Penderfynwyd cadarnhau –
• Bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â’r camau a gymerwyd i weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a chyflymder y cynnydd ac i gadarnhau ei fod yn fodlon i’r gwasanaeth symud ymlaen â’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth newydd fydd yn cymryd lle’r Cynllun Gwella Gwasanaeth presennol.
• Bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.