Penderfynwyd –
· Diddymu’r penderfyniadau blaenorol a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ynglyn â dyfodol addysg yn ardaloedd Llangefni a Seiriol.
· Gofyn i’r Swyddogion edrych o’r newydd ar y gwahanol faterion mewn perthynas â moderneiddio ysgolion a’r gofynion o dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn ardal Llangefni ac yn ardal Seiriol ac i ddychwelyd gydag adroddiad priodol i’r Pwyllgor Gwaith maes o law.