Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.

Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.

Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

30/11/2020 - Amending the Constitutional Process in relation to the setting of the Council’s Budget ref: 2155    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/11/2020

Effective from: 30/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn cytuno -

 

·         Bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei ddiwygio fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 9 yr adroddiad, a

·         Bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Swyddog Monitro wneud unrhyw newidiadau dilynol i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r diwygiadau a gymeradwywyd yn y pwynt bwled uchod.

 


30/11/2020 - Cyngor Sir Ynys Môn and Betsi Cadwaladr University Health Board Shared Service Delivery (Pooled Budget) Pilot – Learning Disabilities ref: 2154    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/11/2020

Effective from: 30/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

  • Derbyn a nodi cynnwys Cynllun Peilot drafft Cyflenwi Gwasanaeth ar y Cyd (Cyllideb Gyfun) Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Anableddau Dysgu
  • Cymeradwyo treialu cronfa gyfun rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gyflwynir gam wrth gam, ar gyfer y gyllideb byw â chymorth bresennol ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu sy’n byw ar Ynys Môn ac sy’n cael eu cyllido ar y cyd ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu cytuno ar gymeradwyo cam 1 yn y lle cyntaf.
  • Bod adran Gyfreithiol CSYM yn darparu barn annibynnol parthed y cytundeb Adran 33.
  • Bod y Pwyllgor Gwaith yn dirprwyo i’r Swyddog Monitro yr hawl i gwblhau’r cytundeb adran 33 ac i’r Swyddog 151 yr hawl i gytuno’r trefniadau ariannol gyda BIPBC i sicrhau fod yr arian yn cael ei rheoli’n gywir ac yn effeithiol.

 


30/11/2020 - Final Growth Deal ref: 2153    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/11/2020

Effective from: 30/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Gwaith -

 

  • Yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac yn argymell bod y Cyngor Llawn yn ei gymeradwyo.
  • Yn cymeradwyo’r darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 mewn perthynas â’r swyddogaethau gweithredol, ac yn argymell bod y Cyngor Llawn yn cymeradwyo’r darpariaethau mewn perthynas â swyddogaethau anweithredol, a’i fod yn benodol yn mabwysiadu’r dirprwyaethau a’r Cylch Gorchwyl yng “Nghytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1” ohono fel sail ar gyfer cwblhau’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraeth Cymru.
  • Yn cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell i’r Cyngor Llawn awdurdodi’r corff atebol, Cyngor Gwynedd, i arwyddo’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid.
  • Yn cymeradwyo’n ffurfiol ac yn argymell i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r dull a ddefnyddir i gyfrifo’r gost benthyca sydd ei angen er mwyn hwyluso’r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf ac i gynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a’r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u nodi yng Nghytundeb Llywodraethu 2 (GA2) (ac ym mharagraffau 2.5 - 2.7 yr adroddiad).
  • Bod y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau’r cytundeb.

 


30/11/2020 - Council Tax Base 2021/22 ref: 2152    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/11/2020

Effective from: 30/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·         Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2021/22, sef 30,880.22 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad).

·         Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2021/22 (Rhan E5 o Atodiad A yn yr adroddiad).

·         Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrifo fel Sylfaen y Dreth am 2021/22 fydd 31,548.20 ac fel y nodir yn nhabl 3 am y rhannau hynny o’r ardal a restrir ynddo.

 


30/11/2020 - The Executive's Forward Work Programme ref: 2146    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/11/2020

Effective from: 30/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Rhagfyr 2020 i Orffennaf 2021 fel y’i cyflwynwyd.


30/11/2020 - Capital Budget Monitoring - Quarter 2, 2020/21 ref: 2150    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/11/2020

Effective from: 30/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

  • Nodi’r cynnydd o ran gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2020/21 yn Chwarter 2.
  • Cymeradwyo £4.449m o Fenthyca Digymorth mewn perthynas ag amodau’r Contract Gwastraff a ddyfarnwyd i Biffa, yn unol â pharagraff 3.3.1 yr adroddiad.

 


30/11/2020 - Cofnodion ref: 2145    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/11/2020

Effective from: 30/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau fel rhai cywir, cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2020.


30/11/2020 - Adoption of Annual Delivery Document 2020-22 ref: 2148    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/11/2020

Effective from: 30/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd rhoi’r hawl i Swyddogion, drwy’r Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor, ymgymryd â’r dasg o gwblhau drafft terfynol y Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2020/22 ac i argymell bod y Cyngor Llawn yn ei mabwysiadu yn ei gyfarfod ar 8 Rhagfyr, 2020.


30/11/2020 - Corporate Scorecard - Quarter 2, 2020/21 ref: 2147    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/11/2020

Effective from: 30/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 2, 2020/21 a nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac i dderbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.


30/11/2020 - HRA Budget Monitoring Report - Quarter 2, 2020/21 ref: 2151    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/11/2020

Effective from: 30/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r canlynol -

·         Y sefyllfa a amlinellir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2020/21.

·         Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2020/21.

 


30/11/2020 - Revenue Budget Monitoring - Quarter 2, 2020/21 ref: 2149    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2020 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/11/2020

Effective from: 30/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

·        Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2020/21;

·        Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2020/21 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

·        Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.

·        Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2020/21 yn Atodiad D yr adroddiad.

·        Nodi’r modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2020/21 yn Atodiadau DD, E ac F.