Eitem Rhaglen

Adolygiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2017/18

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran  151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ar yr Adolygiad o Weithgareddau Rheoli Trysorlys  2017/18 fel y gall y Pwyllgor ei ystyried a’i graffu unol â rheoliadau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Chynllun Dirprwyo’r Cyngor ar gyfer Rheoli Trysorlys am 2016/17.

 

Dywedodd  y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod yr adolygiad yn crynhoi'r sefyllfa mewn perthynas â gwariant cyfalaf y Cyngor, ei weithgareddau benthyca a’i fuddsoddiadau yn ystod 2017/18. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi sut y perfformiodd y Cyngor yn erbyn y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2017/18. Cyfeiriodd y Swyddog at y prif bwyntiau i’w hystyried fel a ganlyn -

 

           Gwariant Cyfalaf a Chyllido - o gyllideb gychwynnol o £ 53m, cyfanswm y gwariant cyfalaf ar gyfer 2017/18 oedd £ 29m gyda'r tanwariant i’w briodoli yn bennaf i’r llithriad ar brosiectau mawr a ariennir gan grantiau. Mae'r tabl ym mharagraff 2.2 yr adroddiad yn dangos bod £ 7 miliwn o wariant cyfalaf yn cael ei ariannu trwy fenthyca. Ni chymerwyd unrhyw fenthyciadau allanol tymor hir (sef y rhai a geir gan gyrff allanol megis y Llywodraeth, neu drwy’r PWLB neu’r marchnadoedd arian) yn ystod y flwyddyn ond benthycwyd yn fewnol, gyda balansau arian y Cyngor yn cyllido hyn yn y tymor byr er mwyn lleihau taliadau llog. Mae hyn yn cyd-fynd â’r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys.

           Yr enw a roddir ar angen sylfaenol y Cyngor i fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf yw’r Gofyniad Cyllido Cyfalaf (CFR). Mae'r ffigwr hwn yn fesur o ddyledion y Cyngor. Mae'r CFR yn deillio o weithgarwch cyfalaf y Cyngor a’r adnoddau a ddefnyddiwyd i dalu am y gwariant cyfalaf. Mae'n cynrychioli'r gwariant cyfalaf yn 2017/18 a ariannwyd drwy fenthyca a gwariant cyfalaf y blynyddoedd blaenorol a ariannwyd drwy fenthyca ond sydd heb ei dalu eto o refeniw neu adnoddau eraill.

           Mae'r tabl ym mharagraff 3.3.4 yr adroddiad yn dangos bod CFR y Cyngor ar gyfer y flwyddyn, sef un o'r dangosyddion darbodus allweddol (h.y. dangosyddion sy'n gosod terfynau ar weithgarwch rheoli trysorlys) yn £ 95m ar gyfer Cronfa'r Cyngor a £ 41 miliwn ar gyfer y Tai Cyfrif Refeniw sy'n gwneud cyfanswm o £ 136m. O'i gymharu â'r sefyllfa fenthyca gros ar 31 Mawrth, 2018 a oedd yn £ 117m, mae'n dangos bod £ 19 miliwn o falansau'r Cyngor wedi cael ei ddefnyddio i ariannu gwariant cyfalaf. O dan yr amgylchiadau hyn, disgwylir y bydd angen tynnu benthyciadau allan i ail-lenwi'r balansau yn y tymor hir.

           Mae Strategaeth a Pholisi Rheoli'r Trysorlys yn gosod trothwy ar y CFR a elwir yn gyfyngiad awdurdodedig. Unwaithy bydd y trothwy hwn wedi’i osod – roedd y trothwy ar gyfer 2017/18 yn £ 169m, nid oes gan y Cyngor y pŵer i fenthyca uwchben y lefel hon. Mae'r tabl yn 3.5.3 o'r adroddiad yn dangos bod y Cyngor wedi cadw o fewn y trothwy awdurdodedig o ran benthyca gros (£ 117m) yn ogystal â'r ffin weithredol sy'n dynodi sefyllfa disgwyliedig y Cyngor o ran benthyciadau yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, efallai y bydd cyfnodau lle mae'r sefyllfa wirioneddol naill ai’n is neu’n uwch na’r trothwy; mae hyn yn dderbyniol os nad yw'r trothwy awdurdodedig yn cael ei dorri.

           Caiff y CRF a rhagamcenir ar gyfer 2018/19 a 2019/20 ei ddangos yn nhabl 3.4.2 yr adroddiad yn seiliedig ar y rhaglen gyfalaf wirioneddol ar gyfer 2018/19 a'r amcangyfrif o ofynion cyllido cyfalaf ar gyfer 2019/20. Wrth i'r CFR gynyddu, bydd y trothwy awdurdodedig a’r ffin weithredol yn codi’n unol â hynny.

           Nodir ffigyrau benthyca a buddsoddi’r Cyngor ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2016/17 a 2017/18 yn nhabl 4.1 yr adroddiad. Mae sefyllfa dyledion y Cyngor, sef £ 117.029m yn debyg i sefyllfa’r flwyddyn flaenorol (£ 117.110m). Mae gan y Cyngor £ 5.993m wedi'i fuddsoddi mewn cyfrifon adneuo di-rybudd sy’n talu llog ar gyfradd sy’n agos at y gyfradd sylfaenol gyfredol. Gwnaed yr holl fuddsoddiadau am lai na blwyddyn. Ceir rhagor o fanylion yn Atodiad 1 yr adroddiad.

           Ni chafodd unrhyw ddyledion eu hail-drefnu yn ystod y flwyddyn gan fod y gwahaniaeth cyfartalog o 1% rhwng cyfraddau benthyca newydd PWLB a chyfraddau ad-dalu dyledion yn gynamserol yn golygu y byddai’n anhyfyw i’w hail-drefnu.

           Y Gyfradd Banc ar ddechrau'r flwyddyn ariannol oedd 0.25%; fodd bynnag, cynyddodd hyn i 0.5% ar 2 Tachwedd, 2017. Roedd hynny’n golygu fod cyfraddau llog sefydliadau gwrth-barti ar y cyfrifon nodweddiadol yr oedd modd galw arnynt yn amrywio o 0.10% i 0.40%.

           Y strategaeth fuddsoddi ddisgwyliedig oedd cadw at adneuon tymor byrrach (hyd at 364 diwrnod), er y cadwyd yr hawl hefyd i fuddsoddi am gyfnodau hirach. Disgwyliwyd y byddai balansau arian parod hyd at £ 26m yn amrywio rhwng £ 5m a £ 26m. Gosodwyd y gyllideb ar 0.055% am £ 15k ar ôl addasu ar gyfer y cyfraddau uwch ar fuddsoddiadau presennol. Fel y digwyddodd pethau, cafwyd dychweliad o £ 31.2k (0.12%) ar y balansau cyfartalog o £14.4m.

           Yr unig fenthyciad a wnaed yn ystod y flwyddyn oedd un am £ 5m o Gronfa Bensiwn Tyne a Wear ar gyfradd llog o 0.33% am gyfnod dros dro o 3 mis i helpu gyda rheoli llif arian. Pan aeddfedodd y benthyciad ym mis Ionawr, 2018, cafodd ei gario drosodd am 3 mis pellach ar gyfradd llog o 0.50%. Pan aeddfedodd wedyn ym Ebrill, 2018 pan ddechreuodd y Cyngor dderbyn incwm o'r RSG, y Dreth Gyngor ac ati, roedd balansau arian parod y Cyngor wedi cynyddu gan olygu nad oedd angen y benthyciad mwyach ac fe dalwyd y ddyled yn ôl.

           Roedd y flwyddyn gyfan yn weddol sefydlog gyda gwariant cyfalaf yn llai na'r disgwyl ac mae'r Cyngor yn ariannu hyn trwy ddefnyddio ei gronfeydd wrth gefn ei hun. Mae hyn yn barhad o'r strategaeth a weithredwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o fewnoli benthyciadau lle mae modd gwneud hynny er mwyn lleihau costau benthyca. Fodd bynnag, os bydd cynnydd pellach yn y cyfraddau llog, bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth i amrywio'r strategaeth trwy ddechrau benthyca ac, ar yr un pryd, fuddsoddi balansau arian y Cyngor ystyriaeth.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ac ymatebodd fel a ganlyn -

 

           Nododd y Pwyllgor fod yna gyfyngiadau ar allu’r Cyngor i fenthyca gyda’r CFR yn sicrhau na fedrir benthyca i gefnogi gwariant refeniw. Nododd y Pwyllgor hefyd y bydd pwynt yn cael ei gyrraedd pan na fydd yn briodol mwyach  caniatáu i falansau arian parod leihau ymhellach oherwydd yr angen i gynnal cyfalaf gweithredol. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o'r sefyllfa ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod y sefyllfa o ran y cyfalaf gweithredol yn cael ei adolygu bob dydd er mwyn sicrhau bod gan y Cyngor ddigon o arian i gwrdd â'i gostau parhaus gyda'r lefel yn cael ei gosod ar swm sy'n cyfateb i'r lefel a ffefrir ar gyfer balansau’r Gronfa Gyffredinol sydd oddeutu £ 6 miliwn, sef y lefel a aseswyd gan y Swyddog Adran 151 fel yr un ddigonol.

 

           Nododd y Pwyllgor mai'r costau misol mwyaf i'r Cyngor yw cyflogau staff. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a yw'r ffigwr misol ar gyfer cyflogau yn fwy neu’n llai na £ 6m.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y ffigwr oddeutu £ 6 miliwn gan gynnwys YG a chostau pensiwn.

 

           Nododd y Pwyllgor fod Mantolen y Cyngor ar gyfer 2017/18 yn dangos bod balansau arian parod y Cyngor wedi gostwng o £ 14.940m ar 31 Mawrth, 2017 i £ 7.789m ar 31 Mawrth, 2018. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd bod gan y Cyngor ddigon o arian ar gael petai pwysau annisgwyl arno.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod y sefyllfa ar 31 Mawrth, 2018, yn ei farn ef,  yn cynrychioli lleiafswm yr arian yr oedd ei angen a bod ystyriaeth wedi cael ei roddi bryd hynny i fenthyca. Fodd bynnag, gan fod y flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill ar fin dechrau ac y deuai incwm newydd bryd hynny ar ffurf rhan-daliad cyntaf y  taliadau RSG a’r Dreth Gyngor, gyda  hynny’n rhoi hwb i  sefyllfa llif arian y Cyngor, penderfynwyd peidio â benthyca.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu -

 

           Yn nodi y bydd y ffigurau alldro yn yr adroddiad yn parhau i fod yn rhai dros dro nes i'r archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2017/18 gael ei gwblhau a'i lofnodi; adroddir fel y bo’n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol sy'n deillio o'r ffigurau a gynhwysir yn yr adroddiad.

           Yn nodi'r dangosyddion darbodus a’r dangosyddion trysorlys dros dro ar gyfer 2017/18 a amlinellir yn yr adroddiad.

           Yn derbyn Adroddiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2017/18 ac yn cyflwyno'r adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith heb unrhyw sylwadau pellach.

 

CAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL: Dim

Dogfennau ategol: