Penderfynwyd –
• Cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau sydd wedi eu gwneud hyd yma yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
• Gofyn i’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol adolygu amlder yr adroddiadau cynnydd, ac yn y dyfodol a ddylai’r adroddiadau hynny ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu cyfanrwydd.