Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 16/07/2018
Effective from: 16/07/2018
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Mehefin, 2018 fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 16/07/2018
Effective from: 16/07/2018
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi a chroesawu’r cynnydd ar ddatblygu’r Bid Bargen twf.
· Bod cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethiant yn cael ei gymeradwyo, ar yr amod bod y Cyngor yn cymeradwyo’r trefniadau Anweithredol h.y. y trefniadau sgriwtini.
· Bod y Cyngor Llawn yn cael drafft terfynol o’r Bid Bargen Twf ar gyfer ei adolygu a’i gymeradwyo ym Medi/Hydref 2018 cyn iddo gyrraedd cam y Penawdau Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth.
· Argymell bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn cyd-weithrediad â’r Arweinydd i gwblhau amodau’r Cytundeb Llywodraethiant yn unol i raddau helaeth â’r drafft sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad.
· Argymell bod y trefniadau Gweithredol sydd wedi eu cynnwys yn y Cytundeb Llywodraethiant yn cael eu cynnwys yn y Cyfansoddiad a gofyn i’r Cyngor gynnwys y trefniadau Anweithrdol yn ymwneud â Sgriwitni yn y Cyfansoddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 16/07/2018
Effective from: 16/07/2018
Penderfyniad:
Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Mehefin, 2018.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 16/07/2018
Effective from: 16/07/2018
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 16/07/2018
Effective from: 16/07/2018
Penderfyniad:
Penderfynwyd cynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle i ddisgyblion Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn.
Bydd hyn yn cael ei wneud trwy:
· Ddefnyddio’r adeilad presennol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 sef blynyddoedd 3 i 6 a’i addasu;
· Codi “Bloc” newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, sef blynyddoedd Meithrin, Derbyn, 1 a 2;
· Ystyried adleoli’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg o fewn campws Ysgol y Graig.
Byddai’r “bloc” newydd yn parhau i fod yn rhan o Ysgol y Graig ac nid yn uned ar wahân.
Nododd Aelodau Etholedig y dylai’r trefniant newydd weithredu fel un ysgol ac nid fel dwy uned ar wahân.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 16/07/2018
Effective from: 16/07/2018
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r Strategaeth Gwrth Dlodi fel y’i cyflwynwyd.
· Bod Gwasanaethau yn cynnwys y Strategaeth fel amcan o fewn y Cynllun Darparu Gwasanaeth yn flynyddol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 16/07/2018
Effective from: 16/07/2018
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Nodi’r prif ddatganiadau ariannol (heb eu harchwilio) ar gyfer 2017/18.
· Nodi’r sefyllfa o ran arian wrth gefn clustnodedig a chymeradwyo’r defnydd o, neu gynnydd i gronfeydd wrth gefn unigol fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad.
· Cymeradwyo’r cronfeydd wrth gefn newydd, cyfanswm o £0.513m fel a nodir yn Nhabl 3 yr adroddiad.
· Nodi’r sefyllfa o ran balansau’r ysgolion.
· Nodi balansau’r CRT fel yr oeddent ar 31 Mawrth, 2018.
· Nodi’r costau Ymgynghori ar gyfer Chwarter 4.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 16/07/2018
Effective from: 16/07/2018
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Awst, 2018 i Mawrth, 2019 fel y’i chyflwynwyd yn y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 16/07/2018
Effective from: 16/07/2018
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fel adlewyrchiad cywir o effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2017/18.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/07/2018
Effective from: 04/07/2018
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.1 19C251U/FR/TR – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir gwag yn safle rhentu ceir gan gynnwys swyddfa ar dir gyferbyn â Travel Lodge, Ffordd Kinsgland, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 39C18C/2/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) o ganiatâd cynllunio rhif 39C18H/DA (codi 21 o dai) er mwyn diwygio yr edrychiad allanol yn Tŷ Mawr, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/07/2018
Effective from: 04/07/2018
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/07/2018
Effective from: 04/07/2018
Penderfyniad:
10.1 33C284B/DEL – Cais dan Adran 73 i gael gwared ar amodau (10) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (11) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (12) (côd ar gyfer cartrefi cynaliadwy), (20) (troedffordd) ynghyd â rhyddhau amodau (07) (disgrifiadau masnach a deunyddiau), (08) (dull amgáu) a (09) (manylion draenio), er mwyn darparu disgrifiadau masnach o’r deunyddiau y bwriedir eu defnyddio ar arwynebeddau allanol, manylion llawn am y dulliau amgáu y bwriedir eu defnyddio o fewn ac o gwmpas y safle a’r manylion draenio fel rhan o’r cais Cynllunio gyfredol. Amrywio amodau (13) (ffenestri) a (21) (yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd) er mwyn diwygio’r cynlluniau a gymeradwywyd mewn perthynas â chaniatâd Cynllunio 33C284A (codi 3 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau) ar dir gyferbyn â Holland Arms, Pentre Berw.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 49C289K/VAR – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (02) er mwyn caniatáu diwygiadau i gosodiad y safle a dyluniad o unedau 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9 a 12, (06) er mwyn caniatáu i’r rhaglen o waith archeolegol cael ei gyflwyno a’i ryddhau wedi i’r gwaith gychwyn, (09) er mwyn caniatáu diwygiadau i’r darpariaethau parcio moduron ynghyd â dileu amod (11) (lefelau llawr gorffenedig) o ganiatâd cynllunio rhif 49C289 (newid adeiladau allanol yn 12 annedd) yn Cleifiog Fawr, Lôn Gorad, Y Fali.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/07/2018
Effective from: 04/07/2018
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/07/2018
Effective from: 04/07/2018
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/07/2018
Effective from: 04/07/2018
Penderfyniad:
7.1 27C106E/FR/ECON - Cais llawn i wella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bŵer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli cilfan ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ar hyd yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bŵer yng Nghemaes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod amod ychwanegol yn cael ei osod yn unol â gofynion Asiantaeth Priffyrdd Llywodraeth Cymru (er bod gan y Swyddog farn wahanol) bod gwelliannau i’r ffordd tuag at Safle Wylfa Newydd yn cael eu cwblhau cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.
7.2 46C615/AD – Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ynghyd â gosod mesurydd parcio ym maes parcio uwchben Canolfan Ymwelwyr Ynys Lawd, Caergybi
PENDEFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail y byddai codi mesurydd parcio ar y safle yn debygol o gael effaith negyddol ar ddiogelwch priffyrdd; nad oes llwybr troed i’r safle a bod y safle wedi ei ddefnyddio fel man troi ar gyfer cerbydau dros y blynyddoedd.
(Bu’r Cynghorwyr John Griffith, R O Jones a Robin Williams atal eu pleidlais ar y sail eu bod yn ystyried bod y cais yn dderbyniol yn nhermau polisi Cynllunio ond nad oeddent yn cytuno â’r egwyddor o godi tȃl).
7.3 49C333A/FR – Cais llawn i newid defnydd y capel gwag yn annedd ynghyd ag addasu a chodi balconi ar y llawr cyntaf yng Nghapel Hermon, Field Street, Y Fali.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyrir bod y cais yn cydymffurfio â TAN13 o ran bod yr adeilad wedi bodoli ar y safle am nifer o flynyddoedd a’i fod yn ddigon uchel er mwyn lleihau’r risg o lifogydd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/07/2018
Effective from: 04/07/2018
Penderfyniad:
6.1 34C304Z/1/ECON – Cais llawn ar gyfer codi chwech o adeiladau, newid defnydd cae yn ardal hyfforddiant peiriannau trwm a chreu
maes parcio newydd yng Ngholeg Menai,
Ffordd y Coleg, Llangefni.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.
6.2 41LPA1041/FR/TR/CC Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar
dir i’r Dwyrain o Gyffordd Star, Star.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/07/2018
Effective from: 04/07/2018
Penderfyniad:
Ni chafwyd unrhyw siaradwyr cyhoeddus.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/07/2018
Effective from: 04/07/2018
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/07/2018
Effective from: 04/07/2018
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Mehefin, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir ar yr amod ei fod yn cael ei gynnwys bod y Cynghorwyr John Griffith a Robin Williams, ar eitem 7.4, wedi atal eu pleidlais ar y sail nad oeddent yn cytuno â’r egwyddor o godi tȃl, er bod y cais yn dderbyniol yn nhermau polisi cynllunio.