Mater - penderfyniadau

Materion Eraill

14/06/2017 - Materion Eraill

13.1      15C30H/FR – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth

 

Nodi fod y cais wedi’i dynnu’n ôl.

 

13.2      19LPA1025F/CC/LB/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau (03) (manylion y paneli arwyddion efydd), (04) (paneli solar) a (06) (manylion cerrig) o ganiatâd cynllunio rhif 19LPA1025A/LB/CC (newid defnydd cyn neuadd y farchnad yn llyfrgell, swyddfa a siop goffi ategol) er mwyn gallu

cyflwyno'r manylion yn raddol ar adegau y cytunwyd arnynt yn Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi.

 

Nodi y bydd y cais yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru ar gyfer ei benderfynu yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Gwarchodaeth) 1990. 

 

13.3      23C280F – Cais ôl weithredol ar gyfer sied amaethyddol a pharlwr godro ynghyd â chreu pwll slyri, dau silo a gwaith cysylltiedig yn Plas Llanfihangel, Capel Coch

 

PENDERFYNWYD enwebu Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i gynnal yr apêl ar ran y Cyngor.