11.1 11C73F/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 11C73E (troi ystafell weithgareddau yn bedair uned hunangynhaliol ac ystafelloedd gwesty ychwanegol) er mwyn creu dwy uned hunangynhaliol a chynyddu nifer yr ystafelloedd gwesty i 8 yn Lastra Farm, Amlwch.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynddo.
11.2 34C734 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd ac ymestyn y cwrtil yn 18 Nant y Pandy, Llangefni.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynddo.