Penderfynwyd –
• Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiad A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2019/20.
• Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2019/20 fel y manylir yn Atodiad C.
• Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad Ch yr adroddiad a chymeradwyo defnyddio unrhyw falans sy’n weddill ar y cyfalaf / datblygu’r system cynllunio a phridiannau tir awtomataidd newydd i ariannu’r gwaith o sganio a digideiddio ffeiliau hanesyddol.
• Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2019/20 fel y caiff ei nodi yn Atodiad D yr adroddiad.
• Nodir costau asiantaeth ac ymgynghorwyr ar gyfer 2019/20 fel y cânt eu nodi yn Atodiadau DD, E ac F.
• Cymeradwyo’r ffioedd a’r prisiau newydd ar gyfer Canolfan Fusnes Ynys Môn fel y’u nodir yn Atodiad FF yr adroddiad.