Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 17/02/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 17/02/2020
Effective from: 17/02/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mawrth hyd at Hydref, 2020 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 17/02/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 17/02/2020
Effective from: 17/02/2020
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 17/02/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 17/02/2020
Effective from: 17/02/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Mabwysiadu Fframwaith ar gyfer Rhyddhad Trethi Busnes Dewisol – Elusennau a Sefydliadau Dielw fel y manylir arni yn Atodiad C yr adroddiad.
· Bydd y Fframwaith ar gyfer Rhyddhad Trethi Busnes Dewisol mewn grym ar gyfer y blynyddoedd ariannol hyd at 31 Mawrth, 2026.
· Rhoi cyfarwyddiadau i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 sicrhau y rhoddir gwybod cyn 31 Mawrth, 2020 i elusennau perthnasol a sefydliadau dielw y bydd y polisi mewn grym o 1 Ebrill, 2020 ac y daw i ben ar 31 Mawrth, 2026.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 17/02/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 17/02/2020
Effective from: 17/02/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r cynnydd mewn rhent yn unol â rhent targed Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gasgliad dros 51 wythnos.
· Cymeradwyo cynnydd o 2.7% yn yr holl renti sydd rhwng £0.41 - £4.47 yn is na’r targed yn ogystal â swm hyd at yr uchafswm o £2.00 yr wythnos i gyrraedd y rhent targed.
· Cymeradwyo cynnydd o 2.7% yn yr holl renti sydd rhwng £3.87 - £5.01 yn is nar targed a £2.00 ychwanegol yr wythnos.
· Bod y rhent ar gyfer y 3 eiddo sydd â rhent uwch na’r lefel targed yn aros fel y mae.
· Cymeradwyo cynnydd o 22c yr wythnos ar gyfer rhenti’r holl garejys.
· Cymeradwyo’r taliadau gwasanaeth a nodir yn adran 3.3 yr adroddiad ar gyfer yr holl denantiaid sy’n derbyn y gwasanaethau perthnasol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 17/02/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 17/02/2020
Effective from: 17/02/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Sir –
· Ei fod yn cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb drafft y Cyngor ar gyfer 2020-2024, ac awdurododi Swyddogion mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio i gwblhau’r Cynllun a’i gyhoeddi erbyn 31 Mawrth, 2020.
· Bod trefniadau yn cael eu rhoi mewn lle i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio fonitro fel mater o drefn yn flynyddol y cynnydd o ran cydraddoldeb.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 17/02/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 17/02/2020
Effective from: 17/02/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau fel rhai cywir gofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –
· 13 Ionawr, 2020
· 20 Ionawr, 2020
· 27 Ionawr, 2020