Mater - penderfyniadau

Gweddill y Ceisiadau

05/07/2017 - Gweddill y Ceisiadau

12.1   15C224/AD  - Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ar dir y tu cefn i gilfan yn Hermon.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais a dirprwyo'r grym i weithredu i Swyddogion gymeradwyo’r cais yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad statudol gofynnol i’r tirfeddiannwr.

 

12.2   34C694B - Cais llawn i greu parc chwaraeon trefol ar dir ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3   46C137F – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 18 o anheddau ynghyd â ffurfio mynedfa newydd i gerbydau yn yr Hen Gae Criced, Lon St Ffraid, Bae Trearddur.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais gyda rheswm diwygiedig dros wrthod gan gymryd i ystyriaeth adroddiad cyfrwymol yr Arolygydd mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.