddomestig a fydd yn cael ei ddilyn yn ystod y flwyddyn gan hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern, atal cam-drin plant yn rhywiol a Prevent sef rhaglen y Llywodraeth er mwyn atal pobl rhag cael eu radicaleiddio.   

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol ar gyfer 2017/18 a gwnaed y sylwadau canlynol er ystyriaeth y Cyfarwyddwr Statudol – 

 

           Roedd y Pwyllgor yn nodi ac yn cydnabod fod y gwaith a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18 yn sylweddol gyda datblygiadau nodedig yn y Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fel ei gilydd.  

           Nodwyd hefyd y canolbwyntiwyd ar y gwasanaethau gofal dementia yn ystod y cyfnod adrodd ac yn enwedig ar ddatblygu darpariaeth dementia sy’n fwy cymunedol. Oherwydd y disgwyliad y bydd cynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef o ddementia yn y dyfodol, yn enwedig pobl ifanc, fe ofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad o’r modd y mae’r Awdurdod yn bwriadu cefnogi unigolion sydd wedi’u heffeithio. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Anableddau Dysgu bod y cyfleuster newydd yn Garreglwyd wedi’i gynllunio er mwyn darparu cymorth i unigolion ag anghenion difrifol; fodd bynnag, nid yw’r cymorth hwn wedi’i gyfyngu i bobl hŷn, gellir ei ymestyn i bobl ‘fengach a all fod yn y broses o ddatblygu dementia ac a all orfod mynd y tu allan i’r sir i dderbyn cymorth priodol i’w hanghenion fel arall. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol fod dementia yn gyflwr sy’n datblygu ac yn newid dros amser. Er mai amcan y Gwasanaeth yw helpu pobl i barhau i fod yn annibynnol yn eu cymunedau cyn hired â phosibl, rhaid iddo hefyd sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael i’r rhai hynny sydd ag anghenion mwy difrifol ac sydd angen gofal arbenigol. Mae’r adnodd Garreglwyd a gafodd ei gynllunio, ei ddatblygu a’i staffio ar y cyd â’r Gwasanaeth Iechyd yn y cyswllt hwn yn fenter sy’n wir arloesol.  

 

           Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn nodi bod y modd y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydweithio â phartneriaid hefyd wedi gwella, yn enwedig gyda BIPBC, Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid trydydd sector. Croesawodd y Pwyllgor y gwerthusiad hwn a phwysleisiwyd nad oes modd i’r Gwasanaethau Cymdeithasol weithio ar eu pennau eu hunain a bod parhau i gryfhau gwaith partneriaeth yn bwysig os yw plant ac oedolion i dderbyn  y gwasanaethau gorau a mwyaf effeithiol.  

 

Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol gydnabod y pwynt a wnaed gan gadarnhau bod cydweithio, yn enwedig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi gwella’n sylweddol. Ychwanegodd yn yr un modd, bod perthynas y Gwasanaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi gwella gyda chyfarfodydd misol yn cael eu cynnal ac wrth iddynt gydweithio’n agos ar nifer o faterion yn strategol ac yn weithredol ar lefel leol. Mae lle i wella o hyd o ran y gwaith o ddydd i ddydd ac mae’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn parhau i weithio â’r Heddlu er mwyn sicrhau bod yr atgyfeiriadau a wneir yn rhai priodol.  

 

           Nododd y Pwyllgor bod nifer o ofynion cyfreithiol mewn perthynas â’r Gwasanaethau Plant. Gofynnodd y Cadeirydd am gadarnhad o berthynas y Gwasanaeth gyda’r Llysoedd ac effaith prosesau a gweithdrefnau newydd ar y Gwasanaeth.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithredu o fewn system ddeddfwriaethol lle mae gofynion statudol, yn enwedig mewn perthynas â Gwasanaethau Plant. Mae cyflwyniad yr Amlinelliad Cyfraith Cyhoeddus wedi gosod amserlen o chwe mis ar gyfer cwblhau’r gweithdrefnau gofal gan olygu bod y Gwasanaeth wedi gorfod buddsoddi adnoddau er mwyn bodloni’r gofyniad hwn o ran paratoi asesiadau a dogfennaeth gysylltiedig mewn modd amserol. Ar yr un pryd, mae nifer y plant sy’n mynd i ofal yn genedlaethol wedi cynyddu yn sylweddol ac yn Ynys Môn, mae’r ffigwr hwnnw wedi dyblu dros y bedair blynedd diwethaf o 70 i 150 ar hyn o bryd. Mae’r rhesymau dros y cynnydd hwn yn gymhleth ac amrywiol. Fodd bynnag, mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ynys Môn berthynas dda â’r Llysoedd – mae’r Cyfarwyddwr Statudol a’r Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi cynnal cyfarfod â’r Barnwr Llys Teulu er mwyn rhoi diweddariad iddo ar y datblygiadau yma yn Ynys Môn; yn ogystal, bydd Penaethiaid Gwasanaethau Plant y chwe awdurdod yng Ngogledd Cymru yn cyfarfod â’r barnwyr o bryd i’w gilydd. Cyfeiriodd y Swyddog at CAFCASS fel yr asiantaeth sy’n diogelu’r plentyn ac sy’n sicrhau bod safbwynt y plentyn yn cael ei gyfleu yn y Llysoedd – cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y cynhelir cyfarfodydd chwarterol gyda CAFCASS Cymru.      

 

           Nododd y Pwyllgor fod y Gwasanaethau Plant wedi bod o dan bwysau ariannol sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a hynny’n rhannol oherwydd ei fod, fel gwasanaeth statudol, wedi gorfod ymateb i’r galw ac yn rhannol gan fod nifer y plant sydd angen gofal wedi cynyddu’n raddol. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd fod y sefyllfa yn gwella a bod modd rheoli’r sefyllfa. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod cyllido’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd yn her. Mae’r cynnydd yn nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n dod i mewn i’r system ofal ac sy’n derbyn gofal yn ffurfiol gan yr Awdurdod, boed hynny mewn lleoliadau lle maent yn aros gyda rhieni, mewn gofal maeth, neu gyda ffrindiau a theuluoedd, wedi rhoi straen ar gyllideb y Gwasanaeth. Tra bo’r Gwasanaeth yn blaenoriaethu’r gwaith o recriwtio gofalwyr maeth ychwanegol i’r gwasanaeth ar Ynys Môn, mae yna adegau lle mae’n rhaid defnyddio gofalwyr maeth annibynnol neu leoliadau y tu allan i’r sir. Mae gan gyfran fechan o’r bobl sydd yng ngofal yr Awdurdod – tua 10% - anghenion difrifol neu gymhleth sydd ond yn gallu cael eu bodloni drwy leoliadau preswyl arbenigol sy’n golygu costau sylweddol. Mae’r Gwasanaeth wedi buddsoddi mewn cryfhau gwasanaethau ataliol ac wedi creu Tîm Teuluoedd Gwydn i weithio â phlant a theuluoedd fel bod plant yn gallu aros gyda’u teuluoedd yn ddiogel. Dywedodd y Swyddog fod llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan y gwasanaeth er mwyn cadw plant sy’n derbyn gofal yn yr ardal leol ac i’w cadw yn ddiogel o fewn sefyllfa deuluol. Mae’r Gwasanaeth yn ystyried sefydlu trefniant Cartrefi Grwpiau Bach ar hyn o bryd.    

 

Mewn ymateb i gwestiwn am yr adnoddau ariannol ychwanegol a ddyrannwyd i’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 15 fod  0.8% (£265k) o’r cynnydd o 4.8% yn y Dreth Gyngor yn 2018/19 wedi’i glustnodi ar gyfer Gwasanaethau Plant. Ym mis Ebrill 2018, fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith hefyd awdurdodi £300k ychwanegol er mwyn galluogi’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i recriwtio staff asiantaeth ychwanegol i gefnogi’r Gweithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso ac er mwyn delio ag achosion etifeddiaeth. Dywedodd y Swyddog, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, y rhagwelir gorwariant o £1.2 miliwn yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer 2018/19 ond, gan ei bod yn fuan yn y flwyddyn ariannol, y gall y sefyllfa newid yn gyflym.

 

