Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn â phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.

Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.

Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor

Cynharach - Hwyrach

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

13/01/2020 - Cofnodion ref: 1942    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/01/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2020

Effective from: 13/01/2020

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2019 fel rhai cywir.


13/01/2020 - Capital Budget 2020/21 ref: 1944    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/01/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2020

Effective from: 13/01/2020

Penderfyniad:

·      Argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2020/21 i'r Cyngor llawn: -

 

                                                            £ ’m
Cynlluniau 2019/20 a Ddygwyd Ymlaen      3,294
Prosiectau Cyfalaf Un tro Newydd               5,158
Mân-ddaliadau wedi'u hariannu o

dderbyniadau cyfalaf                                       100


Ysgolion yr 21ain Ganrif                                9,039
Cyfrif Refeniw Tai                                          17,138

Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf a

Argymhellir ar gyfer 2020/21                         39,903



Wedi ei ariannu gan:


Grant Cyfalaf Cyffredinol                              2,165
Benthyca â Chymorth                                    2,364
Derbyniadau Cyfalaf                                          245
Cronfa Gyfalaf                                                    500

Benthyca â Chymorth -

Ysgolion yr 21ain Ganrif                                 2,680

 

Benthyca Digymorth -

Ysgolion yr 21ain Ganrif                                 3,679
 
Gwarged CRT a Gwarged yn y Flwyddyn    14,228
Benthyca Digymorth CRT                                  250
Grantiau Allanol                                               7,572
Cyllid 2019/20 a Ddygwyd Ymlaen                 3,219

Cyfanswm Cyfalaf Cyllid 2020/21                 36,903

 

·      Bod y Pwyllgor Gwaith yn ystyried defnyddio'r gronfa wrth gefn TAW Hamdden ac unrhyw dderbyniadau cyfalaf posib o werthiant arfaethedig y cwrs golff pan gyflwynir y fersiwn ddrafft y Cynllun Datblygu Darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol i'r Pwyllgor Gwaith. Mae'r £32k sy'n weddill yn cael ei ddwyn ymlaen fel cyllid i'w ddefnyddio yn 2021/22;

·      Nodi'r gofynion cyllido posib yn y dyfodol ar gyfer 2021/22 ymlaen (fel y nodwyd yn Atodiad 1, Tabl 3 a pharagraff 5.5).


13/01/2020 - Draft Revenue Budget 2020/21 ref: 1943    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/01/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 13/01/2020

Effective from: 13/01/2020

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: -

·           Cymeradwyo'r addasiadau i'r Gyllideb a gynhwyswyd yn y Gyllideb Ddigyfnewid fel y nodir ym mharagraffau 3 i 7 o'r adroddiad yn Atodiad 1;

·           Cymeradwyo'r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2020/21, sef  £142.203m, a dylai hyn fod yn sail i gyllideb refeniw 2020/21;

·           Ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill ar gynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 o rhwng 4.5% a 5%;

 

·           Ar ôl y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor a gweithredu’r arbedion, os oes unrhyw arian dros ben ar gael, dylai'r Pwyllgor Gwaith benderfynu sut i ddefnyddio’r arian dros ben hwnnw (fel y nodwyd ym mharagraff 10.5);

 

·           Y dylai’r Pwyllgor Gwaith ymofyn barn y cyhoedd ar y strategaeth gyllidebol arfaethedig.


08/01/2020 - Materion Eraill ref: 1941    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 08/01/2020

Effective from: 08/01/2020

Penderfyniad:

13.1 42C188E/ENF - Cais ôl-weithredol ar gyfer codi uned llety gwyliau newydd yn 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir.

 

Penderfynwyd cadarnhau y bydd amodau’r Cytundeb Adran 106 yn golygu’r uned wyliau sydd wedi’i lleoli yn 4 Tai Hirion a’r Gwely a Brecwast a’r busnes cynhyrchu caws yn Rhyd y Delyn.  


08/01/2020 - Gweddill y Ceisiadau ref: 1940    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 08/01/2020

Effective from: 08/01/2020

Penderfyniad:

12.1 FPL/2019/300 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd a creu man parcio newydd yn 15/16 Coedwig Terrace, Penmon.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 DEM/2019/17 – Cais i benderfynu cymeradwyaeth blaenorol i ddymchwel yr hen Ysgol Parch Thomas Ellis, Maes Hyfryd Road, Caergybi.

 

Penderfynwyd bod cymeradwyaeth blaenorol yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cael ei roi yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a hefyd yn amodol ar dderbyn Cynllun Rheoli amgylchedd Dymchwel (DEMP) a Chynllun Rheoli Traffig Dymchwel (DTEMP).

 

12.3 DEM/2019/18 – Cais i benderfynu cymeradwyaeth blaenorol i ddymchwel yr hen Lyfrgell Caergybi, Stryd Newry, Caergybi.

 

Penderfynwyd bod cymeradwyaeth blaenorol yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cael ei roi yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a hefyd yn amodol ar dderbyn Cynllun Rheoli amgylchedd Dymchwel (DEMP) a Chynllun Rheoli Traffig Dymchwel (DTEMP), cadarnhad o’r cynigion adfer a chadw’r coed sydd ger y safle.

 

12.4 DEM/2019/19 - Cais i benderfynu Cymeradwyaeth blaenorol am dymchwel arfaethedig i Ygol Gynradd y Parc, Maes Yr Haf, Caergybi.

 

Penderfynwyd bod cymeradwyaeth blaenorol yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cael ei roi yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a hefyd yn amodol ar dderbyn Cynllun Rheoli amgylchedd Dymchwel (DEMP) a Chynllun Rheoli Traffig Dymchwel (DTEMP), cadarnhad o’r cynigion adfer.

 

12.5 22C197E/VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) er mwyn ymestyn yr amser a ganiateir ar gyfer cychwyn y gwaith ynghyd â chyflwyno manylion i ollwng amodau 05 (deunyddiau y bwriedir eu defnyddio) 07 (cynllun tirlunio) 09 (lefelau’r slab) 10 (archeoleg) 12 (cynllun draenio) 14 (y modd y bwriedir trin y ffiniau)15 (arwynebeddau caled) a 17 (goleuadau allanol) o gais cynllunio cyfeirnod 22C197B (Codi 21 o gabanau pren ar gyfer eu defnyddio i bwrpas gwyliau) yn Tan y Coed, Biwmares.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â mannau pasio, cytundeb adran 106, ac yn amodol hefyd ar dderbyn sylwadau gan Wasanaethau Cynllunio Archeolegol Gwynedd mewn perthynas â’r Cynllun Archeolegol.

 

12.6 FPL/2019/258 - Cais llawn ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi chwech fflat un ystafell wely yn ei le yn Nghlwb Cymdeithasol Biwmares, Steeple Lane, Biwmares.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig

 

12.7 FPL/2019/299 - Cais llawn ar gyfer codi ystafell ddosbarth symudol sydd yn cynnwys creu maes parcio a ardal chwarae yn Ysgol Y Tywyn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol hefyd ar dderbyn sylwadau’r Weinyddiaeth Amddiffyn.


08/01/2020 - Development Proposals Submitted by Councillors and Officers ref: 1939    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 08/01/2020

Effective from: 08/01/2020

Penderfyniad:

11.1 HHP/2019/287 Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 12 Wesley Street, Bodedern.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.


08/01/2020 - Departure Applications ref: 1938    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 08/01/2020

Effective from: 08/01/2020

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion


08/01/2020 - Affordable Housing Applications ref: 1937    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 08/01/2020

Effective from: 08/01/2020

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion


08/01/2020 - Ceisiadau Economaidd ref: 1936    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 08/01/2020

Effective from: 08/01/2020

Penderfyniad:

8.1 DIS/2019/114 - Cais i ryddhau amodau (06) (Gwaith archeolegol) (08) (Manylion goleuadau) (10) (Manylion traenio) o ganiatâd cynllunio 34LPA1034/CC/ECON ar dir yn Stad Diwydiannol Bryn Cefn, Llangefni.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar dderbyn caniatâd fod y manylion draenio yn dderbyniol.

 

8.2 DRM/2019/11 - RM/2019/11 - Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 7 uned busnes ynghyd a creu mynedfa i gerbydau a ddatblygiadau cysylltiedig ar dir yn Ystâd Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn hynny.

 


08/01/2020 - Applications Arising ref: 1935    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 08/01/2020

Effective from: 08/01/2020

Penderfyniad:

7.1 DEM/2019/2 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi.

 

Nodwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl.

 

7.2 DEM/2019/3 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi.

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.3  DEM/2019/4 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel garejys (tri bloc ar wahân) yn Ffordd Corn Hir a Pennant, Llangefni

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.4 DEM/2019/5 Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Ffordd Lligwy, Moelfre.

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.5 DEM/2019/6 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Craig Y Don, Amlwch.

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.6 DEM/2019/7 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Hampton Way, Llanfaes.

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.7 DEM/2019/8 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy ym Maes Llwyn, Amlwch

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.8 DEM/2019/9 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Maes Hyfryd, Llangefni.

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.9 DEM/2019/10 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn New Street, Biwmares.

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.10 DEM/2019/11 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Pencraig, Llangefni.

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.11 DEM/2019/12 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Tan yr Efail, Caergybi.

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.12 DEM/2019/13 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Thomas Close, Biwmares.

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.13 DEM/2019/15 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Maes yr Haf, Caergybi.

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.14 DEM/2019/16 - Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdy yn Pencraig Mansion, Llangefni.

 

Adroddwyd fod y cais bellach wedi’i dynnu’n ôl ac fe nodwyd hynny gan y Pwyllgor.

 

7.15 FPL/2019/249 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr hen tafarn, codi 14 o anheddau gyda 2 ohonynt yn rhai fforddiadwy, altro’r mynedfeydd presennol, creu ffordd fynediad fewnol, llefydd parcio cysylltiedig, gosod tanc LPG ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled yn Y Bedol, Tyn Rhos, Penysarn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar amodau a nodwyd ac amod ychwanegol mewn perthynas â draenio a hefyd yn destun i gytundeb Adran 106 o ran tai fforddiadwy a chyfraniad ariannol llecyn agored.


08/01/2020 - Applications that will be Deferred ref: 1934    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 08/01/2020

Effective from: 08/01/2020

Penderfyniad:

6.1 19C1231 - Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Cae Rhos Estate, Ffordd Porthdafach, Caergybi.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd.


08/01/2020 - Ymweliad Safleoedd ref: 1933    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 08/01/2020

Effective from: 08/01/2020

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2019 ac fe’u cadarnhawyd fel cofnod cywir.


08/01/2020 - Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol ref: 1932    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 08/01/2020

Effective from: 08/01/2020

Penderfyniad:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2019 fel rhai cywir.