Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Y Graig a'r Talwrn)

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) yn cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ddiwygio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni (Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig) a gynhaliwyd rhwng 1 Mai a 18 Mehefin, 2018 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant fod y broses moderneiddio ysgolion yn cynnwys asesu ac ystyried dyfodol ysgolion a’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar rieni, plant, athrawon, llywodraethwyr ysgol ac amrywiaeth o randdeiliaid eraill. Mae’n fater cynhennus yn aml ac hefyd yn un o elfennau mwyaf heriol busnes y Cyngor. Roedd yn cydnabod hyn fel y deilydd portffolio ac yn deall pryderon y rhieni a rhanddeiliaid. Ar y llaw arall, yr hyn sy’n cael ei drafod yw dyfodol ysgolion dros yr 50 mlynedd nesaf o bosibl; gwasanaeth ysgolion sy’n gwegian o dan bwysau toriadau ariannol; ôl-groniad cynnal a chadw, gofynion y cwricwlwm ynghyd â nifer o faterion eraill. Rhaid i’r Cyngor roi ystyriaeth o ddifri i wneud y system ysgolion yn fwy effeithiol er mwyn creu amgylchedd lle gall disgyblion ac athrawon lwyddo ac hefyd er mwyn ei wneud yn fwy effeithlon fel bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn effeithiol a bod ysgolion yn cael cyfran deg o’r gyllideb. Er mai Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig a’r materion sy’n effeithio arnynt sydd o dan sylw yn y cyfarfod hwn, mae’r materion hynny yn ffurfio rhan o ddarlun ehangach sy’n edrych ar yr Ynys yn ei chyfanrwydd a’r Gwasanaeth Addysg ynddi. Maent yn cysylltu â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor ac yn enwedig ei ddyhead bod pob plentyn, person ifanc a phob dysgwr, beth bynnag fo eu cefndir a’u hamgylchiadau, yn cyflawni i’w potensial llawn. 

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith bod cyllideb y Gwasanaeth Addysg yn 40% o gyllideb gyffredinol y Cyngor a bod angen dod o hyd i arbedion o tua £5.2 miliwn yn y Gwasanaeth dros y 3 blynedd nesaf. Yn y gorffennol, mae’r Cyngor wedi ceisio amddiffyn Addysg rhag y gwaethaf o’r toriadau ariannol; nid yw hynny bellach yn bosibl ac mae disgwyl i’r Gwasanaeth Addysg gyfrannu ei siâr o’r arbedion y bydd angen i’r Cyngor ddod o hyd iddynt yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn ychwanegol at hyn y mae’r ôl-groniad cynnal a chadw sydd tua £16 miliwn. Mae’r pwysau ariannol a wynebir gan Ynys Môn a chynghorau eraill yn dod yn y pen draw o gyfeiriad Llywodraeth San Steffan a’r agenda o gynni parhaus. Dywedodd yr Aelod Portffolio, er nad ar chwarae bach y gwneir penderfyniad i gau ysgol, nid yw’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. Mae’r Cyngor yn gweithredu ei raglen moderneiddio ysgolion er mwyn gwella canlyniadau addysgol i blant; er mwyn gwella safonau arweinyddiaeth ac addysgu a dysgu ac er mwyn sicrhau bod ysgolion sy’n arwain o fewn y sector ym mhob ardal. Mae’r gyrwyr ar gyfer newid yn parhau i fod yr un fath; mae’r rhain wedi eu nodi yn yr adroddiad ac un o’r rhai amlycaf o’r rhain yw gwella safonau addysg a chyrhaeddiad. Rhywbeth sylweddol arall yw’r nod o leihau’r amrywiaeth o wariant y pen ar ddisgyblion er mwyn sicrhau mwy o gyfleoedd cyfartal ar draws ysgolion Ynys Môn. Fe wnaeth yr Aelod Portffolio gydnabod fod gan Aelodau Etholedig rôl ddeuol yn y broses o foderneiddio ysgolion sy’n rhoi dyletswydd arnynt i gynrychioli eu cymunedau unigol ond hefyd i ddarparu cyfeiriad strategol i’r Cyngor drwy arweiniad cadarn a chlir. Diolchodd i bawb a oedd wedi cyfrannu at y broses ymgynghori un ai drwy fynychu’r sesiynau galw heibio neu drwy ddulliau eraill o gyfathrebu. 

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol at y themâu a’r materion a godwyd gan randdeiliaid yn y ddwy ysgol wrth iddynt ymateb i’r broses ymgynghori ac ymateb yr Awdurdod i’r materion hynny fel a nodwyd yn adran 9 yr adroddiad. Gellir crynhoi’r materion hynny fel a ganlyn –

 

           Mae nifer o randdeiliaid yn crybwyll canran y disgyblion sy’n cyflawni’r safon yn CA2 yn Ysgol Talwrn fel 100%. Tra bo perfformiad y ddwy ysgol yn CA2 yn debyg (cyfeirir at hyn yn yr ail dabl ym mharagraff 9.1) mae perfformiad Ysgol Talwrn yn y Cyfnod Sylfaen yn is nag ar gyfer ysgolion tebyg ar Ynys Môn ac yn genedlaethol ac mae wedi bod yn y chwartel isaf am y dair blynedd diwethaf. Ar gyfer Ysgol y Graig, mae’r perfformiad yn y Cyfnod Sylfaen wedi amrywio dros yr un cyfnod gyda’r ysgol yn y chwartel uchaf yn 2014/15; y canolrif isaf yn 2015/16 a’r canolrif uchaf yn 2016/17.  

           Mae’r ddwy ysgol wedi eu harchwilio gan Estyn yn ddiweddar gydag Ysgol Talwrn wedi ei hasesu fel Rhagorol yn erbyn un dangosydd, Da yn erbyn 12 a Digonol yn erbyn 2. Cafodd Ysgol y Graig ei hasesu fel bod yn Rhagorol yn erbyn 4 dangosydd a Da yn erbyn gweddill yr 11 dangosydd ac o ganlyniad rhoddwyd proffil arolygu cryfach i Ysgol y Graig o gymharu ag Ysgol Talwrn.

           Golyga maint Ysgol Talwrn fod gan yr ysgol ddosbarthiadau oedran cymysg. Mae hyn, ynghyd â’r disgwyliad bod gwaith addas yn cael ei baratoi ar gyfer yr amrywiaeth o alluoedd mewn dosbarth yn rhoi lefel uwch o her i athrawon mewn ysgolion llai.

           Does dim cyfeiriad at gostau fesul disgybl yn ymateb y rhanddeiliaid. Mae cost y pen disgyblion Ysgol Talwrn ar gyfer 2017/18 yn £4,447 sydd yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru (£3,960) a’r cyfartaledd ym Môn (£3,972). Gellid dweud fod pob lle yn Ysgol Talwrn £475 yn ddrutach fesul disgybl a bod yr ysgol felly’n derbyn £22,325 yn ychwanegol. Mae’r gwariant fesul disgybl yn Ysgol y Graig yn £3,395 ac felly yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r cyfartaledd ar gyfer Ynys Môn. Lleihau’r amrywiaeth mewn gwariant rhwng ysgolion yr Ynys yw un o’r prif yrwyr dros newid.  

           Mae gan y ddwy ysgol ôl-groniad cynnal a chadw ar gyfer gwaith sydd angen ei wneud er mwyn dod â safon yr ysgol i fyny i’r hyn a ddisgwylir er mwyn sicrhau diogelwch holl ddefnyddwyr yr ysgol. Ar gyfer Ysgol Talwrn, cost yr ôl-groniad cynnal a chadw yw £82.5k yn ogystal â £250k ar gyfer dosbarth symudol newydd (pris wedi’i roi gan brisiwr proffesiynol, manylion yn yr adroddiad) ac ar gyfer Ysgol y Graig, mae’r gost yn £36.5k. Nid oes gan yr Awdurdod yr adnoddau i fedru cwrdd â’r ôl-groniad cynnal a chadw yn Ysgol Talwrn.

           Ym mis Medi, 2017 roedd gan Ysgol Talwrn 12% o lefydd gwag, mae hyn er gwaethaf y ffaith bod canran y disgyblion sy’n dod o du allan i’r dalgylch yn gymharol uchel ar 45% gan wneud sefyllfa’r llefydd gweigion yn fwy bregus. Yn Ysgol y Graig, roedd nifer y llefydd gwag yn 1% ym Medi 2017.

           Mae rhai ymatebion gan Ysgol Talwrn yn cyfeirio at y Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig ac er ei fod yn nodi rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, nid yw’n nodi na ddylid cau ysgolion gwledig. Mae’r Cod yn ei gwneud hi’n glir bod blaenoriaeth i ddarparu addysg o safon uchel mewn ysgolion bach a gwledig ac fe gydnabyddir mai addysg yw’r brif ystyriaeth. Er bod Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig yn perfformio’n dda o ran lefelau disgwyliedig, mae Ysgol y Graig yn llwyddo i gyflawni canrannau uwch ar lefel 5+ sy’n awgrymu ei bod yn llwyddo i ymestyn disgyblion yn dda a chyflawni lefelau sy’n well na’r cyfartaledd ym Môn a Chymru gyfan. Yn ogystal, nid yw’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ddogfen gyfreithiol ar hyn o bryd ond mae’r Awdurdod wedi ceisio mynd i’r afael â chynnwys y Cod yn ystod y broses ymgynghori hon. 

           Mae ymatebion yn codi pryderon am y sefyllfa draffig ger Ysgol y Graig ac y byddai cerdded i’r ysgol o Talwrn yn beryglus. Mae’r pryder hwn yn cael ei gydnabod a, phetai argymhellion yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo, byddai’n rhaid cynnal asesiad effaith traffig a fyddai’n cynnwys y daith gerdded i Ysgol y Graig. Er bod lefel y traffig sy’n pasio Ysgol y Graig wedi lleihau ers agor ffordd Gyswllt Llangefni, fel a gadarnhawyd gan asesiad traffig a gynhaliwyd yn dilyn cwblhau’r ffordd gyswllt, mae’r sefyllfa o ran parcio yn parhau i fod yn broblemus a bydd yn cael sylw yn yr asesiad effaith traffig. 

           Mae nifer o sylwadau gan randdeiliaid Ysgol Talwrn yn pwysleisio pwysigrwydd yr ysgol i’r pentref a mynegwyd pryderon am yr effaith y byddai cau’r ysgol yn ei gael ar fywyd a gweithgareddau’r gymuned. Tra’n derbyn fod hyn yn her, mae enghreifftiau lle mae ysgol newydd wedi creu cymuned ehangach ac mae enghreifftiau lle mae cymunedau wedi parhau i ffynnu er fod yr ysgol bentref wedi cau e.e. Marianglas.

           Roedd rhai o’r sylwadau cyffredinol a dderbyniwyd yn awgrymu bod maint yr ysgol yn effeithio ar yr Iaith Gymraeg a bod ysgolion mwy yn llai effeithiol wrth greu ymdeimlad o deulu ac wrth roi cyfle i’r holl ddisgyblion gymryd rhan. Does dim tystiolaeth bod y naill beth na’r llall yn wir. Mae’r Cyngor yn disgwyl bod ysgolion sy’n rhan o’r rhaglen moderneiddio yn parhau i fod yn ysgolion cymunedol, Cymraeg. Mewn perthynas a chyfleoedd, mae trefniadau mewn ysgolion cynradd sy’n sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ysgol e.e. côr a thimau blwyddyn. 

           Mae’r arbedion refeniw sy’n cael eu creu wrth redeg un ysgol fwy (costau cynnal a chadw’r adeilad, costau ynni a chostau rheoli) yn ystyriaethau pwysig yn yr asesiad ariannol. Er y byddai adeiladu estyniad i Ysgol y Graig yn lle Ysgol Talwrn yn ddrutach, byddai’r gost ychwanegol yn cael ei thalu’n rhannol drwy gynnydd yng nghyfraniad Llywodraeth Cymru a’r arian cyfalaf a fyddai’n cael ei dderbyn yn dilyn gwerthu safle Ysgol Talwrn.

           Mae Adran 12 yr adroddiad yn crynhoi’r materion allweddol mewn perthynas â’r argymhelliad bod capasiti Ysgol y Graig yn cynyddu er mwyn lletya disgyblion Ysgol Talwrn ac y dylid cau Ysgol Talwrn. Byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy weithredu’r 3 cam a nodir ym mharagraffau 12.3 o’r adroddiad. 

 

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gofynnwyd am gadarnhad gan y Swyddog mewn perthynas â’r materion canlynol – 

 

           Nododd y Pwyllgor fod tystiolaeth ar draws yr Ynys y gall ysgolion llai ddarparu safonau addysg gwych a’u bod yn gwneud hynny mewn nifer o leoliadau.

 

Fe wnaeth y Prif Weithredwr Cynorthwyol gydnabod y pwynt ac fe gadarnhaodd nad yw’r Awdurdod wedi nodi fel arall. Mae yna ysgolion bach ar yr Ynys sy’n perfformio’n dda ond mae yna ysgolion mwy sydd hefyd yn perfformio’r un mor dda. 

 

           Nododd y Pwyllgor hefyd fod yna deimlad bod y broses foderneiddio mewn perthynas ag ysgolion Llangefni ac Ardal Seiriol yn cael ei rhuthro cyn gweithrediad y Cod Trefniadaeth ysgolion.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod y gwaith o ymgynghori ar foderneiddio ysgolion yn ardaloedd Llangefni a Seiriol wedi dechrau rhai blynyddoedd yn ôl a gan mai dyma’r diweddaraf o dri ymgynghoriad yn ardal Llangefni, ni ellir dweud bod yr Awdurdod yn gweithredu ar frys.

 

           Nodwyd nad yw’r adroddiad ar ganlyniad y broses ymgynghori mewn perthynas ag Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn yn cynnwys data ar drafnidiaeth ysgolion. Nododd y Pwyllgor ymhellach y byddai cael data o’r fath yn ddefnyddiol er mwyn adeiladu darlun cyflawn o'r ystyriaethau perthnasol ynghlwm â moderneiddio ysgolion yn yr ardal hon ac ardaloedd eraill.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y bydd manylion mewn perthynas â thrafnidiaeth ysgol ar gael unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud. Er enghraifft, mae 45% o ddisgyblion Ysgol Talwrn yn dod o du allan i’r dalgylch felly yn dilyn penderfyniad ar ffurf derfynol ysgolion yn yr ardal hon a chan ystyried yr asesiad effaith traffig, bydd yn rhaid cyfrifo faint o blant fydd angen cludiant i’r ysgol.

           

            Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y byddai cyflawni cam cyntaf y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion 21ain Ganrif sef Band A yn dod i ben ym Mawrth, 2019, felly mae angen i brosiectau moderneiddio ysgolion ar gyfer y cyfnod hwn gael eu cadarnhau a bydd angen rhoi cynlluniau at ei gilydd erbyn hynny. Bydd unrhyw lithriant i’r ail gyfnod sef Band B yn golygu y bydd cyllid Band A yn cael ei golli a fydd yn ei dro yn effeithio ar brosiectau mewn ardaloedd eraill o’r Ynys ym Mand B.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y cynlluniau yn cynnwys adeiladu bloc newydd ar gyfer Ysgol y Graig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ynghylch a oedd tir wedi’i adnabod ar gyfer yr adeilad. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith cychwynnol wedi’i wneud er mwyn gweld a oes tir addas ar gael ond nad oes unrhyw dir wedi’i brynu hyd yma gan nad oes penderfyniad ar foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni, o ran Ysgol y Graig ac Ysgol talwrn, wedi ei wneud hyd yma.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ynghylch dalgylch Ysgol y Graig petai’r cynllun yn cael ei weithredu ac a fyddai plant o ardal Penmynydd er enghraifft, a fyddai wedi mynychu Ysgol Talwrn, yn gymwys i gael cludiant am ddim.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, yn unol â’i bolisi trafnidiaeth ysgol, y bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i’r ysgol am ddim i blant ysgol gynradd sy’n byw fwy na 2 filltir i ffwrdd o’r ysgol yn y dalgylch y maent yn byw ynddo ond yn amodol ar asesiad risg diogelwch. Mae’r pellter rhwng Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig yn 1.8 milltir felly does dim rhaid i’r Awdurdod ddarparu cludiant am ddim i blant yn yr ardal. Fodd bynnag, petai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, bydd yr Awdurdod yn cynnal asesiad diogelwch y ffyrdd.

 

Fe wnaeth Siwan Mathias (Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Talwrn), Mr Islwyn Humphreys (Corff Llywodraethol Ysgol Talwrn), a Bethan Wyn Jones (Cymuned Talwrn) annerch y Pwyllgor gan fynegi eu safbwyntiau ar y cynigion mewn perthynas ag Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Fe wnaethant fynegi gwrthwynebiad yr ysgol a’r gymuned i’r posibilrwydd o gau Ysgol Talwrn gan ofyn i’r Pwyllgor Sgriwtini wrthod y cynnig. Wrth wneud eu sylwadau, fe wnaethant dynnu sylw’r Pwyllgor at y pwyntiau canlynol – 

 

           Bod Ysgol Talwrn yn ysgol ragorol gyda naws gynnes, deuluol a safon ragorol o addysg. Mae wedi bod yn ffactor manteisiol ym mywydau’r rhieni a’r plant.

           Bod ysgolion fel Talwrn wedi gwneud Ynys Môn yr hyn ydyw heddiw; bydd cau’r ysgol ac addysgu plant mewn ysgol enfawr yn amddifadu’r plant o’u hetifeddiaeth ac yn newid dynameg yr Ynys am byth.

           Bod rhieni Ysgol Talwrn yn credu, er eu hymdrechion, bod yr Awdurdod wedi anwybyddu eu llais a bod eu dadleuon hynod resymol wedi eu hanwybyddu neu’n waeth byth eu gwrthod gan eu bod yn debyg ac nad ydynt, fe ystyrir, yn werth eu cyflwyno i’r Pwyllgor. Y rhieni sy’n gwybod beth sydd orau i’w plant a nhw sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am eu lles. 

           Bod rhieni wedi treulio oriau yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn a’r ymgynghoriadau blaenorol mewn ymgais i hysbysu’r Awdurdod am effeithiau difrifol yr hyn sy’n cael ei argymell – mae’r Awdurdod wedi bod yn ddewisol wrth ymateb i’r hyn a gyflwynwyd a phryd yr ymatebodd, nid yw wedi ymateb i’r pryderon a godwyd e.e. ni chafwyd ateb mewn pryd i gais Rhyddid Gwybodaeth ar sut y mae cyfanswm ôl-groniad y costau cynnal a chadw ar gyfer Ysgol Talwrn wedi eu cyfrifo.

           Ei bod hi’n anodd i rieni weithredu dewis rhiant o ran ysgol eu plant ac i’r Awdurdod gydymffurfio â’r gofynion statudol yn y cyswllt hwn pan mae Ysgol Talwrn wedi bod o dan fygythiad ers 10 mlynedd. 

           Nad oes asesiad o’r effaith y mae’r cyfres o ymgynghoriadau statudol wedi eu cael ar iechyd a llesiant y plant na’r straen a’r pryder sydd wedi’i achosi i rieni a allai fod angen newid eu oriau gwaith a/neu swyddi er mwyn sicrhau bod eu plant yn dal bws i’r ysgol pan mae’r plant yn gallu cerdded neu feicio i’r ysgol ar hyn o bryd. 

           Nad yw’r rhan fwyaf o yrwyr newid yn berthnasol i Ysgol Talwrn a lle maent yn berthnasol, mae rhieni wedi gallu defnyddio ffigyrau’r Awdurdod ei hun er mwyn eu herio. Yr unig beth sy’n gyson yn yr holl ymgynghoriadau yw’r ffaith bod cyllid ar gael a bod yr Awdurdod wedi gwneud camgymeriad mewn perthynas â’r ddarpariaeth o addysg gynradd yn ardal Llangefni. Arian sy’n gyrru’r cynnig hwn; mae angen i’r Cyngor ddod o hyd i arbedion ac mae Ysgolion bach fel Talwrn yn dioddef o ganlyniad.

           Y bydd y cynllun arfaethedig yn arwain at gostau uwch ar gyfer pobl Ynys Môn ac yn rhoi’r baich o ddyled ar blant Ynys Môn cyn eu bod hyd yn oed ddigon hen i gael cyfrif banc. Mae’n esiampl wael i’w rhoi lle mae’r Cyngor yn ymrwymo ei hun i ddyled tymor hir am ateb tymor byr ar amser lle mae cyfraddau llog ar fin codi a lle mae ansicrwydd mewn perthynas â Brexit. Nid yw’r cynllun yn cynnig gwerth am arian.

           Nad oes unrhyw dystiolaeth newydd wedi’i chynnig sy’n cyfiawnhau parhau â’r cynnig i gau Ysgol Talwrn.

           Bod yr adroddiad yn cael ei ystyried yn unochrog o blaid Ysgol y Graig. Mae teimlad bod Ysgol Talwrn wedi ei rhoi o dan bwysau gan yr Awdurdod mewn ymgais i ddatrys y mater hwn.

           Mai dim ond 5 lle gwag sydd yn Ysgol Talwrn ar hyn o bryd gyda 3 phlentyn newydd wedi cofrestru yn yr ysgol yn yr wythnosau diwethaf. Nid yw’r fformiwla ar gyfer darogan llefydd gwag yn briodol ar gyfer pob ysgol wledig.

           Er bod yr adroddiad yn rhoi llawer o bwyslais ar godi safonau addysgol, ni ddarperir unrhyw dystiolaeth am y modd y bydd hyn yn cael ei wneud. Mae asesiad o’r canlyniadau dros gyfnod o dair blynedd yn dangos mai dim ond un disgybl o Ysgol Talwrn a fethodd â chyrraedd y lefel cyrhaeddiad o gymharu â 15 o Ysgol y Graig. Ysgol Talwrn sydd â’r canlyniadau gorau yn CA1 a CA2 ac mae data Lefel 6+ a phrofion cenedlaethol yn gryfach.   

           Bod yr Awdurdod yn disgwyl defnyddio’r arian cyfalaf o werthiant Ysgol Talwrn fel cyfraniad tuag at estyniad Ysgol y Graig. O gofio nad yw cyflwr yr ysgol yn dda iawn yn ôl yr Awdurdod ac o gofio bod gan berchennog Tŷ’r Ysgol hawliau mynediad dros dir yr ysgol ac y gallai’r ysgol fod yn destun prydles, gallai gwerth Ysgol Talwrn ar y farchnad agored fod yn gyfyngedig. 

           Does dim sôn am gyllid Llywodraeth Cymru i wella ysgolion bach gwledig.

           Mae’r gost o £250k i osod ystafell ddosbarth symudol yn Ysgol Talwrn i weld yn hynod o uchel.

           Nad oes Cynllun Busnes llawn wedi ei gyflwyno i gefnogi’r cynnig.

           Bod pryderon am ddyfodol staff Ysgol Talwrn.

           Bod Ysgol yn Talwrn ers 1879 ac ychydig iawn sydd wedi’i fuddsoddi ynddi. Yn yr un cyfnod, cafwyd chwe ysgol yn Llangefni ac mae seithfed ar y gweill gyda’r estyniad arfaethedig newydd i Ysgol y Graig. 

           Nad yw 2 lythyr a gafodd eu hysgrifennu gan bobl broffesiynol fel rhan o’r broses ymgynghori wedi eu cynnwys yn y ddogfennaeth; mae’r rhain yn codi nifer o bryderon dilys a gwrth-ddadleuon ac yn darparu sail ar gyfer yr argymhelliad blaenorol a wnaed gan y Pwyllgor Sgriwtini na ddylid cau Ysgol Talwrn. Fe ddylai’r Pwyllgor gael gweld cynnwys y llythyrau hynny.

 

Wrth ymateb i rai o’r pwyntiau a wnaed fe ddywedodd y Prif weithredwr Cynorthwyol fod y mater o gais Rhyddid Gwybodaeth wedi’i godi yn un o’r sesiynau galw heibio a bod y Swyddog Addysg wedi cadarnhau iddi bod ateb wedi’i anfon at yr unigolyn a wnaeth y cais. Cadarnhaodd y Prif weithredwr Cynorthwyol hefyd fod yr Awdurdod wedi darllen ac ystyried pob llythyr a phob darn o wybodaeth a gyflwynwyd ac wedi ceisio mynegi eu sylwedd mewn dogfen sy’n ddarllenadwy a hawdd cael mynediad iddi. O ran gweithio allan nifer y lleoedd gweigion, dywedodd y darperir y fformiwla gan Llywodraeth Cymru. Mae’r Awdurdod yn cydnabod fod disgyblion yn symud i mewn ac allan o ysgolion yn rheolaidd a bod ffigyrau Ysgol Talwrn yn adlewyrchu’r sefyllfa ar gyfnod penodol sef fel yr oedd ym mis Medi 2017. Dywedodd y Swyddog fod gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â chadarnhau materion yn ymwneud â pherchnogaeth y tir ac o ran staff addysgu, bod proses i’w dilyn mewn amgylchiadau lle bydd ysgol yn cau ac mae’r Awdurdod hefyd yn destun cyfyngiadau Rheoliadau Staffio. Mae’r amcangyfrif o’r gost ar gyfer ystafell ddosbarth symudol newydd wedi’i ddarparu gan brisiwr proffesiynol. Cydnabyddir, tra bo adeiladu ysgolion newydd yn golygu buddsoddiadau cyfalaf mawr, bod lleihau costau refeniw parhaus hefyd yn ffactor pwysig.      

 

Mewn perthynas â’r cyfeiriad a wnaed yn ystod y cyflwyniad ar ran Ysgol Talwrn i ddau lythyr penodol a gyflwynwyd fel rhan o’r broses ymgynghori, cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod wedi darllen y ddau lythyr a’i fod yn ddiolchgar i’r awduron am gymryd yr amser i ymateb yn fanwl. Tra bo’r adroddiad yn crybwyll y llythyrau, nid yw’n cynnwys copi llawn ohonynt. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at un o’r llythyrau sy’n canolbwyntio ar faterion ariannol a nododd er ei fod yn gwneud rhai cyfraniadau dilys y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, ei fod hefyd yn cynnwys cyfraniadau nad ydynt yn ystyried yn llawn y fformiwla cyllid ysgolion ac nad yw’n rhoi’r darlun llawn e.e. nodwyd yr ariennir ysgolion ar sail niferoedd disgyblion yn unig – nid dyma’r sefyllfa. Mae ysgolion hefyd yn cael eu hariannu yn seiliedig ar eu maint a’u cyflwr, nifer y disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a’r grantiau a dderbynnir. Yn ogystal, mae cyllidebau ysgol yn seiliedig ar nifer y disgyblion mewn ysgol y mis Medi blaenorol a dyma wedyn yw’r gyllideb sefydlog ar gyfer y flwyddyn – nid yw’r llythyr yn cymryd ystyriaeth ddigonol o ffactorau fel hyn bob amser.   

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y llythyr y cyfeirir ato yn seiliedig ar ddealltwriaeth yr awdur o’r ffordd yr ariennir ysgolion ond nad yw’r wybodaeth yn gyflawn yn enwedig mewn perthynas â’r elfennau refeniw a chyfalaf o’r broses ariannu ysgolion sy’n effeithio ar y dadansoddiadau y mae’r awdur wedi eu gwneud. Dywedodd y Swyddog y byddai’n hapus i drafod y mater hwn gyda’r unigolyn ac i ddarparu esboniad yn dilyn hynny. 

 

Ar gais y Cadeirydd a ofynnodd am gadarnhad mewn perthynas â’r ymdriniaeth o ohebiaeth a dderbynnir fel rhan o’r broses ymgynghori ac a ddylai’r Pwyllgor gael ei weld, dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mai’r gofyniad cyfreithiol yw i’r Swyddogion sy’n cynhyrchu’r adroddiad ar gyfer y Pwyllgor Sgriwtini ac yna’r Pwyllgor Gwaith fod wedi ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad beth bynnag eu fformat a’u bod wedi rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt yn yr adroddiad. Does dim gofyniad cyfansoddiadol cyfreithiol i gyhoeddi’r holl lythyrau a dderbyniwyd ar gyfer y Pwyllgor Sgriwtini neu’r Pwyllgor Gwaith. Petai’r Pwyllgor Sgriwtini yn dymuno hynny neu petai’r siaradwr cyhoeddus (Mr Islwyn Humphreys) yn dymuno cyflwyno’r llythyrau perthnasol i’r Pwyllgor a bod awduron y llythyrau yn cytuno i hynny, yna does dim rheswm pam na ddylai’r Pwyllgor eu gweld. Dywedodd y Swyddog, oni bai y cynhaliwyd y broses ymgynghori ar y sail y byddai’r holl ddogfennaeth yn cael ei chyhoeddi – ac yn achos yr ymgynghoriad moderneiddio ysgolion (yn wahanol i’r broses gynllunio) nid dyna’r sefyllfa, cynghorodd na ddylai’r Pwyllgor dderbyn y llythyrau mewn sesiwn agored gan nad oedd wedi cael caniatâd cadarn yr awduron i wneud hynny.  

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn y dylai Aelodau, gyda chaniatâd yr Awduron, gael mynediad i’r llythyrau ac y dylai hyn ddigwydd cyn cyfarfod 16 Gorffennaf yr Awdurdod lle bydd y mater hwn yn cael ei ystyried. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol petai unigolion yn nodi wrth ymateb drwy lythyr i ymgynghoriad eu bod yn hapus i’r ohebiaeth honno gael ei chyhoeddi.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a Dylan Rees fel Aelodau Lleol.

 

Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts yn cydnabod fod hwn yn benderfyniad anodd iawn. Dywedodd fod ganddi bryderon am y cynllun arfaethedig a’i bod wedi cwestiynu o’r dechrau ai dyma’r ateb gorau er mwyn gwella’r sefyllfa bresennol. Er bod y diffyg lle yn Ysgol y Graig yn broblem bron o’r dechrau nid oedd yn siŵr sut y byddai’r cynllun i godi dau floc arfaethedig yn gweithio mewn modd ymarferol o ran integreiddio disgyblion ac adnoddau. Hefyd, er bod sefyllfa’r traffig yn ardal uniongyrchol ysgol y Graig wedi gwella, a gynorthwywyd yn rhannol wedi i’r ysgol benodi swyddog i reoli’r traffig sy’n dod i mewn ac allan drwy fynedfa’r ysgol, mae’r sefyllfa yn strydoedd cyfagos a stadau tai ger yr ysgol yn parhau i fod yn broblem. Cyfeiriodd y Cynghorydd Nicola Roberts at Ysgol Talwrn fel ysgol gymunedol yng ngwir ystyr y gair gyda’r ysgol yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau cymunedol, nodwedd yr oedd yn teimlo a oedd ar goll o Ysgol y Graig ar adegau. Mae darpariaeth yr addysg yn y ddwy ysgol hefyd yn wahanol iawn ac er y gall dosbarthiadau oedrannau cymysg yn Ysgol Talwrn brofi’n her ar adegau, roedd hi dal yn credu bod disgyblion yn cael addysg dda yn yr ysgol. Mae Ysgol Talwrn wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r gwelliant i’w briodoli i ymdrechion parhaus y Pennaeth, staff, y rhieni a’r gymuned. Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod y bygythiad o gau sydd wedi wynebu Ysgol Talwrn ers nifer o flynyddoedd yn annheg a bod peidio â chyfuno’r ddwy ysgol pan adeiladwyd Ysgol y Graig er mwyn i blant yr ardal allu dechrau yn yr ysgol newydd gyda’i gilydd wedi bod yn gyfle a gollwyd. Roedd hi’n bryderus y gallai fod yn anodd i rai disgyblion addasu o fod yn Ysgol Talwrn i’r ddarpariaeth newydd yn Ysgol y Graig a phetai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo y byddai angen rhoi ychydig o amser o’r neilltu er mwyn helpu’r plant i addasu. Y plant fydd yn gorfod delio â’r newid hwn ac roedd hi’n gobeithio mai’r prif ffactor yn y sefyllfa hon oedd lles a llesiant y plant hynny, ac nid arian. Gofynnodd yr Aelod Lleol i Benaethiaid y ddwy ysgol gael eu hysbysu o benderfyniad y Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.        

