Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Seiriol

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Gwella Partneriaethau, Cymunedau a Gwasanaethau).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - Adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Gwella Cymunedau a Gwasanaethau) yn cynnwys adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ailgyflunio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol (Ysgol Llandegfan, Ysgol Llangoed ac Ysgol Biwmares) a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod o 22 Mai, i 2 Gorffennaf, 2018.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant  fod y broses o foderneiddio ysgolion yn golygu asesu a phwyso a mesur dyfodol ysgolion a'r effaith a gaiff hyn ar rieni, plant, athrawon, llywodraethwyr ysgol ac ystod o randdeiliaid eraill. Gall fod yn fater cynhennus; mae'n dasg heriol i'r Cyngor ac mae'n fater sy'n peri pryder i rieni a rhanddeiliaid ac roedd yn deall y pryder hwnnw. Fodd bynnag, yr hyn sydd dan ystyriaeth yw dyfodol ysgolion am y 50 mlynedd nesaf efallai; gwasanaeth ysgolion sy'n gwegian dan bwysau toriadau ariannol; ôl-groniad cynnal a chadw, gofynion y cwricwlwm yn ogystal â nifer o faterion eraill. Rhaid i'r Cyngor roi ystyriaeth ddifrifol i wneud y system ysgolion yn fwy effeithiol er mwyn creu amgylchedd lle gall y disgyblion a'r athrawon lwyddo, a hefyd i'w gwneud yn fwy effeithlon fel bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol a bod pob ysgol yn cael cyfran deg o'r gyllideb. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod cyflwyno'r Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif 21ain lle mae Llywodraeth Cymru yn barod i gyfrannu hanner cost prosiectau i adnewyddu neu ailadeiladu ysgolion a cholegau yng Nghymru yn gyfle i resymoli a moderneiddio stoc ysgolion cynradd Ynys Môn ac i greu ysgolion o safon uchel ar gyfer y genhedlaeth hon ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ni fydd yr arian hwn ar gael am byth.

Er mai’r tair ysgol yn ardal Seiriol yw canolbwynt y drafodaeth yn y cyfarfod hwn, maent yn rhan o'r darlun mwy sy'n cynnwys Ynys Môn yn gyfan a'r Gwasanaeth Addysg. Mae'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Addysg yn 40% o gyllideb gyffredinol y Cyngor; mae'r Gwasanaeth yn wynebu gorfod gwneud arbedion o £ 5.2m dros y 3 blynedd nesaf. Er bod y Cyngor yn y gorffennol wedi ceisio amddiffyn Addysg rhag toriadau cyllidebol, ni all barhau i wneud hynny. Ystyriaeth ychwanegol yw cost ôl-groniad cynnal a chadw'r ysgolion sy’n £ 16m. Mae'r pwysau ariannol y mae'r Awdurdod hwn ac awdurdodau eraill yn ei ddioddef i’w briodoli i agenda lymder barhaus Llywodraeth San Steffan. Dywedodd yr Aelod Portffolio er nad yw cau ysgol yn benderfyniad y mae unrhyw un eisiau ei wneud, nid yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy a rhaid i'r Awdurdod weithredu'n rhesymol. Nod y Rhaglen Moderneiddio yw gwella canlyniadau addysgol i blant; gwella safonau arweinyddiaeth ac ansawdd yr addysgu a'r dysgu a sicrhau bod ysgolion blaenllaw yn y sector ym mhob ardal. Mae'r gyrwyr newid yr un fath ag yr oeddent ar gyfer ymgynghoriadau blaenorol ac maent yn cynnwys gwella safonau a chyrhaeddiad addysgu, gan leihau'r amrywiad o ran cost fesul disgybl, a sicrhau bod digon o Benaethiaid ar gael ar gyfer y dyfodol. Cydnabu'r Aelod Portffolio fod gan Aelodau Etholedig rôl ddeuol yn y broses moderneiddio ysgolion sy'n cynnwys dyletswydd i'w cymunedau unigol ond hefyd ddyletswydd i roi cyfeiriad i'r Cyngor trwy gyfarwyddyd cadarn a chlir. Diolchodd i bawb a gyfrannodd at y broses ymgynghori naill ai trwy fynychu'r sesiynau galw heibio neu drwy ddulliau eraill o gyfathrebu.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol at Adran 10 yr adroddiad lle nodir y materion a godwyd gan randdeiliaid o'r tair ysgol wrth ymateb i'r broses ymgynghori ac ymateb yr Awdurdod i'r materion hynny. Gellir crynhoi'r materion hynny yn ogystal â pherfformiad yr ysgolion yn erbyn y gyrwyr newid fel a ganlyn –

 

           Ysgol Llandegfan

 

              Mae rhywfaint o wahaniaeth ym mherfformiad yr ysgol yn y Cyfnod Sylfaen a CA2 dros y tair blynedd ddiwethaf. O safbwynt yr arolygiad, gellid dadlau bod proffil arolygu Ysgol Llandegfan yn gryfach nag Ysgol Llangoed ac Ysgol Biwmares gyda pherfformiad yn erbyn pob dangosydd a aseswyd yn dda ac eithrio un a oedd yn cael ei ystyried fel Digonol.

              Mae'r gwariant fesul disgybl yn yr ysgol yn £ 3,589 sy’n is na chyfartaledd Cymru       (£ 3,690) a chyfartaledd Ynys Môn (£ 3,972) ac mae hefyd yn llai na'r gwariant fesul disgybl yn y ddwy ysgol arall. Mae Ysgol Llandegfan yn derbyn £ 58,982 llai o arian na chyfartaledd yr Awdurdod.

              Y costau ôl-groniad cynnal a chadw yn yr ysgol yw'r isaf o'r tair ysgol, sef £ 86,000.

              Ym mis Ionawr 2018 roedd 154 o ddisgyblion yn yr ysgol sy’n golygu ei bod dros ei chapasiti o 145 ac nid oes ynddi lefydd gwag.

              Mae’r gofynion o ran arweinyddiaeth a rheolaeth wedi cynyddu'n sylweddol a disgwylir iddynt ddwysau yn y dyfodol; mae'r Awdurdod o'r farn y dylai Prif Athrawon gael o leiaf 60% o amser di-gyswllt er mwyn bodloni'r gofynion. Ar hyn o bryd, mae Pennaeth Ysgol Llandegfan yn cael 60% o amser di-gyswllt.

              Mae 43% o ddisgyblion Ysgol Llandegfan yn siarad Cymraeg gartref.

              Nodwyd traffig fel problem yn yr ysgol. Ymdrinnir â hyn fel rhan o'r Asesiad Effaith Traffig a gynhelir ar gyfer pob prosiect newydd.

 

             Ysgol Llangoed

 

              Mae perfformiad yr ysgol yn y Cyfnod Sylfaen wedi amrywio dros y tair blynedd diwethaf. Roedd yn y chwartel isaf yn 2016 ac yn y chwartel uchaf yn 2017. Mae perfformiad yr ysgol yn CA2 wedi bod yn y chwartel isaf dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd proffil arolwg yr ysgol yn adlewyrchu Graddau Digonol ar y cyfan. Yn dilyn yr arolygiad yn 2014/15, dychwelodd Estyn ar ymweliad monitro ym Mehefin 2016 a daeth i'r casgliad bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd da ar faterion allweddol i’w gweithredu arnynt yn dilyn yr arolygiad ac nad oedd angen unrhyw fonitro pellach arno.

              Mae'r gwariant fesul disgybl yn yr ysgol yn £ 4,077 sy’n uwch na chyfartaleddau Môn a Chymru. Mae Ysgol Llangoed yn derbyn £ 8,190 yn fwy o arian na chyfartaledd yr Awdurdod ar gyfer 2017/18 .

              Costau ôl-groniad gwaith cynnal a chadw yn yr ysgol yw £ 107,000.

              Ym mis Ionawr, 2018, roedd 78 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda 20 (20%) o lefydd gwag. Mae’r rhagamcanion yn dangos y bydd nifer y disgyblion yn yr ysgol yn gostwng yn ystod y cyfnod hyd at 2023.

              Ar hyn o bryd mae Pennaeth Ysgol Llangoed yn cael 40% o amser di-gyswllt.

              Yn yr ysgol hon y mae’r ganran uchaf o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref, sef 46%.

              Nodwyd yn y broses ymgynghori mai Ysgol Llangoed sy’n gwario leiaf ar danwydd a chanddi hi hefyd mae’r allyriadau carbon isaf. Byddai cau'r ysgol yn arwain at gynnydd mewn allyriadau carbon.

 

              Ysgol Biwmares

 

              O ran perfformiad yn y Cyfnod Sylfaen, bu'r ysgol yn y chwartel uchaf am ddwy o’r tair blynedd diwethaf ac yn y chwartel isaf yn y flwyddyn arall. Mae ei pherfformiad yn CA2 wedi bod yn amrywiol ac yn gyffredinol, mae ei phroffil perfformiad yn debyg i un y ddwy ysgol arall. Mae proffil arolygu'r ysgol yn debyg i Ysgol Llangoed, ac fel Ysgol Llangoed, cafodd ymweliad monitro gan Estyn ym mis Mawrth 2015 hefyd pan aseswyd ei bod wedi gwneud cynnydd da ar faterion allweddol yr oedd angen gweithredu arnynt yn dilyn yr arolygiad ac nad oedd angen ei monitro ymhellach.

              Y gwariant fesul disgybl yn yr ysgol yw'r uchaf o'r tair ysgol sef £ 5,976 ac mae'n llawer uwch na chyfartaledd Ynys Môn a Chymru. Derbyniodd Ysgol Biwmares £ 80,160 mwy o gyllid na chyfartaledd yr Awdurdod ar gyfer 2017/18, sef patrwm sydd wedi bodoli ers sawl blwyddyn.

              Costau ôl-groniad gwaith cynnal a chadw yn yr ysgol yw £ 936,000 sef yr uchaf o'r tair ysgol ac mae hyn yn adlewyrchu cyflwr adeilad yr ysgol. Aseswyd cyflwr yr adeilad fel gradd C yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd gan Syrfewyr y Cyngor rhwng diwedd 2015 a ddechrau 2016. Mae Gradd C yn dynodi bod yr adeilad mewn cyflwr gwael gyda nifer o ddiffygion y mae angen rhoi sylw iddynt.

              Ym mis Ionawr, 2018 roedd 40 o ddisgyblion yn Ysgol Biwmares gyda 103 (72%) o lefydd gwag. Roedd 8 neu 17% o'r disgyblion yn dod o’r tu allan i'r dalgylch tra roedd 34 neu 72% o ddisgyblion o'r dalgylch yn mynychu ysgolion cynradd eraill. Mae’r rhagamcanion yn dangos y bydd nifer y disgyblion yn yr ysgol yn cynyddu yn y cyfnod hyd at 2023.

              Ar hyn o bryd,  mae gan Pennaeth Ysgol Biwmares yn cael 30% o amser di-gyswllt.

              Canran y disgyblion yn yr ysgol sy'n siarad Cymraeg gartref yw'r isaf o'r tair ysgol, sef 20%.

              Mae gwariant yr ysgol ar danwydd a thrydan yn uwch nag yn Ysgol Llangoed, felly hefyd yr allyriadau carbon deuocsid.

              Yn ystod y broses ymgynghori, codwyd nifer o bwyntiau -

 

              Dyfodol y ddarpariaeth cyn-ysgol. Gyda datblygiadau o'r fath, mae cyfleusterau cyn-ysgol yn cael eu hystyried bob amser fel rhan o'r strategaeth addysg ar gyfer yr ardal.

              Cynnydd yn y boblogaeth o ganlyniad i brosiect Wylfa Newydd. Er gwaethaf y ffaith y gallai rhai gweithwyr ymgartrefu yn yr ardal, byddai angen i nifer sylweddol o deuluoedd gyda phlant o oedran ysgol gynradd wneud hynny i wneud Ysgol Biwmares yn hyfyw.

              Mae'r costau ôl-groniad gwaith cynnal a chadw yn ormodol. Mae'r rhain o ganlyniad i arolwg cyflwr a gynhaliwyd gan Syrfewyr y Cyngor. Hyd yn oed pe byddai cyfanswm y gost yn cael ei haneru, byddai'r ffigwr yn parhau i fod yn sylweddol ac yn anfforddiadwy.

              Mae'r Cyngor wedi troi ei gefn ar ardal Seiriol a llawer o'i chyfleusterau. Mae'r Cyngor wedi cydweithio â grwpiau yn yr ardal ar drosglwyddo asedau ac, yn yr hinsawdd ariannol gyfredol, bydd hyn yn digwydd yn fwyfwy ar draws yr Ynys yn y dyfodol.

              Pe bai Ysgol Biwmares yn cau, ni fydd rhieni o reidrwydd yn anfon eu plant i Ysgol Llangoed. Cydnabyddir hyn ac mae'n fater o ddewis rhiant.

              Bydd cau'r ysgol yn effeithio ar ddemograffeg y dref gan olygu y byddai’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn hŷn. Mae'r Cyngor yn gweithio ar geisio adfywio Biwmares. Mae'n un o ddeg ardal sydd wedi'u clustnodi ar gyfer rhaglen adeiladu tai cyngor.

              Mae opsiynau amgen wedi'u cyflwyno. Mae'r rhain i gyd wedi'u hystyried a'u gwerthuso fel y nodir yn adran 10.5 ac yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

Dywedodd y Swyddog fod gohebiaeth wedi'i derbyn gan yr Aelod Seneddol ar gyfer Ynys Môn, a chan Gyngor Tref Biwmares sy'n tynnu sylw at ddiffyg unrhyw opsiwn a fyddai'n gweld cadw'r tair ysgol neu adeiladu ysgol newydd, ac yn datgan bod ardal Seiriol yn haeddu’r un math o fuddsoddiad ag ardaloedd eraill ar yr Ynys. Nododd y Swyddog fod buddsoddiad yn Seiriol, er efallai i raddau llai nag yng Nghaergybi neu Langefni sydd wedi elwa ar arian grant gan Ewrop a Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd y Swyddog, pe bai'r cynigion yn yr adroddiad yn cael eu derbyn, byddai dwy o ysgolion cynradd yr ardal yn cael eu huwchraddio i safonau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ystyriwyd yr opsiwn o ysgol newydd ond oherwydd diffyg tir addas, roedd yr opsiwn hwn yn anymarferol. Cyfeiriodd y Swyddog hefyd at yr ystyriaethau ariannol sy'n ffactor pwysig yn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Wrth i'r pwysau ar gyllideb y Cyngor ddwysau, ni fedr gynnal nifer fawr o adeiladau ysgolion sy’n heneiddio. O safbwynt ariannol, Opsiwn 1 yw'r mwyaf manteisiol; byddai cadw'r tair ysgol yn agored yn golygu gwario £ 1.129m o arian y Cyngor heb unrhyw dderbyniadau cyfalaf i wrthbwyso'r gwariant. Byddai hefyd yn arwain at gostau refeniw ychwanegol o £ 87,159.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad gan y Swyddog ynghylch nifer ragamcanedig y plant ychwanegol a fyddai'n dod i fyw ar yr Ynys yn sgil prosiect Wylfa Newydd o gymharu  â  phan godwyd Gorsaf Bŵer wreiddiol Wylfa. Dywedodd y Swyddog, er nad oedd data cymharol ganddi wrth law, yn seiliedig ar drafodaethau ac ar ddogfennaeth Horizon, rhagwelir y bydd 230 o deuluoedd yn symud i'r Ynys yn ystod y cyfnod adeiladu o 10 mlynedd a mwy ar brosiect Wylfa Newydd ac y disgwylir i’r mwyafrif ohonynt ymgartrefu tua Gogledd yr Ynys. Bydd llawer o weithwyr yn aros am gyfnodau byr gan ddibynnu os a phryd y byddai angen eu harbenigedd.

 

Darllenodd y Cadeirydd lythyr dyddiedig 12 Gorffennaf, 2018 a gyflwynwyd gan yr Aelod Seneddol ar gyfer Ynys Môn yn dweud fod trigolion yn pryderu fod y broses ymgynghori yn ddiffygiol ac nad yw'n adlewyrchu'r pryderon a godwyd yn yr ymarferiad ymgynghori gwreiddiol, ac nad yw'n ystyried sylwadau’r preswylwyr fod Seiriol yn haeddu yr un buddsoddiad â'r hyn a gynigiwyd i ardaloedd eraill ar Ynys Môn sydd wedi mynd drwy'r broses foderneiddio h.y. yr opsiwn o ysgol newydd yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r llythyr yn mynd rhagddo i ddweud, hyd oni fydd hynny’n digwydd, dylid gohirio’r cynigion a chadw’r tair ysgol ar agor tra’n edrych am safle yn y dyfodol i gynnal ysgol newydd, addas i'r pwrpas. Mae'r llythyr yn dod i ben trwy ddweud bod ardal Seiriol yn haeddu ateb arloesol i foderneiddio ysgolion yn y dyfodol ac nad yw’r ateb hwnnw wedi ymddangos yn yr ymgynghoriad presennol na’r ymgynghoriad blaenorol.

 

Anerchodd Emma Taylor (Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Biwmares), Rhian Jones (Cadeirydd Pwyllgor Ymateb Ysgol Biwmares a Chynghorydd Tref), y Cynghorydd Jason Zalot (Maer Biwmares) a'r Cynghorydd Alwyn Rowlands (Cyngor Tref Biwmares) oll y Pwyllgor yn mynegi eu barn ar y cynigion ar gyfer moderneiddio'r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Seiriol. Gwnaethant yr achos ynghylch pam, yn eu barn hwy, na ddylai Ysgol Biwmares gau ac wrth wneud eu sylwadau, dygwyd y pwyntiau canlynol at sylw'r Pwyllgor –

 

           Mae'r rhanddeiliaid yn Ysgol Biwmares yn deall pam mae'r Awdurdod wedi penderfynu ymgynghori ar ddyfodol addysg gynradd ar Ynys Môn ac yn ardal Seiriol ac maent yn deall yr angen am newid i leihau costau a sicrhau bod y stoc ysgolion yn gyfoes. Maent hefyd yn derbyn na all pethau aros fel y maent a dyna pam yr oeddent yn ystod yr ymgynghoriadau anffurfiol a ffurfiol wedi bod yn gweithio'n rhagweithiol i ddod o hyd i atebion hyfyw sy'n mynd i'r afael â gyrwyr newid yr Awdurdod tra'n cwrdd â dymuniadau'r trigolion a'r gymuned i ddarparu'r ysgol orau a’r addysg orau ar gyfer disgyblion rŵan ac yn y dyfodol.

           Bod y rhanddeiliaid yn Ysgol Biwmares yn amau cywirdeb y ffigwr a nodir gan yr Awdurdod ar gyfer costau ôl-groniad gwaith cynnal a chadw (£ 936k). Datgelodd dadansoddiad y gofynnwyd amdano o’r ffigwr hwn fod costau o £ 310k na ellir oherwydd eu natur eu diffinio fel ôl-groniad ac na ddylent o’r herwydd gael eu cynnwys. Mae cymryd y ffigwr hwn allan yn golygu mai'r uchafswm o ran yr ôl-groniad cynnal a chadw ar gyfer yr ysgol yw £ 636k; mae hyn yn effeithio'n sylweddol ar y cyfrifiadau yn yr arfarniad ariannol o'r pedwar opsiwn a gynhwysir yn adran 6 yr adroddiad sy'n arwain at asesiad mwy realistig gyda'r canlyniad terfynol y dylai Opsiwn 3b (cadw Llandegfan a Biwmares ar agor a chau Llangoed) arwain at arbedion refeniw yn hytrach na chostau refeniw ychwanegol.

           Yn achos Opsiwn 2 (cadw'r tair ysgol ar agor ond ffederaleiddio Llangoed a Biwmares) er bod yr Awdurdod yn datgan bod angen moderneiddio'r ysgolion er mwyn dod â nhw i safonau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, nid yw'r gost o wneud hynny wedi cael ei chynnwys er y gellir tybio y byddai Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y gost yn seiliedig ar y datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Ebrill y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at gost adnewyddu ysgolion sy'n bodoli eisoes o dan delerau Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn ogystal ag adeiladu ysgolion newydd. Er y gallai hyn gynyddu cost gyfalaf yr opsiwn hwn, byddai'n cymharu’n ffafriol ag Opsiwn 3a.

           Bod y ffigwr a roddir ar gyfer gwariant cyfartalog fesul disgybl yn Ynys Môn yn groes i'r hyn a ddywedwyd yn yr ymgynghoriad blaenorol am yr un cyfnod ac yn groes hefyd i’r swm a ddyfynnwyd gan Lywodraeth Cymru o ran gwariant cyllideb awdurdodau lleol am yr un cyfnod, sydd, ill dau yn nodi bod y gwariant cyfartalog fesul disgybl ar gyfer Ynys Môn yn £ 4,560.

           Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau eraill y Cyngor (Tîm Dysgu Dan 5 oed a Gwasanaeth ADY a Chynhwysiant Gwynedd a Môn) yn defnyddio rhan o adeilad yr ysgol heb wneud cyfraniad ariannol i gyllideb yr ysgol. Mae gorbenion y gwasanaethau hyn yn cael eu cynnwys yn y gwariant fesul disgybl gan gynyddu'r ffigwr mewn modd annheg. Mae'r Corff Llywodraethol wedi gostwng costau'r gyllideb gyffredinol gan 10% rhwng 2016/17 a 2017/18 gan leihau'r gost fesul disgybl. Gyda’r disgwyliad y bydd niferoedd y disgyblion yn codi dros y pum mlynedd nesaf, mae'r ysgol yn disgwyl i'r ffigwr ar gyfer gwariant fesul disgybl fod yn llawer tebycach i ffigur cyfartalog yr Awdurdod.

           O ran nifer y disgyblion sy'n gadael y dalgylch i fynychu ysgol mewn mannau eraill, mae gan Biwmares hanes o ddisgyblion yn mynychu ysgolion preifat - mae o leiaf 10 o blant o'r dalgylch yn mynychu Ysgol Gynradd Annibynnol Treffos. Yn ogystal, mae 5 o blant yn mynychu Ysgol Gatholig Ein Harglwyddes ym Mangor. Mae'r rhain felly yn cyfrif am bron i hanner y nifer a nodir fel plant sy’n mynychu ysgolion y tu allan i'r dalgylch. Mae'n bosibl nad oes unrhyw beth y gall yr ysgol na'r Awdurdod ei wneud i newid y sefyllfa hon gan fod y rhieni wedi gwneud dewis penodol. Mae'r risg o gau sydd wedi bod yn hongian dros yr ysgol ers yr ymgynghoriad cychwynnol yn 2012 hefyd wedi dylanwadu ar ddewis rhieni ac, o ganlyniad, mae wedi effeithio ar nifer y plant sy'n mynychu'r ysgol.

           Mae'r Corff Llywodraethol wedi bod yn ymwybodol fod rhieni yn anfon eu plant i lefydd eraill ac wedi ceisio mynd i'r afael â'r mater trwy siarad â rhieni i sefydlu'r rhesymau dros eu dewis e.e. darperir gofal am gyfnodau hwy yn yr ysgolion mewn ardaloedd eraill. O ganlyniad, mae'r ysgol wedi ailgyflwyno ei chlwb ar ôl ysgol a bu'n gweithio gyda’r Mudiad Meithrin i sefydlu cylch Ti a Fi sydd bellach â 43 o blant, sef y cylch mwyaf ar yr Ynys.

           Mae sefydlu cyfleuster Gofal Ychwanegol ar safle'r ysgol yn gyfle i gyd-leoli'r ddau wasanaeth mewn ffordd a fydd o fudd i’r ddwy genhedlaeth ac a all arwain at arbedion cost i'r Awdurdod. Mae digon o le ar safle'r ysgol ar gyfer ysgol newydd ar gyfer 120 o blant yn ogystal â'r cyfleuster Gofal Ychwanegol. Cynigiwyd yr ateb arloesol hwn yn ystod yr ymgynghoriad blaenorol ac fe'i cefnogwyd gan rieni a'r gymuned er nad yw safle'r ysgol yn lleoliad delfrydol ar gyfer darpariaeth Gofal Ychwanegol. Mae ymholiadau cychwynnol wedi dangos y gallai cynllun fel hwn neu elfennau ohono hefyd ddenu cyllid gan y Loteri Fawr.

           Mae rhanddeiliaid Ysgol Biwmares yn credu bod yr Awdurdod yn gwneud camgymeriad drwy beidio â darganfod, cyn gwneud penderfyniad, i ble y byddai rhieni’r disgyblion presennol yn anfon eu plant petai Ysgol Biwmares neu Ysgol Llangoed yn cau. Mae'r wybodaeth hon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ysgolion o'r maint cywir yn y mannau cywir. Ar adeg yr ymgynghoriad diwethaf, dosbarthodd Corff Llywodraethol Ysgol Biwmares holiadur i rieni plant yn yr ysgol er mwyn sefydlu i ba ysgol y byddent yn anfon eu plant petai Ysgol Beaumaris yn cau. Dim ond 2 ddywedodd y byddent yn ystyried anfon eu plant i Ysgol Llangoed a 6 i Ysgol Llandegfan oherwydd yr anhwylustod o orfod mynd allan o'u ffordd ar y ffordd i’w gwaith. Am y rheswm hwn, dywedodd 7 y byddent yn anfon eu plant i Ysgol y Borth a dywedodd 8 y byddent yn dewis ysgol ym Mangor. Byddai'n anodd derbyn fod plant yn gadael yr Ynys i gael eu haddysg oherwydd bod ysgol yn cau.

           Os cymeradwyir Opsiwn 1, mae’n bosib y bydd yr Awdurdod yn gwario swm sylweddol o arian ar ysgol ble rhagwelir y bydd ei niferoedd yn gostwng dros y blynyddoedd nesaf  ac un na fyddai yn elwa o gael disgyblion yn sgil cau Ysgol Biwmares. O ganlyniad, gallai'r Awdurdod fod yn ailedrych ar y mater hwn mewn ychydig flynyddoedd ac yn gorfod ystyried cau Ysgol Llangoed.

           Nad oes unrhyw gynlluniau dangosol ar gyfer adeilad Ysgol Biwmares pe bai'r ysgol yn cau; fel adeilad rhestredig, byddai ei gynnal a’i gadw’n costio i’r  Cyngor.

           Mae prosiect Wylfa Newydd yn debygol o ddod â theuluoedd ychwanegol i'r ardal a bydd angen darpariaeth addysg ar gyfer eu plant.

           Am y rhesymau hyn mae Corff Llywodraethol a rhanddeiliaid Ysgol Biwmares yn gwrthwynebu Opsiwn 1 yn gryf. 

 

Wrth ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaethpwyd, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod y ffigwr ar gyfer costau ôl-groniad gwaith cynnal a chadw wedi'i ddarparu gan Wasanaethau Eiddo'r Cyngor. Mae'r costau posibl yn cynnwys gwaith sy'n debygol o fod angen ei wneud ond nad ydyw wedi cael ei drefnu hyd yma e.e. mae problemau o ran gwresogi’r ysgol sy’n golygu y bydd angen bwyler newydd rhywbryd gyda chost hynny’n sylweddol. Gallai cydleoli'r cyfleuster Gofal Ychwanegol ac ysgol ar gyfer 120 o ddisgyblion fod yn broblem o ran y gofod sydd ar gael a hefyd oherwydd y gofynion penodol a bennir gan Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain o ran tir a gofod.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai arolwg o farn rhieni ynghylch yr ysgol y byddent yn ei dewis petai naill ai Ysgol Beaumaris neu Ysgol Llangoed yn cau wedi bod o gymorth oherwydd y gallai hynny ddylanwadu ar y penderfyniad. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol nad oedd yr Awdurdod wedi cynnal arolwg o’r fath gan na fyddai’r wybodaeth o ymarfer o’r fath yn debygol o fod o gymorth mawr oherwydd na fyddai pob rhiant wedi ymateb ac mae dewisiadau’r rheini sydd yn ymateb yn gallu, ac yn, newid.

 

Anerchodd Dr Ruth Parry (Cadeirydd Dros Dro Corff Llywodraethol Ysgol Llangoed), Mrs Katie Jones (Rhieni Ysgol Llangoed) a Mrs Delyth Jones (Cyngor Cymuned) y Pwyllgor gan fynegi eu barn ar y cynigion ar gyfer moderneiddio'r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Seiriol. Gwnaethant yr achos dros pam na ddylai Ysgol Llangoed gau yn eu barn hwy, ac wrth wneud eu sylwadau, dygwyd y pwyntiau canlynol at sylw'r Pwyllgor –

 

           Opsiwn 1 yw'r opsiwn mwyaf rhesymol o ran cwrdd â gyrwyr newid a chyflawni arbedion refeniw.

           Mae'r ffeithiau yn ffafrio cadw Ysgol Llangoed. Mae hyn oherwydd bod y gwariant fesul disgybl yn Ysgol Llangoed yn llai na’r gwariant yn Ysgol Biwmares ac mae nifer y llefydd gwag hefyd yn is. Mae niferoedd disgyblion yn Ysgol Llangoed wedi bod yn gyson ers blynyddoedd lawer. Mae cyflwr adeilad yr ysgol wedi'i raddio’n B sy'n dda ac mae'r costau ôl-groniad ar gyfer cynnal a chadw yn debyg i gostau Ysgol Llandegfan. Mae nodweddion amgylcheddol yr ysgol yn dda.

           Mae Ysgol Llangoed mewn lleoliad da ac mae'n hwylus.

           Mae'r ddogfen ymgynghori yn cyfeirio at bwysigrwydd yr iaith Gymraeg ac yn nodi y bydd unrhyw drefniant a ddatblygir fel rhan o'r rhaglen foderneiddio yn rhoi blaenoriaeth i gryfhau a gwarchod yr Iaith Gymraeg. Bu gan Ysgol Llangoed ethos Gymreig gref erioed sy'n ddeniadol i rieni sydd am i’w plant ddysgu'r iaith.Byddai trosglwyddo plant o ardal gymharol Seisnig i ardal Gymreig yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn hytrach na fel arall.

           Nid oes unrhyw ddata concrid ar gael i gefnogi'r rhagolygon ar gyfer niferoedd disgyblion hyd at 2023 ac ni ellir darogan yn gywir symudiad plant a theuluoedd i mewn ac allan o ardal.

           Mae Ysgol Llangoed yn ysgol gynradd ffyniannus sydd wrth wraidd ei chymuned ac sy'n cynhyrchu canlyniadau academaidd da a phlant hapus, iach a chyflawn. Mae'n ysgol ofalgar lle mae’r staff yn cymryd yr amser i ddeall anghenion unigol sy'n ffactor perthnasol yng nghyd-destun y fframwaith arolygu sy'n rhoi pwyslais ar bwysigrwydd profiadau plant a'r cyfraniad a wneir gan yr amgylchedd i'w diogelwch, eu hagwedd tuag at ddysgu a'u lles.

           Mae Ysgol Llangoed yn rhan o Rwydwaith Ysgolion Iach Cymru ac mae wedi ennill safon aur am fod yn ysgol werdd, eco-gyfeillgar. Dysgir y plant am fanteision bwyta'n iach a chynaladwyedd ac mae'r ysgol yn mynd ati yn egnïol i hyrwyddo ffordd iach o fyw trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau chwaraeon.

           Mae Ysgol Llangoed yn gynhwysol ac mae ganddi ddarpariaeth ardderchog ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ac mae'n hwylus i'r anabl.

           Mae Llangoed fel pentref yn datblygu i fod yn gymuned ifanc ffyniannus, yn enwedig yn dilyn datblygu stad o dai newydd - Stad yr Ysgol sef y stad tai cyngor gyntaf i gael ei hadeiladu yng Nghymru am 30 mlynedd. Mae wedi denu llawer o deuluoedd ifanc newydd i'r pentref, oherwydd ei hagosrwydd i'r ysgol. Nid yw rhai o'r teuluoedd hyn yn gyrru ac mae ganddynt blant ifanc a fydd yn cyrraedd oedran ysgol yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Ni fydd y plant 3 oed â hawl i’r ddarpariaeth teithio am ddim sy'n golygu y bydd y plant rhieni nad ydynt yn gyrru o dan anfantais.

           Mae Ysgol Llangoed yn ymgysylltu’n weithredol â'r gymuned, trwy Ffeiriau Nadolig a Phantomeim, Diolchgarwch a Gwasanaethau Dydd Gŵyl Dewi a digwyddiadau a gweithgareddau eraill.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Carwyn Jones, Lewis Davies ac Alun Roberts fel Aelodau Lleol.

 

Soniodd y Cynghorydd Carwyn Jones (nad yw’n Aelod o'r Pwyllgor) am ei siom nad oedd ei ymateb wedi'i gynnwys yn llawn yn y ddogfennaeth gan ei fod yn cynnig ateb arloesol i ailgyflunio ysgolion yn ardal Seiriol. Dywedodd mai'r farn gadarn yn ward Seiriol yw y dylai Ysgol Llangoed ac Ysgol Biwmares aros ar agor ac y dylid ystyried dull arloesol modern o foderneiddio'r ysgolion yn yr ardal hon. Dygodd y Cynghorydd Jones sylw at y ffaith bod buddsoddiad sylweddol wedi digwydd mewn ardaloedd eraill yn Ynys Môn lle mae'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion wedi cael ei gweithredu gan arwain at ysgolion newydd yng Nghaergybi, Llanfaethlu, Niwbwrch ac estyniad newydd arfaethedig yn Llangefni. Fodd bynnag, pan gaewyd Ysgol Llanddona, ni chafwyd unrhyw fuddsoddiad newydd. Dywedodd fod ardal Seiriol yn haeddu buddsoddiad cyffelyb i’r un a gafodd rhannau eraill o Ynys Môn ac y dylai hyn fod ar ffurf adnewyddu Ysgol Llandegfan ac Ysgol Llangoed ac adeiladu ysgol lai newydd ochr yn ochr â'r cyfleuster Gofal Ychwanegol ym Miwmares. Byddai'r opsiwn o ysgol newydd a gyd-leolir gyda chyfleuster Gofal Ychwanegol yn cynnig ateb cyffrous a gwahanol a allai elwa’n ariannol o ran gorbenion is a chostau a rennir ac yn addysgol o ran creu amgylchedd dysgu rhwng cenedlaethau. Byddai'r opsiwn hwn hefyd yn bodloni meini prawf Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain ar gyfer darparu cyfleuster addysg modern newydd dros y 50 mlynedd nesaf, byddai'n costio llai o lawer na’r cynlluniau moderneiddio eraill ac mae ganddo'r potensial i ostwng y gost fesul disgybl i'r isaf yng Nghymru. Pwysleisiodd y Cynghorydd Jones fod cymryd capasiti addysg allan o Ddwyrain yr Ynys trwy gau naill ai Ysgol Llangoed neu Ysgol Biwmares yn risg yn wyneb y cynnydd tebygol yn y boblogaeth a ddaw yn sgil Wylfa Newydd a datblygiadau economaidd mawr eraill ar yr Ynys a’r tu draw.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylai gohebiaeth a gyflwynwyd gan Aelodau Lleol yn rhinwedd eu rôl gael ei chyhoeddi'n llawn fel rhan o'r ddogfennaeth a gyhoeddir.

 

Mynegodd y Cynghorydd Lewis Davies yntau ei ofid bod ardal Seiriol yn cael ei thrin yn wahanol ac, yn ei farn ef, yn annheg oherwydd nad yw’n cael cynnig ysgol newydd. Soniodd am yr effaith andwyol y byddai cau naill ai Ysgol Llangoed neu Ysgol Biwmares yn ei chael ar y cymunedau perthnasol ac roedd yn teimlo bod cam o'r fath yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy'n hyrwyddo creu cymunedau diogel, cydlynol a gwydn. Mae angen adfywio ardal Seiriol a a bydd hynny’n llawer anoddach i'w gyflawni os bydd Ysgol Llangoed neu Ysgol Biwmares yn cau. Dywedodd ei fod yn cefnogi cadw'r tair ysgol yn yr ardal ar y sail bod eu hangen i sicrhau dyfodol y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, i weithredu fel sail ar gyfer adfywio'r cymunedau hynny, er mwyn sicrhau cydbwysedd demograffig yn y ardal yn y dyfodol ac i ddarparu'r capasiti i ddelio â'r mewnlifiad o deuluoedd a fydd yn dod yn sgil Wylfa Newydd a datblygiadau eraill.

 

Ategodd y Cynghorydd Alun Roberts ei gyd-Aelodau Lleol wrth eirioli dros gadw’r tair ysgol ar agor. Roedd yn cefnogi lleoli ysgol lai ochr yn ochr â chyfleuster Gofal Ychwanegol ym Miwmares fel ateb gwreiddiol ac arloesol i Fiwmares. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y rhagolygon ar gyfer niferoedd disgyblion yn Ysgol Llandegfan yn ardderchog ac yn gwella yn achos Ysgol Llangoed ac Ysgol Biwmares ac y gallai’r mewnlifiad o deuluoedd yn sgil Wylfa Newydd eu hatgyfnerthu. Pwysleisiodd y Cynghorydd Roberts nad yw cau naill ai Ysgol Biwmares neu Ysgol Llangoed yn diogelu dyfodol y llall ac efallai y byddai'r ysgol a fyddai’n parhau i fod ar agor mewn mwy o berygl wrth i rieni benderfynu anfon eu plant i rhywle arall – sef yr hyn a awgrymir gan yr arolwg a gynhaliwyd gan Gorff Llywodraethu Ysgol Biwmares.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw ar y pwynt hwn, fod y Pwyllgor wedi bod yn eistedd am dair awr ac, yn unol â darpariaethau paragraff 4.1.10 o Gyfansoddiad y Cyngor, bod angen i fwyafrif Aelodau’r Pwyllgor a oedd yn bresennol gytuno i barhau â’r cyfarfod. Penderfynwyd y dylai'r cyfarfod barhau.

 

Rhoes y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar ac fe ymatebodd fel a ganlyn –

 

           Nododd y Pwyllgor mai un o'r opsiynau amgen a gyflwynwyd oedd cydleoli ysgol lai a      chyfleuster Gofal Ychwanegol ar safle presennol Ysgol Biwmares. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch pa mor ymarferol yw’r opsiwn hwnnw yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn diffinio ysgol fach fel un gyda 150 o ddisgyblion neu lai.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, er bod yr opsiwn yn ddeniadol, nid yw'r ffeithiau yn cynnal yr achos busnes. Mae'n amheus a fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi adeiladu ysgol newydd mor fychan â’r un a gynigir.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 y dylai pob cais am gyllid Llywodraeth Cymru dan Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain gael ei gefnogi gan Achos Busnes sy'n ymdrin â fforddiadwyedd, gwerth am arian, cyflawni arbedion refeniw ac ystod o ffactorau eraill. Mae sicrhau cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer creu ysgol fach felly'n anodd oherwydd ystyriaethau ariannol. O ran rhannu cyfleusterau a chostau gyda'r cyfleuster Gofal Ychwanegol ac o safbwynt trethiant, byddai Treth Gyngor yn daladwy ar yr unedau Gofal Ychwanegol a byddai’n cael ei brisio'n wahanol i'r ysgol gan nad oes cysylltiad rhwng y ddau yn hyn o beth. Yn ogystal, bydd y cyfleuster Gofal Ychwanegol yn cael ei ariannu o'r Cyfrif Refeniw Tai a gyllidir gan incwm rhent o stoc dai'r Cyngor. Mae defnydd o'r HRA wedi'i gyfyngu i ddibenion sy’n ymwneud â stoc dai'r Cyngor yn unig sy’n golygu y byddai’n amhosibl defnyddio'r HRA i ariannu neu sybsideiddio costau sy'n dod i Gyfrif Cyffredinol y Cyngor ac sy'n cael ei ariannu gan y Dreth Gyngor a'r Grant Cymorth Refeniw.

 

           Nododd y Pwyllgor fod posibilrwydd, petai Ysgol Beaumaris yn cau, y bydd rhieni efallai’n dewis anfon eu plant i ysgol heblaw Ysgol Llangoed, gyda hynny’n risg i hyfywedd Ysgol Llangoed yn y tymor hir. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad a oedd hynny wedi cael ei gymryd i ystyriaeth yn y cynlluniau ar gyfer Ysgol Llangoed.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod moderneiddio ysgolion bob amser yn cynnwys elfen o risg. Fodd bynnag, yn yr achos hwn mae'r Awdurdod wedi ceisio lliniaru'r risg trwy gynnig ateb sy’n fwy cynaliadwy. Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol gofynnwyd i rieni ddatgan ba ysgol y byddent yn ei ffafrio - Ysgol Llandegfan, Ysgol Llangoed neu Ysgol Biwmares ond mae hynny wedi cael ei dynnu allan yn awr yn unol â dymuniadau'r Aelodau Etholedig sy’n dweud y dylai cynaladwyedd yr ateb yn y tymor hir fod yn ffactor amlycach beth bynnag fo’r penderfyniad terfynol, dyna pam mae’r "opsiynau naill ai neu" wedi eu cynnwys yn yr adroddiad - naill ai Ysgol Llangoed neu Ysgol Biwmares i gau. Pe bai Ysgol Biwmares yn cau a rhieni yn yr ysgol yn dewis peidio ag anfon eu plant i Ysgol Llangoed, yna byddai'r Awdurdod yn parhau i gynnal darpariaeth addysg ar gyfer 80 disgybl yn Ysgol Llangoed. Dywedodd y Swyddog, os oes cefnogaeth i gadw ysgol ar gyfer 40 o ddisgyblion ym Miwmares, yna bydd angen i’r Pwyllgor nodi o ble y daw’r £ 1.129m i ariannu’r opsiwn hwn.

 

                 Nododd y Pwyllgor fod yr Aelodau Lleol yn pryderu y bydd rhai rhieni, wrth ymarfer eu dewis, yn dewis mynd â’u plant i ysgolion yn ardal Bangor oherwydd agosrwydd yr ysgolion hynny at eu mannau gwaith. Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ynglŷn â'r sefyllfa o ran argaeledd lleoedd ysgol yn ardal Bangor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, er nad yw'r Awdurdod wedi ymchwilio i'r mater hwn, mae'n hysbys bod Cyngor Gwynedd wrthi'n adolygu'r ddarpariaeth addysg yn ardal Bangor yn erbyn yr un meini prawf i bob pwrpas â'r rheiny yn Ynys Môn. Fel yn Ynys Môn hefyd, mae'n debyg y bydd y gallu i ddarparu ar gyfer 10% o leoedd gwag yn berthnasol, felly mae lleoedd mewn ysgolion yn gyfyngedig yn ardal Bangor hefyd.

 

                 Nododd y Pwyllgor y bydd prosiect Wylfa Newydd yn ôl pob tebyg yn arwain at gynnydd ym mhoblogaeth yr Ynys yn ystod cyfnodau adeiladu a chyflawni’r prosiect ac y byddai’n beth doeth efallai i gadw capasiti addysg yn ardal Seiriol er mwyn darparu ar gyfer y cynnydd. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a yw creu ysgol aml-safle yn ddewis arall ymarferol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol nad yw'r opsiwn aml-safle yn mynd i'r afael â chostau ôl-groniad cynnal a chadw na mater lleoedd dros ben.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod Asesiad Effaith yr Awdurdod wedi ystyried yr effeithiau ar y cymunedau.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod Asesiad Effaith yr Awdurdod wedi ystyried yr effeithiau ar y cymunedau. Ar ben hynny, mae Estyn wedi cadarnhau bod Asesiad Effaith yr Awdurdod yn dda yng nghyd-destun yr ymgynghoriad hwn.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch sut y dewiswyd ardaloedd ar gyfer eu hadolygu dan y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion o ystyried bod yn yr ardaloedd sydd wedi cael eu hadolygu ysgolion â nifer uwch o ddisgyblion nag ardaloedd nad ydynt wedi'u hadolygu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod ardal Seiriol yn un o’r ardaloedd a oedd wedi ei chynnwys yng nghyfnod buddsoddi cychwynnol Band A y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain. Bydd ardaloedd eraill ar yr Ynys yn cael eu hadolygu yn ail gam buddsoddi Band B a fydd yn cychwyn ym mis Ebrill, 2019. Cafodd adroddiad ar ddewis ardaloedd ar gyfer eu hadolygu dan Fand A ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ac roedd i’w briodoli’n rhannol i sylwadau a wnaed gan Estyn i’r perwyl nad oedd Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr Awdurdod yn ddigon uchelgeisiol. Yn unol â hynny, penderfynwyd y dylid gweithredu'r rhaglen foderneiddio i ddechrau mewn ardal drefol – sef Caergybi, ac mewn ardal wledig – sef Y Llannau ac yn dilyn hynny, mewn ardaloedd lle yr oedd nifer y lleoedd gwag yn uchel, sef Rhosyr a Seiriol.

 

Rhoddwyd cyfle i gynrychiolydd yr un o Ysgol Biwmares ac Ysgol Llangoed i grynhoi. Ar ran Ysgol Biwmares, gofynnodd Mrs Rhian Jones i’r Pwyllgor argymell oedi er mwyn sicrhau y deuir o hyd i’r datrysiad cywir ar gyfer y cymunedau dan sylw a hynny ar ôl cael amser digonol i ystyried yn ddifrifol opsiynau eraill ar wahân i gau’r ysgol.  Gofynnodd Dr Ruth Parry ar ran Ysgol Llangoed i'r Pwyllgor wneud ei argymhelliad yn seiliedig ar y ffeithiau.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, er bod y sefyllfa'n anodd, nid yw gwneud dim yn opsiwn o safbwynt addysgol neu ariannol. Yn gyffredinol, sefydlwyd y patrwm presennol o ysgolion cynradd a’u lleoliad 150 mlynedd yn ôl pan oedd plant yn cerdded i'r ysgol; mae'n rhaid ei addasu yn unol ag amgylchiadau fel y maent yn awr, ac i'r dyfodol.

 

Cydnabu'r Prif Weithredwr, er bod hwn yn fater heriol, bod rhaid i'r penderfyniad fod yn gysylltiedig â gwneud y system addysg gynradd ar Ynys Môn yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon. Yn yr hinsawdd gyfredol, mae ystyriaethau ariannol yn ffactor ond rhaid i ansawdd y ddarpariaeth addysg gario pwysau hefyd. Dywedodd y Swyddog fod cost addysg yn ardal Seiriol yn llawer uwch na chyfartaledd Ynys Môn gyda dwy o'r tair ysgol yn cael eu hystyried fel rhai bychan yn ôl safonau Llywodraeth Cymru. O ran niferoedd disgyblion, nodwyd yn yr ymgynghoriad gwreiddiol fod nifer y disgyblion yn Ysgol Llandegfan ac yn Ysgol Llangoed wedi bod yn gyson ond bod nifer y disgyblion yn Ysgol Biwmares wedi bod yn mynd i lawr. Mae'r costau ôl-groniad o ran gwaith cynnal a chadw yn uchel, ac mae cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru wedi aros yn ddigyfnewid ers blynyddoedd lawer a chan fod yr arian hwn wedi cael ei ddyrannu i ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, mae mynd i'r afael â'r mater hwn yn broblem. Mae casgliadau'r adroddiad yn ei gwneud hi'n glir mai Opsiynau 1 a 2 yw'r unig opsiynau realistig o dan yr amgylchiadau.

 

Ar ôl nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd a'r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod, bu'r Pwyllgor yn ystyried ei gynigion.

 

Ar ôl crynhoi'r apeliadau a wnaed gan y rhai a oedd wedi cyflwyno sylwadau i'r Pwyllgor gan gynnwys Aelod Seneddol Ynys Môn a oedd wedi cyfleu ei farn trwy lythyr, cyfeiriodd y Cadeirydd at y ddau opsiwn a gyflwynwyd yn adroddiad y Swyddog sef –

 

Opsiwn 1 - Adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llangoed, neu

Opsiwn 2 - Adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Llangoed ac adnewyddu Ysgol Biwmares.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies drydydd opsiwn (Opsiwn 3) a eiliwyd, i'r perwyl fod y Pwyllgor yn argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod y 3 ysgol (Ysgol Llandegfan, Ysgol Llangoed ac Ysgol Biwmares) yn aros ar agor fel y gellir cael trafodaeth am fuddsoddi er mwyn adeiladu ysgol ardal newydd, fodern Unfed Ganrif ar Hugain ar gyfer ardal Seiriol, fel sydd wedi digwydd mewn ardaloedd eraill o'r Ynys sef Y Llannau, Ynys Gybi, Cefni a Niwbwrch.

Wrth gyfiawnhau'r cynnig, dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies fod posibilrwydd y gellir datblygu safle Lairds yn y dyfodol ac y gallai fod yn safle addas ar gyfer ysgol newydd.

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts welliant ac fe eiliwyd hwnnw – sef y dylid argymell Opsiwn 1 yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith. Cyfeiriodd at y datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg ar 25 Ebrill, 2018, lle roedd hi wedi dweud bod mater cynllunio ar gyfer lleoedd ysgol yn fater i'r Awdurdod Lleol a bod unrhyw gais am arian cyfalaf o dan Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn cael ei farnu ar feini prawf sy'n cael eu harchwilio gan fwrdd allanol ac sy’n cyfeirio at y gwerth y tu ôl i bob cais unigol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd nad oedd hi'n ymwybodol bod unrhyw gais yn cael ei seilio ar yr angen i gau ysgolion a bod yr arian ar gael ar gyfer adnewyddu safleoedd presennol, ar gyfer ysgolion newydd ac ysgolion sydd newydd eu sefydlu. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei bod hi'n credu bod y sylwadau yn berthnasol yr achos hwn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod ysgol ardal newydd fel y’i cynigir yn Opsiwn 3 wedi cael ei hystyried yn yr ymgynghoriad anstatudol ond nad aethpwyd ar ôl yr opsiwn hwnnw. Un o'r opsiynau a werthuswyd ac a sgoriwyd ar yr adeg honno oedd datblygu ysgol fawr mewn ardal yn nes at Borthaethwy.

 

Wedyn, fe dynnodd y Cynghorydd Lewis Davies ei gynnig yn ôl a dywedodd na fyddai'n pleidleisio. Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen a oedd wedi eilio’r cynnig, Opsiwn 3 ac fe eiliwyd ei gynnig.

 

Yn y bleidlais ddilynol ar y cynnig, pleidleisiodd 2 o blaid a phleidleisiodd 1 yn erbyn y cynnig ac ymataliodd 5 eu pleidlais. Gan nad oedd pleidlais fwyafrifol o blaid y cynnig, ni chafodd y cynnig ei gario.

 

Yna pleidleisiodd y Pwyllgor ar y gwelliant, sef bod Opsiwn 1 yn cael ei argymell i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd 2 o blaid, 4 yn erbyn ac ymataliodd 2 eu pleidlias. Gan nad oedd pleidlais fwyafrifol, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn erbyn Opsiwn 1.

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ar lafar ac yn ysgrifenedig, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol beidio â derbyn yr opsiynau yn adroddiad y Swyddog.

 

Dogfennau ategol: