Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 20/06/2017
Effective from: 14/06/2017
Penderfyniad:
11.1 21C76G – Cais llawn ar gyfer ail-leoli’r sied ardd bresennol, addasu ac ehangu ynghyd â chodi ffens newydd ar y ffin yn 4 Maes y Coed, Llanddaniel
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 36C351 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle, codi garej a storfa offer, cau’r fynedfa gerbydau sy’n gwasanaethu’r annedd bresennol, estyniad i’r cwrtil, addasiadau i’r fynedfa amaethyddol bresennol er mwyn gwasanaethu’r annedd arfaethedig a chreu mynedfa amaethyddol newydd i’r cae cyfagos yn Ty Llwyd, Rhostrehwfa.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
11.3 41C99W/LUC – Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer codi estyniad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer dan Ddosbarth A, Rhan 1 Atodlen 2 o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad A Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2013 yn Nant y Felin, Bryn Gof, Star.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/06/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/06/2017
Effective from: 12/06/2017
Penderfyniad:
Penderfynwyd o dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 12, oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd fel y’i cyflwynwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/06/2017
Effective from: 14/06/2017
Penderfyniad:
13.1 15C30H/FR – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth
Nodi fod y cais wedi’i dynnu’n ôl.
13.2 19LPA1025F/CC/LB/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau (03) (manylion y paneli arwyddion efydd), (04) (paneli solar) a (06) (manylion cerrig) o ganiatâd cynllunio rhif 19LPA1025A/LB/CC (newid defnydd cyn neuadd y farchnad yn llyfrgell, swyddfa a siop goffi ategol) er mwyn gallu
cyflwyno'r manylion yn raddol ar adegau y cytunwyd arnynt yn Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi.
Nodi y bydd y cais yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru ar gyfer ei benderfynu yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Gwarchodaeth) 1990.
13.3 23C280F – Cais ôl weithredol ar gyfer sied amaethyddol a pharlwr godro ynghyd â chreu pwll slyri, dau silo a gwaith cysylltiedig yn Plas Llanfihangel, Capel Coch
PENDERFYNWYD enwebu Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i gynnal yr apêl ar ran y Cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/06/2017
Effective from: 14/06/2017
Penderfyniad:
12.1 19LPA1025E/CC/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau (02) (rhestr waith) a (04) (cynllun rheoli traffig) o ganiatâd cynllunio rhif 19LPA1025/CC (newid defnydd cyn neuadd y farchnad yn llyfrgell, swyddfa a siop goffi ategol) er mwyn gallu cyflwyno'r manylion yn raddol ar adegau y cytunwyd arnynt yn Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 31C79H – Cais llawn ar gyfer newid defnydd siop (dosbarth defnydd A1) yn siop prydau poeth parod (dosbarth defnydd A3) yn 3 Mulcair House, Llanfairpwll
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 37C197B – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y cyfleusterau cyhoeddus yn gaffi yng Nghyfleusterau Cyhoeddus, Brynsiencyn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag amod ychwanegol ar y caniatâd sy’n nodi manylion y cyfleuster echdynnu arogl y mae angen ei osod cyn i’r cyfleuster agor.
12.4 37C198 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Fodol, Llanedwen.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 39LPA1036/CC – Cais llawn i gael gwared ar y ffens bresennol, codi ffens newydd diogelwch 2.1m o uchder ynghyd â thorri a gwneud gwaith ar goed sydd wedi eu diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed yng Nghronfa Ddŵr Porthaethwy, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag amod ychwanegol er mwyn sicrhau mesurau osgoi rhesymol er mwyn gwarchod madfallod dŵr cribog ar y safle.
12.6 44C340 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd ym Mhlas Main, Rhosybol
Nodi fod y cais wedi’i dynnu’n ôl gan yr ymgeiswyr.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/06/2017
Effective from: 14/06/2017
Penderfyniad:
10.1 31C170E – Cais llawn i godi 16 annedd (10 annedd gyda 2 ystafell wely, 4 annedd gyda 3 ystafell wely a 2 annedd gyda 4 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais y Cadeirydd a hynny am y rhesymau a roddwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/06/2017
Effective from: 14/06/2017
Penderfyniad:
Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyreid yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/06/2017
Effective from: 14/06/2017
Penderfyniad:
8.1 34LPA1034/CC/ECON – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dau blot, sef defnydd busnes (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2) ac i’w defnyddio fel warws ac i ddosbarthu (Dosbarth B8) fel estyniad i’r parc busnes ar dir Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â gwarchod rhywogaethau ar y tir ac y cynhelir asesiad anghenion o ran llygredd a draeniad y tir.
8.2 45LPA1029A/CC/ECON – Cais llawn ar gyfer codi ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger
Morawelon, Niwbwrch.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/06/2017
Effective from: 14/06/2017
Penderfyniad:
7.1 12C479B – Cais llawn ar gyfer codi annedd yn hen safle’r farchnad arddio ar dir tu ôl i Rose Hill, Biwmares.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith
ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.
7.3 45C480 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir tu cefn i Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/06/2017
Effective from: 14/06/2017
Penderfyniad:
6.1 34C304K/1/EIA/ECON - Cais hybrid am ganiatâd cynllunio llawn i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a gwaith cysylltiedig a chais am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd â lle parcio cysylltiedig a gwaith ar dir yn Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/06/2017
Effective from: 14/06/2017
Penderfyniad:
Roedd siaradwr cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.1.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/06/2017
Effective from: 14/06/2017
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 14/06/2017
Effective from: 14/06/2017
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod a chadarnhawyd eu bod yn gywir :-
· Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhalwiyd ar 26 Ebrill, 2017.
· Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 31 Mai, 2017.