           Bu’r Pwyllgor gydnabod fod mesurau lliniaru yn cael eu cymryd er mwyn ceisio cyfyngu ar y costau yng nghyllideb y Gwasanaethau Plant ond gan ei fod yn wasanaeth a arweinir gan y galw, dim ond hyn a hyn y gellir ei wneud. Nododd y Pwyllgor hefyd fod y galw cynyddol am Ofal Cymdeithasol i Blant yn rhywbeth a welir yn genedlaethol hefyd a bod galw tebyg o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, rhywbeth sydd wedi’i ddisgrifio yn y wasg fel “ticking timebomb”. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad a yw’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy ac os ddim, a oes achos dros ofyn i Llywodraeth Cymru am gyfraniad ariannol uniongyrchol. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol mai bwriad y Gwasanaeth yw annog pobl hŷn i barhau i fod mor annibynnol a phosibl o fewn eu cymunedau a hynny am gyn hired â phosibl gyda’r sgwrs “Be sy’n bwysig” yn egwyddor arweiniol wrth geisio gwneud penderfyniadau am y math o ddarpariaeth sydd ei hangen. Dywedodd y Swyddog fod anghenion unigolion yn amrywio ond ei fod wedi’i ddangos ei bod hi’n haws i bobl hŷn barhau i fod yn annibynnol os oes ganddynt rwydwaith o deulu a ffrindiau o’u cwmpas – gan olygu bod angen lefel is o gefnogaeth arnynt gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r Gwasanaeth felly yn annog pobl i edrych ar ba fathau o gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn barod o fewn eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae cyllideb y Gwasanaethau Oedolion yn cael ei rheoli’n llwyddiannus ar hyn o bryd, nid yw’r pwysau ar y gyllideb mor fawr â’r pwysau ar y gyllideb Plant a Theuluoedd er bod y Gwasanaethau Oedolion yn delio â mwy o unigolion mewn blwyddyn na’r Gwasanaethau Plant. Fodd bynnag, wrth i gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus barhau i leihau flwyddyn ar flwyddyn ac i wasanaethau gael eu gorfodi i wneud arbedion pellach, mae hi’n anoddach rheoli’r pwysau. Er bod Gwasanaethau Plant ac Oedolion wedi eu gwarchod, mae Gwasanaethau Oedolion wedi gorfod dod o hyd i arbedion ac mae’r sefyllfa gyffredinol yn dod yn fwy a mwy heriol. Tra croesawir arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol, mae hefyd angen buddsoddi mewn gofal cymdeithasol gan fod y ddau beth yn cyd-fynd â’i gilydd.      

 

           Nododd y Pwyllgor, o ran demograffeg pobl hŷn, bod rhai ardaloedd e.e. de-ddwyrain yr Ynys, â chanran uwch o bobl hŷn nag ardaloedd eraill yn rhannol oherwydd y nifer uchel o bobl sy’n dod i’r ardal i ymddeol ac a fydd angen cymorth y Gwasanaethau Cymdeithasol gan nad oes ganddynt deulu yn yr ardal maent wedi ymddeol iddi. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad am a yw dyraniad cyllid Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffaith bod rhai ardaloedd o dan fwy o bwysau nag eraill. 

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, tra bo’r setliad Llywodraeth leol yn ystyried y nifer o bobl hŷn mewn ardal, nid yw’n dadansoddi’r ffigwr hwn ymhellach er mwyn adlewyrchu’r lefel o gymorth teuluol sydd ar gael iddynt felly ni ddyrennir unrhyw gyllid ychwanegol ar sail hynny.  

 

           Nododd y Pwyllgor y gall rhyddhau pobl hŷn o’r ysbyty mewn modd diogel ac amserol fod yn broblemus oherwydd materion yn ymwneud ag oedi o ran trosglwyddiad gofal. Gofynnodd y Pwyllgor a yw’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn fodlon â’r trefniadau trosglwyddo gofal ac a yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn gallu gwneud mwy o ran rhyddhau pobl o’r ysbyty. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaeth wedi ail dendro’r contract Gofal Cartref yn ddiweddar ac lle yn y gorffennol bod modd i ddarparwyr Gofal Cartref ddewis pecynnau gofal, bod y contract newydd bellach yn seiliedig ar dair “ardal” gyda’r cwmnïau llwyddiannus yn gyfrifol am yr holl anghenion gofal o fewn eu hardal benodol. Tra bydd manteision y model newydd yn cymryd rhai misoedd i ddod i’r amlwg fe ddisgwylir y bydd yn hwyluso’r broses o ryddhau pobl hŷn o’r ysbyty. Hefyd, mae’r adnodd Garreglwyd newydd yn adnodd lleol gwerthfawr ar gyfer pobl sy’n dioddef o ddementia. Bydd y ddwy elfen hon yn gwella’r sefyllfa ac fe ddylent helpu i leddfu’r pwysau sydd ar yr ysbytai. 

 

Roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cydnabod graddfa’r gwelliant a’r gwaith datblygu a wnaed yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2017/18 a bod y gwaith hwnnw’n parhau a diolchodd y Pwyllgor i’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol am ddarparu’r arweiniad a chanllawiau ar gyfer y gwaith.

 

Yn dilyn ystyried y wybodaeth ac ar ôl derbyn sicrwydd am y materion a godwyd, PENDERFYNODD y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol dderbyn a nodi Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2017/18 ac i argymell yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith. 

 

Dogfennau ategol: