Eitem Rhaglen

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 27ain Mehefin, 2018, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi o’r cofnodion -

 

           Mewn ymateb i gwestiwn am yr adolygiad o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor, eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg ei bod wedi bod ar wyliau yn syth ar ôl y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor ym mis Mehefin ac nad oedd hi hyd yma wedi gallu anfon drafft cyntaf y Cylch Gorchwyl diwygiedig i'r ddau Aelod Lleyg i'w ystyried fel y cytunwyd. Fodd bynnag, cadarnhaodd y byddent yn derbyn copi mewn da bryd ar gyfer cyfarfod mis Medi pan fydd y cylch gorchwyl yn cael ei adolygu'n ffurfiol gan y Pwyllgor.

 

           Gan gyfeirio at Ddatganiad Cyfrifon 2017/18, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi cael gwybodaeth am y modd y mae mae ffigurau allbwn y Gyllideb yn adran naratif y Cyfrifon yn cael eu cysoni â'r Cyfrif Incwm a Gwariant Cynhwysfawr yn y Datganiadau Ariannol.

 

Nododd y Pwyllgor, er bod y Datganiad Cyfrifon yn fod i ddarparu gwybodaeth glir i etholwyr, trethdalwyr lleol, Aelodau'r Cyngor a phartïon eraill sydd â diddordeb am gyllid y Cyngor, yn enwedig cost y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn, y modd y telir am wasanaethau ag asedau a rhwymedigaethau'r Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn, ni chaiff ei nodi mewn modd sy'n gwneud y wybodaeth yn hawdd i gael ati neu ei deall. Nododd y Pwyllgor ymhellach nad yw'n hawdd gweithio allan o'r Datganiadau Ariannol sut y mae'r Cyngor yn perfformio'n ariannol o ran rheoli ei fusnes o safbwynt elw a cholled a bod hynny’n cyfyngu ar ddefnyddioldeb y Datganiad fel offeryn i ddal y Cyngor i gyfrif am y modd y mae'n gwario arian cyhoeddus.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod y Datganiad o Gyfrifon hwn wedi cael ei baratoi yn unol â'r Cod Ymarfer ar Gyfrifyddu Awdurdodau Lleol sy'n rhagnodi’r modd y dylid cyflwyno’r cyfrifon a’u bod yn cael eu harchwilio gan yr Archwilydd Allanol ar y sail honno. Mae'r Datganiad fel dogfen wedi mynd yn fwy cymhleth oherwydd ei bod yn darparu ar gyfer gofynion CIPFA gyda hynny’n golygu ei bod yn llai dealladwy i’r person lleyg sy’n ei ddarllen. O ran atebolrwydd, mae'r modd y mae'r Cyngor yn trefnu ac yn rheoli ei fusnes ac yn defnyddio ei adnoddau yn cael ei fonitro'n agos, ond nid y cyfrifon yw’r prif gyfrwng ar gyfer rhannu gwybodaeth ond yn hytrach, yr adroddiadau monitro cyllideb a gyflwynir yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn sy'n dangos sut mae pob gwasanaeth unigol yn rheoli ei gyllideb. O ran y Datganiadau Ariannol, dywedodd y swyddog bod yr adroddiad naratif rhagarweiniol sy'n cyd-fynd â'r Datganiad yn cyfleu'r prif negeseuon am berfformiad ariannol y Cyngor yn ystod y flwyddyn yn unol â'r adroddiadau cyllidebol - gall y sylwebaeth naratif ganiatáu rhywfaint o ryddid i ddarparu dadansoddiad pellach. Dywedodd y Swyddog y bydd y Gwasanaeth yn adolygu cynnwys yr Adroddiad Naratif i ganfod a yw hyn yn bosibl.

Dogfennau ategol: