Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.

Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.

Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

07/03/2019 - Schools' Modernisation - Report following publication of statutory notice for closing Ysgol Gynradd Beaumaris, extending and refurbishing Ysgol Llandegfan and Ysgol Llangoed, and approval of the original proposal ref: 1753    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/03/2019 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/03/2019

Effective from: 16/03/2019

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·        Cymeradwyo’r cynnig gwreiddiol, sef i adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llangoed.

·        Awdurdodi Swyddogion i barhau gyda’r broses o adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llangoed, cau Ysgol Biwmares, ac adnewyddu Ysgol Llangoed.

 


07/03/2019 - Schools Modernisation – Objection Report: Ysgol y Graig and Ysgol Talwrn ref: 1754    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/03/2019 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 07/03/2019

Effective from: 16/03/2019

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r penderfyniad gwreiddiol, sef i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle i ddisgyblion Ysgol Talwrn, a chau Ysgol TaIwrn.

 

Gwneir hyn drwy

 

·        Ddefnyddio’r adeilad presennol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 h.y. Blynyddoedd 3 i 6 a’i addasu;

·        Adeiladau Bloc newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, sef Meithrin, Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2;

·        Ystyried ail-leoli’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg ar gampws Ysgol y Graig.

 

Byddai’r bloc newydd yn rhan o Ysgol y Graig, nid yn uned ar wahân.Y trefniant newydd i weithredu fel un ysgol ac nid fel dwy uned ar wahân.

 


06/03/2019 - Ceisiadau'n Codi ref: 1746    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/03/2019

Effective from: 06/03/2019

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 


06/03/2019 - Ymweliadau Safle ref: 1744    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/03/2019

Effective from: 06/03/2019

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw ymweliadau safle eu cynnal yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 6ed Chwefror, 2019.


06/03/2019 - Ceisiadau'n Gwyro ref: 1749    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/03/2019

Effective from: 06/03/2019

Penderfyniad:

10.1    VAR/2018/14 – Cais o dan Adran 73A i amrywio amod (07) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o gais cynllunio cyfeirnod 33C102G (Codi 3 annedd ar blot 8, 9 a 10) er mwyn cynyddu eu maint a newid cyfeiriadedd y safle i fod yn anheddau 4 ystafell wely ynghyd ag addasu gosodiad y llefydd parcio ym Mhlotiau 8, 9 a 10, The Herb Garden, Llain Capelulo, Pentre Berw, Gaerwen

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwnnw, ac ar yr amod na chaiff unrhyw faterion newydd eu codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar ddiwedd 6 Mawrth, 2019.


06/03/2019 - Ceisiadau Economaidd ref: 1747    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/03/2019

Effective from: 06/03/2019

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 


06/03/2019 - Materion Eraill ref: 1752    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/03/2019

Effective from: 06/03/2019

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 

 


06/03/2019 - Gweddill y Ceisiadau ref: 1751    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/03/2019

Effective from: 06/03/2019

Penderfyniad:

12.1    FPL/2019/7 – Cais Llawn i godi ysgol gynradd newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau i’r B5109 ar dir gyferbyn â Bryn Meurig, Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, a chydag amod ychwanegol mewn perthynas â golau i liniaru unrhyw effaith bosib ar ystlumod.

 

12.2    19C779N/VAR – Cais o dan Adran 73A i amrywio amodau (02) (mân-werthu di-fwyd) a (12) (darluniau fel y’u cymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 19C779A ac amod (01) (mân-werthu di-fwyd) o ganiatâd cynllunio 19C779J (Codi uned fân-werthu dosbarth A1) fel y gellir gwerthu ac arddangos nwyddau hwylus a chymhariaeth ynghyd â ffurfio un uned yn lle dwy uned yn Uned 1 ac Uned 2, Parc Busnes Penrhos, Caergybi

 

Penderfynwyd, yn amodol ar dderbyn ymateb Adran Briffyrdd Llywodraeth Cymru, cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, a hefyd gyda’r amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.3    FPL/2019/16 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y ffens presennol ynghyd â chodi ffens newydd ym Maes Awyr Môn

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amod sydd wedi’i chynnwys ynddo ac yn amodol hefyd ar dderbyn cadarnhad gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oes ganddi unrhyw wrthwynebiad.

 

12.4    46C622/ENF – Cais llawn ar gyfer creu estyniad i’r cwrtil ynghyd â chadw’r adeilad fel garej ddomestig a swyddfa yn Y Borth, Ffordd  Porthdafarch, Caergybi

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.5    FPL/2018/30 – Cais llawn ar gyfer creu cyfleuster Parcio a Rhannu ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau datblygiad cysylltiedig ar dir ger Cyffordd 7, Gaerwen

 

Penderfynwyd yn amodol ar dderbyn sylwadau gan Adran Ddraenio’r Cyngor, i gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.6    DIS/2019/7 – Cais i ryddhau amod (08) (rheoli amgylcheddol ar gyfer gwaith adeiladau) o ganiatâd cynllunio 12LPA1003F/FR/CC yn Castle Meadow, Biwmares

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.

 

 


06/03/2019 - Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion ref: 1750    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/03/2019

Effective from: 06/03/2019

Penderfyniad:

11.1    48C182B/MIN – Mân newidiadau i gynllun a ganiatawyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 48C182A/DA er mwyn addasu’r dyluniad ar dir ger Bryntwrog, Gwalchmai

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amod yn yr adroddiad hwnnw.

 

11.2    HHP/2019/39 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau ynghyd â chodi garej ar wahân yng Ngardd y Plas, Llanddeusant

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ac ar yr amod na chaiff unrhyw faterion newydd eu codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar ddiwedd 8 Mawrth, 2019.


06/03/2019 - Affordable Housing Applications ref: 1748    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/03/2019

Effective from: 06/03/2019

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 


06/03/2019 - Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio ref: 1745    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/03/2019

Effective from: 06/03/2019

Penderfyniad:

6.1       FPL/2018/57 – Cais llawn i godi 46 o anheddau ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Parc Tyddyn Bach, Caergybi

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

6.2       14C257 – Cais amlinellol i godi annedd fforddiadwy ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a threfniadau draenio gyda’r holl faterion eraill wedi eu cadw’n ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.


06/03/2019 - Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol ref: 1743    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/03/2019

Effective from: 06/03/2019

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6ed Chwefror, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.