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod cyfuno’r ddau floc yn fater i’r ysgol a Thîm Arweinyddiaeth yr Ysgol; nid yw’r trefniant dau floc yn rhywbeth newydd ac mae’n gweithio’n dda mewn ardaloedd eraill e.e. plant ysgol gynradd ar gampws ysgol uwchradd. Bydd yna adegau lle bydd yn briodol i blant o’r ddau floc ddod at ei gilydd ac ar adegau eraill bydd yn briodol iddynt fod ar wahân. Dywedodd y Swyddog, yn amodol ar gymeradwyo’r cynllun, bod yna nifer o elfennau cysylltiedig a fydd angen eu datrys mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid e.e. parcio staff ac ymwelwyr, rheoli traffig ac ati, ac y bydd y rhain yn destun asesiad effaith. Bydd yn rhaid i’r ddarpariaeth meithrin Dechrau’n Deg hefyd gael ei ystyried yng nghyd-destun beth sydd orau i’r ardal yn nhermau cynllunio lle. Cadarnhaodd y Swyddog fod cyllid yn ffactor yn y rhaglen moderneiddio ysgolion o ran nad yw’r gyfundrefn bresennol yn gynaliadwy a hynny yn rhannol oherwydd nad oes modd parhau â’r amrywiad amlwg mewn gwariant y pen rhwng ysgolion cynradd bach a mawr ar draws y sector cynradd. Mae’r moderneiddio hefyd yn digwydd mewn cyd-destun o leihad yng nghyllid y Cyngor a thoriadau gorfodol i gyllidebau; mae’r Awdurdod yn ceisio sicrhau bod gan yr Ynys ddarpariaeth addysg o safon uchel ar gyfer y ddegawd nesaf a thu hwnt tra ar yr un amser yn gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithiol o’r adnoddau sydd ar gael.     

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd o ran a ddylai hysbysu Penaethiaid ysgolion o benderfyniadau cyfarfodydd lle mae cynigion moderneiddio ysgolion yn cael eu hystyried, ddod yn fater o arfer dda, cynghorodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro y dylid ystyried hyn ar sail achos wrth achos. Cytunodd y Pwyllgor y dylid hysbysu’r Penaethiaid o’r canlyniad yn yr achos hwn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dylan Rees, a oedd hefyd yn siarad fel Aelod Lleol, gan ddweud er ei fod yn cefnogi’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion fod ganddo bryderon am yr ateb a gynigir ar gyfer ardal Llangefni. Dywedodd ei fod yn cael ei gydnabod mai un o brif yrwyr y rhaglen yw lleihau nifer y lleoedd gwag yn y sector cynradd a’r costau sy’n gysylltiedig â hynny. Fodd bynnag, nid yw’r broblem lleoedd gwag yn bodoli yn ardal Llangefni fel sydd wedi’i ddangos gan y dystiolaeth a gyflwynwyd; y broblem yn Llangefni a’r prif reswm dros y cynigion a gyflwynwyd yw diffyg lle yn Ysgol y Graig gydag Ysgol Talwrn yn cael ei thynnu mewn i ateb y broblem. Cyfeiriodd y Cynghorydd Dylan Rees at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel ffactor nad oedd wedi’i grybwyll ond sy’n arwyddocaol o ran gorfodi Cynghorau i feddwl am effeithiau hirdymor eu penderfyniadau. Mae un o saith nodau llesiant y Ddeddf yn cyfeirio at “Gymru o gymunedau cydlynys”. Mae’r Cyngor, ar y cyd â Chyngor Gwynedd wedi cynhyrchu Cynllun Llesiant sy’n cynnwys y saith nod llesiant ac sy’n cynnwys fel ei nod cyntaf, yr angen i gynnal ysbryd cymunedol iach. Mae nifer o’r ymatebion i’r ymgynghoriad mewn perthynas ag Ysgol Talwrn yn pwysleisio y bydd cau’r ysgol yn lladd y gymuned; dywedodd y Cynghorydd Rees ei fod yn anghyfforddus iawn â’r effaith y gallai cau’r ysgol ei gael ar gymuned Talwrn a phetai’n mynd i lawr y llwybr hwn, nad yw’r Cyngor yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf. Yn ogystal, nid oedd yn glir iddo fod gan y Cyngor unrhyw gynlluniau i liniaru’r effaith ar y gymuned petai’r ysgol yn cau.     

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol bod yr Asesiad Effaith a gynhaliwyd yn delio ag Adran 2 Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol mewn perthynas â chymunedau iach, ffyniannus, cydlynol a fwy cyfartal. Mae’r asesiad hefyd yn disgrifio patrymau lle, yn dilyn cau ysgol, mae cymunedau sydd gryn bellter o’r ysgol agosaf wedi llwyddo i ddod yn gryfach ac wedi ffynnu. Yn ei hanfod, mae disgwyl i gymunedau ddod yn fwy hunangynhaliol ac yn fwy gwydn ac mae hynny’n cyd-fynd â disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn ogystal, dylid hefyd ystyried Ysgol y Graig yn ysgol gymunedol o ran y byddai disgwyl iddi wasanaethu’r gymuned ehangach y mae Talwrn yn rhan ohoni. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at e-bost a anfonwyd gan Mr Huw Redvers Jones, Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol y Graig lle mae’n cadarnhau ei fod yn fodlon â’r broses ymgynghori ac nad yw’n dymuno ychwanegu at yr ymatebion a nodir yn yr adroddiad ar yr ymateb i’r ymgynghoriad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a'r safbwyntiau a fynegwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol –

 

           Mae pryderon am yr effaith y gallai cau Ysgol Talwrn ei chael ar y gymuned a bywyd cymunedol yr ardal, sydd wedi’u mynegi’n glir. Nododd y Pwyllgor hefyd fod yr Awdurdod yn cydnabod y gall hyn fod yn her.

           Nad yw lleoedd gwag yn broblem uniongyrchol yn Ysgol Talwrn ar hyn o bryd.  

           Mae capasiti annigonol a gwasgfa ariannol yn heriau yn Ysgol y Graig, sy’n cael effaith ar yr ysgol.

           Mae patrwm cyllido presennol yn yr ardal lle mae gwariant fesul disgybl yn Ysgol y Graig yn £3,395 o gymharu â £4,448 yn Ysgol Talwrn yn anghyfartal. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y gall hyn achosi teimladau o annhegwch gyda’r syniad bod ysgolion llai yn derbyn cyfran anghyfartal o’r cyllid.

 

           Nodwyd hefyd y gwnaed awgrymiadau eraill yn ystod y broses ymgynghori mewn perthynas â delio ag Ysgol Talwrn ond nad oedd y rhain yn cael eu hystyried yn ymarferol oherwydd niferoedd y disgyblion dan sylw. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad am yr hyn a oedd yn cael ei ystyried fel y ffigwr gorau posibl ar gyfer ysgol gynradd hyfyw yn Ynys Môn. 

           

            Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol bod ysgol â 150 o ddisgyblion yn cael ei hystyried yn ysgol fach gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’n bosibl cael 120 o ddisgyblion a 4 dosbarth. Dywedodd y Swyddog, wrth gyfeirio at hyfywdra ei bod hi hefyd yn cyfeirio at ôl-groniad y costau cynnal a chadw. 

 

           Mai un o brif yrwyr y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yw codi safonau addysgol. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad sut y byddai’r cynllun arfaethedig yn cyflawni’r amcan hwn yn ardal Llangefni a’r prosesau cymorth a fyddai’n cael eu rhoi yn eu lle fel rhan o hynny. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod safonau ysgolion yn cael eu gyrru gan arweinyddiaeth a chapasiti rheolwyr. Mewn ysgol fwy, mae mwy o gyfle i’r Pennaeth a thîm rheoli’r ysgol gael amser digyswllt er mwyn eu galluogi nhw i roi sylw dyledus i faterion arweinyddiaeth. Hefyd, mae’r gwaith y mae GwE yn ymgymryd ag ef ochr yn ochr â’r Awdurdod mewn perthynas â gwella safonau addysgol yn golygu y byddai ond rhaid i’r gwasanaeth weithio ag un ysgol yn yr ardal yn lle dwy, gan arwain at well ffocws.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ynghylch capasiti yr Ysgol y Graig estynedig newydd fel y’i cynigir, yn enwedig o ystyried y datblygiadau newydd yn yr ardal. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, wrth lunio ei gynigion moderneiddio ysgolion, fod yr Awdurdod yn gorfod ystyried datblygiadau tai sydd wedi’u cymeradwyo yn yr ardal yn ogystal â datblygiadau eraill sydd wedi’u cynllunio ac mai dim ond ar gyfer 10% o gapasiti ychwanegol y caniateir iddo gynllunio. Cadarnhaodd y Swyddog bod yr Awdurdod wedi ystyried y datblygiadau sydd wedi’u cymeradwyo a’u cynllunio ar gyfer yr ardal hon o Llangefni. Dywedodd y gallai Ysgol y Graig, gyda’r estyniad newydd, ddarparu ar gyfer dros 400 o blant.

 

           Mae dyfodol y staff addysgu yn Ysgol Talwrn yn bryder petai’r ysgol yn cau. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd bod proses yn bodoli ar gyfer delio â’r mater hwn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol bod y Ddogfen Ymgynghori Statudol yn nodi yn adran 7, y broses i’w dilyn mewn perthynas â materion staffio o ran adleoli a diswyddo.

 

Gwnaed y pwyntiau canlynol gan y Prif Weithredwr – 

 

           Mai nod yr Awdurdod yw sicrhau bod y ddarpariaeth addysg gynradd yn Ynys Môn yr orau y gall fod. Nid dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd.

           Bod angen i’r system addysg fod yn effeithiol ac effeithlon os yw am lwyddo yn y dyfodol. Nid yw’r naill beth na’r llall ar hyn o bryd. 

           Bod ysgolion bach ac ysgolion mawr yn gallu bod yn llwyddiannus; mae’r ddwy ysgol o dan sylw – un fawr ac un fach, yn gwneud yn gymharol dda ar hyn o bryd. Fodd bynnag, o brofiad, mae ysgolion bach yn ei chael hi’n anoddach delio â phethau annisgwyl ac maent yn llai gwydn. 

           Bod perfformiad y ddwy ysgol yn dda gan felly roi sylfaen dda ar gyfer cyfuno’r ysgolion petai hynny’n cael ei gymeradwyo. 

           Na fydd y cynnig yn arwain at greu ysgol anferth. Mae Ysgol y Graig yn ysgol fawr yn ôl safonau Ynys Môn ond nid o gymharu ag ysgolion cynradd mewn rhannau eraill o Gymru. Nid yw ychwanegu 40 o leoedd i Ysgol y Graig yn creu ysgol anferth.

           Dywedwyd bod yr Awdurdod wedi anwybyddu lleisiau unigolion, yn enwedig yng nghymuned Talwrn. Gallai rhieni disgyblion Ysgol y Graig, petai nhw’n gwneud sylwadau yn y cyfarfod, wneud yr un achos iddyn nhw eu hunain. Mae’r Awdurdod wedi gwrando ar y sylwadau yn ofalus ac wedi darllen yr holl ohebiaeth a gyflwynwyd, ac mae wedi ceisio atgynhyrchu’r rhan fwyaf ohoni yn yr adroddiad ar yr ymgynghoriad. Mewn perthynas â’r ddau lythyr penodol y cyfeiriwyd atynt yn ystod y trafodaethau, mae cynnwys un ohonynt wedi’i gyfeirio ato tra bod cynnwys y llall yn cael sylw yn yr adroddiad. 

           Ei fod yn siomedig yr ystyrir bod yr adroddiad yn un unochrog. Mae’r Awdurdod wedi ceisio cyfleu asesiad cytbwys o’r sefyllfa mewn perthynas â’r ddwy ysgol.

           Bod 45% (19) o ddisgyblion Ysgol Talwrn o du allan i’r dalgylch. Nid yw hyn yn ddefnydd effeithlon o adnoddau ac mae’n rhoi’r ysgol mewn mwy o berygl o gael lleoedd gwag yn y dyfodol. 

           Bod pryderon wedi eu codi am y ddyled y bydd yr Awdurdod yn ei chymryd wrth weithredu’r cynllun arfaethedig. Yn 2013, beirniadwyd yr Awdurdod gan Estyn am beidio â bod yn ddigon uchelgeisiol gyda’i raglen Ysgolion Unfed Ganrif ar Hugain. Dyma’r unig ffordd y gall yr Awdurdod gael mynediad i gyllid digonol er mwyn gallu adnewyddu ei ysgolion ac mae’n gyfle na fedr ei golli.

           Bod y defnydd o’r Gymraeg yn gryfder yn y ddwy ysgol.

           Er bod lliniaru’r effeithiau ar gymuned o gau ysgol yn her, does dim rhaid iddo arwain at ddiwedd cymuned. Mae yna gymunedau ar Ynys Môn sydd wedi colli eu hysgolion ond sydd wedi parhau i ffynnu a hynny drwy fod yn hunangynhaliol a drwy wneud defnydd o hen adeilad yr ysgol. 

           Bod amrywiaeth o opsiynau eraill wedi eu hystyried. Nid yw cau ysgol yn argymhelliad a wneir heb ystyriaeth neu heb reswm. Fodd bynnag, wedi ystyried gwahanol opsiynau, barn y Swyddogion yw mai’r cynllun arfaethedig yw’r un mwyaf priodol ar gyfer yr ardal.

 

Cynghorodd y Cadeirydd ar y pwynt hwn, fod y Pwyllgor bellach wedi bod yn mynd am dair awr ac o dan ddarpariaethau paragraff 4.1.10 o Gyfansoddiad y Cyngor, roedd rhaid cael penderfyniad gan fwyafrif o Aelodau’r Pwyllgor a oedd yn bresennol i gytuno i barhau efo’r cyfarfod. Penderfynwyd y dylai’r cyfarfod barhau yn dilyn egwyl fer.

 

Yn dilyn nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd a’r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod, ystyriodd y Pwyllgor ei gynigion. 

 

Fe gynigwyd ac eiliwyd bod yr argymhellion yn adroddiad y Swyddog yn cael eu derbyn, sef bod capasiti Ysgol y Graig yn cael ei gynyddu er mwyn lletya disgyblion Ysgol Talwrn ac y dylid cau Ysgol Talwrn. Byddai hyn yn cael ei wneud drwy ddefnyddio’r bloc presennol ar gyfer CA2 (h.y. blynyddoedd 3 i 6) a’i addasu; adeiladu ‘Bloc’ newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, sef y Dosbarth Meithrin, Dosbarth Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2 ac ystyried adleoli’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg o fewn campws Ysgol y Graig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies welliant a eiliwyd, i’r perwyl fod y Pwyllgor yn argymell fod y Pwyllgor Gwaith yn gohirio ei benderfyniad ar foderneiddio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni (Y Graig a Talwrn) hyd nes y bydd y Cod Trefniadaeth ysgolion wedi’i fabwysiadu. 

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd 2 o blaid y gwelliant, a 7 yn erbyn.

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd fod y gwelliant wedi methu.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Lewis Davies ail welliant a eiliwyd sef bod y Pwyllgor yn argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod Ysgol Talwrn yn aros ar agor oherwydd y risg barhaus o orlenwi Ysgol y Graig ac hefyd oherwydd y cynnydd posibl yn y boblogaeth o ganlyniad i adeiladu 600 o dai yn ardal Llangefni yn unol â’r hyn sy’n cael ei dystio yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd 5 o blaid y gwelliant a 4 yn erbyn.

Cyhoeddodd y Cadeirydd fod y gwelliant wedi llwyddo ac mai dyma rwan oedd y cynnig swyddogol y byddai angen i’r Pwyllgor bleidleisio arno.

 

Nododd y Prif Weithredwr nad oedd yn glir am y sail dros ddweud fod risg y byddai Ysgol y Graig yn gorlenwi a gofynnodd am gadarnhad mewn perthynas â hynny.

 

Ar gais y Cadeirydd, cynghorodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, er y gall aelod o’r Pwyllgor gynnig argymhelliad heb dystiolaeth, argymhellir bod y cyfiawnhad dros yr argymhelliad yn cael ei gofnodi yn y cofnodion. Cynghorodd felly bod y rhesymau dros yr argymhelliad yn cael eu cadarnhau a bod y dystiolaeth yn cael ei nodi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies mai ei resymeg tu ôl i’r cynnig oedd bod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn dangos bod 600 o dai ychwanegol ar eu ffordd i’r ardal. Hefyd, mae profiad wedi dangos yr adeiladwyd Ysgol y Graig heb digon o gapasiti a’i bod bellach yn llawn. Ar ben hyn bydd

datblygiad Wylfa Newydd, sy’n debygol o ddod â mewnlifiad o bobl yn ystod y cyfnod adeiladu, ac yn dilyn hynny gallai nifer ohonynt ddewis byw yn Llangefni oherwydd ei fod yn lle hwylus ac yn agos i’r A55 ac y bydd yn rhaid darparu tai ar eu cyfer.

 

Cynghorodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ymhellach fod y rhesymau a roddwyd yn ddigonol i ddibenion y cofnodion ond y bydd angen i’r Pwyllgor Gwaith archwilio’r cyfiawnhad yn dilyn cyngor gan Swyddogion pan fydd yn ystyried yr argymhelliad.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod Swyddogion wedi asesu effaith y tai newydd yn ardal Llangefni a bod y manylion hynny wedi eu cynnwys mewn adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn. Mae nifer o’r 600 o dai arfaethedig eisoes wedi eu hadeiladu a beth bynnag, maent yn berthnasol i ysgol gynradd arall mewn rhan arall o Llangefni.

 

Aeth y Pwyllgor ymlaen i bleidleisio ar y cynnig h.y. ail welliant y Cynghorydd Lewis Davies fel y cafodd ei gyfiawnhau ganddo. Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd 4 o blaid ac fe bleidleisiodd 5 yn erbyn.

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd fod y cynnig wedi methu.

 

Yna pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig gwreiddiol h.y. bod yr argymhellion yn adroddiad y Swyddog yn cael eu derbyn. Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd 4 o blaid ac fe bleidleisiodd 4 yn erbyn, gydag un yn atal ei bleidlais. Defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw er mwyn pleidleisio yn erbyn y cynnig.

Yn dilyn ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ar lafar ac yn ysgrifenedig, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - 

 

           I beidio â derbyn argymhellion y Swyddog yn yr adroddiad.

 

           I argymell fel a ganlyn mewn perthynas â’r broses adrodd yn y dyfodol –

 

           Bod unrhyw faterion o ran perchnogaeth tir yn cael eu cadarnhau ymlaen llaw.

           Bod gwybodaeth fanylach yn cael ei darparu mewn perthynas â materion trafnidiaeth ysgol a materion parcio.

           Lle mae siaradwyr cyhoeddus yn annerch y Cyfarfod ar ran ysgol; yn cyfeirio at ohebiaeth benodol a gyflwynwyd fel rhan o’r broses ymgynghori, bod yr ohebiaeth ar gael i’r Pwyllgor ar yr amod fod yr awduron yn rhoi eu caniatâd.

 

GWEITHRED YCHWANEGOL: Yn dilyn y cyfarfod, bod Penaethiaid Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn yn cael eu hysbysu o ganlyniad trafodaethau’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol: