Mater - penderfyniadau

Gweddill y Ceisiadau

10/02/2021 - Gweddill y Ceisiadau

12.1  OP/2020/6 – Cais amlinellol ar gyfer adeiladu

         31 Anheddau Preswyl newydd yn cynnwys

          manylion llawn am ffordd ystâd newydd ar

          dir gyferbyn â Roebuck Estate,

          Llanfachraeth, Caergybi

 

Mae’r cais wedi’i dynnu’n ôl.

 

12.2  FPL/2020/264 – Cais llawn ar gyfer codi 8

         uned busnes (Dosbarth B1, B2 a B8)

         adeiladu ardaloedd tirlunio medal

         a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir

         yn yr Hen Safle Hofrennydd, Stad

         Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi.

 

Mae’r cais wedi’i dynnu’n ôl.

 

 

12.3  FPL/2020/195 – Cais llawn ar gyfer addasu ac

         ehangu yn y Sea Shanty Cafe, Lon St Ffraid,

         Bae Trearddur.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd. 

 

 

12.4  HHP/2020/302 – Cais llawn ar gyfer addasu

         ac ehangu yn 38 Lôn Conwy, Benllech.

 

          Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol

          ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn

          amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi

          eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

 

12.5  MAO/2020/31 – Mân newidiadau i gynllun

         sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan

         ganiatád cynllunio FPL/2019/7 (Codi ysgol

         gynradd) er mwyn diwygio’r claddin a

         tynnu 2 dosbarth ar dir gyferbyn â Bryn

         Meurig, Llangefni

 

          Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol

          ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn

          amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi

          eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.6  FPL/2020/258 – Cais llawn ar gyfer trosi cwrt

         tennis presennol i fod yn arwyneb 3G

         synthetig, amnewid y ffens bresennol am

         ffens 4.5 metr o uchder ynghyd ag amnewid

         y goleuadau presennol am oleuadau LED

         newydd ym Mharc Garreglwyd, Ffordd Ynys

         Lawd, Caergybi.

 

          Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol

          ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn

          amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi

          eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

 

12.7  VAR/2020/66 – Cais o dan Adran 73 i dynnu

         amod (10) (Sgrin gwydr aneglur) o caniatâd

         cynllunio rhif FPL/2019/134 (Codi 8

         rhandy) yn Yr Hen Ysgol Gynradd, Lôn

         Pentraeth, Porthaethwy.

 

         PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i

         argymhelliad y Swyddog oherwydd edrych

         drosodd annerbyniol i’r eiddo cyfagos

 

         Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor,

         gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod

         nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion

        baratoi adroddiad mewn perthynas â’r

        rhesymau a roddwyd am ganiatáu’r cais.