Penderfynwyd cymeradwyo’r penderfyniad gwreiddiol, sef i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle i ddisgyblion Ysgol Talwrn, a chau Ysgol TaIwrn.
Gwneir hyn drwy –
· Ddefnyddio’r adeilad presennol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 h.y. Blynyddoedd 3 i 6 a’i addasu;
· Adeiladau Bloc newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, sef Meithrin, Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2;
· Ystyried ail-leoli’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg ar gampws Ysgol y Graig.
Byddai’r bloc newydd yn rhan o Ysgol y Graig, nid yn uned ar wahân.Y trefniant newydd i weithredu fel un ysgol ac nid fel dwy uned ar wahân.