Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/02/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/02/2021
Effective from: 15/02/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mawrth i Hydref, 2021 gyda’r newid ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/02/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/02/2021
Effective from: 15/02/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd baenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Ionawr, 2021 a’r 25 Ionawr, 2021 fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/02/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/02/2021
Effective from: 15/02/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
· Y cynnydd rhent yn unol â rhent targed Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gasglu dros 51 wythnos.
· Cynnydd o 0.45% + £2.00 yr wythnos yn yr holl renti sydd islaw’r bandiau rhent targed cyfredol er mwyn parhau i weithio tuag at gwrdd â’r rhent targed.
· Cynnydd o 0.45% yn yr holl renti sydd ar darged neu’n uwch.
· Cynnydd o 13c yr wythnos ar gyfer rhenti pob garej.
· Y taliadau gwasanaeth fel y nodwyd yn adran 3.3 o’r adroddiad i’w codi ar bob tenant sy’n derbyn y gwasanaethau perthnasol.
· Pennu Ffioedd Rhent Canolraddol ar 80% o gostau rhent y farchnad agored neu hyd y Lwfans Tai Lleol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/02/2021
Effective from: 10/02/2021
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.1 OP/2020/6 – Cais amlinellol ar gyfer adeiladu
31 Anheddau Preswyl newydd yn cynnwys
manylion llawn am ffordd ystâd newydd ar
dir gyferbyn â Roebuck Estate,
Llanfachraeth, Caergybi
Mae’r cais wedi’i dynnu’n ôl.
12.2 FPL/2020/264 – Cais llawn ar gyfer codi 8
uned busnes (Dosbarth B1, B2 a B8)
adeiladu ardaloedd tirlunio medal
a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir
yn yr Hen Safle Hofrennydd, Stad
Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi.
Mae’r cais wedi’i dynnu’n ôl.
12.3 FPL/2020/195 – Cais llawn ar gyfer addasu ac
ehangu yn y Sea Shanty Cafe, Lon St Ffraid,
Bae Trearddur.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.4 HHP/2020/302 – Cais llawn ar gyfer addasu
ac ehangu yn 38 Lôn Conwy, Benllech.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol
ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad.
12.5 MAO/2020/31 – Mân newidiadau i gynllun
sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan
ganiatád cynllunio FPL/2019/7 (Codi ysgol
gynradd) er mwyn diwygio’r claddin a
tynnu 2 dosbarth ar dir gyferbyn â Bryn
Meurig, Llangefni
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol
ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad.
12.6 FPL/2020/258 – Cais llawn ar gyfer trosi cwrt
tennis presennol i fod yn arwyneb 3G
synthetig, amnewid y ffens bresennol am
ffens 4.5 metr o uchder ynghyd ag amnewid
y goleuadau presennol am oleuadau LED
newydd ym Mharc Garreglwyd, Ffordd Ynys
Lawd, Caergybi.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol
ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad.
12.7 VAR/2020/66 – Cais o dan Adran 73 i dynnu
amod (10) (Sgrin gwydr aneglur) o caniatâd
cynllunio rhif FPL/2019/134 (Codi 8
rhandy) yn Yr Hen Ysgol Gynradd, Lôn
Pentraeth, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i
argymhelliad y Swyddog oherwydd edrych
drosodd annerbyniol i’r eiddo cyfagos
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor,
gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod
nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion
baratoi adroddiad mewn perthynas â’r
rhesymau a roddwyd am ganiatáu’r cais.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/02/2021
Effective from: 10/02/2021
Penderfyniad:
11.1 MAQ/2020/29 – Mân newidiadau i gynllun
sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan
caniatád cynllunio FPL/2020/73 er mwyn
diwygio dyluniad ynghyd a tynnu amod (08)
(draenio mewn perthynas â phriffyrdd)
yn Parciau,Llanddaniel
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol
ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad.
11.2 VAR/2020/74 – Cais o dan Adran 73 i
ddiwygio amod (06) o ganiatâd cynllunio rhif
45C83E (newid defnydd y
gweithdy presennol i dri annedd) er mwyn
ychwanegu 2 porth yn Tre Wen, Pen Lôn,
Niwbwrch.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais ac i roi’r
grym i Swyddogion weithredu unwaith y
byddai’r cyfnod o ymgynghori statudol wedi
dod i ben.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/02/2021
Effective from: 10/02/2021
Penderfyniad:
10.1 VAR/2020/60 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (08)(Cynllun tirwedd) a (09)(Cynlluniau a Gymeradwywyd) o caniatâd cynllunio rhif 32C128F (Codi annedd) er mwyn caniatáu dyluniad diwygiedig a chyflwyno cynllun tirlunio ar ôl i’r gwaith ddechrau ar dir yn Tŷ Newydd, Llanfair yn Neubwll.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais ac i roi’r grym i Swyddogion weithredu unwaith y byddai’r cyfnod o ymgynghori statudol wedi dod i ben.
10.2 FPL//2020/249 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd a datblygiadau cysylltiedig (er mwyn diwygio dyluniad ac gosodiad a ganiateir odan cais cyfeirnod 42C258A) ar dir tu cefn i Tyddyn Orsedd, Rhoscefnhir.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a bod Amod 1 o fewn yr adroddiad yn cael ei ddiwygio er
mwyn adlewyrchu’r ffaith na fydd y datblygiad yn dechrau ddim hwyrach na 8 Rhagfyr, 2022 o ganlyniad i’r sefyllfa wrth gefn gan fod y
safle eisoes â chaniatad cynllunio sy’n bodoli.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/02/2021
Effective from: 10/02/2021
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/02/2021
Effective from: 10/02/2021
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/02/2021
Effective from: 10/02/2021
Penderfyniad:
7.1 FPL/2020/150 – Cais llawn ar gyfer codi 9 ty ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir yn Lôn Newydd, Llangefni
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad.
7.2 FPL/2019/217 – Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd ar gyfer cerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirlunio meddal a
chaled ar dir ger Stâd Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd fod y cais yn tynnu’n groes i bolisiau cynllunio AMG 6 a TAI 16.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi
adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a
roddwyd am ganiatáu’r cais.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/02/2021
Effective from: 10/02/2021
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/02/2021
Effective from: 10/02/2021
Penderfyniad:
Ni chafwyd unrhyw siaradwyr cyhoeddus.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/02/2021
Effective from: 10/02/2021
Penderfyniad:
Cadarnhawyd fod cofnodion yr ymweliad safle rhithiol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, 2021 yn gofnod cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 10/02/2021
Effective from: 10/02/2021
Penderfyniad:
Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2021 yn gofnod cywir.