Mater - penderfyniadau

Gweddill y Ceisiadau

25/07/2018 - Gweddill y Ceisiadau

12.1      23C301C  -  Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol yn anecs ar gyfer gofalwr ym Mhen y Garreg, Talwrn.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2      36C193P/ENF - Cais llawn ar gyfer cadw dau o gynwysyddion storio ynghyd â lleoli 10 o gynwysyddion storio ar dir yn Cefn Uchaf, Rhostrehwfa.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3  45LPA1029D/CC/DIS - Cais i ryddhau amod (10) (goleuadau gweithredol) o ganiatâd cynllunio45LPA1029A/CC/ECON yn Ysgol Santes Dwynwen, Safle’r Ysgol Newydd, Lôn Twnti, Niwbwrch.

 

         PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar ôl derbyn manylion boddhaol ar liniaru effeithiau ar ystlumod.