Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/01/2021
Effective from: 25/01/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a mabwysiadu’r Cynllun Bioamrywiaeth yn ffurfiol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/01/2021
Effective from: 25/01/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2020.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/01/2021
Effective from: 25/01/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn –
• Nodi argymhellion y Pwyllgor Penodi a chadarnhau:
· Dileu swydd Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol (swydd sydd hefyd wedi ei hadnabod fel Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn ystod y broses recriwtio ddiweddar) o Gyfansoddiad y Cyngor;
· Creu rôl barhaol Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ac i'r rôl hon gael ei hysbysebu'n allanol;
· Sefydlu a hysbysebu'n allanol swydd newydd, sef Swyddog Strategaeth Gorfforaethol.
• Cadarnhau cynnwys Atodiad 2, sy'n adlewyrchu'r diwygiadau uchod i strwythur y Cyngor yng Nghyfansoddiad y Cyngor;
• Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo bod y Prif Weithredwr (yn dilyn ymgynghoriad), yn unol â'r awdurdod sydd wedi ei gynnwys yn rhan 3.5.2.11 o'r Cyfansoddiad, ac o ganlyniad i'r newid strwythurol uchod, yn rhannu'r meysydd cyfrifoldeb perthnasol ymhlith yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Penaethiaid Gwasanaeth, fel bo'r angen.
• Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo bod y Swyddog Monitro, yn unol â'r awdurdod sydd wedi ei gynnwys yn rhan 3.5.3.6.6 o'r Cyfansoddiad, yn diwygio'r Cyfansoddiad (gan gynnwys y cynllun dirprwyo i swyddogion) i adlewyrchu'r penderfyniadau a wnaed gan y Cyngor mewn perthynas â’r newid strwythurol uchod a dosbarthiad y cyfrifoldebau ymhlith yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Penaethiaid Gwasanaeth fel y gwnaed gan y Prif Weithredwr dan y chweched pwynt bwled uchod.
• Cadarnhau ei fod yn cymradwyo bod y Swyddog Monitro yn gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol eraill i’r cyfansoddiad i adlewyrchu’r argymhellion uchod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/01/2021
Effective from: 25/01/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Cytuno i egwyddorion Cytundeb BES2 (Atodiad 2 i’r adroddiad) i sicrhau cymorth ariannol (amodol) ar gyfer y sector bysiau ac i sefydlu perthynas â’r awdurdod arweiniol rhanbarthol a’r llofnodwr, sy’n sicrhau bod y cyllid brys parhaus yn diwallu blaenoriaethau’r awdurdod ac yn cael ei ddarparu ar ei ran.
• Galw am adroddiad arall ar gynigion diwygio bysiau mewn perthynas â rheoli gwasanaethau bws yng Nghymru yn y dyfodol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/01/2021
Effective from: 25/01/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Chwefror a Medi, 2020 gyda’r newid ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/01/2021
Effective from: 25/01/2021
Penderfyniad:
Cadarnhawyd fod cofnodion blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn gofnod cywir –
• 30 Tachwedd, 2020
• 14 Rhagfyr, 2020
• 17 Rhagfyr, 2020 (arbennig)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/01/2021
Effective from: 25/01/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
• Strategaeth Tai Dros dro 2021.
• Y dull o gyfathrebu wrth ddatblygu’r Strategaeth Tai 2022-27 a chynllun gwaith gyda phartneriaid sydd yn arwain at gyfnod ymgynghori a chymeradwyaeth terfynol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 18/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/01/2021
Effective from: 18/01/2021
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 18/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/01/2021
Effective from: 18/01/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
• Argymell i'r Cyngor llawn y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2021/22:-
Cynlluniau/Cyllid a ddygwyd ymlaen
o 2020/21 £ 3.970m
Adnewyddu / Amnewid Asedau £ 4.167m
Prosiectau Cyfalaf Untro Newydd (Prosiectau
Blaenoriaeth) £ 780k
Prosiectau Cyfalaf Untro Newydd
(yn amodol fod cyllid ar gael) £ 325k
Ysgolion yr 21ain Ganrif £6.6m
Cyfrif Refeniw Tai £20.313m
Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf £36.155m
Cyllidir gan:
Grant Cyfalaf Cyffredinol £2.163m
Benthyca â Chefnogaeth Cyffredinol £2.158m
Balansau Cyffredinol £ 596k
Balansau Cyffredinol
(os oes digon o gyllid ar gael) £ 325k
Benthyca â Chefnogaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif £2.897m
Benthyca Digefnogaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif £ 498k
Arian Wrth Gefn CRT a’r Gwarged yn y Flwyddyn £15.639m
Benthyca Digefnogaeth gan y CRT £ 2.0m
Grantiau Allanol £5.909m
Cyllid 2020/21 a Ddygwyd Ymlaen £3.970m
Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2021/22 £36.155m
• Nodi’r gofynion cyllido posibl ar gyfer 2022/23 ymlaen fel y nodir yn Atodiad 1, Tabl 3 a pharagraff 5.3 yr adroddiad.
• Oherwydd y pwysau ar y gyllideb gyfalaf, bod yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn gwneud cynrychioliadau drwy lythyr i Weinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru bod cynlluniau awdurdod lleol ar gyfer atal/lliniaru llifogydd yn y dyfodol yn cael eu hariannu 100% gan grant Llywodraeth Cymru, a
• Bod yr Aelod Portffolio Cyllid yn ysgrifennu at Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru er mwyn tynnu sylw at y pwysau ar y gyllideb gyfalaf yn Ynys Môn o ganlyniad i ddiffyg cynnydd yn y cyfalaf cyffredinol dros y blynyddoedd a’r cyfyngiadau y mae hyn yn debygol o’i roi ar gynlluniau’r Cyngor o ran gweithgareddau cyfalaf a buddsoddiadau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 18/01/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 18/01/2021
Effective from: 18/01/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
· Yr addasiadau i’r Gyllideb sydd wedi eu cynnwys yn y Gyllideb Ddisymud fel y nodir hwy ym Mharagraffau 4 i 7 yr adrddiad.
· Y gyllideb ddisymud ar gyfer 2021/22, sef £147.076m, ac a ddylai fod yn sail i gyllideb refeniw 2021/22.
· Cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 o 3.75% a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
· Diwygiadau arfaethedig ychwanegol i’r gyllideb fel y nodir yn Nhabl 5 yr adroddiad.
· Cyllideb arfaethedig gychwynnol ar gyfer 2021/22 o £147.531m.
· Y dylai’r Pwyllgor Gwaith ofyn am farn y cyhoedd ar y cynnig ar gyfer y gyllideb arfaethedig a’r cynnydd yn y dreth gyngor ar gyfer 2021/22.